Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
PREPAID 4 WANTS. 12 words; Once 6d. Three times 1 J20 „ ,,9d. » » 1/3 J28 „ » 1/" » »> 1/6 36 „ 1/3 „ „ 1/9 44" 1/6 >, tt 2/- Every additional 8 words 3d. Every Advertisement must be accompanied ,with remittance in full. initials count as one word, and names and address Charged for. replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. WANTED immediately, girl about 18, as nurse to one child; must be Welsh.-Apply, Mrs. Davies, 37, Wilton Road, Victoria, S.W. WANTED two good general servants.-Apply, Evans, 30, Euston Square, N.W. DAIRY. General servant wanted, also to assist in shop. Good references required.-Apply, 51, Barking Road, East Ham, Essex. SITUATION wanted as working housekeeper, or any U place of trust (fond of children) or will manage a dairy and provisions. Life experience in provisions early riser, willing and obliging, age 40.—A. Davies, :26, Tottenham Court Road, London, W.C. A YOUNG LADY wanted in a Dairy, used to quick counter trade with good reference.— .Apply 348, Caledonian Road. .WANTED.-StrOng General who is able to do U Washing for a home.-Apply, 45, Great Prescott -Street, Aldgate, E. CAMDEN SQUARE, Camden Town, N.W.-Board \J and Residence for Young Gentlemen. Breakfast, Meat Tea and Supper, full board on Sunday; Bath, igood sized Garden, &c. 18/- per week, no extras. Convenient to City.-Apply by letter to Arfon 3," Gelt Office, 211, Gray's Inn Road. /GENERAL SERVANT wanted in small business lj house, Welsh preferred.—Apply, T 4," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRY.- Young Lady wanted to serve in Shop and assist generally, no objection to one direct from Wales, without previous experience.-Apply Jones & Sons, 10, Cremorne Road, West Brompton. REQUIRED two (Welsh) Housemaids for Club Experience is not necessary (age 24).—Apply to ,Housekeeper.-94, Pall Mall, S.W. MILK.-Wanted Young Man (Welsh), for Pram Round only those that have good characters need apply.-D. J. Evans, 24, Spanby Road, Bow, E. FURNISHED Bedroom with use of Sitting-room F and Piano, suit two friends (out during day), or ior young lady, to share the above with daughter of house, quiet family, no children.-47, Willes Boad, N.W. Y Dyfodol- [1I;ir Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol GyfarfodyddjMifon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn richoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ———— Mawrth „ 22. Cyfarfod Terfynol yr Undeb. „ 23 a 24. Cyfarfodydd Pregethu City Road. „ 26. Cyfarfod Terfynol Cymdeithas Walham Green. „ 31. Eglwys Dewi Sant. Cyfarfod Cystad- leuol. 6. JSbrill 3. Cyfarfod olaf Cymdeithas Holloway. „ 3. Cymdeithas y Brythonwyr. 8. „ 7. CymanfaGanuy M.C. yng Nghapel Jewin. „ 9. Swper Goffi Mawreddog Clapham Junction a Chystadleuaeth rhagorol. „ 9. Clapham Junction, Swper Goffi. „ 10. Eisteddfod Capel Sussex Road, Holloway „ 16. Falmouth Road Annual Tea and Concert i' 17. Prawf Gyngherdd Mile End Road. 8. „ 17. Cymdeithas y Brythonwyr. 8. „ 23, 24. Bazaar yn King's Cross. „ 24. Cyfarfod Cystadleuol Eglwys St. Padarn yn Myddleton Hall. Mai ,„ 15. Cyngherdd Mawreddog Eglwys Dewi Sant
Y GYMEUEG.
Y GYMEUEG. EI CHAREDIGION YN NEUADD CYNGOR SIR LLUNDAIN. SEFYDLU DOSBARTH YN LLUNDAIN. Yn ystod yr ugain mlynedd sydd wedi myned heibio cyfrifir y ganwyd dros ugain mil o boblogaeth Llundain yng Nghymru. Dyna fel y tystiolaethir gan Brif Gofrestrydd y Llywodraeth. Felly, gellir yn briodol casglu fod canoedd o filoedd o Gymry, ac hiliogaeth y Cymry, yn byw ac yn bod yn y Llundain fawr yma heddyw. Mae yn Llundain ugain, ac ychwaneg, o gapeli ac eglwysi Cymreig, a llawer neuadd a chymdeithas sydd yn defnyddio y Gymraeg fel ei siaredir yn y lleoedd mwyaf Cymreig- aidd yng Nghymru mae rhai o Ddeddfau y Senedd a Rheolau y Bwrdd Llywodraeth Leol wedi ac yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg; mae canoedd o argraffwyr yn cael eu bywiol- iaeth wrth argraffu Cymraeg ac y mae llawer o honynt yn byw yn Llundain mae miloedd o bobl yn Llundain yn defnyddio y Gymraeg yn feunyddiol. Yr wyf wedi cyfarfod a gwyr ieuainc wedi eu geni a'u magu yn Llundain a fedrant siarad y Gymraeg mor groyw a'u cyd-ieithwyr yng nghanol Ceredigion mewn gair, mae'r Gymraeg mor fyw ag erioed, nid yn unig yng Nghymru a Lloegr, ond o ben- bwy-gilydd i'r byd, ac, mewn ystyr, yn fwy byw oherwydd fod miloedd o ddarllenwyr Cymreig i'w cael yn awr lie nad oedd ond canoedd rhyw ddegau o flynyddoedd yn ol, ac mae hyn yn ddyledus, cofiwch, i ysbryd an- farwol yr hen iaith sydd yn mynu byw er gwaethaf pob peth a wneir i'w rhwystro ac i'w gwneyd yn iaith ddieithr. Ymhellach, y mae'n amhosibl i ddeall hanes Cymru; i ddeall ei llefydd-enwau; i ddeall ei henafiaeth; i ddeall ei llenyddiaeth; i ddeall ei barddoniaeth; ac, nid y lleiaf, i ddeall ei amaethyddiaeth,-heb ddeall ei hiaith. Ac, hefyd, y mae'n anhawdd gwneyd masnach (y rheswm pwysicaf yn yr oes Fammonaidd hon) mewn llawer ardal yng Nghymru-diolch i'r anwyl-heb wybodaeth masnachol, yn y man lleiaf, o'r iaith. Wel, gyfeillion, beth sydd a wnelom a hyn oil ? Dim ond hyn Trwy fod y pethau yma yn wir, a chan ei bod yn bosibl cael addysg drwyadl ym mhob iaith ond y Gymraeg yn y wlad hon, ac yn y ddinas yma, a chan ein bod fel pobl yn rhan o'r ymherodraeth fawr Bry- deinig, darfu i mi ofyn i Mr. Sidney Webb, cadeirydd y Bwrdd Addysg Celfyddydol, yng Nghyngor Llundain ychydig ddyddiau yn ol:— "A oedd hi yn bosibl i gael cyfleustra ynglyn a'r Bwrdd i ddarparu Dysgeidiaeth yn y Gymraeg, yn ogystal ag yn y Chinese fel ag y bwriedir gan y Bwrdd ?" Yn ei atebiad methodd Mr. Webb a thaflu allan yr un mymryn o obaith i'n cynorthwyo ynglyn ag addysg o'r Gymraeg yn Llun- dain. Fel ag y dywedais yn y fer ddadl a ganlyn- odd y gofyniadau: buddianau, llog, elw, gwobr- Fammonaidd gyffyrddadwy ydyw amcan a diwedd-Alpha ac Omega-pob dysg i'r Pry- deiniad presenol. Yr oedd rhyw foneddwr wedi addaw arian i sefydlu dosbarth yn y Chineaeg, ac yr oedd hyny yn ddigon a pheth arall, onid oes porthladd o'r enw Wei- ai-Wei yn bod yn rhywle, lie, feallai, y gallwn werthu ambell lathen o gotwm, a phwys neu ddau o fflamlwch ? Mewn gair, rhowch addysg yn y Chinese, nid er mwyn moesaddysg Con- fucius, ond am y tipyn gwobr arianog a geir trwy orfodi ein Brummagem wares ar y truan felyn-ddyn. Mae y syniad hwn yn rhedeg trwy ein holl feddylddrych addysgiadol. Nid er mwyn gwneyd dynion yn fwy moesol, nid er gwneyd dynion yn addysgwych fel y gallont fyw eu bywydau yn Hawn ar y ddaear hon, nid fel y gallont fod y cwbl ag y mae'n bosibl iddynt fod yn y byd yma, y rhoddir dysg; 0, nage, ond fel y gallont fod yn well offerynau i gasglu llog i'r cyfalafwyr ac elwa o gyfoeth y byd hwn. Gwir fod ambell i blentyn gweithiwr yn cael ysgolfraint (scholarship) yn awr ac yn y man ond nid yw hyn yn ddim ond dangosiad eglur fod y cwbl-moddion addysg yn gystal a moddion bywyd-yn rhodd y cyfalafwyr a'u cyffelyb, ac nid yn eiddo y werin bob! o gwbL Ond bellach, y mae argoelion am bethau gwell, ac y mae goleu ar dori Dros y bryniau tywyll niwlog." Yr wyf wedi derbyn llythyr oddiwrth Mr. Sidney Webb sydd yn dyweyd fel y canlyn.- Mi allaf eich sicrhau y bydd yn hyf- rydwch i Senedd Prifathrofa Llundain i sefydlu cadair yn y Gymraeg, os y ceir rhyw un i ddarparu yr arian (fel ag a wnaed ynglyn a'r Chinese.") Yn hyn chwi welwch ddyfnder Ffabianaidd Mr. Webb-Gwnawn hyd yn oed gyfiawnder i chwi Gymry, medd efe, mewn ystyr, os paro- towch chwi yr arian Feallai, os ceir yr arian -y byddai'r Senedd yn eithaf boddlon i sef- ydlu cadair yn y Ping-pong! Arian arian f Gwelwch eich duwiau 0 Fryteinwyr I Ond ymhellach, dywed llythyr Mr. Webb (a thyma ein gobaith) tl Yr ydwyf yn sicr y bydd Coleg Tref Llundain (City of London College), lie y maent yn rhoddi addysg arbenig ar ieithoedd byw, yn foddlawn i gyflogi athraw os ceir y rhif-ddeuddeg neu ugain-o ddeisyfwyr i wneyd dosbarth i fyny. Fe fydd y tal yn isel." Yn awr, gyfeillion-merched a bechgyn, boneddigesau a boneàdwyr, Cymry mawr a man, trwy hyd a lied Llundain; os ydych yn caru iaith eich mam, os ydych yn hoffi'r hen iaith oedd yn berseiniol ar lan y Tafwys er cyn adeiladu cymaint a bwthyn o Gaerludd. 'Nawr, os ydych am gael addysg yn yr hen iaith, ysgrifenwch at Mr Sidney Webb, L.C.C., neu i'r cyfeiriad isod-at un sydd yn caru'r hen iaith yn ysbryd y bardd Robert Bryan pan ysgrifenodd:— 0 lor y Nef, boed gwir y gair A glybu Gerallt Gymro gynt,- Yr etyb hil hen Walia Wen, I'r Barnwr, Ddydd y Frawdle Fawr, Yn acen groyw Gwlad y Gan. Od aed a'n tir ond Gwalia Wyllt, Boed ini bara ddyddiau'r ddae'r I foli'n Ner yn iaith ein mam." Yr eiddoch yn ffyddlon, ROBERT WILLIAMS, L.C.C. Spring Gardens.
[No title]
it Rhesymau anwladgar Cynghrair Undebot y Gwyddelod medd y Faner, sydd gyfrifai am gadw'r brenin draw o'r Iwerddon eleni. Ai rhesymau anwladgar yw cenhadaeth y Faner wedi bod ar hyd y blynyddau pan yn hawlio iawnderau i Gymru ? Dyna'r oil a wna'r Cynghrair Gwyddelig, ac y mae galw pobl ac amcenion felly yn anwladgar" ya angharedig i'r eithaf.
Bwrdd y II Celt.'
Bwrdd y II Celt.' Bu raid eau cwrdd y CELT yn gynar yr wythnos hon. Yr oedd y Gol. a'r Macwy yn awyddus am ddal y tren i fyned i Gymru, a'r canlyniad oedd i nifer 0 wyr parchus orfod aros yn fud am wythnos eto. Yn y rhifyn nesaf gwelir amryw ysgrifau ac ad- roddiadau a ddylasent fod yn y rhifyn hwn. Ond, amynedd fechgyn, a boed i chwi gael gwyliau braf a.. 1 hapus.