Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CAPEL ELDON STREET, MOORFIELDS.

News
Cite
Share

CAPEL ELDON STREET, MOORFIELDS. Nos Fercher, Mawrth y ig,g, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol. Cadeiriwyd yn fedrus gan John Hinds, Ysw. Y beirniaid oeddynt: Cerddoriaeth, Mr. L. Lloyd James, A.C.; barddoniaeth, y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin; amrywiaeth, Mr. D. Morgans, Pastor's College. Gwasan- aethwyd wrth y berdoneg gan Miss A. Pryce- Jones, organyddes Castle Street. Gwnaethant oil eu gwaith yn dda. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai canlynol: Adroddiad, "Galwad yr Iesu," Miss Jenny Jones, Jewin. Unawd baritone, Mr. Morgan Jones, Jewin Newydd. Llythyr caru, Miss Williams, Eldon Street, yn oreu. Unawd tenor, Wyt ti'n cofio," &c., Mr. Jenkins, Jewin. Yr araeth oreu ar Werth cymeriad," Mr. Jenkins, Castle Street. Y bryddest oreu ar y geiriau Mi a godaf ac a af at fy nhad," Mr. L Lloyd James, A.C., Eldon Street. Deuawd Y ddau forwr," Mr. Evan Morris, Mile End, a'i gyfaill. Cafwyd amryw o englynion rhagorol yn ystod y cyfarfod gan y brawd John Eldon Jones. Wedi talu y diolchiadau arferol, terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," Mr. R. Lloyd James yn arwain.

HYN A'R LLALL.

Advertising

TY'R GLEBER.