EgIwys Dewi Sant, Paddington, W. CYFARFOD A CYSTADLEUOL A THE YR YSGOL SUL YN ST. DAVID'S HALL, DYDD LLUN Y PASG, MAWRTH 31,1902 TE AM 3.30. CYFARFOD AM 6. MYNEDIAJD I MEWN SWLLT. Am fanylion pellach ymofyner a'r Ysgrifenydd, H. PIERCE, St. David's Church House, St. Mary's Terrace, Paddington Green, W. mile: 0-A.isrs APPRENTICE-MADE HALF-PINTS ONLY Per 4/6 Dozen. These are made of the very best materials and are quite as strong and durable as the best cans. They are properly shaped, but the soldering is not up to our usual standard of neatness. UNEXCELLED FOR STRENGTH AND DURABILITY. ————— Prompt Deliveries. Price Lists of all Dairy Appliances, Post Free. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. CLAPHAM JUNCTION. GRAND COFFEE SUPPER AND COMPETITION CONCERT (Last of the Season) Wednesday Evening, April 9th, 1902 7.30 PROMPT. Chairman-WILLIAM JENKINS, Esq. Beirniaid- Canu-W. H. DAVIES, Ysw., G.T.S.C. Amrywiaeth-Parch. JOHN BOWEN,Rhydfendigaid Accompanists- Misses CASSIE DAVIES and SALLY JENKINS Elocutionist-Miss S. J. THOMAS Solo (Excelsior), "Anturiaf" (Welsh or English) (Iorwerth Owain). For Male or Female 1st prize; Gold Medal and 10/6; 2nd prize, 10/6. (The Solo can be sung in C D and E Flat) (The accompanist will have copies in C and D) 2. Wythawd (Meibion), Myfanwy" (Dr. Parry), Gwobr, 10/6 3- Enwi y deuddeg Gweinidog mwyaf adnabyddus yn awr yn fyw. Gwobr, 10/6 4. Darllen Difyfyr. Gwobrwyon anrhydeddus. Conditions-Professionals will not be allowed to compete. Assumed names of competitors, together with the 12 names, must reach the Sec. by April 5th. Competitors on Solo must attend the Preliminary at 6 p.m., April 9th. D.S.—Wythawd, rhoddir Medal arian i'r arweinydd Mr. TOM JENKINS, Beauchamp Road Welsh Chapel, Clapham Junction.
Y BYD A'R BETTWS. Mae'r brenhin yn awyddus i roddi dau ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yn ystod wyth- nos y coroni. Cafodd Mr. Dillon ei droi allan o Dy'r Cyffredin yr wythnos ddiweddaf am regi Mr. Chamberlain. Un gwyllt yw y Gwyddel bob amser, ond y mae Dillon hyd y tro hwn wedi cadw ei dymher tan reolaeth dda ar hyd y blynyddau. Gwrthododd y Llywodraeth ganiatau ym- chwiliad i'r gwastraff ynglyn a Swyddfa'r Rhyfel. Mae'r achosion wedi eu profi eisoes tuhwnt i amheuaeth, a chydnebydd yr awdur- dodau eu gwirionedd. Eto gwrthodant ganiatau ymchwiliad swyddogol cyhoeddus. Gwneir hyny, meddir, ar derfyn y rhyfel ond diau y bydd mwyafrif y troseddwyr presenol wedi hen feirw cyn y gwelir y dydd hwnw. Mae nifer o'r aelodau Seneddol Cymreig yn bwriadu talu ymweliad a'u hetholaethau yn ystod gwyliau'r Pasc. Rhoddir iddynt rai dyddiau o seibiant, a diau bydd ambell i gyfarfod cyhoeddus yn y wlad yn gystal a gorphwysdra iddynt. Boed iddynt oil gael adgyfnerthiad, oherwydd, ag eithro dau neu dri, lied farwaidd ydynt wedi bod hyd yn hyn. Ar ol ei galedwaith ar y Daily News, y mae Mr. David Edwards yn cymeryd seibiant ar hyn o bryd, ac nid yw'n bwriadu ymgym- eryd ag un gorchwyl cyhoeddus eto am beth amser. Y mae Mr. R. A. Griffith (Elphin) hefyd wedi tori ei gysylltiad swyddogol a'r papur hwnw, ac ni welir mo'i ysgrifau llengar ar ei dudalenau mor ami ag yn y misoedd cynt. Y mae cylchgrawn Cymreig arall ar ddod i'r maes. "Llais Rhyddid yw'r teitl i fod, a dywedir mai ar y iaf o Ebrill y daw y rhifyn cyntaf allan. Cyhoeddiad er hyrwyddo a lledaenu amcanion a daliadau Eglwys Rydd y Cymry a fydd, am hyny nis gellir disgwyl y caiff rhyw gylchrediad mawr nac oes faith. Mae y nofelyddes Gymreig, Allan Raine, wedi paratoi llyfr arall, a chyhoeddir ef yn ystod y gwyliau yma. Teitl y chwedl bresenol fydd "A Welsh Witch." Hyderwn y caiff cystal derbyniad ac a gafodd "A Welsh Singer "-ei nofel gyntaf. Ychydig amser yn ol bu farw hen ffermwr Cymreig a pherchenog glofa enwog, gan adael yn ei ewyllys y swm o 6p. yr un i'w dair merch, tra y rhoddai y gweddill o'i eiddo i'r wraig a ofalai am ei dy. Yr oedd yn berchen rhyw chwe' can' mil o bunau, a bu raid cael gwyr y gyfraith i fewn cyn boddloni y merched oeddent wedi eu hesgeu- luso gan eu tad, mewn awr o dymher ddrwg debyg iawn. Mae rhyw awydd rhyfeddol am holi ar yr aelod tros Ferthyr y dyddiau hyn. Un adeg credai pawb mai Mr. Alfred Davies oedd yr holwr goreu oedd genym, ond yn awr y mae Mr. D. A. Thomas yn ei guro o ddigon. Paham na chymer rhai o ysgolion Sul ardal Merthyr drugaredd ar eu haelod, a rhoddi iddo y gwaith am dro neu ddau i holi'r pwnc iddynt. Dyddiau rhyfedd fydd dyddiau y coroni, ac un o'r dulliau a gymer y Brenhin i ddathlu yr amgylchiad fydd trwy roddi ciniaw i bum' can' mil o dylodion y ddinas. Y mae'r awdurdodau mewn penbleth sut i baratoi y fath wledd. Paham nas ymofyner am help Dafis Llandinam ? Bu ef yn bwyda ei filoedd y llynedd, a gall roddi cryn gynorthwy i'r brenin ar yr amgylchiad presenol. Tipyn yn gynhyrfus yw pethau yn ardal Bethesda o hyd. Mae Arglwydd Penrhyn wedi rhoddi ei droed i lawr yn bendant, gan ddweyd nad oes neb i gael ymyryd rhyngddo ef a'i weithwyr. Mae nifer luosog o fobl yn gweithio yn y lie ar hyn o bryd, a dywedir fod y chwarel eisoes yn talu yn dda i'w berchenog. Y mae cyfoethogion y deyrnas yn dechreu ymholi i ba gyfeiriad yr edrych Syr Michael Hicks Beach am ychwaneg o arian ar adeg ei Gyllideb nesaf. Daw 'Gwr y Goden a'i adroddiad o flaen y Senedd yn fuan ar ol y Pasc, ac ofnir y gosodir amryw o drethi newyddion ar nwyddau cyffredin bywyd. Wely yr ydym wedi gwaeddi digon am y rhyfel. Rhaid talu bellach. Yr ydym wedi cael nifer o gynrychiolwyr rhyng-wladwriaethol ar droion i'r Eistedd- fod Genedlaethol, ond dywedir ein bod eleni i gael Corau Cenedlaethol i gystadlu yno. Daw un cor o Ferica, arall o'r Werddon, arall o Ynys Manaw, heb law son am rai o Loegr. Wel, bydd yno ganu tebyg ag y ddisgwylir yn y wlad arall.