Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Priodi yn y Bedd.I

News
Cite
Share

Priodi yn y Bedd. GAN W. EILIR EVANS.. "Ni chymer y briodas yna ddim lie; dalwch chi ar y ngair i." Dyna ddwedodd Seba Bwlchydommen pan glywodd fod gostegion priodas rhwng Eben Dafis, mab y Bryndu, a Elen Owen, merch Tanyrallt, wedi eu cyhoeddi yn Eglwys y plwyf y Sul cyn hyny. Yr oedd Seba yn cael y gair ei bod yn deall iaith y ser a'r planedau, ac yn gallu prophwydo'r dyfodol a rhibo." Hen ferch weddw oedd, yn trigo mewn bwthyn to gwellt ger Bwlchydommen, yn mhlwyf Penboir, sir Gaerfyrddin Yr oedd tynu mawr ati gan hen ac ifainc, ac yr oedd ei hofn ar bawb, canys credid y gallai dynu barn ar ben y neb a fynai. Yr oeddid yn credu y waith hon, fodd bynag, taw colli'r dydd a wnelai Seba, na ddeuai ei phrophwydolic eth ddim i ben. Galwyd y gos- tegion yr ail a'r drydedd waith. Aeth Twm y Gwahoddwr allan i hysbysu perthynasau a chyfeillion teuluoedd y Bryndu a Thanyrallt fod priodas i gymeryd lie a neithior i ganlyr. Priodas fawr, neu briodas geffylau, oedd hi i fod, a mawr a helaeth oeddent y paratoadau a wneid ar ei chyfer. Lladdwyd eidon ym mhob un o'r ddwy ffarm, a thair neu bedair o ddefaid Pobwyd digon o fara cann i ddi- wallu anghenion llond plwyf o ddynion, a macswyd digon o gwrw i nofio llong. Yr oedd pob teilwr a gweinyddes a chrydd drwy'r holl gymydogaethau yn ddiwyd ddydd a nos. Ni fuasai'r fath baratoi yn y parthau hyny er ys blynyddau, ac edrychid ymlaen at y briodas gyda'r dyddcrdeb penaf. Parhau i ddweyd o hyd, beth bynag, a wnai Seba na ddelai'r briodas ddim i ben. "Dannodwch chi i fi eto," meddai gan siglo bachyn o hen fis melyn a cham, nid aiff mab hen gythrwm y Bryndu, a merch yr hen hafren o Danyrallt ddim trw'r eglws fel ma nhw'n meddwl. Mi ro i 'mach yn i thrwyn hi." Fel y digwyddai, yr oedd y ddau deulu-y Bryndu a Thanyrallt-ar lyfrau duon Seba, ac yr oedd yn bygwth y farn ar eu penau drwy'r blynyddau. Pan drigai buwch neu eidion yn un o'r ddwy ffarm, gyrid y wyddanes i folianu a chorelwi, a chanai- Rwmdi, rimdi, ramtli, Daeth y farn Dwmdi, dimdi, damdi, Pedwar earn; Fe ga cyllell jawl ei hogi; Nyddu rhaff a wneir 'i grogi; Parod yw y gwely i fogi; Rwmdi, rimdi, ramdi, Dwmdi, dimdi, damdi, Fe ddaw barn! Fe ddaeth bore'r briodas bore Gwyl Ifan yr haf ydoedd. Canai pob gwcw ym mhlwyf Penboir, a dyrchafai pob hedydd fagesid ar Rhos Cilrhedyn ar ei aden wlithog a'i gan yn ei big. Ni fu erioed fore mwy hafaidd a llawn o heulwen, a mwy cymhwys i gychwyn dau ddyn ifanc ar ffordd bywyd priodasol. Tynai gwyr a gwragedd a meibion a gwyr- yfon ar gefnau eu ceffylau o bob cyfeiriad at I y Bryndu a Thanyrallt. Wedi i bawb ddod at eu gilydd, ac i'r awr benodedig gyrhaedd aeth ceraint a chyfeillion y gwr ifanc yn fintai fawr i Danyrallt i mofyn y ferch ifanc. Yr oedd y pellter rhwng y ddaule oddeutu milltir, a gyrid, yn ol arfer y cyfnod, nerth carnau'r ceffylau, ac ni fuwyd ddimwincadcyn dyfod at gartref Elen. Cafwyd, wrth reswm, y drws wedi ei gloi, ac yno y bu parti'r gwr ifanc yn ceisio 'i agor, ac yn tafodi a bwrw rhigymau at y rhai oeddent o fewn y ty. O'r diwedd, llwyddwyd i gael agoriad, ac awd ar unwaith i chwilio am Elc n. Edrychwyd am dani ym mhob congl ar y 11awr ac yn y rhwm bach wrth gefn y parlwr; yn y llaethdy yn ac o dan bob gwely ar y llofft, ac hyd yn oed yn yr hen gist dderi oedd yn wag uwchben y gegin mas. Ond yn ofer bu'r ymchwil. Nid oedd Elen yn y ty, gan nad, ble oedd hi wedi mynd. Rhuthrodd rhai allan i'r ysgubor, ond doedd y ferch ddim yno wedyn. 'Doedd hi ddim yn y b udu hefyd, nac yn yr ystabal i lawr nac i fyny. Edrychwyd yn ofalus ymhob cornel o'r berllan, a'r ydlan, a thy'r geir, a thwlc y gwyddau, ac o dan sail pob helem, ac yn yr ardd ond methwyd a dyfod o hyd i'r eneth. Yr oedd yn awr yn tynu at yr amser i gych- wyn, ac os na ddeuai'r ferch i glawr ym mhen pum mynyd fe fyddai'n rhy ddiweddar i briodi'r diwrnod hwnw. Fe ddechreuodd y bobl edrych ar eu gilydd, a thorodd rhai o honynt allan i waedd Elen Elen nerth eu penau, dros yr holl nale, ond nid oedd na llais na neb yn ateb. Fe ddaeth prophwydoliaeth Seba Bwlchy- dommen yn gryf i feddwl rhai. Jari," meddai Tomos y Sar, yr hwn yr oedd a gofal y tap arno, jari, ma'r hen filanes wedi cwrdd a'r gwir, gwlai. Ma'r felltith ar dafod yr hen gythrel. Cal pilsen blwm ddylse hi." Fe aeth amser priodi heibio a rhaid oedd gohirio'r topyn hyd dranoeth. Aeth rhai o'r gwahoddedigion allan arhyd y caeau i edrych am Elen. Cerddasant yn ofalus y caeau gwair a llafur, ac edrychwyd yn yr allt goed oedd yng ngodreu'r ffarm, ac mewn hen fagwyren oedd ar y tir. Ond ni welwyd dim cymmaint a chysgod o'r ferch yn unman. Yr oedd Eb:;n Dafis, y gwr ifanc, druan, yn ddrain yn ei groen, er ys hir amser. Yr oedd yn chwith ganddo fod y briodas wedi 'i rhwystro. Fe chwarddai mab hyna Bryn- gole yn iachus wrth feddwl am y peth. Hen gariad Elen oedd hwn, ond bod Eben wedi profi'n well gwr nag ef, ac yr oedd peth digofaint rhwng y ddau o hyd. 'Rych chi wedi mynd yn widman cyn priodi, Eben," meddai Marged, merch Tyny- fron, wrth y bachgen. 'Roedd Marged wedi edrych yn llygadlon arno mewn Ilawer neithior a ffair, ond heb lwyddo'n ei hamcan. Ond cydymdeimlo a'r gwr ifanc a wnai y rhan fwyaf. A gwrthrych i deimlo drosto oedd ef erbyn hyn hefyd. Yr oedd golwg druenus arno. Eisteddai wrtho ei hun yn y cartws, a'r saifft un o'r ceirt yn ei blyg, a'i ben rhwng ei benliniau. Safai pedwar neu bump o'i ffryndiau oddeutu, yn ceisio ei gysuro. Ond gwrthodai Eben gymeryd cysur, ac ni cheid gair o'i ben mwy nag o bencorph marw. Cauai eu lygaid yn dyn ac edrychai mor welw a phe byddai yn ei goffin. Dechreuid yn awr ofni fod rhywbeth wedi digwydd i'r lodes, a dychmygwyd y peth hyn a'r peth arall. Un o gyfeillesau penaf Elen oedd Bet, ail ferch Gellideg. Dywedent berfedd eu cof wrth eu gilydd. Ychydig o ddiwarnodau cyn hyny yr oedd Elen wedi adrodd breudd- wyd a welsai wrth Bet, a hen freuddwyd cas ei wala oedd e' hefyd. Fe ddaeth hwnw i gof merch Gellideg yn awr, ac fe'i had- roddodd wrth ei chyfeillesau cyn ymadael i'w cartrefleoedd. Gwelsai Elen ei hun yn ei hangladd ,ei hunan. Yr oedd ei chorph yn y coffin, a'i dwylo 'mhleth ar ei dwyfron, a'i gwn priodas yn lie amwisg am dani. Am ei gwddwg yr oedd wden neu bleth wedi 'i gwneud o wialen las. Gwelai 'i thad a'i mam a'i brodyr a'i chwiorydd yn troi i'r pen uchaf i gael yr olwg ddiweddaf arni cyn caead y coffin, ac yn wylo'n chwerw wrth weld Tomos y Sar yn scriwo clawr yr arch. Gwelai'r coffin yn cael ei gario allan i'r drws a'i roddi ar yr elor. Clywai'r ffeirad yn rhoi gair allan i'w ganu wrth godi'r corph :— Mewn coffin cul ar fyr ca'i fod, Heb allu symud llaw na thro'd A 'nghorph yn llawn o bryfed byw, A'm henaid bach lie mynno Duw. Gwelai yr angladd yn cychwyn am fyn- went Penboir. Adwaenai bawb oedd ynddo, rhai mewn cerbydau, rhai ar geffylau, ac eraill ar draed. Gwelai'r ffeirad yn d'od allan o'r eglwys yn ei wisg wen, ac yn troi 'nol o fwlch y fynwent, gan ddweyd, "Myfi yw'r adgyfodiad a'r bywyd." Gwelai'r holl olygfa yn yr Eglwys, y perthynasau'n dwr gyda'u gilydd ac yn wylo dros y lie. Gwelai gario'r coffin i lan y bedd, a'i osod yn y ddaear. Edrychodd Elen i lawr i'r bedd, a darllenodd ei henw a'i hoedran ar y coffin. Clywodd y pridd a'r clai a'r cerrig yn disgyn ar yr arch, a chyda hyny fe ddihunodd, Yn wir," meddai Leisa Frondeg, pan ddibenodd Bet Gellideg ddweyd y stori, yn y wir i, dyna hen freuddwyd cas Chi gewch chi weld fod rhwbeth mowr wedi digwydd i'r lodes." Druan fach Falle fod yr hen drenbands yna wedi dod hibo a mynd a hi gyda nhw i Garfvrddin," meddai Peg Waunlwyd. "Dos dim dowt nad .yw witch Bwlchy- dommen wedi 'i rhibo hi. Dos dim llawer o ffrenshibeth rhwng un o'r ddou deulu a'r hen Seba," dywedai Esther Caegwyn. Nag os, mi wn," meddai Nel, merch y Felin, a synwn i fowr na cheir hi'n golsyn du bore fory. Mi wn i fod dou frawd Elen wedi wherwi i'r gweilod heddy." Dos dim rhyfedd," gwedai Ffani'r Pen- twr witcho'r lodes ar fore 'i phriodas Gan chwalu rhyw ymadroddion fel hyn wrth eu gilydd ymadawodd y merched a'r gwragedd o un i un ar gefnau eu ceffylau, ac ymadael hefyd a wnaeth y gwyr a'r gweision. Nid oedd calon yn neb o honynt i redeg ras y tro hwn, a dychwelent yn fwy tebyg i bobol yn dod yn eu holau o angladd na phriodas. Aeth Eben, y gwr ifanc, gartref gyda'i fam, ond fe ballodd yn un gwedd fynd i'rty. Allan yn y caeau y mynau fod, yn cerdded a'i ben rhyngddo a'r llawr fel rhywbeth wedi delffo, Ni ddywedai air wrth neb, a phan ddoi rhyw- un yn agos atto fe redai i gwato fel dyn gwyllt, Fe halwyd i mofyn doctor, ond 'chai e ddim mynd yn agos at Eben, druan. Fe orchym- ynodd y meddyg iddynt roddi bwyd i'r bachgen mewn lie cyfleus yng nghongl y cae oedd wrth gefn y ty, lie byddai yn treulio y rhan fwyaf o'i amser y dydd, ac yn cysgu'r nos. (I'w barhau.)