Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EISTEDDFOD YR ANIBYNWYR -YN…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD YR ANIBYNWYR YN Y QUEEN'S HALL. Nid cynt y troi'r heibio un eisteddfod nac y gwna arall ei hymddangosiad. Dydd lau, yr 8fed cyfisol, ymgynullodd yr Anibynwyr i'r Queen's Hall, a hyny ym mhen y pythefnos ar ol yr Eglwyswyr. Anhawdd o beth felly oedd gwneyd y ddwy yn rhai llewyrchus iawn, ac yn sicr bu yr olaf o'r ddwy yn anffodus mewn amryw o gyfeiriadau. Hyd yn hyn, mae'r capelau Anibynol wedi bod ar y blaen yn eu Heisteddfod flynyddol, ac edrychir arni fel yr un gyntaf o'r tymhor, ond gan nad oedd y Queen's Hall yn agored iddynt ond yn ystod mis Rhagfyr, yr oedd yn rhaid gwneyd y goreu o'r cylle a chadw mor bell ag y gellid rhwng gwyl yr Eglwys a gwyl arall y Nadolig. Hefyd, yr oedd un o'r corau wedi gorfod sefyll allan o'r gystadleuaeth bresenol, a hyny am y ffaith alarus o farwolaeth anwyl dad yr arweinydd. Y canlyniad oedd i'r cynulliad fyned yn llawer llai nag a ddisgwylid; ac am hyny,' ni chaed y brwdfrydedd arferol a deimlir ynglyn a chynulliadau o'r fath, Arweinydd y cwrdd oedd y Parch, J. Ossian Davies, Paddington y llywydd oedd yr aelod tros Gaernarfon, Mr. D Lloyd George, A.S. Clorianwyd gwyr y gan gan Mr. Albert Visetti, o Athrofa Coleg Bren- hinol, a Mr. Emlyn Evans, o Gymru. Gwnaeth yr Hybarch Ddr. Owen Evans ofalu am bwyso y llenorion, tra y mesurwyd y beirdd, druain, gan Elfed a Machreth. Yn yr adranau am- rywiaethol, 'roedd y Meistri T. E. Morris, M.A.; W. Llewelyn Williams, M.A. a D. H. Lewis, wedi eu penodi i dynu allan y goreuon. Felly, gwelir nad oedd eisieu gwell rhestr o feirniaid, a rhaid dweyd fod gan y cystadleuwyr hefyd ffydd yn eu gallu fei nad oedd eisieu ofni y caed dadl gwedi barn." Gofalwyd am drefnu y llwyfan am y noson gan y gwr gweithgar, Mr. T. W. Glyn Evans, a'r ysgrifenydd poblogaidd (Mr. T. Davies, Ful- ham Palace Road). Y cyfeilwyr oeddynt Mrs. Nellie Jones a Mr. B. Treharne. Araeth fer roddodd y llywydd, a chan nad oedd cystadleuaeth arni gallasai fod yn hwy, eto 'roedd yn Hawn deilyngu'r clod uwchaf am ei hysbryd iach a'i Chymreigiaeth bur. Dy- wedodd, P'am y deuwn yma heno ? Onid i ddathlu yr hen Sefydiiad ? hen Sefydliad a banes iddi; hen Sefydliad yn hynach na'r Senedd, ac yn llawer iawn gwell. Mae iddi sylfaen dda; mae iddi amcanion defnyddiol, ac hefyd mae'n addurn i'n cenedl. Yma y meithrinir can, celf, a lien y Cymro ar hyd y blynyddoedd. Un peth y gellir dweyd am dani nas gellir ei ddweyd am gyfarfodydd ereill, yw ei bod yn uno pob gradd o'r genedl: Ar ei llwyfan mae'r scweiar a'r gweithiwr, gwreng a bonheddig, tylawd a'r cyfoethog; ie, o bob oes ac o bob lie yn gallu cydgyfarfod ac ymuno yn ei chlod a'i hanrhydedd. Gall Cymro yr 20fed ganrif edrych yn ol i'r oesau gynt, drwy ei chyfrwng hi a chydfyw mewn dychymyg a'r hen feirddion lu fu yn ei chadw yn anrhydeddus gynt. Ac am un sydd wedi gwneyd cymaint tros fy ngwlad a'i phobl, nis gallaf lai na'i charu, ac am hyny 'rwy'n hoxfi ymweled a hi, ym mha le bynag y bydd." Ar ol cael unawd ar yr organ gan Mr. B. Treharne, awd at waith yr Eisteddfod. Y buddugwyr ar y gwahanol gystadleuaethau oedd- ynt fel a ganlyn:—Unawd ar y berdoneg, Miss Pendry, Green Lanes. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gym- raeg, Mr. John Peate, King's Cross, allan o ddeg o gystadleuwyr. Unawd contralto, God shall wipe away your tears," Miss Fox, o'r Alban. Cystadleuaeth corau plant: Dau gor ddaeth ymlaen, sef Falmouth Road, o dan arweiniad Miss Williams, a chor Hol- loway, o dan arweiniad Miss Mary Jenkins. Gad- ewch i blant bychain (Vincent Davies) oedd y dernyn, ac ar ol canu tlws, dyfarnwyd y wobr i gor Holloway. Adroddiad i blant; gwobr gyntaf, Miss Getta Davies, City Road; ail, Master Llewelyn Rees, Chelsea. Unawd baritone, Cymru fy Ngwlad," goreu Mr. Glaisher, Primrose Hill. Y goreu i dynu Hun llew," oedd Mr. J. M. Powell, Modern School, Walthamstow. Unawd soprano, Miss Gerry o Gernyw. Adrodd darn o'r Adgyfodiad" (Caledfryn), Mr. Llewelyn Evans, Barrett's Grove. Traethawd ar Cyflafareddiad," rhanwyd y wobr, gan roddi dwy gini i Mr. D. H. Treharne, New Southgate; a gini i Mr. R. R. Wil- liams o Goleg Regent's Park. Englynion i'r Beibl," goreu, Mr. Henry Lloyd (Ap Hevin), 45, Ironlane, George Town, Merthyr. Unawd tenor, rhanwyd rhwng Mr. Lloyd Williams a Mr. Dan Davies. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, neb yn deilwng. Dau gor ddaeth ymlaen i gystadlu ar y prif ddarn, Thanks be to God (Mendelssohn), a How sweet the moonlight sleeps (Emlyn Evans), sef cor Jewin a'r Cambrian. Dyfarnwyd y wobr o £ '20 a bathodyn aur i gor Jewin, am ddadganiad gwir alluog. Dau gor meibion hefyd fuont yn canu am y goreu, The Martyrs of the Arena," ac aeth cor Madoc Davies-y Gwalia—a'r dorch y tro hwn. Canu deuawd, Arwyr Cymru Fydd," Messrs. Lumley a Lewis, o'r Boro'. Canu pedwarawd, Mr. Rhys a'i barti, Dewi Sant. Dygwyd yr holl weithrediadau ymlaen yn hwyliog, a therfynwyd mewn amser priodol i bawb gyrhaedd adref cyn haner nos. Y BEIRNIADAETHAU. TRAETHODAU AB "GYFLAFAREDDIAD." Derbyniwyd pump o draethodau ar y testyn pwysig ac amserol hwn, yn dwyn y ffug-enwau Ab lwan, Brito, Treborfab, Llwyd-y-Rhych, ac Ethicus. Mae y tri cyntaf wedi eu hysgrifenu yn Gymraeg, a'r ddau olaf yn Saesneg. Maent ar y cyfan yn draethodau galluog a rbagorol iawn ac y mae tri neu bedwar o honynt, yn ol fy marn i, yn llawn deilyngu y wobr. Ar yr un pryd, mae rhyw wallau a diffygion yn perthyn i'r naill a'r llall, fel nad oes yr un o honynt yn bobpeth a allesid ei ddymuno. 1 Ab Iwam.-Mae y sillebiaeth yn dra chywir, a'r sylwadau yn eithaf priodol i'r testyn; ond lied gyffredin ydynt A phrin y mae wedi trefnu ei ddefnyddiau a'i faterion yn y modd goreu; ac y mae hyny yn peri fod tuedd ynddynt i redeg braidd i'w gilydd. Rhwng y naill beth a'r llall, y mae dipyn ar ol ei gyd-ymgeiswyr yn y gystadleuaetb hon. 2 Brito.—Traethawd eithaf. synwyrol, yn dangos yn amlwg fod yr awdwr yn ddyn deallus a goleuedig. Mae wedi darllen yn helaeth ar y mater, fel y mae yn dra hyddysg yn hanesiaeth y pwnc. Cymer olwg eang ar ei destyn, a tbrinia ef yn ddigon deheuig, a chyda gryn lawer o allu. Ond y mae y traethawd yn dwyn arwyddion brys, ac yn cynwys llawer o wallau ieithyddol a gramadegol; ac y mae yn colli yn ami mewn grymusder, o ddiffyg talu sylw priodol i ffurfiad brawddegau. Mae ganddo hefyd ambell air bastard- aidd, megis "Militariaeth"; a byddai yn hawdd cael gair mwy ystwyth na'r gair clcgyrnaidd "parth," &c. Ond gydag ychydig ychwaneg o sylw i ieithyddiaeth, gall ddyfod yn draethodwr rhagorol iawn. 3 Llwyd-y-Rhych.—Mae y traethawd hwn wedi ei gyfansoddi yn Saesneg, ac yn type-written. Dengys yr awdwr lawer o allu. Cymer olwg eang a theg iawn ar y testyn, a rhana ef yn hynod o naturiol a phriodol. Rhagora mewn trefnusrwydd ar bob un o'i gyd-ymgeiswyr. Mae yr iaith hefyd yn dda ac yn rymus ond nid yn hollol ddiwallau. Er engraifft, y mae yma ambell frawddeg heb ferb, ac its, yn lie it is, &c. 4 Treborfab.-Mae hwn yn draethawd maith iawn, yn arddangos llawer o allu, ac yn dwyn profion eglur o lafur ac ymchwiliad dirfawr. Mae yn trafod y mater yn helaeth yn ei holl gysylltiadau, yn ymres- ymu yn gadarn, ac yn ategu ei osodiadiau a lluaws o ffeithiau pwysig, ac a dyfyniadau o areithiau dynion enwog, y gellir eu hystyried yn awdurdodau uchel ar y cwestiwn, yr hyn sydd yn ychwanegu llawer at werth ei draethawd. Gallwn feddwl na adawodd yr un gareg heb ei throi lie yr oedd gobaith cael rhyw- beth dani oedd yn dal perthynas a'r mater. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo ei fod yn gorlwytho ei draeth- awd a dyfyniadau, ac y buasai detholiad byrach yn well. Yr wyf yn barnu y dylasai, hefyd, fod wedi cymeryd y drafferth o gyfieithu ei ddyfyniadau. Mae yn wir fod pob ymgeisydd at ei ryddid i ysgrifenu yn Gymraeg neu Saesneg; ond eto, gan ei fod wedi dewis ysgrifenu yn Gymraeg, fe fuasai yn fwy priodol iddo gyfieithu y dyfyniadau oblegyd prin y mae cynifer o ddyfyniadau mor feithion, yn Saesneg, yn gweddu mewn traethawd Cymraeg. Mae yn y traethawd, hefyd, ambell ymadrodd amhriodol, megis ymyraeth a'r testyn," yn He trin neu drafod y testyn ac yr wyf wedi sylwi ar gryn nifer o fan wallau ieithyddol yma a thraw. Yr wyf yn teimlo, hefyd, fod y traethawd yn terfynu braidd yn rhy swta. Gyda'r eithriadau hyn, y mae hwn, yn ol fy marn i, yn draethawd campus. 5 Ethictbs.-Mae y traethawd hwn wedi ei gyfan- soddi yn Saesneg, ac wedi ei ysgrifenu yn lan a destlus iawn; ac y mae yn amlwg ei fod yn gynyrch meddwl galluog, coeth, a diwylliedig. Mae yr awdwr wedi darllen yn helaeth ar y mater, ac yn ysgrifenu arno mewn dull cryno, cynhwysfawr, a grymus. Mae yr iaith hefyd yn rhagorol, a'r arddull yn ddoniol a hyawdl. Ond nid yw wedi trefnu ei faterion gystal a rhai o'i gyd-ymgeiswyr; nac yn aros digon ar rai agweddau i'r cwestiwn ac y mae ganddo ambell i osodiad amheus, megis lie y dywed fod atheistiaid, agnostiaid, a phleidliau ereill o anffyddwyr, yn casau rhyfel yn fwy na Christionogion. Ond y mae y traethawd, a'i gymeryd oil yn oil, yn un rhagorol iawn. Mae y tri olaf o'r traethodau hyn wedi peri i mi lawer o drafferth a phryder. Er meithed yw rhai o honynt, eto, yr wyf wedi eu darllen yn ofalus amryw weithiau drosodd, yn fy awydd o wneyd pob tegwch oedd o fewn fy ngallu a'r ymgeiswyr. Mae pob un o'r tri-" Trborfab," Llwyd-y-Rhych>" ac "Ethicus," yn ol fy marn i, yn llawn deilyngu y wobr. Ond nid oes yr un o honynt, hyd y gallaf fi weled, yn rhagori cymaint ar y lleill fel y byddai yn deg rhoddi y wobr i gyd iddo ef, a dim i'r un o'r lleill. Mae gan y naill a'r llall ei ragoriaethau a'i ddiffygion. "Llwyd-y-Bhych" yw y mwyaf trefnus; "Trebor- fab sydd yn trafod y mater yn fwyaf helaeth, yn ei holl agweddau, ac efe sydd yn fwyaf cyfoethog mewn ffeithiau a defnyddiau ac Ethicus yw y mwyaf galluog a diwallau. Ar ol ystyriaeth bwyllog, yr wyf yn barnu mai y peth tecaf a ellir ei wneyd yw rhoddi dwy gini i Ethicus," a gini i Treborfab, a drwg genyf nas gallesid gwobrwyo Llwyd-y-Bhych" hefyd. Yr eiddoch yn gywir, Rhagfyr 8fed. OWEN EVANS. Y CYFIEITHIADAU I'R SAESNEG. Daeth 21 cyfieithiad i law, ac heb ymdroi, rhoddwn ein dyfarniad ar ol ychydig sylwadau ar bob ym- gais:— 1 Addison.-Rhy lythyrenol, ac nid yw wedi talu sylw digonol i wahanol briod-ddulliau y ddwy iaith. 2 Jonas.-Mae ei gyfieithiad weithiau yn wallus, bryd arall yn anramadegol, bryd arall yn anghywir. 3 Deheuwr.—Cyfieithiad rhwydd a llithrig, ond yn wallus mewn manau. 4 Raconteur.—Tra gwallus ac esgeulus. Gallai wneyd yn well gydag ychydig ofal. 5 Edmygydd.—Tia, gwallus eto, ac heb astudio cys- trawen Saesneg. 6 lago.-Yn ysgrifenu ar ddwy ochr i'r ddalen ac; yn llawn diffygion. Eto ieuajac ydyw, a chaff Alab y daran hamdden i ddiwygio cyn enill gwobr. 7 Dyffrynwr.—Man frychau, yn dangos nad ydyw yr ymgeisydd hwn wedi craffu digon ar arddull yr awduron Seisnig goreu. Eto yn gyfieithiad gobeith- iol. 8 Pericles.—Bai'r cyfieithiad hwn yw ei fod yn rhy rydd nid cyfieithiad mohono, ond arall-eiriad. 9 Arvonia.-Typewriter heb fawr o synied am ramadeg Saesneg ac ystyr rhai geiriau sydd gan yr ymgeisydd hwn. 10 Edmygydd (2).-Cyfieithiad gan anghelfydd law. 11 Pan-Celt.—Sy'n Sais gwael. 12 Giach Cors Farlais.—Mae'r giach 'n rhy chwimwth i fod yn gywir, ac ymsaetha i un ochr neu'r llall er mwyn gair rhodresgar neu frawddeg ddèl. Ond nid dyna'r ffordd i gyfieithu. 13 Brython.-Gwallus, ond gobeithiol. 14 Derwen.—Mae'r ymgeisydd hwn fel pe wedi gwneyd ei oreu i gasglu ynghyd holl feiau ei gyd- ymgeiswyr, ac weithiau mae mor anealladwy a'r- Uwch feirniaid. 15 R. J..R.—Mae hwn wedi defnyddio yr un geir- iadur a Derwen," ac wedi gwneyd defnydd gwael o hono. 16 Excelsior.—Glyned wrth ei arwyddair; mae. ganddo ffordd eto i ddringo cyn enill gwobr. 17 Morfydd.—Gwell gan Forfydd, mae'n debyg,, iaith Dafydd ap Gwilym na iaith Siopiau Sieb. Peid- ied, pan yn cystadlu, defnyddio'r geiriadur, ac nac; ysgrifened eiriau nad yw yn deall eu hystyr. 18 Robin Hood. -Cyifeithiad rhwydd, ond mae Robin yn rhy hoff o ysbailio'r Lladin a dirmygm symledd Saesneg cartrefol. Indication of develop- ment" ysgrifena ef, pan y gwnelai sign of growth" y tro yr un gystal, a chyfystyr seiliau Rhyddfrydig," yn ol Robin, yw fundamentally Liberal premises." 19 Llosgwr ccmwyll.—Nid yw yn anghywir, ond YI1<- afrwydd ac yn ymylu ar fod yn glogyrnaidd. 20 Cymro o Gymru.—Canmoladwy, ond gwallus. 21 Cymro Maethlu.—Nid yw'r Cymro hwn, hyd eto,. wedi dysgu ffurfio ei frawddegau na sillebu ei eiriau Saesneg yn gywir. Gellir casglu oddiwrth y sylwadau uchod i ni gael ein siomi yn y cyfieithiadau. Hyd yn hyn, rhyfeddu a wnaethom fyd cystal cyfieithiadau yn cael ou dan- fon i mewn bob tro i'r gystadleuaeth ond "haid frith yw'r ymgeiswyr eleni. Nid yw'r darn a rodd- wyd o'r fath oreu at y pwrpas Mae yn dolcog ei arddull, ac nid yw y geiriau mwyaf cymhwys bob- amser wedi cael eu dethol; eto gellid disgwyl pethau gwell oddiwrth Gymry Llundain. Mae pedwar o bob- pump o'r ymgeiswyr yn cyfieithu tystio" gyda'r gair testify." Rhai o honynt sydd yn dilyn y llythyren ereill ni cheisiasant gyfieithu o gwbl, ond, rhoddi ystyr y darn yn Saesneg ond nid yw'r rhai sydd yn gallu ysgrifenu Saesneg wedi cyfieithu'r darn,, ac nid yw'r rhai sydd wedi cyfieithu'r geiriau yn gallu ysgrifenu Saesneg. Yr ydym wedi petruso Uawer cyn dyfod i farn derfynol ar y gystadleuaeth ac yr ydym wedi clorianu eilwaith y gorell o'r cyfieithiadau. Teimlwn y byddem yn gwneyd cam a'r Eisteddfod ac a'r ymgeiswyr wrth ddyfarnu gwobr cyn iddi gael ei henill, a'n barn onest a. chydwybodol ydyw nad oes un o'r ymgeiswyr y tro- hwn yn deilwng o'r wobr. Ar air a chydwybod, Nos Fercher. W. LLEWELYN WILLIAMS. Rhagfyr 7, 1898. CYFIEITHU O'R SAESNEG I'R GYMRAEG. Daeth deg o gyfieithiadau i law. Dosbarth 2 Cwmluog. Dim heb ymdrech, Mathew.- Ruskin, Tafwys, Di-enw.-6. Rhai cyffredin yw yr haner dwsin hyn. Dosbarth 1: Arfonwyson, R ap loan, -Cymru Fydd, ac Ymdrech Deg.-4. Yn y pedwar hyn, ceir cyfieithiadau gwir dda etc, dim ond Arfonwyson ac Ymdrech Deg, ynghyd a Dienw yn yr ail ddosbarth, sydd wedi defn- yddio y cyfieithiad beiblaidd a ddyfynir yn y darn, a dim ond Cymru Fydd sydd wedi dargan- fod y gwall argraffyddol external yn lie eternal. Gwobrwyer Ymdrech Deg, efe yw y goreu ond daw Cymru Fydd yn dyn wrth ei sawdl.-T. E. MORRIS.