Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Ymddengys nad ydyw hi byth yn gwlawio nad ydyw hi yn tywallt. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf yma, yr ydym wedi derbyn nifer fawr o lyfrau newyddion yn yr kith Gymraeg; ac y mae rhai o honynt yn gyfryw agy teimlwn mai dyledswydd arnom ydyw eu cyflwyno i svlw darllenwyry CELT. i. Bywyd Iesu Grist, gan James Stalker, M A., D.D., Glasgow, wedi ei gyfieithu gan y Parch. D. E. Jenkins, Porthmadog. Ni raid dweyd wrth neb sydd wedi darllen y liyfr hwn yn yr iaith Seisneg, ei fod yn llyfr da. Cofus genym glywed prifathraw mewn coleg duwinydrtol yng Nghymru, flynyddoedd yn ol, yn dweyd mai y peth gorau a ddarllenodd efe erioed ar Fywyd Iesu Grist, oedd llyfr bychan Dr. Stalker; a phe buasai yn rhaid iddo ef ymadael a phob llyfr ar y pwnc ond un, mai hwn oedd yr un y buasai efe yn dewis ei gadw. Y mae'r galw mawr sydd wedi bod am dano, a'r cylchrediad eing y mae wedi gael yn yr iaith Seisneg, yn gosod gwerth y llyfr uwchlaw amheuaeth. Da iawn genym, gan hyny, gael y fraint o'i groesawu yn yr iaith Gymraeg. Rhaid i ni addef, er hyny, pan ddaeth i law, ein bod yn ofni rhag i lyfr mor rhagorol ddioddef cryn lawer yn y cyfieithiad; oblegid anfynych, os byth, y gellir cael cyfieithiad i fyny a'r gwreiddiol. Da genym ddweyd, fodd bynag, ein bod wedi cael ein siomi o'r ochr oreu. Y mae Mr. Jenkins wedi gwneyd ei waith yn ardderchog, mor ardderchog fel y credwn mai nid g-ormod yw dweyd fod y llyfr hwn yn ei ddiwyg Gymreig i fyny ymhob ystyr a'r hyn ydyw yn ei ddiwyg Seisneg". Y mae hyn yn ddweyd mawr; ond nid mwy na theilyngd )d y cyfieithiad. Gobeithio y caiff y llyfr yr u 1 derbyniad yn y Gymraeg ag y mae wedi gael yn Seisneg, ac y bydl i'n pobl ieuainc, wrth y canoed i, ei brynu a'i efrydu. Yng- Nghyfres leuenctid Cymru y cyhoeddir y llyfr; a gwaith rhagorol iawn y mae Mr. Jenkins yn wneyd wrth ddwyn y fath gyfres allan. Y cyhoediwr Y N Mr. U. Jenkins, Porthmadog-, a'r pris yw swlit. 2. Gofiant Capten Hughes, Gellidara, gan y Parch. John Jones, F.R.G.S. (Aberkin) Pwllheli. Llyfryn bychan ag y mae llawer iawn o swyn o'i gwmpas yw hwn. Y mae yn hynod o ddestlus a glan yr olwg arno ac y mae ei gyn wys yn werth ei ddarllen lawer gwaith drosoid. Hen weinidog anwyl a pharchus yng nghorph y Methodistiaid ydoedd Capten Hughes, ac un o'r cymeriadau mwyaf disyml, hawddgar a phur ag y daethom erioed i gyffyrddiad ag ef. Treuliodd y rhan g-yntaf o'i oes ar y mor, ac fel Capten Hughes yr ad- waenid ef hyd y diwedd, ac yr oedd iaith y mor yn bur ami wg yn ei bregethau a'i ymddyddan- ion bob amser. Merch i Capten Hughes yw y foneddiges adnabyddus, Mrs. L. H. Roberts, Canonbury, ac nid ydym yn synu dim at yr enw da sydd iddi hi, pan gofiwn fod ganddi dad mor rhagorol. Yr ydym wedi darllen y llyfr hwn fwy nag unwaith, ac wedi cael gwledd o'r fath a garem wrth wneyd hyny. Y mae dywediadau naturiol a ffraethbert y Capten, ei sylwadaeth graffus, ei dduwiolfrydedd di- amheuol, ynghyd ag un-plygrwydd a phurdeb ei gymeriad, yn ein swyno tuhwnt i bob peth. Nis gall y fath gymeriad lai na dylanwadu yn ddaionus ar y neb a ddarlleno ei hanes. Ar- graffwyd y gyfrol gan Mr. E. W. Evans, Dol- gelley, a'i phris yw haner-coron. 3. Y Tri Wyr hyn, gan Mr. Hugh Edwards, Llundain. Math o gyfrol goffa ydyw hon hefyd. Ynddi y mae yr awdwr yn adrodd hanes tri o gedyrn y pwlpud, y rhai a fuont yn gwasanaethu ar y corph o Fethodistiaid yn Llundain, neb amgen na'r Parchedigion Owen Thomas, D.D., David Charles Davies, M.A., a John Mills, F.R.G.S. Y mae coffhau yr enwau hyn yn profi ar unwaith fod Mr. Edwards wedi ymgymeryd a choflaid fawr; ond da genym allu dwyn tystiolaeth ei fod yn wr medrus at y gwaith. Mae'n eglur ei fod yn gydnabyddus iawn a'r tri, ei fod wedi cym- deithasu llawer a hwynt. Traddodwyd rhan helaeth o gynwys y llyfr, yn y lie cyntaf, yn y ffurf o ddarlith ond gallem feddwl fod yr awdwr wedi ychwanegu cryn lawer at y ddar- lith wrth ei hail-ysgrifenu; ac y mae hefyd wedi ychwanegu attodiad helaeth at hyny, fel rhwng pobpeth y mae yn gallu cyflwyno i ni lyfryn bychan, chwe' cheiniog, hynod o hylaw a darllenadwy. Y mae yn adrodd hanes y gwyr enwog hyn, yn nodi allan eu nodweddion gwahaniaethol, ac yn portreadu eu rhagor- iaethau gyda llygad craff, a chyda llaw fedrus. Credwn y bydd yn dda gan ganoedd weled a darllen yr adgofion hyn am y cedyrn gan u"< oedd wedi cael mantais i'w hadnabod yn dda. Y mae'r llyfr yn deyrnged werthfawr o barch i goffadwriaeth "y tri wyr hyn," ac i'w gael oddiwrth yr awdwr. Cawsom ri foddhad didwyll, ac adeiladaeth hefyd wrth ei ddarllen. 4. Pa fodd i ddarllen, y Beibl. Dyma un arall o "Gyfres leuenctid Cymru" o dan olygiaeth y Parch. D. E. Jenkins, Porthmadoc, a chyfieithiad yw o lyfryn y Proffess wr W. F. Adeney, o'r Coleg Newydd, Lluniiin. Feallai y by Id y darllenydd yn barod i ofyn pa eisieu llyfr o'r fath hwn sydd, g-an y gwyr pawb y ffordd i ddarllen yn y dyddiau hyn. Ond y mae gwahaniaeth rhwng darllen a darllen, ac nid pawb a wyr y ffordd i ddarllen y gyfrol sanctaidd. Gesyd y Proffesswr Adeney agoriad ardderchog i efrydiaeth iachus o'r Beibl yn y llawlyfr priodol hwn, a chan mai cyfarwyddiadau ydynt i ieuenctyd ein cenedl, yr ydym yn gobeithio yn fawr y gwna y do ieuanc bresenol geisio ymgyd- nabyddu a dull a rheolau amserol yr awdwr. Nid oes raid i neb ofni" medd y Parch. Richard Hughes, mewn rhagymadrodd i'r Ilyfr, y bydd ymchwiliadau gonest ynghylch hanes cyfansoddiad y Beibl yn debyg o siglo ffydd y rhai sydd wedi eu dwyn i gymundeb personol a'r gwirionedd." Nac oes, yn wir, a rhy fach o lawer o'r cymundeb personol hyn a arferir gan ieueictyd ein oes, y rhai a redant ar ol brawdiegau pert yr uwchfeirniaid, yn lie dilyn y sylwedd ac ymgydnabyddu a'r Gair ei hun. Yn ydym yn mawr hyderu y rhoddir lledaeniad i'r llyfr hwn, a buddiol fuasai i'n Hysgolion Sabbothol gymeryd ato a'i ddosbarthu mor gyffredin ag sydd bosibl. Yn sicr y byddai o les mawr pe gwnelsid hyn. Cyhoeddir ef gan Gwmni'r Wasg Genedl- aethol Caernarvon, a'r pris yw swllt. 5. Y Bardd Gwig [o dan olygiaeth Proff. J. Morris Jones. Jarvis (ØFoster, Bangor, 3/5 net.] Cyhoeddwyd y gyfrol hir-ddisgwyl- iedig hon dydd Gwener cyn y diweddaf, ac ni phetruswn ddweyd mai dyma." llyfr y flwyddyn." Mae gwaith clasurol y gwr o'r Lasynys yn dod yn beth cyffredin yn ein mysg ond mae yn y gyfrol hon weledigaethau newydd ar weledigaethau y Bardd. Ceir rhagymadrodd maith gan y Proffesswr, yn yr hwn yr ymdrinia a'r holl ddaliadau parthed gwreiddioldeb y cynllun o eiddo Ellis Wynn ac ar y diwedd gesyd noiiadau cyflawn ar eirieu a gwallau yr argraffiad cyntaf. Nis gellir aros uwchben llyfr mor gyflawn a hwn i'w feirniadu. Mae y mwyaf dysgedig sydd wedi ymddangos er's hir amser, ac ni throwyd allan o'r wasg Gymraeg, lyfr mwy hardd, ac wedi ei argraffu mor ardderchog, eto a'r gyfrol hon o'r Bardd Cwsg." Ceir nodiadau llawnach arno yn ein rhifyn nesaf gan un o'n llenorion mwyaf adnabyddus.

Bwrdd y 9 Celt. '

[No title]

Y Dyfodotm

Advertising

[No title]

fCAPEL CYMREIG STEPNEY.