Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
COLOFN Y GAN
COLOFN Y GAN [GrAN PEDR ALAW.] AR GRWYDR.-Galwyd ni yn sydyn o'r dref fel y methasom fynf d i Eisteddfod yr Ani- bynwyr. Y mae yn wir ddrwg genym am hyn. Diolch yn fawr am wahoddiad caredig yr ysgrifenydd, Mr. T. Davies. o MRS. MARY OWEK-Yn y Musical Age, papyr misol cerddorol a gyhoeddir yn Glasgow ceir y paragraph canlynol; ac y mae yn wei th ei ddodi i mewn yn Saesneg- Miss Mary Owen, who before her marriage with Mr.Ellis Griffith,member of Parliament for Anglesea, was well known in the provinces as a charming singer, has resolved to take up her profession again. She has gone to Paris to practice for a few weeks with Madame Marchesi. After leaving Paris Miss Mary Owen will go to Berlin to hear the best operas and profit by hints and instructions by the leading professionals. Miss Owen has had tempting offers to star the provinces in opera, but at present she prefers to confine herself to the concert platform. She will come out in London in February at the Queen's Hall, under the auspices of Mr. Ernest Cavour. Before her marriage, six years ago, Miss Owen appeared with great eclat at Glasgow, Dundee, and Manchester, and at her concert in the Crystal Palace her singing in oratorio was enthusiastically applauded. Mr. Griffiths is to be congratulated on the musical gifts of his charming wife." o ALAWON YSGOTAIDD.-Dyma destyn llith yn y papyr a enwyd uchod. Dywed yr ysgrifen- ydd fod y genedl hon yn rneddu mwy o farddoniaeth ger ed] aethol- lyric and ballad poetry, nag unrhyw genedl dp n haul; ac ychwanega dystiolaeth Dr. Hullah Scot- land is entitled to the highest place among song-making people" Oddiwrth hyn, ym- resyma yr awdwr fel hyn Os yw hyn yn wir am farddoniaeth y genedl hon, y mae yr un mor wir am y aerddoriaeth a pha un yr unwyd llawer o'r darnau barddonol. o: Dywed am oedran yr alawon Ysgotaidd, eu bod" ganrifoedd hynach na'r geiriau a gy- sylltir a hwy yn awr. Pa mor hen ydynt, nis gwyr yr ysgrifenydd; ond defnyddia eiriau Mr. Colin Brown, yr awdurdod penaf ar gerdd- oriaeth Ysgotaidd, i ddangos eu bod yn hen iawn The origin of the music of a country and the origin of the language of a country is the same. Musicians did not compose the one, authors did not invent the other; both have been gradually developed, and have been the growth of centuries." o Y mae yr ysgrifenydd yn ddig fod Syr John Hawkms, yr hanesydd cerddorol, yn meiddio dweyd a ganlyn The poet-King James I. of Scotland was the inventor of a new, melan- choly, and plaintive style of music "-yr hyn, wrth gwrs os yn wir, a brof t nad yw alawon hynod cenedlaethol Ysgotiand mor hen ag y dymunid i ni gredu -0:- Ymhellach ymlaen yn yr erthygl y mae yr awdwr fel pe yn gwrth-ddweyd ei hun. Dyma ei eiriau- If we except the melodies of "Scots Wha Hae and A Man's a Man," and put aside purely Border ballads, there are really no lowland Scottish airs in existence which are heroic or warlike in character and which are fitted to give expression to the combative instincts, the sturdy patriotism, which we are wont to associate with the men and women of our country in bygone days. If it be true that a nation's history is re- presented and reproduced in its songs, we should surely expect that in Scotland, of a!l places, some portion at least of this wealth of melody would have for its subject the daring and heroic deeds of her brave sons. Until the time of the Jacobites we find only one or two tunes which might incite to deeds of daring or acts of heroism." o Dywed yr ysgrifenydd nad oedd y bobl yn hoffi canu am ryfeloedd-eu pla beunyddiol, eithr am eu cartrefi a'u cariadon. Fel hyn y ceisia y gwr hwn brofi pa mor hen ydyw alawon digymar Ysgotland. A ydyw wedi darllen traethawd cynhwystawr a miniog Mr. Chappell yn ei Ancient British Music," nis gwyddom. Yno, dywed Chappell fod llawer iawn o gerddoriaeth genedlaethol Ys- gotland (a rhai o alawon Cymru hefyd) yn ddim amgen na llygriad o hen gerddoriaeth Seisnig I Gan ein bod oddicartref, nis gallwn droi i lyfr Chappell a dyfynu ei eiriau, a. nodi y darnau gau-Ysgotaidd. Rhaid terfynu yn y fan hon. Cawn hamdden i ymdrin a'r mater o alawon cenedlaethol yn lied fanwl cyn hir.
[No title]
Ym Manceinion, fel yn Llundain, mae'r Eglwyswyr yn helaethu eu teifynau a dydd Sadwrn diweddaf cynhaliwyd maelarwest, er mwyn cael arian at gronfa Eglwys newydd i Dewi Sant yno. Agorwyd y gweithrediadau gan y Deon Maclure. Nid yw Hawen yn credu fod ei gyd- feirdd Cymreig yn brophwydi o gwbl, ac fod eu "golygon meddyliol yn rhy bwl i wel'd ymhell. Wel, mae golygon1 rhai beirdd yn ddigon da i weled cadair neu goron eistedd- fodol beth bynag.
NODION O'R BYD CREFYDDOL
NODION O'R BYD CREFYDDOL Y mae'r Tad Stanton o St. Alban's, Hol- born, yn dipyn o wit." Ychydig Suliau yn ol, aeth a chyfaill i glywed y gwasanaeth yn St. Alban's ac wedi i'r cyfarfod derfynu, aeth ato, a gofynodd iddo pa fodd yr ydoedd wedi mwynhau y gwasanaeth. Atebodd y cyfaill ei fod wedi mwynhau pobpeth yn rhagorol ord sawyr yr arogldarth. Y mae yn ddrwg genyf glywed hyny ebai'r Tad Stanton, waeth yn y byd arall ni fydd ond dau ddrewdod, arogl- darth a brwmstan. o Mewn erthygl rymus yn y Nineteenth Cen- tury, traetha yr awdwr adnabyddus, Mr. W. H. Mullock, ei farn y bydd i Eglwys Rhufain sefyll yn fuddugoliaethus pan y bydd beirniad- aeth wyddonol, ag anghrediniaeth wedi dwyn Protestaniaeth i adfeilion. Ni raid dweyd mai Pabydd ydyw Mullock. o Cafwyd esiampl ragorol, ym Manceinion y dydd o'r blaen, o ddybenion y clerigwyr yn ceisio enill gymaint o seddau a fedrant ar Fyrddau Ysgolion y wlad, Daeth cais oddi- wrth rhyw saith ugain o rieni am HIe rhydd i'w plant yn un o ysgolion y dref h.y., rhydd oddiwrth addysg grefyddol fel eu dysgir. yn ysgolion y Bwrdd. Gwrthwynebwyd y cais gan Canon Menu a'l ganlynwyr, am, meddai, y mae yn ddyledswydd ar aelodau 'goleu- tdig I cymdeithas i addysgu y saith ugain an- wybodus nad oedd addysg rydd wedi ei rhoddi i'w cham-ddefnyddio." Felly, bydd yn rhaid i'r rhieni hyn oddef i'w plant gymeryd eu crefydd yn ol y patrwn fyddo y Canon a'i ganlynwyr yn gymeradwyo. o Dywedodd Dr. Clifford, yng nghyfarfod mawr yr Eglwysi Rhydd yn y City Temple, eu bod, y noson hono, yn cynrychioli bwr- iadau ag argyhoeddiadau 1,841,767 o aelodau; yr oeddynt yn addysgu 3,170,193 o blant yn eu hysgolion Sabothol; a'u bod yn berchen ar werth £ 50,000,000 o fuddianau." Rhyfedd fel y mae golud yn cael ei gyfrif yn brif brawf nerth a gwerth pob mudiad yn glimax i'r oil. Ai nid gwell fyddai troi y frawddeg, a rhoddi bwriadau ac argyhoeddiadau, y ddwy filiwn aelodau yn goron eu mawredd. o Y mae penodiad gwr o linach uchel fel y gwir Hybarch W. H. Williams, D.D., yn esgob Bangor, yn ddangoseg effeithiol o'r gagendor mawr sydd rhwng ysbryd pendefigaidd yr Eglwys ag ysbryd gwerinol y Cymry. Beth all boneddwr, fel esgob newydd Bangor, wedi ei fagu a'i feithrin ar arffed llawnder, wybod am ymdrechion a threialon a dyheadau ys- brydol ffermwyr tylawd, a gweithwyr Cymru ? Cyn y gellir cydymdeimlo, rhaid fod rhyw gymaint o gyd-ddioddef. Y mae y palas es- gobol yn rhy bell oddiwrth y bwthyn i rhyw lawer o wres crefyddol basio rhyngddynt, ond y mae penodiad un o achyddiaeth uchel yn breswylydd iddo, yn gwneyd y pellder yn fwy. o Y mae y drwg-weithredwyr a gafwyd yn euog o bechodau anfad yn Abertawe, yr wyth- nos o'r blaen, wedi peri i rai o bapyrau en- wadol Cymru godi eu llais. Dywed un Duw gymer drugaredd arnom. Os i hyn y mae ein gwlad yn d'od ar ol yr holl freintiau addysg a chrefydd yr ydym yn fwynhau, y mae yn eglur fod llawer o waith eto i'w wneuthur yng Nhymru."
Advertising
CASTLE STREET CHAPEL,W. A COKCBBT Will be held on Saturday, Deeemher 17tl], 1898, In connection with the WESTBOURNE PARK WELSH SUNDAY SCHOOL. Artistes- Miss MARION EVANS, Miss MORFYDD WILLIAMS, Mr. GWILYM RICHARDS, Mr. EMLYN DAVIES, Recitations—Mrs. TUDOR RHYS. Violin-Miss DOROTHY BULL, Pianoforte-Miss JULIA LEWIS Chairman- T. LLOYD, ESQ. Doors open 7.30. Concert at 8 prompt. Reserved Seats, 2s. Admission Is. Tickets may be obtained of Mr. Harris, 16, Westbury Road, Harrow Road, Mr. C. Roberts, 48, Goldney Road, W., and of all members of the Westbourne Park School. Welsh Christmas and New Year Cards. A Choice Selection may now be obtained in London also the follow- ing Suitable for the SEASON'S PRESENTS: Newest Welsh Books and English Books relating to Wales. Magnificent Welsh Moun- tain & Climbing Photos. Welsh Photochroms, or Photographs of Welsh Views in the Colours of Nature. W. H, ROBERTS, 10, CECIL COURT, Charing Cross Road, W.C.