Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Y "GOUT."
Y "GOUT." Heddy w'r gout gyndd'iriog gas—yn rhy hyf Ferwa nhroed yn grychias," O'i iach liw mae yn goch-las,-llosgedig Ow tonau ffyrnig yw tan ei ffwrnas. A thaniodd y gwaed wythieni-y met 0 fel mae yn toddi Esgyrn fy nhroed sy'n llosgi Yn ulw 'n awe feddyliwn i. Gau od hylif yw gout elyn- Gwaew melyn i gymalau Tonau'n wynias, tan yw'n enyn Trwy y gewyn, tyr y giau Onoawl bryfyn, rhydlyd ellyn Miniawl hydyn mewn aelodau, Yw, a'i golyn piga 'n sydyn— Gwna rhawg wed'yn gwn, rwygiadau. O'r filain mae'n llwyr falu-Ye, cnoi Dan y cnawd sy'n gochddu O ngresyn mae'n fy nghrasu-yn ei ffwrn Dyna un migwrn o'i dan yn mygu. Mae eithin ar dan i 'mhoethi—'a'i wres Mae fy nhroed yn berwi Gawl ydwyf mewn caledi Eiddo'r goid, gynddeiriog gi. Heddyw mae'n toddi m&r—a'i wasgu rona. O'm hesgyrn gan boethder, Dyna 'i fort o dan y ffer, Ar hyn mae 'n waeth o'r haner. Heno deuodd i'm handwyo,—0 ngloes Mae pen fy nghlun ganddo Cynddaredd ei ddanedd o Dreiddiant fel hoelion drwyddo Arteithiol yw fy nolur,—ymwylltio Mae melldith ei natur Llefain am fyw yw 'm llafur Pan o dan y pinau dur. 37, Dante Iioad. GWILYM PENNANT.
ODDEUTU'R DDINAS.
ODDEUTU'R DDINAS. Y Canon Davies o Bwllheli sydd wedi ei henodi i bregethu yn Sant Paul nos Wyl Dewi. Adnabyddir ef drwy Gymru wrth ei enw barddol, Dyfrig," ac y mae'n bregethwr gwych ac yn Gymro gloyw. Dydd Gwener cyn y diweddaf, rhoddwyd cyngherdd gan ddysgyblion y Coleg Brenhinol yn y Lyceum. Ymhlith yr unawdwyr yr oedd Miss Eleanor Jones, Mri. Ivor Foster a Thomas Thomas, a rho 'dir canmoliaeth uchel iddynt. + Un o'r athrawon blaenaf yn y Coleg Bren- hinol yw Mr. Albert Vissetti, y beirniad cerdd- orol oedd yn eisteddfod yr Anibynwyr. Nid yw ei wybodaeth o'r Saesneg yn rhyw lithrig iawn, er hyny y mae yn gerddor ardderchog, ac yn un o'r awdurdodau goreu ar y llais. f Blin oedd genym weled Mr. Emlyn Evans yn dioddef o dan effeithiau ei afiechyd hir, ac nad yw eto wedi cael llwyr adgyfnerthiad i'w hoywder arferol. Mae ei lais yn pallu, a'i nerth yn wan fe! mai doeth fuasai iddo gael seibiant eto, cyn ymgymeryd a gorchwyl caled fel oedd ganddo y nos o'r blaen. Talodd Mr. Vissetti deyrnged uchel i Emlyn fel cyfansoddwr, ac yn sicr mae ei ran-gan, a ganwyd yn yr eisteddfod hon, yn un tra swynol ac yn gofyn cryn allu i'w gosod allan yn ei llawn brydferthwch. » Llongyfarchwn Mr. Madoc Davies ar ei waith d a chor "Gwalia" yn d'od allan yn fuddugoliaethus y tro hwn. Cawsant y clod y tro diweddaf, ond y pres hefyd y tro hwn. Yr oedd ganddo le siau hyfryd yn ei bedwar- awd y tro hwn, ac uniad nas dymunem eu gwell. Yr ad-drefniad o'r rhan hyn yn ei gor yn ddiau, a enillodd y wobr iddo. Siomiant i lawer oedd gweled yr unawd baritone yn cael ei chipio oddiar wyr profedig fel Tim Evans a David Evans. Nis gwyddom a oedd y beirniaid wedi sylwi fod yna gryn lawer o wahaniaeth yn ysbrydiaeth y geiriau Cymraeg a Saesneg, fod mwy o dan yn y blaenaf, ac oganlyniad yn gofyn mwy o fywyd yn y dadganiad. Diau eu bod. # Mae" musical evenings" cappl Elfed yn dod yn bur boblogaidd, a chan fod 3 no gor lied alius, g maent yn abl i roddi dadganiadau o'r gweithiau mwyaf clasurol. Y Saboth di- weddaf rhoddwyd perfformiad o gantawd Macfarren, King David." # Cynhelir cyngherdd ynglyn ag Eglwys St. Benet yn y South Place Institute ar y gfed o Chwefr.or. Ceir y manylion eto Bydd gan- ddynt hefyd gyfarfod adloniadol ar ddechreu'r flwyddyn, lonawr 2fed, yn Eglwys Holy Trinity, Gray's Inn Road, pryd y croesawir pawb, ac y rhoddir te a moethau gan ferched ieuainc y gynulleidfa. Ceir digon o ganu eto yn y flwyddyn new- ydd. Gyda chor meibion y Rhos yng nghyng- herdd Mans 11 Lewis, a chor mawr Merthyr yng nghyfarfod biynyddol Castle Street, a rhyw haner dwsin o gorau o Gymru i Eis- teddfod City Road, dylai fod y wledd yn ddigon i Gymry Llundain, am rai misoedd beth bynag. Dechreuir y rehearsals" ynglyn a chor unedig- Sant Paul, yn gynar yn y flwyddyn. Mr. J. E. Davies (Clwydian), sydd i arwain eleni, gyda Mr. Vincent Davies yn organydd. 9 Mae'r awdurdodau gwladol wedi dod o hyd i lu o bechaduriaid Cymreig- yn y fasnach laeth ac ymenyn. Yn wir, rhaid anfon allan genhadon i ddysgu rhai pobl fod yn gywir a gonest mewn masnach. Yr ydym yn mynd i gael drama Gymraeg eto y Llundain, oherwydd deallwn fod Elphin wedi cyfaddasu Y Bardd a'r Cerddor i'w roddi ar y stage. Ceir gweled chwareuad o hono heb fod yn hir iawn yn Llundain. Boreu dydd Llun diweddaf, yng nghapel Jewin, unwyd mewn glan briodas, Mr. David Jones, St. John's Lane, Clerkenwell, a Miss Annie Rowland Jones, merch hynaf Mr. a Mrs. Jones, gynt o'r Hendre, Blaenpenal, ond yn awr o St. John Street Road, Llundain. Nid oedd na thrwst na rhialtwch o gwmpas y briodas; ond pob peth yn dawel, yn weddus, ac yn brydferth fel y gweddai i briodas fod. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. E. Davies, M.A., ac wedi gorphen y sere- moni, ymneillduodd y cwmni i dy tad a mam y briodasferch i gyfranogi o'r danteithion oedd wedi eu parotoi ar eu cyfer, lie hefyd y lion- gyfarchwyd y par ieuanc, ac y datganodd amryw gyfeillion eu dymuniadau goreu iddynt yn y bywyd priodasol. Y mae Miss Jones (yn awr Mrs. Jones) wedi gwneyd cryn enw iddi ei hun ym myd y gan, ac yn enwedig felly fel arweinyddes corau merched. Y mae hefyd wedi gwneyd lie parchus iddi ei hun yn eglwys Jewin. Eidd- unwn iddi hi a'i phriod bob bendith a Ilwydd- iant. Treuliant eu mis mel yn neheubarth Lloegr. Nos Iau diweddaf, anrhegwyd y bathodyn aur a enillwyd gan gor y Cambrian yn eistedd- fod Dewi Sant, i'r arweinydd. Yr oedd cyng- herdd wedi ei drefnu yn neuadd yr Eglwys, a chaed yno ganu da. Deallwn y bydd yr elw ynglyn ag eistedd- 0 ZD fod Dewi Sant yn y Queen's Hall, ychydig dros gan' punt! Dyna waith go dda, wir, yn eu hymgais gyntaf yn y neuadd fawr hon. 000 Y "Teilo Parti enillodd ar y pedwarawd yn y Queen's Hall y dydd o'r blaen. Gwneid y parti i fyny o Miss M. Pierce a Miss Agnes Jones, a'r.Mri. W. T. Rees a J. Harries. » Cyflwynodd eglwys y Boro', nos Saboth di- weddaf, cheque o ddeg punt i Mr. Wiiliam Jones, Newcommen Street, yn arwydd fechan o'u parch a'u dymuniadau da iddo ar ei fyn- ediad allan i Natal. Cychwyna ar ei daith heddyw. Pwy bynag sydd eisieu cael cardiau Nadolig o bob math gyda geiriau Cymraeg arnynt dylasent ar unwaitho fynd at Mr. Roberts i Cecil Court, Mae gan Mr. Roberts stc fawr o honynt, ynghyd a llu o lyfrau Cymreig cyf- addas i fod yn wobrwyon ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynhelir cyfarfod canu undebol o'r holl eglwysi yn Jewin, nos Iau lonawr 12fed 1899, am 8 o'r gloch, dan arweiniad Mr. Maen^wyn Davies, er ymarfer y tonau a'r anthemausydd i'w canu yng nghyfarfod mawr Gwyl Dewi yn y City Temple. Gwahoddir bawb i uno a'r dorf sydd yn bwriadu cymeryd rhan yn y cor hwn. » 'Doeddwn i ddim yn meddwl fod eisieu i fi dd'od i Lundain i ddysgu manners i neb," ebai Emlyn, wrth wr a feiddiodd ofyn iddo am siarad "yn uwch" pwy noson. Wel, nid peth dymunol yw clywed neb yn gwaeddi allan mewn cyfarfod, eto, mae dwy ffordd o ateb terfysgwyr o'r fath, ac nid y'm yn credu i Emlyn ddefnyddio y mwyaf chwaethus. » Cynhaliwyd cyfarfod Undeb Gweinidogion Cymreig Llundain dydd Mawrth diweddaf, yn nhy Mr. a Mrs. Lewis H Roberts, Canon- bury, N., dan lywyddiaeth Mr. Evans, City Road. Dar'lenodd Dr. Owen Evans bapur ar "Ddylanwad cyfarfodydd adloniadol ar grefydd ysbrydol." Cafwyd ymddyddan buddiol ar y papur, a theimlad pob un oedd ei fod yn bapur ardderchog, fel pobpeth y mae Dr. Evans yn ymgymeryd ag ef. Diolchwyd yn gynes i Dr. Evans am y papyr, a dymunwyd arno ei argraffu er galw sylw ein heglwysi at y pwysigrwydd o wylio yn fanwl rhag i'n cyfarfodydd adloniadol fod yn niweidicl i grefydd ysbrydol ym mysg ein cenedl. Yr oedd y frawdoliaeth yn fatch iawn i gael cwmni y brawd lledneis a galluog, y Parch. J. Elias Hughes, M.A yn y cyfarfod. Amlygodd Mr. a Mrs. Lewis H. Roberts garedigrwydd nodedig at y frawdoliaeth, a diolchwyd yn gynes iawn iddynt am eu cared- igrwydd. Bydd y cyfarfod nesaf yn nhy Mrs. Jones, 22, Camden Square, N.. lonawr 4ydd, am 3 o'r gloch, pan y bydd y Parch. W. Ryle Davies yn darllen adolygiad- ar lyfr Dr. Simon, "Bible Problems." Dilynir y cyfarfod hwnw gan gyfeillach undebol o holl eglwysi Cymreig y dref yn King's Cross am 7 o'r gloch, dan lywyddiaeth Dr. Evans. Y mater dan sylw fydd y Psalm I. 1-3.-Bywyd ysbrydol.-Siaredir arno yn y wedd ganlynol-. i Y safleoedd a'r cwmniau i'w gochel er ei ddyogelu. -Parch. J. Tudno Williams, B-A. 2 Cyfryngau a moddion ei ddadblygiad a'i gynydd.-Parch. D. C. Jones. 3 Sicrwydd a nodweddion ei gynydd.- Parch. John Davies. 4 Gwynfydedigrwydd y rhai sydd yn ei feddu.-Parch. Ishmael Evans. Bydd y cyfarfod yn agored i bawb o eglwysi y dref. 000 Llwyddodd merch ieuanc yn Llanelwy i gael £I5 0 iawn am i ddyn yru cerbyd ar ei thraws pan. oedd yn marchogaeth ar yr olwyn. Derbyniodd niweidiau trwm, a thorwyd yr olwyn hefyd.