Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
YR EGLWYS WESLEYAIDD CAPEL CITY ROAD, FINSBURY SQUARE. Dydd Sal, Rhagfjr y 26ain, 1898, Sef DYDD N ADOLIG, Pregethir ar hyd y dydd yn y Capel uchod, gan y PARCH. THOMAS MANUEL Ysgrifenydd Talaeth Deheudir Cymru. Bydd yr odfaon yn dechreu am 11 o'r gloch yn y boreu, am 3 yn y prydnawn, ao am 6.30 yn yr hwyr. "CARTREF ODDI CARTREF." Cychelir Cyfarfod Adloniadol Blynyddol y Nadolig Yn JEWIN NEWYDD, NOS FAWRTH, BEAGFYB 27, 1898. Cadeirydd-MR. TIM EVANS. Cymerir rhan mewn Canu, Adrodd, &c. Hefyd ceir SKETCH yn ystod y Cyfarfod. Te ar y Byrddau am 5.30. Y Cyfarfod Adloniadol am 7.30. Cyfeilydd—MR. BRYCESON TREHARNE. Tocynau-SWLLT YR UN. D.S.—Hwn yw y Cyfarfod mwyaf poblogaidd gyda'r Cymry yn Llundain amser y Nadolig. Undeb Ysgolion Sabbothol M.C. Llundain. Cynhelir EISTEDDFOD FLYNYDDOL Yr Undeb uchod, Yn Shoreditch Town Hall NOS LUN, RHAGFYR 26, 1898. Llywydd- JAME3 EVANS, Ysw. Prif ddarnau Cerddorol- Lullaby of Life Thanks be to God." £20, os bydd tri chor X15 os bydd dau X10, os un. Corau Meibion-" Martyrs of the Arena." Gwobr, XS,os bydd tri chor; X6, os dau; X4 os un. Beirniad Cerddorol- W. DAYIES, Ysw, St. Paul's. TOCYNAU-2/- a 1/- Drysau yn agored am 6. Cyfarfod i ddechreu am 6.30 Manylion pellach i'w cael gan yr Ysgrifenydd, J. O. DAVIES, 2, Fraser Road, Walthamstow. MR. BRYCESON TREHARNE (ORGANIST OF NEW JEWIN) Will be pleased to receive additional pupils. LESSONS are given in the Organists Room adjoin- ij ing New Jewin Chapel. Personal applications may be made there on Saturdays from 10 to 6 or by appointment. ENGAGEMENTS for Concerts, &c., accepted. ADDRESS— New Jewin Welsh Chapel, Fann Street. Aldersgate Street, E.G. Or 40. Claylands Road, Clapham. S-W
Y BrD A'R BETTWS.
Y BrD A'R BETTWS. Nid yw pawb yn gwybod fod Harcourt yn 71 miwydd oed, eto er ei fod yn bur hen mae ei feddwl a'i gorph yn hynod o fywiog. Nos Fawrth, pan oedd llythyrau Harcourt a Morley yn cael eu lledaenu yn y wasg Seisnig, yr oedd Rhyddfrydwyr Caerdydd yn talu teyrnged i arweinydd y blaid Gymreig, trwy gyflwyno anerchiad hardd i Mr. Alfred Thomas, A.S. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a Mr. Samuel Smith yr A.S., dros Fflint. Bu ei unig fab farw yr wythnos ddiweddaf o'r typhoid yn 28 mlwydd oed. Ciaddwyd ef dydd Mercher yn Lerpwl. Y mae deoniaeth Llanelwy yn werth saith can' punt y flwyddyn a thy felly, gellir dis- gwyl y bydd llawer o geisio ffafrau oddiwrth yr Esgob Edwards yn ystod y dyddiau nesaf yma. Bwriada cor meibion Brynmawr ganu ei ffordd" i'r lan i Lundain erbyn Eisteddfod City Road. Maent wedi sicrhau dwy noson o ganu i fobl Cheltenham, ac ar ol gorphen yno, deuant i goncro gwyr L'unden. Hm Chwynodd y Cynghrair Cenedlaethol nifer yr ymgeiswyr am y swydd o ysgrifenydd i lawr i bedwar, a phenodir un o'r pedwar hyn yn y cyfarfod nesaf o'r Cynghrair. Bu hen wr, yng Nghasnewydd, farw yr wythnos hon, ac arwyddion dygn dylodi arno. Yn ei ystafell cafwyd hyd i lyfr banc y llythyrdy, yr hwn a ddangosai fod ganddo dros ddau gant o bunau yn y banc, ac nid oes hawlydd iddynt. Yr wythnos hon, bu farw Syr William Jenner, y meddyg brenhinol enwog, yn ei 84 mlwydd o oedran. Er's blynyddau, yr oedd henaint wedi ei wneyd yn hollol feth- iantus, ac yn analluog i gyilawni yr un gorchwyl. Yn ei ddydd, yr oedd yn un o wyr blaermf ymysg y meddygon. Blin fydd gan lu o wyr canolbarth Ceredig- ion glywed am farwolaeth Mr. John Evans, Siop, Llanfairclydogau, yr hyn gymerodd le nos Fercher diweddaf. Yr oedd yn wr afawr berchid yn yr ardaloedd hyny. Yr oedd y Cinematograph a roddwyd ynglyn a Chymdeithas Wilton Square nos Fercher diweddaf, yn beth newydd i'r Cymry; a chaed torf fawr yno i weled y lluniau ysblenydd a roddwyd trwy offerynoliaeth y lantern. Nid oes eisieu dyweyd iddynt oil fwynhau y wledd yn rhagorol.