Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
YR EGLWYS WESLEYAIDD CAPEL CITY ROAD, FINSBURY SQUARE. Dydd Sul, Rhagfyr y 25ain, 1898, Sef JDHTTDJD N ADOLIG-, Pregethir ar hyd y dydd yn y Capel uchod, gan y PARCH. THOMAS MANUEL Ysgrifenydd Talaeth Deheudir Cymru. Bydd yr odfaon yn dechreu am 11 o'r gloch yn y boreu, am 3 yn y prydnawn, ac am 6.30 yn yr hwyr. THE WILTON SQUARE LITERARY AND MUSICAL SOCIETY. ONE OF THE GREATEST WONDERS OF THE AGE. A GRAND CINEMATOGRAPH OR Living Pictures ENTERTAINMENT Will be given at MYDDELTON HALL, Upper Street, N. Wednesday Evening, 14th December, 1898 AT 8 O'CLOCK. The Series will include Arrival of Great Northern Express," Balloon Ascent," Scot's Guards in Hyde Park," Gladstone's Funeral," &c., &c. miss GERTRUDE HUGHES Has kindly consented to sing cc THE CHILDREN'S HOME & "KILLARNEY." These songs will be splendidly illustrated with Lime Light Views. Chairman-LEWIS H. ROBERTS, Esq. (President of the Society). Admission-ONE SHILLING. To save disappointment TICKETS should be secured without delay. A limited number to admit children at SIXPENCE. TICKETS may be obtained from Members of the Committee, and of the Hon. Sec. B. O. JONES, Blaenau,Compton Rd., Canonbury, N. CASTLE STREET CHAPEL,W. A COKCBBT Will be held on Saturday, Deeemherl lt\\f 1898, In connection with the WESTBOURNE PARK WELSH SUNDAY SCHOOL. Artistes- Miss MARION EVANS, Miss MORFYDD WILLIAMS, Mr. GWILYM RICHARDS, Mr. EMLYN DAVIES, Recitations—Mrs. TUDOR RHYS. Violin-Miss DOROTHY BULL, Pianoforte—Miss JULIA LEWIS Chairman- T. LLOYD, ESQ. Doors open 7.30. Concert at 8 prompt. Reserved Seats, 2s. Admission Is. Tickets may be obtained of Mr. Harris, 16, Westbury Road, Harrow Road, Mr. C. Roberts, 48, Goldney Road, W., and of all members of the Westbourne Park School. HARECOURT CHAPEL (St. Paul's Road, close to Canonbury Station). Rev. H. ELVET LEWIS. NEXT SUNDAY EVENING, 7 P.M. (December 11th) Monthly- Service for Young People Followed by MACFARREN'S "KING DAVID."
Y BYO A'R BETTWS.
Y BYO A'R BETTWS. Erbyn hyn mae llygaid Morien wedi llwyr wella, a'r peth cyntaf a welodd ar ol cael agoriad oedd mai heretic barddol yw Arlun- ydd Penygarn. Mae Arglwydd Kitchener wedi cael addew- idion am yn agos i'r oil o'r can' mil punau a ofynir ganddo i godi coleg i ddysgu'r blacs." Yn Khartoum y codir y coleg. Dywed y papurau fod mab Sir William Harcourt ar fin priodi Americanes gyfoethog. Nid yw'r mab hyd yn hyd wedi ceisio am le yn y Senedd. Bu Arglwydd Battersea yn pregethu iech- ydwriaeth boliticaidd i gleifion Rhyddfrydol, a phobl glaiar Caerdydd ddechreu yr wyth- nos hon, a chafodd groesaw cynes yno hefyd. Dywed y Star mai un o'r dynion Ileiaf ei gorph yn Nhy y Cyffredin yw Mr. Pritchard Morgan. Feallai hyny, ond nid yn ol maintioli corphorol y dylid ei fesur. Cred Pritchard ei fod, o ran ei feddwl, yn gymaint a neb yn y Ty. Nos lau yr wythnos hon rhoddwyd ciniaw yn Llundain i'r aelod dros Gaerdydd, Ar ol y Nadolig, bwriada Mr. McLean fyn'd ar daith i India, lie y mae yn adnabyddus i lawer, Dyma destyn arall i farwnadwyr eistedd- fodol: Dydd Gwyl Mabon." Y bardd i'w adael at ei ryddid pa un ai mesur caeth neu rydd i alaru arno. Trueni na fuasai rhyw ronyn o waed Cym- reig yng ngwythieni'r Sirdar, er mwyn i fobl Caerdydd gael cyfle i'w wneyd yn Gymro ar unwaith. Fel yr oedd, rhoddwyd iddo groesaw cynes, a chaed llawer o siarad yn y ginio fawr a roddwyd iddo. Hysbysir am farwolaeth Mr. Thomas M. Thickens, un o fyfyrwyr ieuainc Coleg Duwin- yddol y Bala, yr hyn gymerodd le yn nhy ei frawd, y Parch. John Thickens, Aberaeron. Nid oedd Mr. Thickens ond 26 mlwydd oed, eto yn un o'r pregethwyr mwyaf addawol yn y coleg, ac wedi cael gyrfa hynod olwydd- ianus. Llynedd, enillodd ysgoloriaeth Morgan yn y coleg, ac yr oedd hefyd wedi enill amryw wobrwyon ereill. Un o'r Cymry-bregethwyr mwyaf blaenllaw yng Ngogledd Llundain gan y Saeson ydyw'r Parch. G. Hay Morgan Stamford Hill. Gyda'r Bedyddwyr y mae yn gweithio, ac mae'r eglwys dan ei weinidogaeth wedi cyn- yddu yn ddiweddar. Yn awr, y mae Rhydd- frydwyr yn ardal Tottenham, wedi gwneyd cais arno i ymladd eu brwydr yn yr etholiad Seneddol nesaf yn y rhanbarth hwnw. Beth sv'n dod o hen ddrapenaid ? oedd yr ymholiad, beth amser yn ol. Wel, anhawdd dweyd; ond mae ambell i ddraper ifanc yn gwneyd yn dda ar ol troi o'r grefft. Dyna beth oedd Herber, Ben Davies a draper hefyd oedd Michael D. Jones, ar y cyntaf. Mae Creta wedi ei rhyddhau o'r diwedd, a dydd lau, rhoddodd y Cristionogion yn Akrotiri eu harfau i fyny. Y mgyr ullodd dros 600 o wyr tuallan i bencadlys y pwyllgor yn Halepa, ac yr oeddynt oil yn arfog. Yn cael eu blaenori gan adranau o filwyr y Gall u oedd, a chan seindorf Rwsiaidd, yr hon a chwareuai Anthem Genedlaethol Groeg, gorymdeithas- ant i Canea. Yr oedd yr arfau wedi eu haddurno a Ilun y Tywysog George, a brigau olewydd. Taniwyd yr holl fwledi oedd yn weddill ar ol y terfysg ynghanol hwre i'r Tywysog. Disgwylir i'r Tywysog George gyrhaedd i Creta ar y i8fed o'r mis hwn. Ymgeisia'r Daily Mail roddi'r blaid Rydd- frydig yn ei lie, ac addawa gan' punt o wobr i'r sawl a enfyn y cynllun goreu tuag at hyny i'w Swyddfa. Y peth nesaf y clywir am dano yw fod yr Eglwyswyr yn cynyg gwobr am ddyfeisio'r cynllun hawddaf i gael Dadgy- sylltiad. Bu bugeiliaid Mynydd Hiraethog yn cynhal eu cinio blynyddol yr wythnos ddiweddaf yn y Llew Coch, Llansannan. Y mae hwn yn un o ddyddiau mawr y bugeiliaid yno, a daw enwogion o bob parth yno i gyd-fwyta a hwynt. Dydd Sadwrn diweddaf ymddangosodd y Royal Welsh Ladies' Choir yng nghyng- herddau y Queen's Hall, a chanasant yn fendigedig. Arweinid hwy gan Madame Clara Novello Davies. Yn yr un cyngherdd 'roedd Mr. Thomas Thomas, y tenorydd, yn canu, a mawr ganmolid ei ddull a'i lais gan y wasg yn gyffredinol. Y mae ffermwyr glanau'r Teifi yn bwriadu codi ffactri ymenyn yn agos i Lanbedr Eithaf sych yw bara llawer i giwrad a droi'r allan o'r coleg yno, ac os gosodir cyfleusdra iddynt gael ymenyn arno—wel, da iawn.