Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
J, W. JONES & CO,, Old-Established AGENTS for the Sale of Milk Businesses, Dairy Farms, &c., Dairies sold without publicity. Clients waiting to purchase. 58, CHEAPSIDE, E.C. Valuations for all purposes, Auction Sales, &c. Several Large Businesses Required Immediately. Notice.—Intending purchasers should call at above offices before buying a business, trial allowed, no charge to purchasers. Businesses for Sale in all parts. Twenty-five years practical experience. ABBOTT & SONS, HOMERTON DAIRY FARM, Wholesale Milk Contractors, Vans deliver to all parts of London twice daily, also on platforms of the Midland, Gt. Northern and Gt Eastern, London Termini. Chief Office and Depot— DIGBY ROAD, HOMERTON, N.E. PRYCE & HARRIS, Wholesale N » SDairymen AND BREWERS' GRAINS MERCHANTS. Genuine Milk & Fresh Grains delivered to any part of London daily. Address: Craven Yard, Drury Lane, W.C. Messrs. Fox & Holland, COWKEEPERS & DAIRYMEN'S AGENTS, 11, Caledonian Road, King's Cross, N. Established 1859. Ydynt unig oruwchwylwyr nifer lluosog o Fasnach- c1&i llaeth o 50 p. ac uchod. Dylai pob Cymro, cyn prynu neu werthu lie da, ddod i'n gweled yn King's Cross cyn myned at neb arall. Oherwydd ein bod y Roruwchwylwyr hynaf yn y gwaith yn Llundain, cyBMradwyir ni gan brif Fasnachwyr Cymreig y wanes laeth yn y brif ddinas. MILK.—Rare business part, near City, 16 barns daily 4d, taking £ 14 weekly over counter, can be greatly improved, nice shop and home, rent ex- ceptionally low, 2 prams, only £320. Fox & Holland. MILK.-Should be seen without fail, 18 barns daily -M-L 4d and a grand counter trade of jE40 weekly (guaranteed), taking premises in main road, best part of rent let, smart cob, low cart, only £520, most genuine, trial allowed. Fox and Holland. MILK.-Present hands 20 years, 18 barns daily 4d -"i butter, eggs, &c. jElO weekly, shop, 9 rooms, rent £17. Worked at small cost on 2 compact pram rounds £500. Call on Fox and Holland. -MILK.- Very old-established Cowkeepers business AU. 38 barns daily 4d all on two pram rounds, nice °P> large house, shed for 19 cows, in thorough Mpair, can easily let all rent, only jE950, near offer to include 8 fine cows. A genuine money making concern ox and Holland. Many other places all parts City and Suburbs.
Y BYD A'R BETTWS.
Y BYD A'R BETTWS. Parhau yn wael mae y cerddor adnabyddus, Mr. Emlyn Evans. Arianwen ydyw enw y ddrama Gymreig newydd o waith Dr. Parry a Dewi Mon. Bwriedir ei pherfformio yng Nghaerdydd cyn hir. Nid yn unig y gellir canu Morwyn ion glan Meirionydd,' ond gellir dweyd hefyd, mai hi yw y sir lanaf oddiwrth feddwdod o'r tair sir ar ddeg yn ol yr ystadegau diweddaf. Bydd ysgrif gan I Pencerdd Gwalia' yn y rhifyn nesaf o Young Wales ar Gerddor- iaeth Gymreig,' ac addawa y bardd ieuanc Ernest Rhys, un o ffrwythau diweddaf e i awen i'r un rhifyn. Siarad am baratoi erbyn 'Steddfodau yr haf yn Llanddewi ac Aberaeron mae pobl glanau Teifi yn bresenol. Bwriedir codi amryw o gorau ar eu cyfer, ac yn eu plith, Cor Meib- ion Llanbedr o dan arweiniad Glynfab. Ym Mangor, dydd Llun diweddaf, dirwywyd rheolwyr chwarel y Penrhyn i 5s. am beidio rhoddi y cyfrif rheolaidd o nifer y dynion yn eu gwasanaeth i'r Swyddfa Gartrefol. Oblegid gerwinder yr bin a thywyllwch y nos-nos Iau cyn y diweddaf, fe syrthiodd John Lloyd, Penrhiw, Llanfair-clydogau, i'r afon Clywedog.' Boreu dranoeth cafwyd hyd i'w gorff. Yr oedd yn 72 mlwydd oed. Ddydd Gwyl Dewi bu Cymry Southampton yn cynal gwledd i ddathlu y Nawddsant yng Ngwesty y Dolphin. Yr oedd gwladgarwch berw yn y cwrdd, ac anrhydeddwyd y llwnc- destynau cenedlaethol gyda brwdfrydedd. 'Dyw Cymru ddim yn iawn os na cheir rhyw gweryl ymhlith ei beirdd. Cadfan sy' o dan ei bwn yn awr, ac yng ngholofnau y Cymro yr ymdrinir arno yn lied arw. Etyb Cadfan ei wrthwynebydd yn lied finiog yr wythnos hon. Aeth y si ar led yr wythnos hon fod Mr. Burnie wedi cael ei ddewis gan Rhyddfrydwyr Abertawe i ymladd y frwydr drostynt eto yn yr etholiad nesaf. Ond nid yw hyny yn wir eto oherwydd nid oes un penderfyniad wedi ei wneyd. Mae pawb yn adnabod William George y North, ond pwy feddyliech chwi yw William George y South? Neb llai na chynydd cwn cadno Neuaddfawr sir Aberteifi; ac mae ei glodydd yn enwog drwy y de fel marchogwr di-ail, am hyny rhoddir tysteb iddo yn awr am ei waith llwyddianus yn hyn o faes. Derbyniwyd dros 200p. wrth y gate yn Llan- elly y dydd Sadwrn diweddaf. oddiwrth berson- au yn awyddus i weled yr ymdrechfa; a thalwyd mwy na hyny am seti yn y cae. Tra y gwerir miloedd o bunau bob Sadwrn fel hyn i weled chwareu pel droed, y mae can- oedd yn Nhreforris ar fin newynu. Ai gwladgarwch,' gofyna y Goleuad, 1 neu awydd am ginio da yw y rheswm penaf paham y dathlir Dydd Gwyl Dewi gyda'r fath fri ? Bydd yn dda gan rai dynion gael esgus dros gael cinio mewn gwesty fel pe na baent yn cael dim gartref, a hyn sydd mewn gwirionedd yn gyfrifol am lawer o'r miri a gedwir ynglyn a Gwyl Dewi. Nid oes neb fawr gwell gwlad- garwyr ar ol y ciniawa hyn, a chredaf mai goreu po gyntaf y credir mai iselhau ac nid dyrchafu y Cymry y mae'r cyffredin ohonynt.' Bydd yn flin gan lawer glywed am farwol- aeth Ab Owen, mab bychan Mr. a Mrs. O. M. Edwards, Llanuwchllyn, yr hyn a gymer- odd le dydd Mawrth diweddaf o'r diphtheria. Nid oedd ond prin pump oed. Cydymdeimlwn yn ddwys a'r Cymro twymgalon, a'i briod hawddgar, yn awr flin eu galar a'u tristwch. Dydd Mercher diweddaf, yr oedd rheithor Castell-nedd i gael ei sefydlu yn ei le new- ydd, ond er i'r Hybarch Archddiacon a Uu o glerigwyr a lleygwyr i dd'cd yn bresenol, ni welwyd mo gwyneb Mr. Evans, yr offeiriad newydd. Ymholir yn awr pa beth a ddaeth o'r gwr parchus ar y dydd hwnw. Y pregethwr hynaf gyda'r Anibynwyr Cymreig yn awr yw y Parch. D. M. Davies, Talgarth, yr hwn a ordeiniwyd yn y flwyddyn 1836. Er ei fod wtdi ymneillduo o'r pwlpud, y mae ei ysgrifbin yn llawn yni fel y bu ei dafod gynt, ac adrodda lawer i hanesyn difyr yn ei gofiant, yr hwn a ymddengys yn bresen- ol ar dudalenau Cenad Redd. AWELON Y GORLLEWIN. IV. GWRTHEYRN. Aeth heibio lawer canrif, Bu llawer tro ar fyd Er oes Gwrtheyrn, ond mae ei gof Yn para'n fyw o hyd Ein plant ar lan y Teifi Ddangosant lie bu 'i lys, Ac yno tra y rhedo dwr Fe bwyntia gwaith ei fys* Gwrtheyrn Drwy bob cenhedlaeth Fe ddeil ei enw'n gas, Fel un a werthodd freiniau 'i wlad I ddwylaw estron dras; Rhag cyfiawn lid ei ddeiliaid Y bradwr fynai ffoi; Ond cledd dialedd nis gall brad Er pobpeth wnel, osgoi. Er chwilio lie anghysbell, Er meddu nerth y cawr, Er adeiladu cadarn dwr Ar uchel, greigiog lawr- Gwrtheyrn ni fedrodd ddianc, O'r nef daeth ysol dan, Dialedd welodd losgi 'i lys Ac yntau'n ulw man. Mae 61 y tan hyd heddyw I'w ganfod ar y graig Dileu'r ystaen o'i gwedd nis gall Y dyfroedd sy'n yr aig! Ond mae ystaen gyrhaedda Yn ddyfnach nag un fflam; Tragwyddol fel cyfiawnder lor Yw'r cof am frad a cham. W. Eiiir EVANS. Yng nghyfarfod Cynghor Tref Caerdydd ddydd LIun, darllenwyd Hythyr oddiwrth Ar- dalydd Bute yn cynyg rhoddi i,ooop. yn nwy- law'r Cyngor, y llog blynyddol i'w roi i eneth- od o'r dosbarth tlotaf sydd yn awyddus i briodi ond heb y moddion ganddynt i hyny. Amcan y rhodd yw dathlu arian-briodas yr Ardalydd. Dymuna ar i'r maer, pan yn rhoddi cyfran o'r arian i gwpl, ddarllen iddynt yr i leg adnod cyntaf yn yr ail benod o Epistol iaf loan. Derbyniwyd y cynyg gan y Cynghor. Mae Seren Gomer wedi huno. Cychwynwyd hi yn 1814 gan Gomer, gwelodd ami i flin gystuddiau, ond gwnaeth waith da, ac y mae ei choffadwriaeth yn barchus gan lawer o hen gyfeillion. Y golygydd diweddaf oedd Proff. Silas Morris, Bangor, yr hwn a ddywed mai diffyg cefnogaeth yw yr achos dros ei rhoi i fyny.