Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GWYL DEWI.

News
Cite
Share

GWYL DEWI. GYMDEITHAS YR HEN FRYTHONIAID. Gellir yn briodol roddi y pwyslais ar yr hen pan yn son am y Gymdeithas urddasol hon, oherwydd cynhaliodd ei 182ain ciniaw biynyddol nos Wyl Dewi diweddaf yn yr Holborn Restaurant, pryd y daeth dros bedwar cant o wahoddedigion ynghyd i gadw i fyny draddodiadau y gymdeithas ac i ddathlu cof Sant y genedl. Llywyddwyd gan Syr J, T. D. Llewelyn, Barwnig, A.S., a chynorthwywyd ef gan fawr- aon Gymry'r ddinas, a llu o genedlgarwyr -enwog; a chadwyd gwyl a gwledd ddiail, a noson deilwng o'r Gymdeithas weithgar hon. Wedi'r arlwy cafwyd amryw o areithiau, a'r lwnc-destynau arferol. Gan mai ar y Gymdeithas mae gofal yr Ysgol Gymraeg yn Ashford, rhoddir adrodd- nad blynyddol o'r gwaith yn y cynulliad hwn, a -cheir alawon a chaneuon gan gor ieuanc yr -Ysgol, ac yr oedd gan y llywydd adroddiad wir fooddhaol i'w osod eleni eto ger bron ei gefn- ogwyr. Oddiar ei had-drefniad yn 1882, y mae dros 950 o ysgolorion wedi cael addysg yno, ac y mae yn bresenol 150 ar y llyfrau. Y mae amryw o honynt wedi enill safleoedd ^chel ym myd addysg, a'r flwyddyn hon enill- odd dwy o'r merched, Misses Nesta Edwards a Bessie Parker, y safleoedd uwchaf mewn -arholiadau ynglyn a'r London University. Dangosai yr adroddiad fod yr ysgol o fudd -arbenig i ferched Cymreig, a rhoddir ynddi -addysg rad neu ar delerau arbenig i blant Cymreig fel y gwelir yn ein colofnau hybysiad- •ol. Gan fod cymaint o waith gan yr ysgol i'w wneyd, a nifer y plant yn llawer mwy nag a ellir eu derbyn, apelia y pwyllgor am ychwan- .eg o gynorthwy i ddwyn y gwaith da ymlaen a bydd yr ysgrifenydd yn ddiolchgar iawn am 'bob tanysgrifiad a anfonir iddo. Ceir yr holl vfanylion ynglyn a'r ysgol oddiwrth Secretary Ashford Girls' TVelsh School, 127, St. Georges -Road, S.W. Derbyniwyd yr adroddiad gyda boddhad, a chafwyd llawer o addewidion yn ystod yr hwyr am ychwaneg o gynorthwy. Rhwng yr areithiau, rhoddwyd Ilawer o ganeuon Cymreig, a gwnaeth Pencerdd Gwalia swyno y dorf amryw weithiau ag alawon Cymreig ar ei delyn.

CYNGHERDD CENEDLAETHOL.

Pulpud Cymreig LSundain

YR HEN GYMRY.