Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
CINIAW GYM R (I FYOD.
CINIAW GYM R (I FYOD. Y Professwr Herkomer ar Gelf yng Nghymru. Bardd Gwyddelig ar Ddychmygion y Celtiaid. Mae pawb o'r farn, erbyn hyn, nad oes cymaint hwyl a myn'd ar ddim yn Llundain ag sydd ar gyfarfodydd Cymdeithas Cymru Fydd. Mae ganddynt rywbeth o'r newydd o hyd i'w gynyg i'r aelodau. Y Cwrdd Clebran ym mis Tachwedd—mae'r son am dano heb ddarfod o'r tir eto. Darlith y Fonesig Eluned -mae Preselly yn dal i ganu am dani o hyd, ac y mae'r Battersea Herald yn ysgrifenu erthyglau arweiniol yn ei gylch. Cwrdd Lloyd- George yn Radnor Street, a William Jones yn Wilton Square-dau o'r cyrddau politicaidd goreu a mwyaf brwdfrydig a gawd er's llawer dydd. A dyma'r gimaw ar Ddygwy] Dewi Sant! Nid rhyfedd i agos i 200 o bobl ddod ynghyd i'r Holborn Restaurant, pan y caent gyfle i glywed y Proffeswr Herkomer yn traethu ei len' (bu'n agos i mi ddweyd, ond fod arnaf ofn Glan Teifi), a William Yeats ac Ernest Rhys yn siarad am farddoniaeth Geltaidd. Gwledd oedd y giniaw; blasusfwyd oedd yr areithiau; ac nis gellid gwell cadeir- ydd na Mr. Brynmor Jones, A.S., yr hwn a gymerodd le Syr George Osborne Morgan ar yr achlysur. Ni cheisiaf roddi enwau'r gwahoddedigion i gyd, ond enwaf ychydig o honynt yn unig. 0 bob tu i'r cadeirydd eisteddai Mr. Herkomer a Mr. Yeats, Mrs. Brynmor Jones, Mr. Bryn Roberts, A.S., y Parchn. Llewelyn Edwards ac Eynon Davies, Mrs. Davies a Miss Edwards, Mr. a Mrs. Ernest Rhys, Mr. William Sharp, Mr. Allen Upward, Mr. Coram, Mr. T. J. Harries, Mrs. Howell Idris, Mr. R. H. Price, Mr. a Mrs. Llewelyn Williams, Mr. J. H. a Miss Annie Davies, Miss Ellis (Cynlas), y Fonesig Eluned, Mr. a Mrs. Cleaton, Mr. Artemus Jones, Miss Dora Jones, Mr. a Mrs. Foulkes-Jones, Mr. T. D. Jones, Mr. Arthur James, Mr. Walter Davies, Mr. Arthur Griffith, Mr. Glyn Evans, Mr. and Mrs. Marpole, a Mr. J. T. Lewis (ysgrifenydd). Dywedir i Fanawyddan fod yn gwledda am flynyddoedd; mae'r Cymru Fyddion hefyd yn hoff o'r wledd, a buont yn eistedd wrth y bwrdd 0 7.30 hyd 11.30. Ar 61 i'r cadeirydd gynyg y llwncdestyn: 'Y Frenhines a'i theulu,'cyn- ygiodd y Parch. Eynon Davies, 'Lên, Can, a Chelf Cymru' mewn araeth yn llawn o ddonioldeb. Pan gododd Mr. Herkomer i ateb, derbyn- iodd roesawiad tywysogaidd, ac ni fu taw ar y banllefau am eithaf pum mynud. Pe gwelech yr arlunydd enwog mewn torf, hawdd fyddai i chwi ei bigo allan fel gwr athrylithgar. Mae ganddo wyneb arlunydd a bardd. Ym mhob gogwydd o'i gorff lluniaidd, ym mhob fflachiad o'r llygaid prydferth, ym mhob ystum, ym mhob brawddeg goeth a destlus, dengys ei fod nid yn unig yn arlunydd ond yn Arweinydd pobl. Y mae iddo allu areithyddol nid bychan. Mae yn feistr ar iaith gaboledig ac amryfal. Mae yn deall ystrywiau siaradwyr: ac nid rhyfedd, felly, iddo enyn a chadw brwdfrydedd tanbaid y cwmni tra fu yn siarad. Grym ei araeth oedd ei fod yn awr yn treio cael gafael drwy'r Eisteddfod ar Gymry allent droi allan yn feistri, yn athrawon celf, yng Nghymru. Ar cael yr athrawon, ym mhen 2 neu 3 blynedd, bwriada Mr. Herkomer gychwyn dwy ysgol y celfau cain yng Nghymru—un yn y gogledd a'r llall yn y de. Yr un athrawon fydd yn y ddwy, oblegid byddant fel Sion a Sian,-ni fydd y ddwy yn agor yr un pryd. Bydd dis- gyblion yr ysgol yn gweithio 'i'r farchnad,' hyny yw, bydd eu cynyrchion yn cael eu gwerthu er cynhaliaeth yr ysgol. Dyma, yn fyr, gynllun Mr. Herkomer. A wnewch chi I sefyll wrth fy nghefn?' gofynai. Gwnawn,' rhuai'r dyrfa yn ol. 'Does genyf fi ddim amcan na budd personol mewn golwg,' medd- ai'r Prcffeswr. Nag oes, nag oes,' gwaeddai'r dorf yn ol. Ond mae genyf wraig o Gym- raes,' meddai'r Proffeswr. Hwre hwre gwaeddai'r dorf. Glynwch wrth yr Orsedd,' meddai'r Proffeswr (Gorsedd y Beirdd a fedd- yliai, wrth gwrs). Gwnawn,' porthai'r dorf. Mae Hwfa Mon yn ddyn o feddwl rhamantus a diwylliedig,' meddai'r Proffeswr. 4 Odi'n siwr,' atebai'r dorf. Ac os na chaiff Hwfa a'r Orsedd lonydd, mi baentia i'r hen wr yn tynu'r cleddyf o'r waun, a'r beirdd o ddeutu yn eu gwisgoedd, ac ni feiddia neb wed') n ddweyd gair yn eu herbyn.' Hwre,' gwaeddai'r bobl, ac ymysg taranau o gymeradwyaeth eistedd- odd Mr. Herkomer lawr. Byddai'n dda genyf roddi ar ei hyd araeth swynol ac awgrymiadol Mr. Ernest Rhys, araeth synwyrol y cadeirydd wrth gynyg Dewi Sant,' araeth ddifyr ac ysmala Mr. Allen Up- ward wrth gynyg 'Cenhedloedd o'r un Cyff a ninau,' ac yn enwedig araeth Mr. William Yeats wrth ateb-ond gofod sydd brin. Rhaid boddloni ar ddweyd i Mr. Yeats bregethu'r un athrawiaeth ag a bregethwyd ganwaith yn y CELT eisoes. Byddwch yn ffyddlon i deithi eich lien a'ch cenedl. Sugnwch faeth ac ys- brydoliaeth o'r Mabinogion a hen ddychmygion y Cymry: ac yna, os byddwch ffyddlon i chwi eich hun, nid yn unig gwnewch ddaioni i chwi eich hunain, ond dyna'r ffordd hefyd y bydd- wch o werth i'r byd. Mae gwawr dyddiau gwell yn tori ar y Celtiaid. Cyn bo hir bydd y ddaear yn eiddo iddynt-nid yn faterol ond yn ysbrydol.' Cynygtodd y Parch. Llewelyn Edwards y llwncdestyn 'Cymru,' mewn geiriau syml ac agos, ac yn absenoldeb Mr. T. E. Ellis, ateb- wyd gan Mr. Llewelyn Williams. Yna yfwyd iechyd da i'r cadeirydd a'i wraig hynaws a charedig gyda brwdfrydedd, ar gynygiad Mr. E. R. Cleaton. Yn ystod y nos, canodd Mr. Herbert Emlyn, Mr. Meurig James, a Miss Jennie Higgs ganeuon gwladgarol gydag ar- ddeliad mawr, a Mr. Merlin Morgan oedd y cyfeilydd. Noson oedd hi i adnewyddu ein nerth a'n ffydd yn nhynged ein cenedi I
CINIAW URDD Y BRYTHONIAID.
CINIAW URDD Y BRYTHONIAID. Nos Wyl Dewi cynhaliodd aelodau Urdd y Brythoniaid eu ciniaw blynyddol cyntaf yng Ngwesty Anderton, Fleet Street, pryd y daeth tua thri-ugain o'r aelodau a'u cyfeillion ynghyd, i gadw yn fyw goffadwriaeth Dewi Sant, ac i ym- ffrostio yn y ffaith mae Cymry ydynt. Ar ol mwynhau ciniaw ragorol, aethpwyd ym mlaen gyda'r rhaglen a baratowyd. Y cadeirydd ydoedd llywydd yr Urdd (Mr. N. J. Evans), a llanwyd yr is-gadair gan yr is-lywydd (Mr. Rowland Rees). Cafwyd caneuon ac adrodd- iadau gan Mri. Edward Owen, R.A.M., E. Jenkins, Tim Evans, William Owen, A. Green, Cyril Davies, a Roland Davies, a chyfeiliwyd yn ddeheuig gan Mr. Isaac Jones. Y prif lwncdestyn ydoedd I Urdd y Brythoniaid' yr hwn a gynygiwyd mewn araeth hyawdl a dyddorol gan Mr. Rowland Rees. Mewn atebiad dywedodd y llywydd fod yn dda ganddo allu hysbysu fod y clwb wedi troi allan yn llwyddiant llwyr a hollol, gan fod nifer yr aelodau yn awr yn agos i ddau gant, ac er nad yw y clwb wedi ei sefydlu ond er's deufis, y mae'r neuadd eisoes yn rhy fechan, ac fod y seiri yn prysur ychwanegu darn at yr adeilad presenol. Yn ychwanegol at y llwncdestynau teyrngarol, cynygiodd Mr. Wiliiam Hughes mewn araeth fer a destlus, lwncdestyn hollol newydd, sef Cymry Llundain,' a chynygiwyd I Ein gwlad, ein hiaith. a'n cenedl' gan Mr. E. Jones. CYJl diwedd y cyfarfod daeth cor Bethesda yno, a chanasant yn rhagorol deir- gwaith, a rhoddodd un o honynt-Mr. Gordon Williams, unawd, I godi yr hen wlad yn ei hol' mewn dull meistrolgar. Casglwyd pum' punt ym mysg yr aelodau tuag at gronfa y chwarelwyr.
YR HEN GYMRY.
YR HEN GYMRY. DARLITH GAN Y PRIFATHRAW RHYS. Yr Hen Gymry' oedd testyn araeth dydd- orol draddcdwyd gan y Prifathraw Rhys, o Rydychen yn Jewin Newydd y nos- Wener diweddaf ym Mis Bach, pan y cymer- odd Mr. J. H. Davies y gadair. Gan i'r Prif- athraw fod wrthi am dros awr o amser, yn, adrcdd pethau oeddynt oil yn werth eu croniclo,, amlwg yw nas gellir eu cofnodi yn y CELT- Ond na foed i'r darllenydd flino oherwydd hyn- Mae ym mryd y Prifathraw i gyhoeddi cyfroli o'i erthyglau a'i areithiau, dan y teitl, 'Geirial}¡; llanw,' a bydd ei araeth yn Jewin yn em. plith. Pam y gelwid y bobl yn 'Gymry?' Dyna ofyniad cyntaf y darlithydd. Pan ddaethant i'r ynys hon o'r cyfandir, tebyg mai Brython- iaid y gelwid ein cyn-deidiau. Pa bryd a phaham y newidiwyd yr hen enw ? Nid oes- drywydd (gair y doethawr yw hwn) ar enw'r 'Cymry' yn Llydaw na Chernyw. Rhaid, felly, iddo godi i fri ar ol brwydr fawr Deorham* yn 577 O.C. yr hon a ysgarodd y ddau gyff o'r Brythoniaid,-Brythoniaid Cernyw a Chymru. Ar yr ochr arall, ceir yr enw eto yn y gair Cumberland,' yr hwn, o'i ddeongli, yw 'gwlad; y Cymry.' Rhaid, gan hyny, fod yr enw wedi, ei gymeryd gan ein cyn-deidiau cyn y flwydd- yn 613 O.C., pan gollodd y Cymry y dydd ym" mrwydr Caerlleon, ac y darfu i'r Saeson or- esgyn y gwastad-diroedd rhwng yr afone, Ddyfrdwy a'r Ribble, gan wahanu am byth, Frythoniaid Cymru oddiwrth Frythoniaid Ys- trad Clwyd. Felly, o'r flwyddyn 577 O.C.,„ hyd y flwyddyn 613 O.C., y cymerwyd yr enw- 'Y Cymry gan ein cenedl. Ond paham na fyddent wedi ymfoddloni ar- yr hen enw ardderchog, y Brythoniaid ?' Ystyr y gair Cymry yw brodorion yr unf. wlad.' Awgrym y doethawr, gan hyny, oedd; fod trigolion Gwalia yn y chwechfed a'r seith— fed ganrif yn anghydwaed ac anghyfiaeth." Nid oeddynt i gyd yn Frythoniaid ni siarad-- ent oil yr un iaith. Bu raid iddynt, oherwyddt hyn, os oeddynt am uno yng enedl gref i wrth- sefyll grym y Sais, alw eu hunain ar ryw enw- arall na 'Brythoniaid.' Ond beth yw'r prawfc fod trigolion Cymru yn y cyfnod hwn yn. anghydwaed ac anghyfiaith ?' Yn fyr dyma.- fe. Yn neheudir Cymru, yn enwedig yn sir Benfro a Chaerfyrddin, ceir llawer careg nen fedd-faen, ar yr hon y cerfiwyd geiriau nad ydynt na Chymraeg na Lladin. I Ogam y gelwir y llythyrenau, a buasech yn meddwl ychwanegai y doethawr, gyda gwen ysmala,. mai rhyw res oedd genych o riciau cyfrife cwrw oddi ar gefn drws hen gwpwrth rhyw-" dafarnwr musgell.' Ceir yr Ogam ym Mor- ganwg a Brycheiniog, ac yn sir Aberteifi mor.- belled i'r lan a Llanarth. Ni cheir ond un yn" y Gogledd, sef ar Fryn y Beddau ym mhlwyfi Clocaenog yn Nyffryn Clwyd. Ni cheir un yn nghanolbarth Cymru; ond ceir 250 yn yr.- Iwerddon. Gwyddelaeg yw'r iaith, a dengys; hyn, medd y Prifathraw, fod y Wyddelaeg yn. cael ei siarad yn Neheudir Cymru yn y chwech- fed ganrif, feallai yn y Gogledd, ond nid y Canolbarth. Dyddorol fyddai adrodd hanes Cunedda Wledig a'i feibion yn d'od o Gelydon Iscoe<fi neu 'Sgotland i yru'r Gwyddelod o Gymru ar gais y Brythoniaid—disgynyddion yr Orddwig- iaid neu'r Ordovices—y rhai oedd yn trigianu yng nghanolbarth Cymru. Hwynthwy, medd- ai'r darlithydd, sef Cunedda a'i feibion, ddaeth a'r Bowyseg i Gymry. Nis gallwn roddi man- ylion, fel mae gwaetha'r modd, ond bydd raid i i ni foddloni ar roddi i'n darllenwyr farn y Prifathraw ynghylch gwahanol dafodieithoedd., Cymru, eu tarddiad a'u lleoliad. GWYNEDD (hyd afon Mawddach, ac heb-. gyfrif y rhanau a enwir eto). Yma y siared-- id y Wyndodeg.