Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
CENEDL Y GROEGIAID.
CENEDL Y GROEGIAID. ^LLAWER a glywir yn y dyddiau hyn am 'fawr- edd Prydain, neu fawredd Rwssia, ond nid maint yw mawredd, wedi'r cyfan. Y mae'r íbyd yn fwy dyledus i ddwy wlad fechan Groeg a Chanaan, nag i'r ymherodraeth fwyaf rodresgar a welodd y byd erioed. 0 Ganaan y tarddodd moes a chrefydd pob gwlad war- eiddiedig; o Roeg holl ddiwylliant a lien a chelf y byd. Tra fu'r ddwy wlad ym meddiant yr Israeliaid a'r Hellenes, a thra y mwynhaent ryddid a breintiau dinesig, dylifai o honynt ffrydiau o ddyfroedd bywiol o'r hwn y drachtia pobloedd lawer am byth. Ond nid cynt y daethant dan drais a gormes, nag y diflanodd hefyd eu defnyddioldeb. Ni chododd na phroffwyd nac athronydd yng Ngroeg na 4Chanaan er's canrifoedd. Paham ? Am fod yn rhaid i genedl fod yn rhydd cyn y gall ddadblygu ei theithi a'i chynheddfau ei hun. Ond am ganrifoedd lawer mae'r Groeg a Chanaan wedi bod yn rhwym,—dan draed un gelyn ar ol y llall, ac yn ddiweddaf oil, dan .draed y Twrc. Yn 1830, ar ol brwydr fawr Navarino, rhyddhawyd rhan o wlad Groeg, ond trosglwyddwyd rhanau helaeth yn 61 i'r Swltan. Y mae Macedonia o hyd yn ei chad- wynau, er yn barod i'w tori; aeth blynyddoedd beibio cyn i'r wlad hon roddi i fyny Ynysoedd yr Aegean i Groeg. Rhoddwyd, mae'n wir, fesur o ymreolaeth i Samos, un o'r Ynysoedd Groegaidd, ond gorfu i'r Samiaid wrthryfela llawer cyn cael ymreolaeth oedd yn deilwng o'r enw yn 1849. Ond am Crete-un o'r ynysoedd mwyaf-rhoddwyd hi yn ol yn rhwym a'r Twrc. Gwrthryfelodd yn 1821, yn 1867, a ilawer gwaith heblaw; ond erbyn iddi fod yn barod i gipio ei rhyddid, wele'r galluoedd Europeaidd yn ymyryd i'w rhwystro. # Groegiaid pur yw'r trigolion, gan mwyaf, ac ni fynant lywodraeth arall ond llywodraeth Roeg. Maent wedi bod yn rhyfela am fil o flynyddoedd-yn erbyn y Venetiaid cyn i'r Twrc ddod yno,-a rhyfela a wnant hyd nes y cant eu rhyddid. Gwrthrhyfelasant y llynedd -drachefn, a gallent yn hawdd fod wedi enill addynt eu hunain y fraint dros ba un y maent wedi ymladd cyhyd. Ond eto ymyrodd y galluoedd. Ewropeaidd,—Prydain, Rwssia, Yr Almaen, Awstria, a'r Eidal, a Ffrainc. Yn wir, cynygiodd Awstria rwystro gwyr Groeg rhag glanio yn yr ynys i gynorthwyo eu brodyr mewn caledi. Ond pallodd Arglwydd Salis- bury, chwareu teg iddo, a chydsynio. Erbyn hyn, y mae'r Ynys yn rhydd. Mae llywodraeth Groeg wedi danfon 1,500 o filwyr yno dan arweiniad y Milwriad Vassos, ac y maent wedi gyru'r Tyrciaid ar ffo. Y mae'r gatluoedd yn dechreu ofni wrth weled gwr- Siydri Groeg, ac y maent yn cynyg iddi-os y gwna hi alw'n ol ei mhilwyr, y caiff yr ynys ymreolaeth llwyr a pherffaith. Mae Groeg yn pallu derbyn y cynyg, ac y mae pobl Prydain yn falch o hyny. Oblegid y mae dau amod gwrthun iawn yn y cynygiad. .-Bydd Crete o hyd yn parhau yn rhan o'r ymherodraeth Dwrcaidd. 2.-Bydd yn rhaid i filwyr Groeg ymadael o'r ynys, gan adaw milwyr Twrci-y bobl sydd wedi bod yn lladd a llabyddio ac yn treisio'r trigolion-i fod yn geidwaid hedd- wch yno. Rhaid i Groeg dderbyn neu wrthod y telerau cyn dydd Mawrth nesaf. Os derbyn y cynyg- iad a wnaiff, pob peth yn dda. Ond os y ¡ gwrthoda! Beth wed'yn ? Dyma'r cwestiwn ofynwyd gan Syr William Harcourt a'r Rhydd- frydwyr yn Nhy'r Cyffredin nos Fawrth. A fydd y Llywodraeth hon yn foddlon i ryfela a Groeg er mwyn y Twrc ? Credwn fod barn a chalon pob Prydeinwr o blaid y Groegiaid. Brysio wnelo'r boreu pan na chwifiana faner waedlyd Anghrist ar un tref nac ynys, ar un caer na chastell yn Ewrop!
LLENYDDIAETH Y CELT I AID,
LLENYDDIAETH Y CELT I AID, ARAETH DDYDDOROL GAN MR. WILLIAM JONES. Nos Fercher, Mawrth 3ydd, yng nghapel Cymreig Falmouth Road, cafwyd araeth hyawdl a gwladgarol gan Mr. William Jones, A.S., ar Lenyddiaeth y Celtiaid.' Yr oedd yno gynulliad pur gryno, yn gyn- wysedig y rhan fwyaf o ddynion ieuainc an- hawdd fuasai cael cynulliad o bobl ieuainc a golwg mor ddeallus arnynt, a gwell nar cwbl, mor Gymreig eu hysbryd. Da y dywedai yr areithydd ar y diwedd, ei fod yn teimlo wedi ymiachau ac ymgalonogi drwyddo, ac fod y gwrandawiad deallus, brwdfrydig a gawsai wedi bod yn gynorthwy mawr iddo. Am yr araeth, diau i bawb fu'n gwrando arni gael gwledd nad anghofia rhawg, a rhyfedd os na wnaeth i bawb deimlo'n falch ei fod yn hanu o'r hen gyff Celtaidd. Dangoswyd yn eglur iawn y dylid astudio llenyddiaeth Wydd- elig, cyn y gellir yn wirioneddol, werthfawrogi a dealt yr un Geltaidd cyffelybwyd llawer gair a brawddeg yn y ddwy iaith, a chywrain a dyddorol oedd gweled eu tebygrwydd. Soniai am y bobl fu'n byw yng Nghymru cyn y Celtiaid-ac mai oddiwrthynt hwy yr oeddym wedi cael ein hanesion am y Tylwyth Teg, ac fod a fyno y lenyddiaeth hono lawer a moesau a chrefydd yr hen oesoedd cyn Cristionogaeth. Nid eiddo'r Celtiaid ychwaith y grefydd Dderwyddol. Diau i'r Celtiaid efelychu y Brodorion hyn yn eu pethau gorau. Pobl athrylithgar, gerddgar, oeddynt ac nid oes neb a wad nad yw y doniau hyn, heddyw yn eiddo y Celtiaid i raddau helaeth. Soniai am lenyddiaeth y Mabinogi, yr hon a aeth yn enwog drwy'r byd benbaladr, drwy rym ei ddychymyg a'i athrylith. Yna daeth a ni'n nes gartref, at y Diwygiad Protestan- aidd, pryd y coethwyd ac y sobrwyd yr athry- lith hono; nes ein gwneyd yn genedl (os y bydd ei phlant yn bur iddi) y bydd y byd gwareiddiedig yn teimlo ei gallu a'i gwerth yn y blynyddoedd a ddaw. Dywedai fad eisieu i Gymru ledu ei hesgyll, peidio ymfoddloni ar yr hyn sydd ganddi eisoes, neu yng ngeiriau yr areithydd, dwyn addysg a diwylliant cen- edloedd ereill i chwareu ar Gymru,' nes cyfodi ei henw i fri drwy holl wledydd Ewrob. Pwysleisiodd lawer ar y ffaith ein bod yn bobl ddwy-ieithog—fod hyny yn ein gwneyd yn lletach yn eneidiol, a'n dealltwriaeth a'n cyd- ymdeimlad a chenedloedd ereill yn fwy deallus nac eiddo y Sais unieithog. Llawer a allasem atodi at hanes yr araeth ardderchog a gawsom Mae hyawdledd Mr. William Jones fel siaradwr cyhoeddus, wedi ei selio a barn Ty y Cyffred- in. Ei fod yn Gymro aiddgar, a'i galon yn Uawn cariad at ei wlad a'i iaith, sydd hysbys i bawb bellach, ond nid pob Cymro sydd lenor mor wych a Mr. Jones, a pherl yn ei goron yw y ffaith ei fod yn defnyddio pob talent a rodd- wyd iddo gan natur a chelf er cynorthwyo ac addysgu ei gyd-genedl, a chodi'r hen wlad i fri. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r ar- eithydd ar gynygiad y Fonesig Eluned, ac eiliad Mr. D. R. Hughes.
[No title]
Addawa Mr. Foulkes Griffiths ymdrin a chanwyllau cyrph yn Castle Street heno. Ni wyddis yn iawn pa un a ddaw ag esiamplau o honynt yno a'i peidio.
CRONFA' R CELT.
CRONFA' R CELT. Y mae ein darllenwyr wedi bod yn dra thawel yn ystod yr wythnosau diweddaf hyn ynglyn a Chronfa'r CELT, ond gwelant wrth yr adroddiadau yn ein colofnau o bryd i bryd ein bod o hyd yn barod i dderbyn ychwaneg o gynorthwy, a byddwn ofalus y bydd i bob dimeu a geir fyned at achosion gwir deilwng. Da genym ddeall fod cyngherdd y Meibion Gwalia yn addaw yn dda, ac hyderwn y prynir y tocynau gan lawer o gefnogwyr y mudiad. Daeth i law yr wythnos hon y symiau a ganlyn, yn ychwenegol at yr hyn yr ydym wedi gydnabod eisoes:—Mrs. Hansen, is., Pica Bach, is.
' CENINEN ' QWVL DEWI.
CENINEN QWVL DEWI. Mae rhifyn Gwyl Dewi o'r cyhoeddiad cenedlaethol hwn wedi d'od i law; ac y mae yn cynwys adgofion am lu o enwogion ymad- awedig Cymru. Bydd yr ysgrifau ar Herber, gan y Parch. D. Griffith a Dewi Ogwen, yn debyg o gael darlleniad aiddgar gan eu bod yn d'od mor fuan wedi i ni golli y gwrth- ddrych. Ysgrifau dyddorol ereill hefyd ydynt gofiantau yr Hybarch. Evans o Aberaeron, ar Parchedig Esgob Jones, Tyddewi. Mae'r holl gynwys yn rhagorol, ac nis gall yr un llyfrgell fod yn gyfiawn heb 'Geninen* blynyddol Gwyl Dewi.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Dydd Mawrth diweddaf bu un arall o en- wogion Eglwysig Tyddewi farw ym mherson v Deon Phillips. Brodor o ran uwchaf sir Benfro oedd y Deon, a bu yn iicar poblog- aidd yn Aberystwyth am bum mlynedd ar hugain. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn bu yn trigianu yn Nhy Ddewi. Cyr- haeddod yr oedran teg o 70. Yr oedd yn un o gymeriadau goreu yr Eglwys, a mawr berchid ef gan bob dosbarth o bobl. Y mae Meibion Deheudir Gwalia yn gor- foleddu yn y ffaith fod y fath raglen ar- dderchog wedi ei threfnu erbyn y cyngherdd a gynhelir yng Nghwesdy Frascatti ar yr 2ofed o'r mis hwn tuag at chwyddo Cronfa'r CELT ercynorthwyo ein cyd-genedl anghenus. Mae'r ysgrifenydd (Mr. D. Jeremy) wedi llwyddo i gael y pigion o'r datgeinwyr, ac yn sicr ni welwyd gwell rhaglen nag a geir dan nawdd Meibion y De erioed. Mae'r achos yn un gwir deilwng o gefnogaeth y sawl sydd mewn porfeydd gwelltog, felly, nid rhyfedd fod galwad mawr am docynau. Da genym gael ar ddeall fod rhai o gyfoethogion ein gwlad wedi prynu cymaint ag haner dwsin ac yn eu dosbarthu i ereill. Ceir pob man- ylion a thocynau oddiwrth Mr. D. Jeremy, 163, Offord Street, Barnsbury, N. neu'r Mri. Emlyn Evans, 141, Queen's Road, Bays- water a Hywel Phillips, Swyddfa'r CELT. Cafodd nodyn arall o ffarwel ei daro nos Sul diweddaf yng Nghapel Castle Street. 'Does ond ychydig wythnosau oddiar symud- odd angeu yr anwyl Robert Green, ond nawr y maent yn colli trysorydd parch us yr eglwys, sef, Mr. Daniel Richards, yr hwn sydd wedi penderfynu treulio y rhan olaf o'i oes yn ei hen gartref yn Caerfyrddin. 'Roedd yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys, yn gynorth- wy mawr gyda'r canu, ac yn gefnogydd parod 6 oy yn y Gymdeithas Ddiwylliadol. Daeth Mr. Richards i Lundain rhyw ugain mlynedd yn ol, a bu am rhai blynyddau yn gysodydd ar y Lancet. Dymunwn hir oes a dedwyddwdb iddo ef a'i deulu parch us yn yr hen wlad. » Bydd yn chwith gan lawer glywed am farw- olaeth Dr. A. Jones, Llanelly. Brodor oedd Mr. Jones o Aberaeron, a mawr berchid ef fel meddyg yn LlaneUy.