Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HEN FALEDAU.

[No title]

News
Cite
Share

Mawr yw'r galar yn ddigelu Blin yw'r hynt gan faint y rhenti Yn lle canu mwy yw'r ewynfan A chalon oer o eisieu arian Fe wyr rhai ymhell ac agos Am yr ochain, a ph'eth yw'rachos B'le ceir fath swm, y baich sydd drwm, A'r gorthrwm yn greulon ? 0 na chyd-ddygai gwyr bon'ddigion, Rhag i'r goleu daw gwaeth argoelion. Mae golwg lwyd ar rai deiladon Hawdd yw coelio'n drist eu calon; Byw yn gynil, byw yn galed, Rhaid yw gwaelu, hawdd yw gweled Gorfod gwerthu er eu gwartha, Fe wyddys p'un, y pethau pena' A'r uchel bris yn llawer is Nag oeddys yn arfer; Os peri'n hir ag fath orthrymder Fe eir yn llwyr a moddion llawer. Dyna geir mewn ffair a marchnad Mawr yw'r cwyno waeth y cwnad Wnawd 'stwetha yn y rhenti Fwy nag allo'r deiliaid dalu Ni wn i beth a ddaw o ddynion Os na chyd-ddyga gwyr bon'ddigion Mae'n amser Ilym heb fawr o rym Ni awn heb ddimeu, Os para wna a ein meddianau Rhwng y meistr tir a'r talau. J Mae'm hysbryd gwan bron anobeithio Ei gwel'd mor chwith, er ealed weithio Yn ddi-gel 'does fawr o galon I achlesu wrth achosion; Mae llawer clawdd ag eisieu ei godi, A llawer cae ag eisieu ei galchu. A llawer iawn o scilps a chawn A rhai a llawn fwriad I gael diddoswr at ei alwad Ond och I o'r gair b'le ceir y taliad. Mae bagad iawn o ddynion segur A wnelent waith pe caent i'w wneuthur A rhai'n-yn gorfod yn ddiameu Fyn'd i bwyso ar y plwyfau; Mae'r tal a'r rhent yn myn'd gyd-rhyngddyn' Ag oil a feddwn yn y flwyddyn 'Does lo i gael yn ddiffael Ond siaced wael ddigon o na chyd-ddygai gwyr bon'ddigion Wrth weled gwedd eu deiliaid gweinion. Nid pris y da, nid pris y defaid Sy'n peri bod fath amser caled; Nid pris y moch, nid pris y llafur Sy'n peri bod fath amser prysur, Nid pris y caws nid pris y menyn Na cheffylau, nac un ffowlyn, Ond pris y tir, a dweyd y gwir, Digysur a gawsom, 0 na chyd-ddygai gwyr bon'ddigion Rhag i'r goleu daw gwaeth argoelion. Mae'n gwlad yn llawn o drugareddau Diolchus ddylem fod o'n c'lonau I'r Hwn sy'n rhoddi pob cysuron O'i fawr ddoniau'n hael i ddynion; Os yw E'n mynu i'n meddia.na.u Fyn'd i ereill, Fe wyroreu Rhoed i ni nerth i weled gwerth Cydymaith i'n cadw Pa na bydd rhent na thai yn galw Dyna eli ddyry elw. Duw fo'n cadw Sior y Trydydd Dan ei goron yn dragywydd, A phan y syrthio'r un ddaearol Boed iddo fry gael coron nefol; A'r holl benaethiaid fyddo doethion Ag sydd yn ledio'r werin dlodion I dynu lawr y beichiau mawr Sy'n dirfawr orthrymu Y deiladon mewn caledi Dyna'r cwyn a diwedd canu. Canodd a ganodd yn gyson—dyfal Yw doniau rhai dynion; Nid gwegi a geiriau gweigion Eu gyd y sydd yngharol Sion.

TY'R GIiEBER.

[No title]

Advertising