Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

Bwrdd y 'Celt.'

DEWI SANT.

EISTEDDFOD CITY ROAD.

News
Cite
Share

Buont yn anffodus i fyn'd allan o donyddiaeth yn gynar yn yr ymdrech, a dadganiad hynod o anffafriol roddwyd ganddyrit. 0 dan yr amgylchiad, nid oedd dim i'w wneyd ond atal y wobr, yr hyn a wnaed. Prif ddyddordeb yr Eisteddfod, yn ddiau, oedd y corau mawr, a daeth pedwar i gystadlu ar y darn, I Be not afraid.' Canasant yn y drefn ganlynol, Barrets Grove, Falmouth Road, Jewin New- ydd, a Boro'. Yr oedd y wobr yn ugain punt, a bathodyn aur i'r arweinydd. Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y pedwar cor meddai Randegger, ond yr oedd dau ar y blaen, sef y Jewin a'r Boro', ac o ychydig, cor Jewin oedd y goreu, ac iddo ef y dyfarnwyd y wobr. Rhoddodd hyn foddlonrwydd mawr i gefn- ogwyr y cor hwn, a chafodd yr arweinydd dderbyniad cynhes pan aeth i dderbyn y god. Y mae clod yn ddyladwy i'r ysgrifenydd galluog, Mr. Maengwyn Davies am ddwyn y gwaith i derfyniad mor llwyddianus, ac yn ol pob argoel, ychwanegir yn sylweddol at gronfa'r capel o'r elw a wneir o honi. Y GERDDORIAETH. Yr oedd rhai pethau ynglyn a'r Eisteddfod hon yn peri i ni deimlo yn siomedig. Mawr oedd yr awydd am gael bod ymhlith yr etholedigion i ymddangos ar y llwyfan, er cael barn Mr. Randegger. Wel, fel barn, yr oedd yn un gywir bob tro ond o ran yr addysg a gyflwynid drwyddi 'doedd ei holl sylwedd yn werth mwy na rhyw ddimau y dunell Eto, os oedd y rhai ymddangosasant ar y llwyfan y goreuon o'r nifer fawr fu yn ymgeisio yn y cWldd rhagbaratoawl, 'does bosibl fod hufen unawdwyr Cymreig Llundain yn ymgynyg Nid ydym yn golygu, wrth ddweyd hyn, iod y buddugwyr yn canu yn wael. Eto, fflat ydoedd y dull o ddwyn y gweithrediadau ymlaen. ac hwyrach ddarfod i hyn effeithio ar y canu-giat ydoedd hwnw yn fynych. Yr unig beth gwir fywiog yno ydoedd bloeddiadau y roughs yn y dorf. Yr oeddynt hwy yno, fel arfer, a beth feddyliau y Saeson o'u hymddygiad, 9 Gwnaeth Dr. Parry ymgais i'w tawelu, ond nis llwyddodd. Pa bryd tybed y cymerwn wers gan gynulleidfaoedd Seisnig mewn boneddigeiddrwydd ? A pha bryd mae y dylanwad ddylai ein mawr boffder at gerddoriaeth, i esgor ar dynerwch ac addfwynder ysbryd ? Gyd-ddinaswyr anwyl, a gawn ni ystyried hyn yn ddifrifol Yn y gystadleuaeth gorawl. Y nifer heb fod uwch- law 35. Un cor yn unig, sef cor Stepney. Y darn ydoedd, Give thy peace' (Rees). Cawsant haner y wobr, fel y dywedai Mr. Randegger not as a reward ior actual performance, but as an encouragement for future excellence.' Nid oes eisieu ychwanegu at hyn yna. Y brif gystadleuaeth gorawl, 'Be not afraid' (Mendelssohn). Corau Barret's Grove, Falmouth Road, New Jewin, a'r Borough yn cystadlu. Nid oes gofod i fanylu. Y goreu ydoedd cor Jewin dadgan- iad y buasai yn anhawdd ei guro a rhoddai y beirn- iaid ganmoliaeth uchel i gor y Borough. Diau y bydd hyn yn galondid i'r cor ieuane hwn. Ar yr unawd tenor, y goreu o gryn dipyn ydoedd Mr. Harold Jones, Clapham. Cawn glywed am dano eto yn ddiau. Cor Meibion y South London yn unig fu'n ymgeisio am y wobr am ganu Dewrion Sparta.' Gwyr y darllenwyr ein barn am y cor galluog hwn, ond heno yr oedd, Y don yn y niwl wedi ymgolli, Ac Orpheus mewn braw yn wylo yn lli. Ataliwyd y wobr. Dylem grybwyll fod Dr. Parry—un sydd wedi myned drwy ei brentisiaeth ar y fainc feirniadol- wedi gwneyd ei waith yn bur foddhaol. Hefyd, rhoddodd Mr. B. Trehearne unawd ar yr organ, mewn dull rhagorol. PEDR ALAW.