Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
ODDEUTU'R DDINAS.
ODDEUTU'R DDINAS. Rhyfedd mor genedlaethol yw Cymry Llun- dam wedi bod yr wythnos hon. Gwyl Eglwysig genedlaethol, cyngherdd cenedlaethol, ciniawau cenedlaethol; ac, mi a obeithiwn, rhyw ronyn bach o ysbryd cenedl- aethol hefyd. Aeth awen Trychfil' i'r clawdd y nos o'r blaen yn y Queen's Hall yn ei englyn i'r cadeir- ydd. Dywedir iddo roddi hirben i ateb Herbert' yn y llinell olaf. Wel, wel, gobeithio iddo loewi'r awen ar ddydd Gwyl Dewi. Rhaid i Syr John Puleston edrych ati, neu fe ddaw Esgob Stepney yn well darllenwr Cymraeg nag e; ac am fechgyn bach cor Sant Paul, wel mi allesid credu mai Cymry oeddynt i gyd ac nid Saeson. Yn ol beirniadaeth y dorf yn 'Steddfod City Road, ni wobrwywyd yr adroddwr goreu. "Roedd mwy o foshwns gan yr un a gollodd welwch chi,' meddai uno honynt; 'a fe ddylse gael y prize boo-oo Anrhegwyd y Parch. Hugh Price Hughes a chyfres gyflawn o'r Encyclopaedia Brittanica' yr wythnos ddiweddaf. Ond ychydig sydd yn y gwaith hwnw yn barod nag yw Price Hughes yn gwybod am dano. Ymestynai hen Geredigion, yn ol y Proffeswr Rhys, hyd haner sir Gaerfyrddin yn awr, a pharthau uchaf o sir Benfro. Os felly, mai mwy o Gardis yn Llundain nag a feddylir. Cawn wel'd faint o honynt ddaw i'r ginio y mis nesaf. Mae Miss Maggie Williams yn cael budd- gyngherdd yn Abertawe nos Lun nesaf, ac a nifer o'i chyfeillion cerddorol o Lundain i lawr i'w chynorthwyo. Miss Mary Williams (Woodgreen) a'i brawd Mr. David Williams (fel yr hysbyswyd yn y CELT rai wythnosau yn ol) oeddynt gyfrifol am y wledd de a roddwyd yn Commercial Street nos Fawrth cyn y diweddaf, ac nid Mr. a Mrs Davies, fel y nodasom yn ein rhifyn diweddaf. Mae Miss Williams yn un o'r chwiorydd ffydd- lonaf a mwyaf gweithgar yn eglwys Jewin a dywed Mr. J. E. Davies nad oes dim da ormod ganddi wneyd dros eu Gwaredwr, ac yn ol tystiolaeth cenhad- wr y dwyreinbarth, cafwyd trwy ei hofferynol- iaeth, un o'r cyfarfodydd mwyaf ei ddylanwad crefyddol o restr Cronfa'r CELT. Beirniad cerddorol yr Eisteddfod Gymreig a gynhelir yn Stockton-on-Tees ary Llungwyn nesaf, yw ein cyd-ddinesydd clodwiw Pedr Alaw. Yn rhestr y rhai llwyddianus yn arholiad Matriculation Prifysgol Llundain a gynhaliwyd ym mis Ionawr diweddaf, ceir enw Mr. Her- bert Davies, pedwerydd mab Mr. William Davies, L.C.C., Battersea. Nid yw Mr. Davies ond newydd gyrhaedd ei un-ar-bymtheg oed, yr oed sydd raid ei gyrhaedd cyn y gellir ymgeisio. Bwriedir agor Eglwys newydd Dewi Sant, Paddington, tua diwedd Mawrth. Ychwanegir ystafell eang arall at y Clwb Cymraeg yn ddioed, gan fod y lie eisoes yn rhy fychan i'r nifer sydd wedi ymuno. » Agorwyd yr ystafell newydd ynglyn ag 0 Eglwys Dewi Sant dydd Sul Diweddaf, a daeth tyrfa luosog yno i ddathlu yr amgylchiad. Y mae yr adeilad arall yn myned ym mlaen yn hwylus, a chyn hir bydd Eglwys Dewi Sant yn un o'r lleoedd mwyaf cyfforddus gan Gymry Llundain. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parch. Hartwell Jones. Noson arw iawn oedd hi nos Fawrth di- weddaf, ond daeth cynulliad hwyliog ynghyd i Commercial Street i de Cronfa'r CELT. Bu Mr. Jenkins o Wilton Square mor hynaws a chym- eryd y gadair yn y cwrdd ar y diwedd, a dyddorwyd y gynulleidfa gan Sister Janet; Arthur John Rees; Maelor, a brodyr a chwiorydd ereill ac areithiau a chaneuon. Gwasanaethodd Mrs Jones, Jubilee St., wrth y bwrdd yn ei dull caredig arferol.
Y CYMRY YN SANT PAUL.
Y CYMRY YN SANT PAUL. PREGETH GYMRAEG GAN Y PARCH. HARTWELL JONES. Am y chwechfed tro y mae y Cymry wedi cynhal eu gwasanaeth yn Gymraeg yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, a nos Sadwrn diweddaf, fel ar y pump achlysur blaenorol, daeth yno dyrfa anferth ynghyd i uno yn, neu i wylio y gweithrediadau dyddorol hyn. Mae'n rhaid cyfaddef fod yr Eglwyswyr wedi bod yn ffodus iawn yn eu dull o ddathlu coffadwriaeth hen Sant anwyl y Cymry, oherwydd ceir fod pcb gradd ac enwad yn teimlo rhyw gymaint o ddyddordeb yn yr wyl, ac yn y dull a gymerir i arddangos i'w cyd-ddinasyddion ein parch i goffadwriaeth ein hen wroniaid. Y prif atdyniad yn yr wyl eleni oedd fod Mr. Ben Davies yn myn'd i ganu dwy unawd yn Gymraeg yno, ac fod y Parch. Hartwell Jones yn myn'd i draddodi y bregeth, ac 'roedd hyn yn ddigon i dynu ynghyd rhyw ddeuddeg mil o bobl o dan nenfwd eang yr hen Eglwys urddasol hon. Dechreuwyd y gwasanaeth am saith o'r gloch gan orymdaith y cor mawr drwy ganol y gynulleidfa i'w lie dan yr organ, a chanasant ddwy emyn gorymdeithiol, Wele cawsom y Messiah' ar y don 'Groeswen,' a 'Nis gall angylion nef,' &c., ar Llangoedmor.' Aeth y Parch. E. Killin Roberts, drwy y rhan gyntaf o'r gweddiau, a chynorthwywyd ef gan Arglwydd Esgob Bangor, a darllenwyd y rhan olaf gan Parch. William Davies, Holloway. Darllenwyd y llith cyntaf gan Syr J. H. Puleston, a'r ail gan y Parch. Evan Jones, Highbury; a chanwyd y gwahanol ranau o'r Psalmau, &c., gan y cor dan arweiniad Mr. William Davies, yn dra effeithiol. Rhoddas- ant hefyd ddadganiad o'r anthem, I Felly y carodd Duw y Byd,' yn dra boddhaol cyn y bregeth. 'Roedd ein prif denorydd, Ben Davies, mewn llais da, a chlywid ef yn eglur drwy holl eangder yr Eglwys. Rhoddodd ddadganiad penigamp o 1 0 chwi sy'n caru 0 el Duw,' a Bydd ffyddlawn hyd angeu. Testyn pregeth y Parch. Hartwell Jones oedd Zech .iv 7, Pwy wyt ti y mynydd mawr,' &c ?' Nodi cymeriadau tebygoly genedl Gymreig ac Iuddewig oedd prif bwynt y bregeth, a phrofi mai trwy ymlyniad a'r grefydd Gristionogol y mae i ni fel cenedl barhau mewn mawredd ac i enill bri oesol, Aed trwy y gwasanaeth yn hynod o hwyliog, ac yr oedd y trefniadau a wnaed gan yr ys- grifenydd poblogaidd y Parch. Morris Roberts a'i lu o gefnogwyr wedi rhoddi boddhad cyffredinol i'r dorf. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. D. J. Tomas, a gwnaeth ef a Mr. W. Davies waith tra effeithiol i gael y fath gor da ynghyd at yr amgylchiad. Gwnaed casgliad ar ol y bregeth tuagat y treuliau y rhai ydynt yn sicr o fod yn dra thrwm fel arfer; ond y mae digon o wyr cefnog wrth y gwaith fel na raid pryderu ynghylch ei llwyddiant arianol; ond ym mhob ystyr arall gellir dweyd fod yr wyl yn deilwng o genedlaetholdeb Cymry Llun- dain. j
EISTEDDFOD CITY ROAD.
EISTEDDFOD CITY ROAD. CYNULLIAD MAWR YN Y QUEEN'S HALL. DIWEDDWYD tymhor Eisteddfodol Llundain yrt y Queen's Hall nos Iau cyn y diweddaf gan gynulliad ardderchog o Gymry, teilwng o'r Eisteddfod, ac o ymdrechion y brodyr yng- Nghapel City Road. Yr oedd yn anturiaeth bwysig i gymeryd y fath neuadd enfawr i gynal Eisteddfod ynddi, ac nid yn unig yr oedd y treuliau ynglyn a'r oil yn llawer uwch nag a welir yn gyffredin ymhlith Cymry Llundain, ond yr oedd y gwobrwyon hefyd ar raddfa uwch ac yn unol a safle y neuadd enwog hon. Profodd yr ym- drech ar unwaith fod y pwyllgor wedi bod yn ddoeth yn eu gwaith, a chafwyd gwell rhestr o gystadleuwyr a nifer mwy lluosog o gyfansodd- iadau nag a gaed yn yr un Eisteddfod yn ystod y tymor hwn. Yr oedd elfen atdyniadol newydd hefyd ynglyn a hon. Cafodd nifer fawr iawn o nodd- wyr unMasol, ac ar y rhaglen gosodwyd enwau o'rDywysoges Christoforos-Palaeologue i lawr hyd at y Parch. Nehemiah Curnock fel y rhai ydynt yn barod oil i waeddi, Tra Eryri ar ei gwadnau Nac anghofia iaith dy dadau, Cadw, Coledd hi.' Llywyddwyd gan yr aelod Cymreig ieuanc a phoblogaidd Mr. J. Herbert Roberts, a rhoddodd araeth fer a phwrpasol yn ystod yr hwyr. Yr arweinydd oedd yr Eisteddfodwr hysbys, Mr. W. E. Davies, a chafwyd gan gerddorion o radd y Signor Randeggar, Hon., R.A.M., a Dr. Joseph Parry, i glorianu y rhan gerddorol o'r wyl, ac wrth gwrs, talwyd pwysigrwydd neillduol i ddyfarniadau y dysg- edigion hyn. Yr oedd llawer o'r ymgeiswyr wedi myned trwy arholiadau paratoawl y noson flaenorol, a'r detholedigion yn unig a. adewid i ymddangos ger bron y cyhoedd yn y Queen's Hall. Dechreuwyd yn brydlon am 7 o'r gloch trwy i Mr, Bryceson Trehearne roddi dernyn ar yr organ mawreddog a geir yno. Ar ol hyn aed at y cystadleuaethau gan ddechreu ar y plant yn chwareu y berdoneg. O'r ddwy a adawyd i chwareu yn gyhoeddus gwobrwy- wyd Miss Nellie James. Daeth tair o ferched i ganu yr unawd contralto, a Miss Lilian Escot a gipiodd y gini. Dau barti a ganodd y pedwarawd, a Miss Parry a'i chyfeillion, o Wilton Square, a ddyfarnwyd yn oreu. Ni ddaeth ond un cor ymlaen ar y ail ddarn cor- awl, sef Stepney, a rhoddwyd iddynt haner y wobr am ymddangos. Gwaith da oedd darllen yr holl feirniadaethau llenyddol yn olynol i'w gilydd, oherwydd arbedodd lawer o amser y cyfarfod. Y prif draethawd ar I Hanes cref- ydd yng Nghymru yn amser Cromwell' ddy- farnwyd i Mr. J. H. Roberts, Bala. Am atebion ysgrythyrol, cafodd Mr. E. L. Evans, Falmouth Road, y wobr gyntaf, a Mr. J. L. Evans, Dewi Sant, yr ail. Llinellau ar Sudd- iad y Drummond Castle,' Mr. Elwyn Jones, Kensington, oedd y goreu o chwech. Englyn- ion Yr amddifad,' Mr. W. Roberts, Llan- gollen. Cyfieithiad, Mr. W. Roberts, Barret's Grove. Un o'r pethau llymaf yn y cyfarfod oedd y nodiadau a draddododd Signor Ran- deggar ar chwareuwyr y crythau. Dylasentar bob cyfrif, meddai, fod wedi dysgu chwareu cyn ymddangos o flaen y fath dorf o fobl ddeallus. Dau ddadganiad ardderchog oedd yr unawdau soprano, gwobrwywyd Miss Maggie Jones, Charing Cross, a rhoddwyd ail wobr arbenig i Mrs. Arnold Williams, Wilton Square. Daeth tri ymlaen i adrodd darn o waith Browning, o chafodd Miss Pattie Campion y wobr ac am adrodd y I Gof o waith Hiraethog, cafodd Mr. Roland Davies y pres. Unawd tenor, Mr. J. Harold Jones, Clapham. Unawd base, Mr. D. Evans, Sey- mour Place. Deuawd tenor a bass, Mr. D. Evans, a J. Humphreys. Chwareu unrhyw offeryn cerdd, Master D. Gordie, Maida Vale. Un cor meibion wnaeth ei ymddangosiad i ganu y dernyn anhawdd Spartan Heroes.'