Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TIRIAD Y FFRANCOD YN ABERGWAUN.

News
Cite
Share

TIRIAD Y FFRANCOD YN ABERGWAUN. Cyfeiriwyd ataf yn Mwrdd y Keltiaid yr wythnos ddiweddaf, i ddweyd pa un ai gwir- ionedd neu alegori yw yr uchod, ac er nad oeddwn yno, fy hun, ar y pryd eto gwir yw y gair" ddyfod o'r Ffrancod i Abergwaun ar dydd Mawrth 20fed o Chwefror, 1797. mewn pedair llong, gyda 1,500 o wyr arfog, dan Cadfridog Tate. Ceir yn Fenton" yr hanesydd yr ym- drafodiaeth yn gyflawn o enau un oedd ar y pryd yn byw yn Abergwaun. Tiriasant yn Llanwnda, neu Carreg Gwastad Point, Pencaer, ddwy filltir a hanner o du y gorllewin i Aber- gwaun. Er nas caniata gofod i mi i helaethu yma rhoddaf yr awduron goreu sydd, er argy- hoeddi y digred — Carlisle,' S. Lewis,' I Titus Lewis,' Nicholson,' Beauties of South Wales,' 'Cliffe,' 'Black,' 'Donovan,' 'Malkin,' 'Cambrian Tourist,' Prof. Timmins, &c., &c. Cof genyf glywed Lewis bach a Matti Wil- liams, Llandyssilio, yn olrhain yr hanes a dywedyd gydag edmygedd wrthyf droion fod eu tad wedi bod yno mewn arfau yn erbyn y Ffrancod. Ac y mae llawer o'r arfau a'r gwnau i'w gweled heddyw yn Stackpole Court gydag arwyddluniau Ffrengig arnynt (gwelais hwynt fy hun), sydd yn profi gwirionedd yr hanes, ac yn y flwyddyn 1797 ar ol ymgyrch Abergwaun yr urddiwyd teulu Campbell yn Farwn Cawdor (sef taid yr Arglwydd Cawdor presenol), am ei wrhydri gyda 660 o wyr Penfro a Cheredigion (heblaw gwragedd Abergwaun) ddychrynu y Ffrancod mewn tridiau i roddi eu harfau yn ddiamodol i lawr. Eto, deued y brawd hwn gyda mi yr haf nesaf a cha weled hen awrlais sydd eto ar gael mewn ffermdy o'r enw Brestgarn ag 61 bwledi drwyddo. Tybiodd un o'r gelynion fod satan ei hun yn ymsymud tufewn a saethodd ato, ond- Tic toe, meddai'r cloc o hyd," Felly gyfaill hoff, tyred a gwel a gosod dy fys yn ol y fwleden, ac na fydd anghredadyn ond credadyn mwyach.—PRESELLY.

BWRDD Y KELTIAID.

I London Welsh Church Announcements…

- Forthcoming Events*

Advertising