Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

0 LANAU AERON A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

0 LANAU AERON A'R CYLCHOEDD. (GAN DAFYDD.) Gan fod cynnifer o blant Dyffryn Aeron ar wasgar yn y Brif-ddinas, diau mai nid anny- ddorol ganddynt yn awr ac eilwaith fydd der- byn byr nodion gan Dafydd," un o hen frodorion y Dyffryn, er gwybod pa fodd y mae pethau yn dyfod ymlaen gartref. Claddedig'aethMrs. Davies, Cilcenin.—Cyd- ymdeimlir yn ddwys a'r Parch. Cadfwlch Davies, gweinidog Annibynol Cilcenin, yn ei brofedigaeth chwerw ar ol colli ei briod yr hon a gyflawnodd hunanladdiad boreu dydd Gwener, i7egcyfisol. Cymerodd yr angladd le dydd Mawrth canlynol. Claddwyd yn Neuaddlwyd. Pregethwyd gan yr Hybarch William Evans. Cymerwyd rhan yn y gwas- anaeth gan y Parchn. Gwilym Evans, Aber- aeron Griffiths, Maenygroes; Evans, Llan- bedr; Owen, Ceinewydd; Davies, Ty'n-y- gwndwn. Gwelsom hefyd yn bresenol y Parchn. Thomas, Llanon; Thickens (M.C.), Aberaeron Rees (W.), Aberaeron, &c. Yr oedd y dorf oedd wedi ymgasglu i'r gladded- igaeth yn profi fod y wlad yn cydwylo a Mr. Davies yn ei drallod blin. Drwg iawn genym fod merch mor brydweddol ac anwyl a Mrs. Davies wedi diweddu ei hoes fer (25 mlwydd oed) a'i dwylaw ei hun. Caffed Mr. Davies bob nerth i ddal yr ystorm. Cor Undebol.-Mae Dyffryn Aeron tua chymydogaeth Ystrad yn ferw gwyllt yr wyth- nos hon yn parotoi i ffurfio cor ar gyfer Eis- teddfod Llangeitho yn Awst. Cyferfydd y cdr am y tro cyntaf nos Wener nesaf. Mae cantorion glanau Aeron wedi bod yn enwog flynyddoedd yn ol, ond ar ol colli y fuddugol- iaeth yn Eisteddfod y Borth crogwyd y telynau ar yr helyg hyd yr wythnos hon. Gobeithio y daw y tanau i hwyl eto. Yr arweinydd ydyw Thomas Davies, stonecutter. Pob llwydd niedd Dafydd. Cynghorau Plwyfol.-Ffurfiwyd cynghorau plwyfol gwahanol blwyfi Dyffryn Aeron eleni heb frwydrau etholiadol. Diweddwyd y cyfan yn y cyfarfodydd plwyfol. Mae Dyffryn Aeron wedi bod yn enwog am ei etholiadau, rhai o honynt wedi bod yn gynhyrfus a bygyth- 101 iawn. Mae gwawr y mil blynyddoedd wedi dechreu tori eleni gobeithio.

Market Reports.

Advertising

I" A GLOOMY OUTLOOK.".