Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ABERYSTWYTH A'R BRIFYSGOL.

GWNEYD CREFYDDAU.

Y PLA AIPHTAIDD.

Y DUC 0 YORK A'R CYMMRODORION.

PA LE MAE Y SABBOTH ?

News
Cite
Share

PA LE MAE Y SABBOTH ? GAN I' Q Y mae yn debyg nad oes neb o honom wedi anghofio y Deg Gorchymyn-er nad ydynt yn cael eu hadrodd ond yn anaml yn ein hysgolion Sabbothol, nac yn cael eu holi o gwbl I Pe bae arholiad arnynt fe fyddai pethau go ddyrys yn dyfod i'r golwg. Pa le mae y Sabboth ? Pe bae Llundain yn meddu ar lais, gallasai ateb yn groyw ac yn groch—" Nid ydyw ef yma Na wna ynddo ddim gwaith. Dyna un frawddeg. Sut y mae yn cael ei chario allan ? Y mae masnachwyr Sabbothol Cymreig yn bodoli yn ein mysg. Rhai o honynt yn aelodau eglwysig, yn flaen- oriaid, ie, fe fu rhai pregethwyr-flynyddoedd yn ol Tua 50ain mlynedd yn ôl, nid oedd y dosbarth hwn yn cael ei oddef mewn aelod- aeth Eglwysig gan y Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd caniatad yn cael ei roi i'r Annibyn- wyr. Yr oedd eglwys Jewin yn cynal ei ffair y pryd hyny tu fewn i furiau y capel! Yr oedd y cyfarfod Eglwysig nos Sul mor llawn o ferw ag un ty tafarn yn y gymydog- aeth! ac yr oeddyteimladau ynllawn morfrwd a phe bae "diodydd meddwol" yn cael eu gwerthu yno a'u hyfed! Ond fe dawelwyd hyn oil trwy agor y drws i masnachwyr llaeth." Yn y tawelwch hyn y mae lie i ofni, fod y drws wedi ei agor yn fwy llydan, gan fed lie i gredu fod esiamplau i'w cael yn ein plith, o rhai yn cadw eu siopau yn agored ar adeg yr oedfaon! rhai yn gwerthu bara, ymenyn, ginger beer, lemonade, &c., ar y Sabboth! Nid oes caniatad ffurfiol i hyn y mae yn wir, ond y mae yr arferiad yn cael ei oddef er hyny. Ond cofier, nid hyn oil yw yr unig arwydd- ion o esgeulusdra o awdurdod y gorchymyn am y Sabboth. 0 na gwelir aelodau, blaen- oriaid, pregethwyr a gweinidogion yn cymeryd bus (oddifewn neu oddiallan, fel bo'r tywydd), tren, cab, ac yn prynu tocynau, ac yn talu arian ar y pryd — heb son am gerbydau mwy preifat-ar y dydd Sanctaidd, ac telly yn gorfodi dynion lawer a cheffylau i weithio ar y dydd hwnw. Dywedodd y Parch. Mr. Haweis, amser yn ol, fod miloedd o cabs yn cael eu cyflogi i gludo crefyddwyr i'w heglwysi a'u capelau bob Sabboth. Yr oedd y llinell yn cael ei thynu amser yn ol at Agerlongau ar y Taf- wys Wn i ddim a ydyw y llinell wedi ei symud erbyn hyn. Eto, y mae ein haelodau i'w gweled mewn coffee shops, restaurants, &c. (fe fu rhai o'n blaenoriaid yn gryf yn erbyn y cafe Monico, Gatti, & Co.), yn bwytta ac yn yfed, ac yn talu am yr hyn a fwyttant ac a yfant ar yr un dydd. Onid oes rhai o'n haelodau wedi eu canfod yn myned i mewn i dafarnau ar nos Sul ar ol y moddion ? Eto, y mae ein heglwysi yn trefnu fod te, gyda bara brown a gwyn, a brith, ymenyn, llaeth a siwgr, i fod yn barod ar ol yr ysgol- byrddau, llieiniau, cwpanau, llwyau, yn cael eu dosbarthu-amryw o'r chwiorydd yn brysur cryn amser cyn yr adeg, y rhai hyn yn gorfod colli'r wers a'r canu a'r gweddio. Y mae yr oil o'r llestri yn cael eu clirio yr un dydd, ond, y mae llinell yn cael ei thynu at golchi'r llestri," y mae hyn yn cael ei ohirio i'r dydd Llun mewn rhai o'n capeli, ond a ydyw yn rheol yn mhob man nis gallaf sicrhau. Y mae tal yn cael ei godi, a'r pres-h.y. y tocins-yn cael eu talu ar yr un dydd. Heblaw hyn, pan y bydd prinder, y mae hogiau yn cael eu dan- fon allan i brynu bara, ymenyn, a llaeth (ond dim cakes) i gyflenwi y diffyg Eto, y mae llyfrgelloedd mewn rhai o'n capeli-ac nid y Beibl yn unig nac ychwaith, yr esboniadau, a'r llyfrau duwinyddol a ddar- llenir-ond amrywiaeth mawr o weithiau- barddonol, gwyddonol, ie, a nofelau weithiau Eto, y mae prynu a gwerthu llyfrau, cylch- gronau (ond nid newyddiaduron, mi obeithiaf), yn cymeryd lie yn ein capelau ar y Sabboth h.y. 'Y Drysorfa,' 'Trysorfa y Plant,' 'Y Llenor,' Y Cerddor,' Cymru,' Cymru'r Plant,' a Wales, a Young Wales,' &c.! Fe-, allai y dywedir fod y Drysorfa' yn gylch- grawn crefyddol, a bod yr elw yn myned at gronfa y gweinidogion, gwir, ond tybed a ydym ni mor Jesuitaidd a chredu fod yr am- can yn cyfiawnhau y moddion (the end justifies the means)? Yr oedd y diweddar Morgan Jones (blaenor parchus hen Nassau),' yn gwrthod prynu hyd yn nod Beibl, neu Llyfr Emynau, neu Lyfr Tonau ar y Sabboth-y mae yn debyg y gwrthodai brynu Lyfr y Gymanfa Ganu!" ond nid oedd y Gymanfa Ganu wedi cychwyn yn y dyddiau hyny. Ei reswm oedd, ei fod yn ystyried ei fod yn drosedd ar y gorchymyn. Beth am ddarllen y cylchgronau crefyddol hyn ar y Sabboth? Onid oes newyddion gwleidyddol, ac weithiau nofelau, ystoriau, hanesion, &c., yn y I Drysorfa fawr ? Trys- orfa'r Plant'—y mae yn. debyg fod hwnw yn ddigon diniwed-o ydyw bid siwr, ceir dyddan- ion ynddo, weithiau efelychiadau o emynau cyssegredig, er esiampl- Chwain, chwain &c., efelychiad o Braint, braint," a oes awgrymiad o'r gymdeithas yma ? Pan y mae y digrifol yn ymylu ar y cableddus nis gellir cyfreithloni eu darllen ar y Sabboth, os ar unrhyw amgylchiad. Yn y coffee shops, &c., y mae yr 'Illustrated London News' 'Graphic' &c., i'w gweled- onid edrychir ar y rhai hyn gan rhai o'n hael- odau ar y Sabboth, beth am Punch,' Fun,' a dynir y llinell yn dyn fan yna tybed ? Yn ngwyneb hyn oil yr ateb i'r cwestiwn uchod yn ddiau, ydyw Nid yn Llundain yn sicr." I'w barhau.