Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ADGOFION.

News
Cite
Share

ADGOFION. Ar edyn dychymyg i'r dyddiau a fu, Eheda y meddwl ar droion; Am noddfa i blith cyn-gyfoedion mor gu 0 helbul y byd a'i ofalon A dwg in' oes mebyd a'i golygfeydd pur Yn lluoedd byw ar ddrychlen amser, Ei hawddfyd cyntefig, heb ofal na chur, Ar mwyniant gwir hwnw, a'r pleser. Adgofion ieuenctyd, byw emau ein hoes Yn 11awn diniweidrwydd a phurdeb Pryd nad oedd gwybodaeth am adfyd na chroes. Ond bythol nawdd famaidd diriondeb. Pa le mae y galon nas geilw yn ol Drwy ddrych rai o'i nodau hyfrydaf, Yr aelwyd fynyddig, y bryn neu y ddol ? Maent oil yn 11awn cofion anwylaf. Pan egyr gwawr henaint ar ruddiau fu'n hardd, A'r byd fel pe'n graddol fyn'd heibio, Rhyw adgof foreuol yn dyner a dardd, I arwain y meddwl gwan etto Yn ol i blith blodau ei waith yn y byd Gan agor rhyw fwyniant difesur, A llanw ei enaid blinedig o hyd, A gobaith am fywyd a chysur. 'Rol trosi y rhiniog ar derfyn y dydd, A dechreu y byw sydd ddiderfyn, Rhyw adgof ryfeddol pryd hyny a fydd, Golygfa o'r fan y bu'r cychwyn Am hyny perffeithiwn ein gwaith ar bob llaw, Gan fynu mwynhad o'r presenol, Fel pan ddelo'r alwad y gallom heb fraw, Ol-edrych mewn hedd i'r gorphenol.

ENGLISH ENGLYNION.

[No title]