Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

IBarddoniaeth,

News
Cite
Share

Barddoniaeth, $%iQenaxQl wlad anWyl y detyn ar gan. (BUDDUGOL.) Er cymaint ganmolir o India bellenig A'r eang Amerig fel cysur i fyrdd, Am anfon o'u cynyrch i'r tlawd a'r boneddig, Dros donau chwyddedig yr eang for gwyrdd; Ond adgof am Gymru a'i nentydd tryloewon, Mewn teimlad serchgarol wna'm calon ar dan Tydi yw brenhines y ddaear mewn swynion, Awenawl wlad anwyl y delyn a'r gan. Prydferthwch y rhosyn yw cysur y Saeson, Arwydda yn ffyddlon mai gardd yw eu gwlad, Edmygant ei wen bert, gariadus, yn gyson A'i sawyr wna'u calon yn nef o fwynhad Ond bryniaa hen Gymru, medd calon pob Cymro, Sy'n curo prydferthwch y rhosyn coch glan Wyt uwch na holl wledydd y byd wedi'th buro, Awenawl wlad anwyl y delyn a'r gan. Arwydda'r ysgallen fod gwlad yr Ysgotyn Yn gartref gauafol yr eira a'r ia A'r uchel fynyddau a welir yn estyn Eu penau i dderbyn haul gwresog yr ha'; Anwylach i'm calon yw'r Gader a'r Wyddfa Nac ysgall Ben Nevis a'u holl flodau man, Paradwys y ddaear yw Cymru, mae'n Wynfa, Awenawl wlad anwyl y delyn a'r gan. Edmygu'r feillionen mae'r oil o'r Gwyddelod, Arwydda yn hyglod wyrddlesni eu gwlad; Fe'i gwisgir yn llawen ar foreu diwrnod Ei thaliad blynyddol yn nghanol mwynhad Hon gilia i'r cysgod yn swynion hen Gymru, Lie cefais fy magu ar aelwyd fach lan,— Tra deil cynghaneddion, fy nghalon wna'th garu, Awenawl wlad anwyl y delyn a'r gan. Hyfrydwch y Cymry yw gwisgo'r geninen, A chadw gwyl lawen yn gof am eu Sant; Yn hwyliog i ganu ei glodydd daw'r awen, A thanau Ceridwen adlona ei phlant; Mae disglaer haul Cymru yn araf ymgodi, Ar ael ei ffurfafen, fel mynydd o dan,— Ymglyma fy nghalon fel eiddew am dani, Awenawl wlad anwyl y delyn a'r gan. Willesden. LLINOS WYRE.

[No title]

Drdd y Qolygydd.

[No title]

Family Notices