Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

^a&lyqiaci y JtfeiQydd.

News
Cite
Share

^a&lyqiaci y JtfeiQydd. GAN Y PARCH. J, E. DAVIES, M.A. 0 Y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd," 1 Cor. iv. 16. Y MAE pob dyn yn perthyn mewn rhan i'r gread- igaeth faterol, ac mewn rhan i'r greadigaeth ysbrydol; y mae'r corph o'r ddaear yn ddaearol, a'r enaid o'r ysbryd yn ysbrydol. Mor bell ag y mae geiriad yr adnod sydd yn cynwys y testyn yn myn'd, fe ellid meddwl fod y dyn oddi allan yn golygu y corph, a'r dyn oddi mewn yn golygu yr enaid, heb fod yr un gwahaniaeth peilach yn cael ei gymeryd i'r cyfrif; ond fel mater o ffaith y mae'r dyn oddi allan," gyda golygu y corph, yn golygu y corph fel y mae yn ddarostyngedig i boen- au a thywydd garw; ac y mae y dyn oddi mewn," gyda golygu yr enaid, yn golygu yr enaid wedi ei adnewyddu ar ddelw Duw, y mae yn golygu y creadur newydd-y dyn newydd. Yn awr y mae son am gynydd ynglyn ag unrhyw beth yn cymeryd yn ganiataol fod y peth hwnw yn bod ac am hyny y mae yn rhaid fod y dyn newydd yn bod cyn y gellir son am ei gynydd. O'r tu arall y mae'r ffaith fod y dyn newydd yn bod, yn cymeryd yn ganiataol, a dweyd y lieiaf, y dylai fod yna gyn- ydd yn cymeryd lie yn ei hanes, a sicr yw fod cyn- ydd yn ei nodweddu lie bynag y mae pethau yn ffafriol i hyny. Mae'n wir fod y cynydd hwn yn un PUr ddirgel ac anhawdd ei adnabod. Gwelsom liaws £ grefyddwyr, ar ol bod yn proffesu crefydd am haner can mlynedd, yn analluog i ddyweyd "Yr ydym ni yn awr yn nes na phan gredasom." Ac etto os yw'r bywyd newydd yn ffaith, fe ddylai fod yn myned rhagddo gan gynyddu ar gynydd Duw. mholiad dyddorol a phwysig iawn, gan hyny, ydyw Un a ganlyn :—Pa rai ydynt yr amodau y rhaid ^ydymffurfio a hwynt mewn trefn i sicrhau cynydd y ^yn newydd ? Gan fod y bywyd hwn yn cyfranogi o natur mor YSbrYdol, y mae cryn anhawsder yn bod i olrhain eff g"ynydd, fe allai mai'r ffordd fwyaf ^eithiol i wneyd hyny ydyw trwy gyfattebiaeth. cvlWK keth ydynt amodau cynydd bywyd mewn u erai11' a^wn yn ol rheolau cyfattebiaeth Ac syn^ac* am amodau cynydd y bywyd hwn. am yn y cynllun hwn, ymddengys i mi fod yr vmff canlyno1 yn rhai hanfodol bwysig i gyd- ^ywyd a ^Wynt mewn trefn i sicrhau cynydd pob I. Hinsawdd Dymherus. dvmV^ ^ob math o fywyd wrth hinsawdd era^frUu Cyn y me(^r ymddadblygu. Ar risiau isaf £ 3?? ■ byTyd y mae hyn yn ffaith. Yn y greadig- ysieu°l y mae hinsawdd dymherus yn un o'r elfenau pwysicaf ag y mae yn rhaid wrthi mewn trefn i sicrhau cynydd bywyd. Y mae rhai llysiau a chbedydd i'w cael yn ein gwlad ni na cheir mo hon- ynt mewn gwledydd eraill, a 11awer o honynt i'w cael mewn gwledydd eraill na cheir mo honynt gyda ni. Pe byddai i'r hadau gael eu dwyn drosodd, a'u hau yn briodol, a phob gofal gael ei gymeryd o honynt; etto ni thyfent hwy ddim. A'r unig reswm am hyny ydyw nad yw hinsawdd y wlad ddim yn cyfatteb i'w natur. Y mae genym hefyd y fath beth a blodau haf a blodau gauaf, ac amrywiol bethau eraill yn profi pa mor bwysig yw hinsawdd dymherus yn y greadigaeth lysieuol i dyfiant a chynydd bywyd. Y mae'r un peth yn llawn mor amlwg yn y gread- igaeth anifeilaidd. Ceir llu anferth o amrywiol greaduriaid mewn gwledydd tramor y rhai nad ydynt i'w cael yn ein gwlad ni, a'r unig reswm am hyny ydyw fod yr hinsawdd yn rhy oer i rai o hon- ynt, ac yn rhy gynhes i eraill. Y mae llwythau o adar i'w cael sydd yn teithio o wlad i wlad yn ngwa- hanol dymhorau y flwyddyn gan ddilyn yr hinsawdd sydd yn gyfaddas iddynt. Ymwelwyr felly yw y gog a'r wenol, a phan gymerant hwy yr aden i wledydd eraill y mae llwythau o adar gauaf yn dyfod yn eu lie ar y tywydd oer. Mor gyffredinol yw'r ddeddf sydd yn hawlio hinsawdd dymherus er dad- blygu bywyd, fel y mae naturiaethwyr yn medru darllen hanes y cread, i fesur mawr, yn ei goleuni hi. Wrth sylwi ar y ffosylau-sef y creaduriaid a'r llysiau sydd wedi ymgaregu yn nghrystyn y ddaear -y maent yn gallu dyweyd oddi wrth natur y gweddillion hyn beth oedd yr hinsawdd neu'r tym- heredd yn y wlad hon pan ffurfiwyd yr haenau sydd yn eu cynwys. Y mae hyn oil yn ddigon i brofi fod yn rhaid i bob bywyd o fewn cylch ein gwybodaeth ni, gael hinsawdd dymherus mewn trefn i ym- ddadblygu. Yn wyneb y ffeithiau hyn, credwn nas gall neb dybied ein bod yn rhoddi cam rhy feiddgar wrth ddweyd fod yr un peth yn wirionedd am y bywyd newydd. Y mae yn rhaid i'r bywyd hwn wrth hin- sawdd dymherus ac amgylchoedd cyfaddas mewn trefn i ymddadblygu. Hinsawdd crefydd a moddion gras, ac nid hinsawdd lygredig a phechadurus sydd yn gweddu i'w natur, a rhaid wrth yr hinsawdd hono mewn trefn i sicrhau ei gynydd ysbrydol. Pan ddarfu i Dduw neillduo cenedl iddo ei hun, fe'i gosododd mewn hinsawdd ac amgylchoedd newydd- ion Pan ddarfu i Grist alw disgyblion, fe ofalodd am eu dwyn i hinsawdd ei deyrnas ei Hun, ac fe wnaed hyn yn y naill amgylchiad a'r llall, am fod hyny yn anghenrheidiol mewn trefn i sicrhau cynydd ysbrydol. Yr un fath etto-nid yn hinsawdd y byd, nid yn hinsawdd pleser cnawdol, pechod a llygred- igaeth, nid yn hinsawdd y dafarn a'r chwareudy, a'r cyffelyb y gall dyn newydd gynyddu ar gynydd Duw. Yr un peth fyddai disgwyl i eirth y pegynau fyw yn mhoethiant y trofanau, neu ddisgwyl i blan- higion y ty brwd flaguro yn hinsawdd oer yr ia gogleddol, a disgwyl i'r dyn newydd gynyddu yn