t faith Qymraeg yn em SgmiW deithasau llenyddol."|1895-01-19|The London Kelt - Welsh Newspapers" /> "~ £ >t faith Qymraeg yn em SgmiW deithasau llenyddol."|1895-01-19|The London Kelt - Welsh Newspapers
Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

"~ £ >t faith Qymraeg yn em…

News
Cite
Share

£ >t faith Qymraeg yn em SgmiW deithasau llenyddol." GAN OGWENYDD. Wel, y cwestiwn sydd a fynom ni yn yr ychydig sylwadau y ceisiwn eu hysgrifenu ydyw, y modd y mae yr hen laith Gymraeg yn cael ei sarhau yn ein 6 Cymdeithasau Llenyddol, yn cael ei anmharchu meg-is ar ei haelwyd ei hun. Cymeraf i ddechreu dair o brif Gymdeithasau Llenyddol Cymreig per- thynol i dri enwad crefyddol; sef, Castle St. (B.), Tabernacl King's Cross (A.), a Charing Cross Road (M.C.). Yn awr, ceisiaf mewn cyn lleied ag y bydd modd o'ch gofod gwerthfawr, ddangos fod yr Iaith Gymraeg- wedi gorfod rhoddi ffordd i raddau helaeth yn y tair cymdeithas hyn. Dechreuwn gyda Castle St., mae y rhaglen o fy mlaen pan yn ysgrifenu wrth edrych dros y rhaglen hon y mae fy ngwaed Cymroaidd yn dechreu berwi yn fy ng-wythienau wrth ganfod hyd yn nod enw y gymdeithas mewn Z, iaith estronol, er fod hen arwyddair Gymreig GOREU ARF, ARF DYSG mewn lie amlwg ar ben y wyneb-ddalen o'r rhaglen, a dyma g"ymaint o Gymraeg" ag" a welir ar y rhan hon o honi; ond yn awr agorwn i weled faint o le mae yr hen Gymraeg yn ei gael yn y rhan hon o'r rhag- len. Dechreuant yn dda, ond gwelaf fod amryw o'r adranau arni wedi cael eu llusgo i'r iaith fain, er fod pob un ag sydd yn Gymraeg wedi eu cyfieithu i'r Saesneg, etto nid ydynt wedi myned i'r drafferth o gyfieithu i'r Gymraeg y testynau hyny ag sydd wedi eu hargraphu yn Saesneg; ar ol edrych fel hyn dros y rhan hon o'r rhaglen awn yn awr at reolau y gymdeithas, y rhai sydd o'r dechreu i'r diwedd wedi ei hargraphu mewn iaith estronol. Angenrhaid o'r fath fwyaf pwysig mae yn ddiddadl ydyw yr hys- bysiad ar ddiwedd rhaglen fel hon mor Hawn o'r iaith Saesneg, mai gwasanaeth Cymraeg a gyn- helir yno ar y Sabbath." Wedi edrych fel hyn dros y rhaglen, mae yn naturiol i mi edrych yn ol ar rai o'r cyfarfodydd yn mha rai y bum yn bresenol, a cheisio meddwl a ydoedd yr IAITH GYMRAEG YN CAEL EI LLE PRIODOL yn y cyfarfodydd hyny. Bum yn Castle St. amryw droion ar nos Sadwrn, ond mae yn rhaid i mi ddy- weyd, a hyny yn onest, mai ychydig iawn o le mae yr hen iaith yn ei gael yn eu cyfarfodydd wythnosol. Gresyn o beth onid ê, ydyw gweled ar y rhaglen 11 Cyngherdd Cenedlaethol a rhan helaeth, yn wir, y rhan helaethaf o lawer o hwnw mewn iaith es- tronol onid ydyw peth fel hyn yn warth ar Gymru, Cymro a Chymraeg ? Mewn eraill o'r cyfarfodydd, sef, dadleuon, &c., clywais rai yn siarad yno ar wa- hanol destynau yn Saesneg, a hwnw mor druenus o wael, fel ag i'm gwneyd i deimlo yn ddig fod rhai o'm cydgenedl wedi syrthio mor isel a gwneyd ffyl- iaid o honynt eu hunain, amryw o honynt pe buasent yn siarad hen iaith eu mamau, a fuasent yn gallu gwneyd sylwadau a fuasent yn werth gwrando arnynt, ond y mae yno eraill a thipyn o sawyr DIe SION DAFYDD 0'1 CWMPAS, ac mae yr hen laith Gymraeg yn rhywbeth rhy isel a gwael iddynt hwy ei harfer. Nid at y rhai hyny yr ydwyf fi yn ceisio anelu y sylwadau hyn, gan nad ydwyf yn credu eu bod yn werth yr amser na'r inc i ysgrifenu am danynt; pe yr aethent hwy, bob gopa gwalltog o honynt, at y Saeson, ni buasem ni fel Cymry yn teimlo colled ar eu hoi, a gallaf fod yn sicr na buasai y Saeson ar eu henill chwaith. Ond fy amcan yn fwyaf neillduol wrth ysgrifenu yr ych- ydig sylwadau hyn ydyw, cael gan wahanol arwein- wyr yn ein cymdeithasau i feddwl am y sarhad y maent yn ei roddi ar yr hen iaith. Gadawaf gymdeithas Castle St. ar hyn y tro hwn a symudwn yn mlaen at Tabernacl King's Cross (A.). Wrth edrych dros raglen y gymdeithas hon 'rwyf yn canfod nad ydynt wedi syrthio i'r un pechod ar y wyneb-ddalen, maent wedi gofalu am roddi hen arwyddair Cymreig "GWELL DYSG NA GOLUD ar ben y ddalen, ac nid yn unig hyny, mae enw y gymdeithas yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr hen iaith yn cael y flaenoriaeth ond wrth edrych dros y rhaglen gwelaf fod yr hen Gymraeg wedi cael ei hesgusodi, fel pe na byddai air neu eiriau ynddi i

Qymrv Gyfan.