Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

I)-gn a £ * )afad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

a'i addoli, na darparu erbyn byd dyfodol, &c., beth yw y rhai hyny well na'r anifeiliaid ? Dyn mewn anrhydedd ac heb ddeall sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.' III. DYN YN UWCH NA'R ANIFAIL. I Mae felly o ran ei greadigaeth.-Fe'i crewyd ar ddelw Duw, a dyma ei brif ogoniant, fel mai yr argraph sydd ar y Bank Note sydd yn gosod gwerth arno. Nid oes yr un creadur yn y byd yma yn ddigon ardderchog i Dduw osod ei ddelw arno ond dyn. Ac er fod dyn wedi colli delw foesol Duw, sef ei sanct- eiddrwydd, etto, y mae delw naturiol Duw yn aros arno, fel y mae yn greadur ysbrydol ac anfarwol. Ac fel y mae mwy o ardderchogrwydd yn perthyn i adfeilion hen gastell godidog, neu deml ardderchog, nag i fwthyn yn ei fan goreu, felly y mae dyn, er ei gwymp galarus, yn rhagori ar yr anifail. Ac y mae genedigaeth plentyn bach yn ddigwyddiad pwysicach na chreadigaeth yr haul, er ei holl faintioli, ei ys- plander, a'i wasanaeth. 2 Mae dyn yn rhagori ar yr anifail o ran ei gynedd- fau a'i alluoedd.-Nid oes yma yr un creadur ond efe a fedr wneyd dim sydd yn haeddu ei alw yn wylo a chwerthin. A meddylier am ei serch a'i allu i garu. Mae yr iar yn hoff iawn o'i chywion, a'r ddafad yn hoff o'i hoen, am dymhor byr; ond fe fydd yr iar wedi anghofio ei chywion, a'r ddafad wedi anghofio ei hoen, yn ebrwydd eithr nid felly y fam a'i phlentyn. Meddylier drachefn am ddeall ac amgyffredion dyn. Mae y wenynen a'r aderyn yn gallu gweithio yn gywrain iawn trwy reddf. Ond nid ydynt yn gwneyd dim cynydd; ac nid yw yr anifeiliaid yn dysgu dim oddi wrth eu blaenafiaid. Mae deall ac amgyffredion dyn yn peri ei fod yn rhagori yn ddirfawr ar yr anifail yn ei allu i droi elfenau natur at ei wasanaeth. Mae y gath ar yr aelwyd yn gweled y forwyn yn cyneu tan bob boreu; ond ni ddysga y gath byth, er hyny, wneyd tan ei hunan. Ond meddylier am y defnydd a'r gwasan- aeth pwysig y mae dyn yn gallu ei wneyd o'r tan, a'r trydan, &c. Ond wedi y cwbl yn ei allu i addoli a mwynhau Duw y mae prif ragoriaeth dyn ar yr anifail. Mae dyn wrth addoli yn ymddyrchu o fyd yr anifail i fyd yr angel. Mae gan anifail ryw fath o enaid, oblegid y mae yn medru deall a chofio, a theimlo hoffder a chasineb, &c.; ond y mae ysbryd, yn gystal ag enaid, mewn dyn. 3 Mae dyn yn rhagori yn anrhaethol ar yr anifail am ei fod yn greadur anfarwol.-Mae yr anifail yn darfod am dano pan y mae yn trengu; ond y mae yr ysbryd sydd mewn dyn yn myned yn angeu at Dduw yr hwn a'i rhoes;' ac y mae i fod yn dded- wydd neu yn druenus byth, a'i alluoedd i fwynhau dedwyddwch, neu ddioddef trueni, i gynyddu yn oes oesoedd. Y groes yw y prawf goreu o bwysigrwydd a gwerth dyn. Nid aiff yr un dyn doeth a synwyrol i draul fawr i brynu tegan distadi a diwerth. Ond meddyl. ier am y draul yr aeth y nefoedd iddi i brynu a gwaredu dyn! Gan wybod nad a phethau llygredig megis arian neu aur y'ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad eithr a gwerthfawr waed Crist.' Yr oedd y nefoedd yn gwybod fod defnydd seraff yn y plentyn troed-noeth carpiog, a defnydd angyles yn y bechadures waradwyddus. Ac er fod dyn wedi syrthio yn is na'r anifail, fe ellir ei godi etto, trwy ras, yn uwch na'r angel. Fe fydd y saint yn y nef yn nes i'r orsedd na'r angylion a'r seraffiaid, am eu bod yn perthyn yn agosach i'r Gwr sydd ar yr orsedd. Dysged dynion osod gwerth priodol arnynt eu hunain. Nid ydynt yn foddlawn i werthu eu hanifeil- iaid am lawer llai na'u gwerth. Ond y fath syndod a thrueni fod miloedd o ddynion yn gwerthu eu hunain mor rhad i bechod a satan O lymeitwyr a diot- wyr! 'yn rhad yr ymwerthasoch.' Ai tybed mewn difrif, nad ydych yn werth mwy na'r glasieidiau o gwrw a gwirodydd, am ba rai yr ydych yn gwerthu eich parch, eich cysur, eich iechyd, a'ch eneidiau I (Symrtc Cff%rdd league. A conference took place on the 4th inst. at Cardiff between the Executive Committee of the South Wales Liberal Federation and representatives of the various branches of the Cymru Fydd League, form- ing one of the largest gatherings hitherto held of representative Liberals in South Wales. One feature was the large number of Labour representatives in attendance, and another was the presence of ladies. It was resolved (I) That, in the opinion of this con- ference, it is desirable that there should be one national political organisation only, instead of two; (2) that this one political organisation should include the whole of Wales, and Welshmen who reside in England also, and that the distinction of North and South Wales should be ignored; (3) that the English title of the new organisation should be The Welsh National Federation," and the Welsh title should be "Cynghrair Cenedlaethol Cymru Fydd"; (4) that the rules of both the existing organisations should be submitted for the consideration of a committee of eighteen, to be selected as follows Six by the South Wales Liberal Federation, three by the North Wales Liberal Federation, and nine by the Cymru Fydd League; (5) that it is desirable that local branches of the new organisation be formed as soon as the arrangements are completed throughout Wales and among Welshmen in England, and that women should be admitted as members on equal terms with men. Subsequently the South Wales Federation Executive Committee and the Cymru Fydd League conferred separately to elect their members of the committee to draw up rules.