Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

"Bamboozlo'r Shoni-hois."

[No title]

Briwsion o Bell ac Agos.

News
Cite
Share

Briwsion o Bell ac Agos. TEITHIO cyflym sydd yn nodwedd tra chyffredin yn ein dyddiau m ond fe ddywedir fod brawd o fardd, a gwr lied boblogaidd, wedi cael allan yn ddiweddar fod pellder aruthrol rhwng hen dref y Fenni a'r lie poblog hwnw uwch y Rhondda a elwir Tonypandy. Gresyn nad allem berswadio y brawd i ysgrifenu hanes y daith fythgofiadwy, er budd y cyhoedd. Os nad oes digon o ddefnyddiau ynddi i wneyd llyfryn tair ceiniog, gellid yn hawdd gosod marwnad yr hen geffyl gwyn fel atodiad i'r llyfr, er mwyn ei wneyd yn werth yr arian. S6n am fyned o amgylch y byd Fe fuasai y teithiwr enwog, W. O. Thomas, Ysw., wedi teithio o Lanbadarn-fawr i Singapore mewn llai o amser ond eto, nid llai dyddorol y daith o'r Fenni i ddyffryn y Rhondda gyfoethog. 0 FYN neb ddysgu y gelfyddyd o gardota, rhaid iddo wrth athraw a chan fod gwr pwysig wedi agor coleg i berffeithio dysgyblion yn y gelfyddyd, nis gall yr awyddus wneyd yn well na myned trwy gwrs o addysg o dan nodded yr athraw hwn. Ni bydd y gwersi yn ddrud iawn, am fod yr athraw wedi dysgu cynildeb drwy dalu arian mawr am wersi ei hun. Tipyn o bwnc ydyw cael athraw profiadol, a sicr ydyw y cyduna Meurig Dafod Aur a mi yn y golyg- iadau hyn a phwy fedr amheu cymhwysder y gwr cyhyrog hwnw i draethu barn gorsedd ar bynciau cyhoeddus ? Na fynegwch hyn yn y Rhondda na Glynnedd, ond gall bydd y brodyr tua Brynaman yn hoffi clywed y newydd; ond dyna, fe ddaw yr Esgob heibio un o'r dyddiau nesaf. CYFAILL yn ddiweddar yn rhoddi eglurhad ar "Ryddid yn ei wahanol gysylltiadau,an- rheg werthfawr i ddyn fyddo yn gallu gwerth- fawrogi rhyddid yn y cyfeiriad iawn. Nid oes neb erioed wedi dyoddef dim trwy ymarfer rhyddid, ond mae camarfer y cyfryw wedi maglu llawer un cyn yma, a hyny yn benaf trwy gamarwain y bobl i gamarfer rhyddid yn ei gysylltiad a'r byd. Bydd i'r neb a doro ddeddf ohono ei hun orfod dyoddef y canlyn- iadau, os na fydd yn alluog i hudo ereill i gyd- ddyoddef, gyda'i dafod melfedaidd a'i wenau ffug-sancteiddiol, gan liwio ei hun gyda'r teitlau cymydog, cyfaill, ac amddiffynydd y gorth- rymedig. Mae y fantell neu yr hugan grefyddol yn hwylus iawn mewn ymddangosiad allanol, a thebyg fod cydwybod y sawl a'i gwisga wedi ei serio seithwaith cyn y gall ymddangos o flaen y byd fel colofn o rinwedd. Purion ydyw dynoethi drygau a datguddio anwireddau ond, aros, ddarllenydd, beth am y celwrn mawr o dan nawdd ac amddiffyniad yr athraw mawr- eddog hwn ? Mae yn amheus fod ganddynt lawer o barch i burdeb a gwirionedd, os na ddygwydd ateb yn well na llysnafedd ac athrod. Amser yn unig all ddwyn y cyfryw i'w safle a'i lie priodol, fel na rhaid i neb wrth wydrau i ddarllen y cymeriadau. MAE llawer tro difyr yn dygwydd, a llawer amgylchiad ysmala yn cymeryd lie yn y byd yn gysylltiedig ag amryfal bleidiau. Plant enwog o ryfedd ydyw canlynwyr Booth, y rhai a alwant eu hunain yn Fyddin yr lachawdwr. iaeth." Heb esgyn i sedd barn, rhaid cydna- bod, os crefydd a duwioldeb ydyw peth fel hyn, rhaid i bawb dewi, tra bydd y Beibl yn dweyd mai "gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Os cywir y frawddeg, mae y gwirionedd yn condemnio yr hyn a ddelir i fyny gan Booth. Mae yn bosibl i'r cyfundeb wneuthur ychydig o ddaioni, ond pwnc arall ydyw achub byd o bechaduriaid. Nid arddangosiadau allanol ydyw yr amlygiadau cywiraf o dduwioldeb, a sicr nad yw cynhyrfiadau ynfyd yn amlygiad o raslonrwydd a phurdeb. CEIR ami i hanesyn o wahanol gyfeiriadau yn amlygu dichellion a thwyll y benthycwyr arian (money-lenders); ond, weithian, mae y gyfraith yn cymeryd mwy o sylw o hyn, ac yn mynych atal rhuthriadau y teulu hwn pan fyddont yn ymddwyn yn annghyfiawn. Yr Iuddewon, medd y bobl, sydd yn cadw y swyddftydd hyn, a dichon fod hyny yn gywir i raddau mwy neu lai; ond os bydd neb yn dewis manylu, bydd yn debyg o daro ar ambell Gymro yma a thraw yn gymaint o Judas a neb o blant Abraham. Cymer y Cymro fantais ar ei haniad cenedlaethol, ac nid yn unig hyny, eithr bydd yn alluog i ffugio tynerwch crefyddol, tra, ar yr un pryd, ni bydd yn amgen na blaidd mewn croen dafad. Huw LLWYD.

[No title]

Cyfarfod Misol Bedyddwyr Aberdar.

Llofruddiaeth arall yn yr…

Trengholiadau yn y Rhondda.

Yr Eisteddfod Genedlaethol.

[No title]

Advertising