Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YR ESTRON.I

News
Cite
Share

YR ESTRON. I PENOD X. Gan na orphenwyd hanes Don Carlos.1 Fuentes, tad Caradog, yn y benod o'r blaen, j rhaid i ni roddi parhad ohoni yn y benod Jbon. Fe gofia y darllenydd mai yn y pwll y gadawsom ef ac un o'i elynion ddiweddaf, yn ol adroddiad eihanes. u Bum mewn llewyg am hir amser wedi cyrhaedd gwaelod y pwll," ychwanegai y Don, "ac ocheneidiau fy ngelyn anafedig oedd o danaf a arweiniodd fy meddwl yn ol i helyntion dyrys a blin yr oriau di- weddaf. Wedi sefyll ar fy nhraed, rhydd- heais y rhaff dew oedd yn rhwymedig am fy nghanol, ac ymbalfalais fy ffordd yn y el tywyllwch caddu.-awl i ochr y pwll. Yr oedd dim i'w glywed ynddo ond ocheneid- iau y dyn clwyfedig, a gwichiadau heidiau o lygod newynllvd megys yn canu ac yn dawnsio wrth leddwl am y wledd ragorol oedd ein cyrff yn addaw iddynt. Yn fy nghynddeiriogrwydd, rhuthrais yn ol at fy ngelyn, a chan grafangu ynddo, gwaeddais allan, Dywed, y filain, yn mha le yr wyf, ac am ba beth v taflwyd fi i'r fath Ie?' Ond ochenaid uwch a mwy torcalonus oedd yr unig ateb a gefais, ac yr oedd yn hmlwg fod ei ddyoddefiadan wedi dyrysa ei syn- wyrau. Teimlwn fy nghalon yn syrthio, a'm hysbryd yn pruddeiddio wrth feddwl am fy sefyllfa-wedi fy ngbloii fyny mewn pwll erch a thywyll i farw o newyn, ac yn nghwmni dyn gwallgof! Ymadawodd pob teimlad nwydus a digofus o'm meddwl, a chymerwyd eu lie gan ofn dychrynllyd am y diwedd ofnadwy oedd yn fy aros. Gosod ais y dyn i orwedd i lawr mor gysurus ag oedd modd, a theimlais fy ffordd yn ol i ochr y pwll. Wedi ymbalfalu o'i gylch, deallais mai pedrongl ydoedd, ac yr oedd yr ochrau yn gynwysedig o graig lied feddal. Yr oedd pob ochr yn mesur cymaint ag y gallaswn ymestyn a'm breichiau chwech gwaith. Fel yr oeddwn yn symud, teiml- wn esgyrn dignawd yn malario o dan fy nhraed, a thinciad haiarn, a phethau pwdr yn myned yn ddarnau. Unwaith, cymer- ais rywbeth oedd dan fy nhraed i fyny, ac wele rhyw sylwedd mawr ei faint ydoedd. Oherwydd ei gyflwr pydredig, torodd gan adael y rhan ysgafnaf ohono yn fy llaw. Rhywbeth hirgylch, tebyg i wy, ydoedd, ac un ochr ohono yn anwastad a thyllog. Nid wyf yn ofergoelus, nac ychwaith yn annewr ond pan ddaethum i wybod beth oedd yn fy Haw, aeth rhyw ias oer drwy fy ngwythienau, cododd fy ngwallt mor syth ag esgyll draenog ofnus, a llesmeiriodd fy nghalon. Penglog dynol ydoedd Bu y tipyn asgwrn pydredig hwn unwaith yn deml anaid byw Beth pe gallasai y pen- glog hwn barablu geiriau fel yr arferai? Diau mai erchyllderau poenydiadau a newyn fuasai ei destyn cyntaf! Aeth fy mysedd trwy y llygaid, syrthiodd y danedd i'm dwylaw, a theimlais ddarn bychan o gnawd blewog oedd eto ar ol o'i wallt. Yn fy ughryndod, syrthiodd y penglog o'm dwy- law, gan ddisgyn ar ben fy ngelyn, yr hwn a roddodd ochenaid anarferol mewn ateb- iad. Fflachiodd y meddwl trwy fy ymen ydd dychrynedig fy mod wedi cael fy ughladdu yn fyw mewn bedd oedd yn cynwys gweddillion y rhai a'm blaenorodd. Rhuthrais o amgylch y pwll eang gyda gwylltineb ac anmhenderfynedd anobaith. Yr oedd ysgrechiadau ac ocheneidiau y dyn clwyfedig yn gwneyd yr olygfa yn fwy hyll, ac yn ychwanegu erchyllder y tywyll. wch. Ymdrechais unwaith eto gael rhyw wybodaeth oddiwrth fy nghyd-garcharor; ond wrth glywed fy llais, adnewyddodd ei ysgrechiadau, ac ymryddhaodd o'm gafael gyda nerth pedd bron yn rhyfeddol. Araf dreuliodd yr amser, ond nid oedd dim i gofnodi symudiad amser ond curiadau fy nghalon, a dolefau fy nghydymaith. Fel yr oeddwn yn pwyso yn erbyn y mur, gan edrych i fyny i'r tywyllwch oedd uwch fy mhen, gwelais rhywbeth golen yn uchel iawn i fyny, fel gwrthddrych mewn gwisg goleu. Yr oeddwn yn rhy hwyrfrydig i gredu mai ysbryd oedd. Credais ar y cyntaf mai breuddwydio oeddwn, ond yn fuan, daethum i ddeall mai crac yn y graig oedd. o fel y parchwn ac yr addolwn yr ysmotyn goleu hwnw! Pan yn dyoddef yn fawr oddiwrth syched a newyn, tynwyd fy sylw gan symudiad y gareg uwchben ac mewn ychydig fynydau, hongiwyd lamp gyneu- edig i lawr drwy agoriad a wnawd gan symudiad y gareg, yr hyn a oleuodd y lie uffernol hwn, gan ddatguddio i mi bethau annesgrifiadwy o erchyll. Gwelwn fy mod yn damsang twmpath o ysgerbydau cnawd. dreuliedig, a thyllau dirifyangwaelody maswnwaith, lie yr oedd penau amryw lygod yaglyfaethus yn awr ae yn y man i'w gweled, i ba leycilxasant am loches pan oleuwyd y pwll. Wedi hongian y lamp i lawr, cafodd basged, yn cynwys torth o fara, a phiolaid o ddwfr, ei ostwng i lawr i ni am y tro cyntaf yn ystod y tri diwrnod yr oeddwn wedi bod yno. Crafangais yn y phiol fel pa mai rhyddid ydoedd, ac yr ¡ oedd y dyferyn cyntaf a syrtbiodd ar fy nhafod poeth fel rhagbrawf o Baradwys Teimlwn ysbryd Cristion yn fy mynwes yn J gorthrechu y teimlad hunanol hwnw o twynhau fy hun yn gyntaf; felly, gosodais I y botel wrth enau y creadur anffodus, yr' hwn, druan, a yfodd yr oil. Erbyn hyn, yr oeddem yn y tywyllwch caddugawl eto trwy i'r lamp gael ei thynu i fyny. An- Dghofiais y carcharor a sefyllfa fy hun wrth droi fy meddwl yn ddisymwth at fy ngwraig a'm plentvn anwyl. Yr oedd dychymygu eu bod yn nwylaw rhyw greaduriaid bar- baraidd ac annhrugarog yn fy ngyru ya gyflym i gyffiniau gwallgofrwydd. 0 fel yr hiraethwn am ryddhad, fel y gallaswn redeg i'w cynorthwyo, Yn cael fy adgyf- nerthu gan y bwyd, penderfynais wneyd un ymdrech fawr i fyned atynt. Ond yn mha ffordd ? Cyfodais fy llygaid i'r nef- oedd fel pe yn gofyn am nawdd y Gor- uchaf pan welais y goleu yn dysgleirio trwy y crac yn y mur. Dyna'r porth,' meddwn wrthyf fy hunan, i mi gael mynediad allan i'r byd eto' (I'w barhau.)

Bywyd ac Anturiaethau Cadben…

COLEG Y GWEITHIWR.

Pwy yw John Dunn ?