Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. ER fod y fasnach haiarn Americanaidd, yn ddios, wedi colli y bywiogrwydd oedd ynddi vn weladwy yn y blynyddoedd 1880 a 1881, y mae, er hyny, gryn lawer o waith a masnach. yn cael eudwyn yn mlaen mewn defnyddiau rheilffyrdd. Yn Philadelphia, mae prisoedd rheiliau dur yn weddol sefydl- og, er y rhaid cyhoeddi y farchnad yn hynod dawel. Ond beth bynag a all fod sefyllfa bresenol masnach yr haiarn yn yr Unol Dalaethau, nis gall fod amheuaeth yn mherthynas i'r tulaethal1 mwyaf gorllewin- ol eu bod yn gwneyd cynydd mawr a rhy- feddol. Pan y dywedwn "y talaethau gor- llewinoi," rhaid i ni gynwys y talaethau de-orlle-srinol a gogledd-orllewinol,-mewn gwirionedd, yr oil o'r rhaoau newyddion o'r Weriniaeth fawr. Mae y cynydd arutbr-. ol sydd wedi cymeryd lie yn y rhanau cry- bwylledig yn dangos yn amlwg y bydd galwad am reilffyrdd, ac am hyny y bydd cais rhyfeddol am haiarn rheilffyrdd yn yr Unol Dalaethau yn ystod y pump neu y chwech mlynedd nesaf. Mae y moddion cynyddol o gynyrch y mae y melinau rowlio Americanaidd yn awr yn feddianu yn debyg o dueddu i wneyd llesianau y rheilffyrdd yno yn fwy annibynol na chynt am gyf- lenwadau o reiliau o'n gwlad ni; ond mae arwynebedd y Weriniaeth fawr American- aidd mor helaethfawr, fel y mae cludiad defnyddiau rheilffyrdd yn unig o Bennsyl- vania neu Ohio i'w ystyried fel set-off, i ryw helaethder, i'r aufanteision ag y mae rheiliau ein gwlad ni yn llafario o danynt oherwydd y diffyn dollau a arosodir arnynt wrth fyned i mewn i'r porthladdoedd Amer- icanaidd. Dichon eto y gellir dangos a phrofi y gellir anfon rheiliau ein gwlad ni i bwyntiau neillduol, y fath ag yw San Fran- cisco, Pugent Sound, neu Galveston, mor rhad ag y gellir anfon rheiliau American- 0 aidd, neu hytrach yn rhataqh, Bydd i ym- drafodaeth y pum' mlynedd nesaf bender- fynu a all hyn gymeryd lie. Os gellir, bydd galwadau eto am ein rheiliau mewn manau neillduol o'r Unol Dalaethau os na ellir, rhaid i'n meistri haiarn, am unwaith yn ychwaneg, roddi eu hunain i fyny i gael eu troi allan o'r farchnad Americanaidd, yn debyg i'r hyn a wnaethpwyd a hwynt yn y blynyddoedd 1877 a 1878. Trwy SIR FYNWY, y mae cryn fywiogrwydd, a dyfalweh mawr yn yr allanforiadau o lo, haiarn, a dur o Gasnewydd, prif borthladd y sir. Trwy y gweitbfeydd, mae yr adroddion yn weddol dda, a'r gweithio yn weddol gyson, ond an- hawdd yw penderfynu dim yn gywir am y dyfodol. Tua Rhymni, mae masnach yn ymadnewyddu oddi wrth yr hyn y mae wedi bod yr wythnosau a aethant heibio, yn benaf yn masnach y rheiliau dur. Mae melinau y cyfryw yn gweithio amser llawn drwy yr wythnos ddiweddaf, a rhoddir ar ddeall fod archebion gweddol mewn Haw. Owell amser hefyd ar y glo ager, a dim lleihad yn y glo tai, ond nid oes yn yr un ohonynt yr un cyfnewidiad yn y prisoedd. Yn MERTHYR TYDFIL, fel y dywedai ein hysbysydd, y mae argoel- ion sicr bron y bydd i dir gael ei dori yn Nghyfarthfa yn mis Gorphenaf. Trwy yr adran, mae masnach y glo a'r haiarn yn cadw i fyny yr un nodweddiad. Clywir yehydig o achwyniad yn nghylch y glo. Hytrach yn farwaidd y mae yr haiarn, ac y mae methiantau difrifol mewn cysylltiad a'r alcan yn siroedd Morganwg a Mynwy wedi gwneyd pethau i edrych yn waeth. Yn Nowlais, mae gweithio bywiog ar reiliau •dur. ,Tn adran ABERTAWE, mae y gweithfeydd dur yn Nglandwr a Phontarddulais yn weddol dda am archeb- ion, yn benaf am symiau bychain o nodwedd amrywiaethol, fel y mae y gweithio yn weddol fywiog, ond y prisoedd yn isel. Ya yr adran hon, nid oes gwelliant yn y ceis- iadau Americanaidd. Mae y gweithfeydd alcan yn parhau yn yr unrhyw sefyllfa isel ag y mae wedi bod er's rhai misoedd, ac nid oes modd codi y prisoedd. Mae gwneuthur- iad patent fuel yn cynyddu. Yr oedd yr allforiadau o lo yma yr wythnos ddiweddaf yn 21,175 o dunelli; patent fuel, 7,200 o dunelli; priddfeini, 664 o dunelli; haiarn, 82 o dunelli; a golosglo, 58 o dunelli. Yma yn STGHAERDYDD, mid oes genym yr un newydd neillduol i'w adrodd am fasnach y glo. Tua 39,000 o dunelli o lo yn llai wedi ei allforionalr wythnos flaenorol, ond eithriad oedd yr wythnos hono. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, 106,215 o dunelli o lo, 5,132 o dunelli o batent fuel, 1,678 o dunelli o haiarn a dur, a 70 o dunelli o olosglo. Gwaith tra chyson drwy holl weithfeydd glo yr adran. 0 adranoedd ereill y mae yr haiarn a'r dur, y rhan fwyaf, yn dyfod yma. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Mai 22, 1882.

COLEG Y GWEITHIWR.

Bwriad i Lofruddio Mr. Forster…

Damweiniau Angeuol yn Treberbert.

[No title]

ARMY! ARMY!! ARMY!!! <

EIRNIADAETH GERDDOROL EISTEDDFOD…

YSTRAD RHONDDA.