Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Os am nwyddau da, am bris rhesymol, ewch at ARTHUR J. WILLIAMS, Grocer & Provision Merchant, 6, COMMERCIAL-STREET (drws nesaf i'r Welsh Harp), Aberdar. BIR MIN G H A M GOODS. Ironmongery, JD Clocks, Watches, Sports, Prizes, &c. AGENTS WANTED. Variety Catalogue free. Apply HENRY MAY (245), Birmingham. 2651 TABERNACLE, ABERDARE. A GRANlTbazaar AND FANCY FAIR CONNECTED with the above Church, will he C held at the TEMPERANCE HALL. Further particulars will appear in a few weeks. 2593 Llyfr Poblogaidd. CHWEDL Gymreig, -"YR ENETH AM- DDIFAD (buddugol yn Eisteddfod Ffes- tiniog). Os dymuna unrhyw ddyn neu ferch ieuanc gael llyfr difyr a buddiol, o'r hwa y gwerthwyd 600 mewn llai na pymthegnos yn Ffestiniog, heb son am un man ara.11, anforier chwe' stamp geiniog i'r cyhoeddwr :—ROBERT R. HUGHES, Bookseller, Blaenau Ffestiniog. [2601 TEXAS, Unol Dalaethau America. AM bob hysbysrwydd yn nghylch TEXAS, anfoner i'r cyfeiriad isod. Ca pob llythyr ac ymofyniad cylw uniongyrchol REV. J. M. JONES. Houston, Texas, U.S. Cymanfa Morganwg. CYNELIR y gymanfa uchod yn Saron, Aber- C aman, dyddiau MERCHER a IAU, Mehefin 21ain a'r 22ain. Erfynir ar y brodyr sydd a materion ganddynt i'w dwyn gerbron y gynadl- edd, i anfon hyny i un o'r ysgrifenyddion erbyn Mehefin 14eg. Cyferfydd y pwyllgor yn Saron, Mehefin 20fed, am chwech o'r gloch. Dymunir gweled holl weinidogion y sir yn bresenol, a phawb ereill a allant fod yn gyfleus. Dewch, frodyr, yn gryno. 2661 R. ROWLANDS. NR ARWYDDAIR FO dik KHYDDID POB OR ADD HEB NA LLADD NA LLID. I ABERDAR, GWENER, MAi 26, 1882.
YR IWERDDON BOENUS.
YR IWERDDON BOENUS. MAWR yw helbul, trafferth, traul, a gofid y Llywodraeth Brydeinig gyda yr ynys fechan, ond aflywodraethus hona sydd yn gorwedd rhyngom a gwlad machludiad haul. Y mae yn fwy anhy- waith, terfysglyd, ac annheyrngar na nemawr un o'r ymddybyniaethau Pryd einig ereill ag sydd yn llawer mwy eu maint a lliosocach eu preswylwyr, ac feallai lawn cymaint, os nid mwy, eu gwasgfeuon a hithau. Gwlad yn meddu trigolion anfoddog, anufudd, ac anniolcb- gar yw yr Iwerddon. Gwneler a fyner o gymwynasau a hwynt, ac estyner a fyner o ffafrau iddynt, anfoddhaol, anniolchgar a thrahus ydynt hwy wedi'r cyfan. Ni fyddai waeth i Loegr pe suddid yr Iwerddon i waelod yr Atlantig y fory nesaf; ond tra fyddo hi uwch gwyneb y dyfroedd, bydd yn rbaid i Loegr gadw ei gafael ynddi, oblegyd ei bod yn ysmotyn peryglus, ac yn un ag a allai droi allan i fod yn safle neu gyrehle cyfleus i unrhyw elyn neu allu estronol ymosod ar rai o diriogaethau cartrefol Prydain. Y mae yn fwy na thebyg na fyddai gwell pleser gan y Gwyddel na rhoddi help Haw i unrhyw allu estronol, er ceisio goresgyn a darostwng y Llywodraeth Prydeinig; neu fod yn gyfranog mewn unrhyw gyn- llun teyrnfradwrus arall a fyddai yn debyg o fod yn foddion i ddwyn oddiam- gylch yr ysgariad hwnw. Y mae yn dymuno ac yn gobeithio ei weled yn cymeryd lie rhwng ei gydgenedl a'r rhwymedigaethau a'r dyledswyddau hyny ag sydd yn gwneyd Lloegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon yn Deyrnas Gyfunol. Nid gwerth moesol, dealltwr- iaethol, na materol yr Iwerddon sydd yn peri i Loegr ddal gafael mor dyn ynddi, ac i edrych mor wyliadwrus ar ei hoi, eithr ei sefyllfa gref a chyfleus i unrhyw allu llyngesol cryf i ymosod ar ein tiriog- 0 aethau, yn nghyd a'r teimlad ffafriol hwnw ag y byddai i'w thrigolion fod yn sicr o'i ddangos tuag at unrhyw allu a chwenychai ymgynyg at hyny. Y mae y teiralad hwnw yn cael ei arddangos yn ddigon amlwg drwy y cyffroadau, y teriysgoedd, yr ysgelerderau, a'r llofrudd- iaethau barbaraidd sydd yn cael eu cyf- lawni yno yn barbaus ac yn yr areithiau croesdynol a r dadganiadau gelyniaethus sydd yn disgyn yn rhy ami dros wefusau ei chynrychiolwyr yn y Senedd Brydeinig. Y mae aelodau Seneddol yr Iwerddon nid yn unig yu ei ehynrychioli yn ei hanghenion (os oes anghenion yn bod iddi yn fwy na rhyw rhanau ereill o'r deyrnas), ond y maent hefyd yn ei chy- nrychioli yn holl adgasrwydd ei hysbryd anfoddog a chynenus. Y mae y tymher au fflamychol, a'r nwydau gwaedgwyllt sydd yn nodweddol o'r genedl Wyddelig, ïe, nodweddol o'r dosbarthiadau mwyaf iselwael a diraddiol ohoni, yn cael eu harddangos yn ei holl berffeithrwydd j gogoneddus yn rhy ami yn ymddygiadau > rhwystrus a dadyrddus ei chynrychiolwyr Seneddol. Y mae yr ysgrif y mae y PRIF-WEINIDOG yn ei darparu ar gyfer darostwng troseddau yn yr Iwerddon yn un, yn ol ein barn ni, nas gall yr un bod rhesymol ddweyd dim yn ei herbyn, os edrycha ar y gweitbredoedd anfad o ysgeler a gyflawnir yn y wlad farbaraidd hono y dyddiau presenol; ond gynted y rhoed braslun ohoni yn y Senedd gan y PRIF-WEINTDOG, dyma y. genfaint Wydd- elig yn cyfodi yn nn daran-'storm yn ei herbyn, ac yn gwrthdystio fod y mesurau a goleddai y rhai mwyaf caethiwus a di- friol ag a ddygwyd gerbron un Senedd mewn gwlad wareiddiedig erioed o'r blaen; ond dylesid cofio fod yr acbosion a alwai am dani y rhai mwyaf ysgeler a 0 gwaradwyddus ag a gyflawnwyd mewn D un gwlad wareiddiedig erioed o'r blaen hefyd. Amcan yr Ysgrif oedd dwyn a chymhwyso mesurau effeithiol er gosod i lawr droseddau digyffelyb y Gwyddel gwaedwyllt, ac nid dim arall. Nid oedd yn cyfiwrdd a hawliau naturiol na iawn- derau rhesymol neb, nac yn erlyn na chosbi neb ond yr euog yn unig. Y mae y diniwed i fod mor rhydd ag erioed. Wel, paham, yn enw pob rheswm, yr oedd yr aelodau Gwyddelig yn gwrth- L wynebu Ysgrif fel hon ? Yr oeddynt, wrth wneyd hyn, yn dangos eu bod yn y z, bleidiol i derfysgoedd a llofruddiaethau, ac yn ofni na chawsent hwy ddigon o ryddid a rhwyddineb i hau hadau ym- ryson ar hyd a lied y wlad, fel ag y maent wedi gwneyd hyd yma. A phwy, yn ngwyneb pethau fel hyn, all gredu eu bod yn ddifrifol yn eu gwrtbdystiad yn erbyn llofruddiad Arglwydd CAVENDISH a Mr. BURKE? A phaham, hefyd, na fuasent yn collfarnu llofruddiaethau blaenorol a gyflawnwyd yn eu gwlad anrhydeddus, gan fod y rhai hyny, fel yr un bresenol, wedi eu cyflawni ar bersonau hollol ddiniwaid a diamddiffyn ? Ofnwn fod troseddau yr Iwerddon yn bethau nas gall y llygad Seneddol Gwyddelig edrych arnynt gyda digon o sarugrwydd ac annghymeradwyaeth.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD. Fel ag y soniasom yn y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR, cynelir yr Eisteddfod uchod ar ddydd Llungwyn, pryd y dysgwylir ac y gobeithir y bydd tort tawr o lengarwyr, cerddgarwyr, a gwladgar- wyr wedi ymgynull at eu gilydd, gyda'r amcan o gael mwynhau gwledd feddyliol o'r fath oreu. Mae y rhagbarotoadau wedi eu gorphen yn Ilwydd ianus a boddhaol. Y nawddogwyr yn lluosog a dylanwadol, ac yn gynwysedig o ddeuddeg neu bymtheg o ddynion arweiniol (leading men) y lie, megys cyfreithwyr, meddygon, prif-fasnachwyr, bancwyr, globerchenogion, gweithfeydd-berchen- ogion, a pharchedigion yr ardaloedd. Y cyfan- socldiadau cystadleuol yn rhifo pedwar-ugain a phedwar-ar-ddeg, a rhai ohonynt gystal a dim ag sydd wedi ymddangos yn yr iaith—byddai yn orchest cael eu cystal o'r Eisteddfod Genedlaethol. Y mae y llywyddion yn mhlith goreuon ein lien- gar wyr. Llywydd yr Eisteddfod fydd yr ynacl galluog a'rgwladgarwr diffuant, Gwilym Williams, ¥sw., Maenor Meisgyn; a llywydd y gyngherdd hwyrol fydd y serchog a'r parodlaw Walter Morgan, Ysw., cyfreithiwr. Y cantoresau enwog a gymerant ran yn mherfformiadau y gyngherdd a 2 fyddant yr odidog Blodwen Myrddin, o Gaer- fyrddin, a'r ddihafal Madame Gwenfil Davis, o Aberystwyth, yn nghyd a'r dra addawol Miss Coslett, o Gaerffili. Byddant yn canu darnau ac alawon newydd fflam, na chlywyd yn yr ardaloedd hyn erioed o'r blaen. Bydd yno dri neu bedwar o gantorion gwrywaidd rhagorol yn cymeryd rhan yn y gwaith, a bydd y cor buddugol yn rhoddi ei wasanaeth at yr un perwyl, nes rhwng pobpeth y bydd y gyngherdd yn un o'r rhai mwyaf blasus ac hyfrydlawn, Bydd y llwyfan yn un helaeth, cyfleus, a threfnus, ac wedi ei thrwsio yn y modd mwyaf gwych a llen-lïeiniau costus, ac a byth- wyrddion ardderchog. Bydd y prisoedd i'r cyn- seddau a'r 61-seddau yn rhatach nag arferol. Y bioi/dydd yn rhad a chyfleus, a bydd lie digonol i bob un ddewis ei fan, yn ol fel y cyfarwyddir ef gan ei chwaeth. Y mae yn Mhonfcypridd, yn awr, ddau dafarn coffi a thri neu bedwar o dai bwyta, a gall Mr. Williams, o'r Malster's Arms, barotui ciniaw flasus am oddeutu pymtheg ceinxog yr un, ond i bawb anfon eu henwau ato yn brydlawn. Ni fydd achos gofalu am gyfleusderau cludeiol. Y mae digon o hyny yn Mhontypridd yn awr. Heb- law y gledrffordd, y mae tair neu bedair o brakes yn rhedeg yn ddyddiol, a hyny lawer o weithiau yn y dydd, o'r Malster's Arms i fyny i'r Porth, ac o'r Porth yn eu hoi i'r Malster's Arms, fel y mae pob cyfieusderau wrth law i fyned yn ol ac yn y blaen_ i'r lleoedd hyn yr awr a fyner o'r dydd. Gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, ynte, fod pobpeth yn gyfleus, trefnus, a dymunol, ac ei bod yn ddichonadwy cael Eisteddfod odidog ond i drig olion yr amgylchoedd fod yn ffyddlawn i'r hen sefydliad drwy ddylifo i lawr yn dorfeydd tua Phontypridd y dydd hwnw. Yr ydym yn dy- muno yn fwy gweled cynulliad da a "lluosog yn yr Eisteddfod hon, am y bydd tynged yr Eisteddfod Genedlaethol yn dybynu i raddau pell ar hyny, canys mawredd neu fychander y cynulliad Eis- teddfodol yn y lie hwn y Llun nesaf fydd yn pen- derfynu y bwriad o gael yr Eisteddfod Genedl- aethol i Ddeheudir Cymru y flwyddyn nesaf neu beidio. Gan hyny, gyd-wladvvyr anwyl, goddef- wch i ni eich gwahodd gyda'r taerineb mwyaf, gan fod bywyd yr Eisteddfod mewn chwareu, ac yn dybynu yn mron yn gwbl ar luosogrwydd eich presenoldeb yn ein plith y diwrnod pryderus hwnw. Daeth i law yr ysgrifenydd gyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol :— Awdl ar "-Ffydd.Credadyn (a), Obadiah, Credadyn (b). —3. Traethawd, "Rhagolygon Pontypridd."—Rhag- weledydd, Gethin Fychan.—2. Marwnad i B. T. Morgan.—Heber, Awel yn mrig yr ywen, Symleiriog.3. Croesawiad i Gledrffordd CaerffiM. — Taliesin, Teithiwr Traed, Ymlonwr.—3. tlir a thoddaid i Daniel Roderick.—Gwirionedd, Tan y Wern, Un o'i gyfeillion, Llwch y 11awr, Awen flin ar fin ei fedd, Dafydd, Iselfrydig, Cowley, Graig, Galarwr, Is yr ywen,—10, Dag englyn i gadeirydd y dydd, sef G. Williams (1 p Alaw Goch), Ysw., Y.H, Hndfardd (a), Prince of Wales, Hudfardd (b), Dewi Dyfodwg, Dim ond y gwir, Aberdarian, Ringyll, Pwy, Dinasydd, Ymgeisydd, Gwvddon ap Don, Glad- stone, Edmygydd (a), Un hoff ohono, Ewyllysiwr Da, Ap Cymro, Dyna fo, Cymro i'r Carn, Tyner, Linis y Wlad, Miskinfab, Adsain Parch, Edmyg- ydd (b), Ewyllysiwr Da.23. Englyn £ V "Eos."—Cattwg, Un a'i clybu, Un geir yn y gwydd, Car, Gwladwr, Leban (Ct), Encore, Cariadlanc, Gwyliedydd y Wawr, Dafydd o Avan, Dafydd, Edwyn, Leban (b), G-wen yr Awen i'r Eos, Un o'i Edmygwyr, Do Ray Me, Gwladwr, Dewi Dyfodwg, Caniedydd, Tan yr Allt, Y ber awen bur rywiog, Ail Gynyg, Hedd- geidwad, Bardd y Nos, Gwanwynfardd, Gwalch Hafren, Eosydd, Philo, Rupert, Cyntaf, Ail, Trydydd, Noswyliwr, Llwyd y Berth, Wyliwr yn swn ei halaw, Dryw, Yr Ebedydd, Gwyliedydd. Wybrenydd, Coedwigwr, Hen Wr Penllwyd, Y Dryw Bach, Ap Ian, Ymdeirydd. Gwyliog, Clust- feinydd, Gweledydd Hwyrol, Oliver Goldsmith, Awel.—50. D.S. --Sylwed y cantorlon fod eu henwau i fod i mewn ar neu cyn y 26ain cytisol.
Cynrychiolaeth y North West…
Cynrychiolaeth y North West Riding- Yorkshire. Cofia ein darllenwyr mai Arglwydd F. Cavendish oedd yn cynrychioli y Riding uchod cya iddo roddi fyny ei sedd ar ei ddyrchafiad i fod yn Brif-ysgrifenydd yr Iwerddon. Cymerodd yr etholiad Ie dydd Ian, y 18fed, a gwnawd y poll, yn hysbys yn Bradford dydd Gwener. Safdi y ffi^yraa fel y eanlyn Holden 9,892 G. Hardy 7,865 Mwyafrif 2,027 Gwelir fod y parth uchod o sir York yn iach yn y ffydd Ryddfrydol.
Cyfarfod Glowyr Cwm Aberdar.
Cyfarfod Glowyr Cwm Aberdar. Cynaliwyd y cyfarfocl uchod dydd LInn diweddaf, yn v Cross Inn, HeoI-y-felin, ae yr oedd cynrychiolaeth y dosbarth yn rhagorol. Wedi gwrando ar y report parthed sefyllfa. y dosbarth gan Mr. D. Morgan, pasivvyd y penderfyniadau canlynol yn unfrydol 1.—Fod y cyfarfod hwn yn uchel gymer- adwyo glowyr y Middle Duifryn yn en penderfyniad i sefyll am en liiawnderau yn unol a'r cynygiad a wnawd gan y cyflafar- eddwyr yn nglyn &'r "wythïen ddwy a mtw." 2.—Fod y cvfarfod hwn o'r un farn a gweithwyr y Middle Duffryn, nad yw yn angenrheidiol iddynt weithio mis o rybndd, yn gymaint a bod y swyddogion wedi tori trwy y trefoiant cyntaf. 3.—Fod y cyfarfod hwn yn croesawgar dderbyn glowyr Nantmelyn a Glo Ager Hirwaun yn aelodau o'r gyradeithaa hon, ar yr amod eu bod i ufuddhau yn hollol i'n rheolau. 4.-Fod y cyfarfod hwn yn cymeradwyo glowyr Nantmelyn am roddi rhybudd, gan nad oeddynt, yn ein barn ni, yn derbyn iawnderau llafur. 5.—Fod Mr. D. Morgan, Mountain Ash, i ymweled a Mr. Hann, manager yr Hen Bwll, Cwmbach, fel ag i weled fod y pris safonol i gael ei osod ar eu tocynau mor fuan ag sydd bosibl. G.-Fad y cyfarfod hwn yn gwasgu ar gynrychiolwyr Pwyllgor y Sliding Scale i wneyd apel at y meistri am nn scale ar wahan oddiwrth lowyr glo tai ac os na fydd iddynt weled eu ffordd yn glir, eu bod i ymuno mewn un scale can gynted ag sydd bosibl; a'u bod i godi 5 y cant yn ein cyflogau yr un mor fnan. Ac os na woant gydymffurfio a'r gwrthddrychau uchod, ein bod yn dymnno terfvnu y scale bresenol mor fuan ag y bydd yu gytleus. Cynelir y cyfarfod uesaf yu y Patriot, Hirwaun.
Cabldraeth y "Freiheit" ar…
Cabldraeth y "Freiheit" ar Lofrudd- iaeth Arg. Cavendish a Mr. Burke. Yn heddlys Bow-street, Llundain, dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, dygwyd Wil- liam Mertens, o 54, Whitfield-street, brodor o Gsrmani, ac yn desgrifio ei hun fel cysod- ydd, o flaen Syr Jamesi Ingham, ar warant o ddarfod iddo argraffu a chyhoeddi yn an- nghyfreithlon, mewn papyr a elwid y Freiheit, gabldraeth gwarthus, drygionus, a bradwrus o barthed i lofruddiaeth Argl. F. Cavendish a Mr. Thomas Burke yn Dublin ar y 6ed o Fai a darfod iddo, yn y cyfryw gabldraeth, gefnogi ac yrndrechu perswadio gwahanol ber- sonau anadnabyddus, i ba rai y cyhoeddid yr unrhyw, i gyflawni y trosedd o lofruddiaeth yn nhiriogaethau ei Ma.wrhydi a Ileoedd ereill. Ymddangosai Mr. Poland, yn cael ei hyfforddi gan Mr. Pollard, cyfreithiwr i'r Trysorl^s, i erlyn, ac ymddangosai Mr. Ben- net, hyfforddedig gan Mr. W. Doveton Smith, dros y diffyniad. Mr. Poland a ddywedai ei fod yn yr achos hwu wedi cael ei hyfforddi gan y Trysoriys i erlyn y carcharor am gy- hoeddi ac argraffu erthygl o'r fwyaf gwarad- 11 71 wyddus mewn papyr Germanaidd, cyhoedd- edig yn Llundain, a elwid y Freiheit, papyr nad oedd yn hoUol anadnabyddus yn y liya hwn. Ymddengys fod y papyr, yn ol y mYL- egiad argraffedig ar ei ddiwedd, yn cael ei gy- hoeddi gan y Communistic Young Men's lm- provement Society, yn y Socialistic Democratic Printing Office, 54, Whitfield-street. Yr oedd yr erthygl yr achwynid o'i phlegyd mewn rhifyn o'r Freiheit am y 13eg cyfisol. Wrth gwrs, er mai dyna oedd dyddiad y papyr, yr oedd y llythyrenau wedi eu gosod cyn hyny. Y ffaith oedd, yr oedd y rhifyn wedi ei gy- hoeddi cyn hyny. Penawd yr erthygl y cyf- eirid ati ydoedd,—" Yn erbyn pob gormeswr, y mae pob cyfrwng yn gyfreithlon," ac o dano, Atebiad y Gwrthryfelwyr (Gwydd- elig)." Yr erthygl arweiniol dan sylw a gyf- eiriai at lofruddiaeth greulon Argl. F. Caven- dish a Mr. Burke yn Dublin ar y 6ed cyfisol, ond nid oedd yn angenrheidiol i bwrpasiadau yr achos presenol ond cyfeirio at ddyfyniad- au, o'r hyn y mae y canlynol yn engraifft :— 0 gryn lawer, y pwynt mwyaf pwysig yn nghyloh y weithred feiddgar, arwrol hon o gyfiawnder poblogaidd yw y ffaith fod dynion o yni, y rhai, drwy ddefnyddio moddion gor- fodol, ydynt mor ysbrydol wedi gosod allan o'r ffordd gynrychiolwyr Llywodraeth sylfaen- edig ar nerth anifeilaidd, ac wedi, drwy eu gweithred wrol, dangos eu bod yn yr ymgyrch yn erbyn gormesiaeth ac ysbeilwaith, yn ys- tyried unrhyw foddion yn gyfreithlon neu gyfiawnedig, ac na fydd iddynt wrando ar unrhyw gytundeb gyda'r Llywodraeth. Wrth wneyd i ffwrdd ag Argl. F. Cavendish a Mr. Thomas Burke, trwy ychydig frathiadau iawngyfeiriedig o'r ddagr, a thrwy wneyd hyn yn gywir ar y foment pan yn tlaenorol yr oedd arweinwyr y Tir-gynghrair wedi troi yn fradwyr i'w parti, y mae yr eifen Radicalaidd ei hun wedi cymeryd yr arweinyddiaeth. Y mae y Barnwr Lynch, yr hwn yr oedd Mr. Parnell a,'i barti yn myned i droi o'r neilldu, wedi dangos ei fod eto yn fyw, a'i fod yn par- hau i wneyd ei ddyledswydd gyda gwroldeb di-ildio, a chyda llaw sicr. Nid oedd fod Argl. F. Cavendish yn hanfodol yn ddim ond syrniyn tlawd, mewn un ifordd yn lleihau yr arwyddocad o'r weithred ryfeddol hon. I'r gwrthwyneb, nid yw y ffaith hon ond yn profi fod y gwrthryfelwyr Gwyddelig yn cario yn mlaen ymdrechfa, nid yn gyrnaint yn erbyn persouau ag yn erbyn egwyddor fell- dithiedig. Ond, wrth gwrs, ni ddangosaut eu hunain yn ddynion ymarferol ond pan ym- osodant ar egwyddor y dymunant ei symud yn mherson ei chynrychiolwyr, a dinystrio y rhai hyn pa bryd bynag y daw cyfle. Mewn politiciaeth, nid oes y fath beth a llofrudd- iaeth—dim ond symudiad rhwystrau. Dyrna y safon-bwynt ag y mae y Gwyddelorl yn !nvr wedi gyrhaedd, ac y mae yn dda iddynt eu bod wedi gwneyd felly." Dyna iaith papyr Germanaidd yn Llundain Sieryd ddigon drosto ei hun, heb angen i ni ddweyd yr un gair. Digon yw dweyd fod ysbryd brad- lofruddiaeth yn benuchel dros y ddaear er's blynyddau bellach, ond yr ydym yn credu na fydd iddo ryw hir deyrnasiad mwy. CafoJd y Wrn. Mertens hwn ei drosglwyddo i sefyll ei brawf, ond derbyniwyd meichian—dan o lOOp. yr un. Haeddol yw y fath ia.ith waed- lyd o gael cosb eithaf y gyfraith.
Ni ddylid Esgeuluso yr Arwyddion…
Ni ddylid Esgeuluso yr Arwyddion Canlynol. Dechreua yr afiechyd gydag annhrefn ysgafn yn y cylla, yr hwn, os esgeulusir ef, a ymleda trwy yr holl gorff, gan gymeryd. i fewn yr aren- au, yr afu, y cefndedyn, ac yn wir yr holl gyfundrefn gilchwyrnaidd, a thrsnlia y claf allan fodolaeth druenus, hyd nes y rhydd angeu ym- wared iddo o'i boenau. Camgytnerir yr auechy1 yn ami am anhwylderau ereill; ond os gofyna y darllenydd iddo ei hun y cwestiynau a ganlyn, bydd yn alluog i benderfynu pa un ydyw ef ei hun yn dyoddef :—A oes arnaf gyfyngder, poen, neu anhawsder i anadlu ar ol bwyta? A oe" rhyw deimlad hurt, trymaidd, yn gydfynedol i1 syrthni ? A oes lliw melyn ar y llygaid ? A oes llysnafedd tew a gludiog yn casglu oddeutu cig y danedd a'r danedd yn y boreu, yn gydfynedol a bItt, anhyfryd ? A oes llawnder tua'r ochr dde, fel pe ba'i yr afu yn ymhelaethu ? A oes rhwymedd ? A oes bendro neu benysgafndod, pan gyfoJoch yn sydyn o safle ymgrymol ? A yw y dydoliadau o'r arenau yn brin ac uchel-liwiedig gyda gwaelodia 1 ar ol sefyll ? A yw bwyd yn ymweithio yn fuan ar 01 bwyta, yn gydfynedol a gwynfc ac ysgyfogiad nwy o'r cylla ? A oes ganych gnriad y galon ? Gail na fydd yr arwyddion amrywiol hyn yn bresenol ar yr un amser, ond poenant y dyoddef ydcl yn eu tro fel yr a yr afiechyd arswydus rhagrldo. Os bydd yr achos yn un o hir safiad, bydd peswch sych, haciedig, yn gydfynedol, yn mhen amser, a phoeriad. Mewn graddau blaen- redol iawn, arwisgir y croen ag ymddangosiad bawlyd a llwyd-winau, a gorchuddir y dw)da'.v a'r traed gan chwys oer a gludiog. Fel y byddo yr afu a'r arenau yn dyfod yn fwy-fwy afinch, ymddengys poenau crydcymalog, a phrawf y .Y driniaeth arferol yn hollol ddieffaith yn erbyn yr anhwyldeb diweddaf a phoenus hwn. Tarddiadydolurhwn yw annhreuliad neu wali- dreuliad, a bydd i swm fechan o'r feddyginiaeth briodol symud yr afiechyd yn ei dechreuad. Y mae o'r pwys mwyaf i'r afiechyd gael ei drin yn brydlon a phriodol yn ei raddau cyntaf, pan fydd i yehydig feddyginiaeth effeithio gwellhad ac hyd yn nod pan ga afael gref, dyLid glynu wrth y feddyginiaeth gywir hyd nes y bydd i bob olion o afiechyd gael ei alltudio, hyd nes y dychwela yr ystumog a'r peirianau treuiiol gael eu hadfer i gyflwr iachus. Y peth sicraf a mwyaf effeithiol i'r anhwyldeb poenus hwn yw Seigel's Curatite Syrup, clarpariaeth lysieuol a werthir gan holl fferyllwyr a gwerth wyr meddyjiniaethau drwy y byd, a chati y perchen- ogion, V. J. WHITE, Limited, 21, Farringdon Road, li indon, E.C. Ergydia y Syrup hwn at wir syifa'jn yr afiechyd, a gyr ef wreiddyn a change., allan o'r gyfundrefn. Gofynwch i'ch ffHylly, I, l am Seigel' Curative Syrup. WEDI EI ANFON OR CLAFDY YN ANWELLADWW West Wyland-terrace, Prudhoe-on-Tyne, Gor. Sydd, 1879. Anwyl Syr,—Yn amganedig y mae P. U, 0., a gallaf eich hysbysu nad yw y Curative Syrup a gefais oddiwrchych yn estron yn fy nhy. Uymer- odd fy ngwraig ddwy botel at ddolur yr atu. a gwnaeth ddaioui mawr iddi. Ond gwellhad mwy rhyfeddol nag un a wn i am dano ydoedd un 0,111 meibion, llanc 18 oed, yr hwn sydd yn dy.t byw o'i effeithiolrwydd. Am 11 mlynedd, yr oedd mewn cyflwr dychrynllyd gan glwyfau llifol yu ei wcldf a'i frest. Gosodais ef yn y clafdv, yn Newcastle, ond danfonwyd ef allan fel yn anweil adwy, ac ofnwn na fyddai byw ond bywyd byr a phoenus. Perswadiwyd fi i roddi iddo eich meddyginiaeth chwi. Yr oedd y gwelliant yn gyflym, ac wedi cymeryd pedair potelaid, diflanodd y clwyfau yn hollol, a'r croen, unwaith yn arw a chrachlyd, sydd yn awr mor glir ac iachus ag a allai dyn ddymuno weled. Yr ydych at eich rhyddid i gyhoeddi hyn, gan y gall fy mab gael ei weled unrhyw ddydd wrth ei waith, ac nis gall y cyfryw feddyginiaeth a gwelliantau rhyfeddol fod yn rby eang adnabyddus. Gan ddiolch i chwi am eicii caredigrwydd,— Ydwyf, yr eiddoch, yn gywir, JAMES GIBSOX. At Mr. R. Wright, Fferyllydd, Byker, Castellnewydd-ar-Dem. 2647
Tystlolaethau Pwysig
Tystlolaethau Pwysig I QUININE BITTERS GWILT31 EVANS. ¡ _m_ Brynayfryi.l, er Abertawe "J _J.1.J '1 "1. '¡¡ ( £ Sj-r, -Yr ydwyf wedi bod yn gwerlhu y Quinine Bitters am rai b:ynyddau bellach. Y maent wedi gwneyd Lawer o les yn yr ardal yrr-a ac y dyfodiad dysglaer iddynt. Yr ydwyf wedi sylwi yn fanol ar en heffaich ar wahanol bersonau, ac^vr yd wyf wedi gweled rhai o'r dolur- lau gwaethai a allai neb ddvchvmvgu yn cael eu llwyr wellhau trwy ddefnyddio y raeddyglyn yma. Y mae plant o bob oedran, d^'ijioQ leuaiic a hep gwragedd a merched, oil yn ty.-jtiolaetliu' i'w heliaitn datomu'. Y mae yn drueni na ellid eu darostwng 3'c'iydig yn en pris, heb wanychu eu neftaita gau tod oaiioeiltl o bobl v/einion yn svch"du am aroio ei^ hyfi'-iifh, ond oto heb fodd iWrd hyny. i r e-(; loeh «.-n. serchog, '"ISAAC OWEX. From Griffith T-Fili.ams Llam-chy^cHa .Ar.alc sect. Syr,Da g^nyf guel y cyfiensdra i anfon tair o ganmoiineth ic:, -Quinine Bitten." Y maent yn dderbyniol iawn yn y gyinydogaeth hon. Gwertnais lawer ohonynt yn ystod y blym ddau diweddaf. acy mae v galwad arnynt vn parLaui gynyddu. Nid 09.-3 meddyginiaeth yn deb-" iddynt at iseldor y.bryd. di;lyg tr^nl, dvcliland^ au y gaion, a canr vri y b ei k-'v 11 ij'vwir, Medi 8, 1830. G RIFFl'i'fL WILLIAMS. From Mr. John Liny4 (Jon* Cynjjig), Slunydd m yn dyo.ld;:t ilawer odciv/rth ddolur yn fy mhen, isel(lor y.-bryd, di'fvg archxaeth at fwyd, ac ar ol ei iwyta, blinder mawr. TWrii* botelaid 4s. (j,1. oddi-.v»th Mr. ilichard Jenkins. Kenn .c Hill, ac ar 1)1 i mi ei cbvmervd, teindai* fv hun wedi aoh-.ryd i'r-i iechyc1 arferol, a.5 yil n;1uoV 1 dadyn iv ngalwediy^eth. Yr ydwyf wedi eu cymetadwyo 1 ereill, a tiiy^iola^th yrhaihyiiyvw eu bod weai uerbyn lies anahraetholtrwydclynt. a byddat ju _teiai!.o yn duyJedswydd arnaf en cadw bob amser fel tryscr ponai y teulu. From the Iter. J. fl. TFiZZifniis (Brynf.:wdd), Head Master of the Dowlais Grammar School, To Mr. Gwilym Evans. ,,Pe.ar. SV\-Tiie wonderful efficacy of your Quinine Bitters to restore health and vi-our after lingering illness and debility, has been recent- l proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for tne benefit of others. From J Ellis Edwards. M.B.C.S. L.S-A., Sec Saint Clears, Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked bv my patients as to the desirability of taking vour Quinine Litters I have for the last two years given it a fair trial, and find it, without exception? the most pleasant and effectual means of admin- istermg that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S. L.S.A. restimonial- the most flattering nature havd been recently -eived from Mr. T?oJl Cardan; Mr :,iflith "Williams^ Llaner&ymeSd'j Mr. W. H. Ihomas, Dowlais Mr. John Franco Wrexha/rn Mr Myrddin Davies, Hugh G. Hughes, Holyhead: Mr. W Sityib Aberaman; Mr. E P. Wynne, Aberystwyth- Mr. d ones, St. Asapn Mr. D. Evans, Cemmaes' Montgomeryshire Mr. J. P Jones, Aberayron' all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of different nre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr. Wat kin J. Thomas, Chemist, Aberdare, Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Llanelly. Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.-I am happy to state that the sale of the" Quilliue fitters is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct and remarkabl cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one ot the few patients I strongly believe in. Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Peny. groes, North Wales. tv i i „ August 26th, 1880. I have taken your "Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. The benefits derived are great and permanent. From Dr. (7. A. Jones. T *■, .V *1. SEPT- MB> 1880- 1 certify that the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from minerals, and that tie ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Office, Tre- lech. ,r a. AU, Sept. 15th, 1880. My dear Sir,-Although you must be overload- ed with testimonials m favour of your now oelflhrated ••Quinine Bitters," yet I considered it my duty to inform you that many who have ootamed it from me have taken it with very bene- ficial results, and those o my customers who have truly proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they deiive much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part continually ncreasing. The last supply arrived safely. Sept. 4 th, 1880. Mr. 0. Isgoed Jones, Chemist, Llanrwst, haJ sold grosses of the Quinine Bitters," and from close observation of their effects, can vouch for their efficacy as a tonic in case of extreme debility, &c., being particularly suitably to patients recovering from long illness.