Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
Os am nwyddau da, am bris rhesymol, ewch at ARTHUR J. WILLIAMS, Grocer & Provision Merchant, 6, COMMERCIAL-STREET (drws nesaf i'r Welsh Harp). Aberdar.
Jumbo a'i Geidwad.
Jumbo a'i Geidwad. Yr wythnos ddiweddaf, bu y cawrfil mawr Jumbo, yr hwn sydd yn awr yn America, bron lladd Scott, ei geidwad. Tra yr oedd ei fawrhydi anifeilaidd yn teithio yn ei gerbyd, dydd Iau, brawychwyd ef gan swn chwibanogl agerbeiriant a basiai ar y pryd, a chwyrn- drodd mor ddisymwth fel y taflodd Scott yn ffyrnigwyllt yn erbyn ochr y cerbyd, gan ei anafu yn dost. Oddiar hyny, y mae Jumbo wedi cael ei gadwyno, er na chredir ei fod wedi bwriadu dolurio Scott.
Cymdeithas Ddarbodol y Glowyr.
Cymdeithas Ddarbodol y Glowyr. Er yr holl wrthwynebiad a gafodd y gym- deithas wir ganmoladwy a buddiol hon, y mae yn llawen genym ddeall ei bod yn myned rhag ei blaen yn ardderchog, ac yn enill tir bob dydd. Yn ychwanegol at ei chynydd graddol ond sicr, trosglwyddwyd yr wythnos ddiweddaf y swm ardderchog o dros dair mil o bunau o drysorfa Hartley i drysorfa Cym- deithas Ddarbodol Barhaus Mwngloddwyr sir Fynwy a Deheudir Cymru. Y mae trysorfa y aymdeithas hon wedi ei suddo yn enwau Ardalydd Bute, Arglwydd Aberdar, Arglwydd Tredegar, Syr H. H. Vivian Barwnig, A.S., a Mr. C. R. M. Talbot, A.S. Dyna ergyd rhagorol o blaid y gymdeithas yw y rhodd hon, yr hyn a ddengys fod gan yr uchel a'r iael ymddiriad ynddi. Yr ydym yn gweled hanes am Mr. E. Owen, ysgrifenydd gweith- gar y gymdeithas, yn barhaus mewn ardaloedd yn agor cangenau newyddion, ac nid oes neb ond rhyw anwybodusion a faidd godi llaw na llais yn erbyn cymdeithas sydd yn amcanu darbod ni- gyfer teulu y gweithiwr mewn cyst add neu angeu trwy ddamwain, a hyny am y swm fechan fach o dair ceiuiog yn yr wythnos Goh.
Y Diffyg ar yr Haul Mai 17eg,…
Y Diffyg ar yr Haul Mai 17eg, 1882. Y mae diffyg cyflawn ar yr haul yn ddygwyddiad pwysig yn y byd seryddol, ond, yn anffodus, ni chafwyd un felly yn y wlad hon er's rhai ugeiniau o flynyddoedd. Felly, os am fod yn lygaid-dystion ohono, rhaid i'n seryddwyr hwylio eu camrau i'r parthau hyny o'r byd lie y mae yn weladwy, ac y mae gwyddoniaeth seryddol wedi cyrhaedd y fath berffeithrwydd, fel. y gall ragfynegu i'r manylrwydd eithaf yn mha ranau o'r byd y bydd y diffyg yn weladwy. Cymerodd y diffyg diweddaf le ar awr gynar foreu dydd Mercher, y 17eg o'r mis hwn, a gwylid ef yn awyddus gan dwr o seryddwyr oeddynt wedi tir a mordeithio o'r wlad hon a gwledydd ereill i lanau y Nile. Yn Lloegr, nid oedd ond rhan fechan o arwynebedd yr haul yn cael ei orchuddio gan 1 y lleuad. Anfonwyd allan o'r wlad hon gwmni o ser-wyddonwyr, yn gynwysedig o [ Mr. Lockyer a Dr. Schuster, gyda dau gynorthwywr, i'r Aifft, lie y byddai y diffyg i'w ganfod yn gyflawn ar lan yr afon Nile, tua 70 milltir i'r gogledd o Thebes. Yr oedd cysgod tywyll y lloer yn y diffyg hwn yn pasio drwy yr Aifft uchaf, Arabia, Persia, Tibet, a China, ac ar hyd y llwybr hwn, yr oedd yr haul yn guddiedig am gyfnoCt yn amrywio o 72 o eiliadau yn yr Aifft i 104 eiliad yn Teheran. Yr oedd pob moment o'r adeg fechan hon yn cael ei ddefnyddio i sylldremio ar y diffyg. Pan gymer diffyg cyflawn ar yr haul Ie, yr ydys, trwy bellwydrau, yn gallu canfod fflamiau yn dyrchafu oddiar gorff yr haul i uchder o ugain a deugain mil o filltiroedd, a meddylid, flynyddau yn ol, y gallai y rhai hyny fod yn ymgodi oddiar gorff y lloer ond ar ol dyfeisiad yr offeryn rhyfedd hwnw a elwir y spectroscope, ychydig gyda deng mlyn- edd yn ol, yr ydys wedi profi tuhwnt i un amheuaeth fod y cyfryw fflamiau yn ymgyfodi oddiar gorff eiriasboeth yr haul. Y prif beth ag oedd yn tynu sylw ser-wydd- onwyr yn y diffyg hwn ydoedd cael allan ryw wybodaeth am yr hyn a elwir y corona, neu fath o awyrgylch lachar oddeutu yr haul, yr hwn sydd yn weladwy can gynted ag y cymer diffyg cyflawn Ie. Wele yn canlyn y pellebryn a dderbyniwyd oddiwrth yr arsyll- wyr yn mherthynas i'r diffyg ar y 17eg o'r mis hwn "SOHAM, Mai 17eg. "Gwelwyd y diffyg cyflawn ar yr haul yn llwyddianus yma heddyw gan y seryddwyr Seisnig, Ffrengig, ac Italaidd. "Darganfyddwyd corned ardderchog yn agos i'r haul, a phenderfynwyd ei sefyllfa gan y photograffau. Yr oedd yr arsylliad spectroscopic a llyg- eidiol, cyn ac ar ol y diffyg cyflawn, yn rhoddi ffrwythau gwerthfawr, ac yr oedd tywylliad y llinellau a welwyd gan y serydd- wyr Ffrengig yn dangos awyrgylch yn perthyn i'r lloer. Cafwyd photograffau da o'r corona, a photograffiwyd spectrum y corona am y waith gyntaf yn llwyddianus. Yr oedd y seryddwyr i ymadael ddydd Sadwrn ar fwrdd agerlong y Llywodraeth." Nid oedd parhad y diffyg ar lanau y Nile ond tuag un fynyd a deuddeg eiliad. Dys- gwylir manylion pwysig pan ddaw yr arsyll- wyr adref.
Manifesto Ffeniaidd.
Manifesto Ffeniaidd. Pellebryn o New York, dydd Sul diweddaf, a ddywed fod Cynghor y Frawdoliaeth Ffen- iaidd wedi danfon allan anerchiad gwaed- sychedig, cyfansoddedig, mae'n debyg, gan O'Donovan Rossa. Cerydda holl Wyddelod am siarad yn ngylch y gyflafan yn Dublin fel llofruddiaeth, gan ddweyd, Galwch ef yn hytrach yn ddigofaint Duw yn dilyn 61 traed y gormeswr. Bydded i ni ymwisgo yn ein dillad du, mewn sachlian a lludw, am feirwon ni ein hunain, nid am eiddo ein gelyn." A y manifesto (dyheur-lythyr) yn mlaen yn yr un don am gryn feithder, a sieryd am Mr. Burke fel offeryn a haeddodd golli ei fywyd, a diwedda fel hyn :—"At ein brodyr o bob cyd.drefniaut gwrthryfelgar dirgelaidd, yr ydym yn ddifrifol gyhoeddi fod gwylair yr awr wedi myned yn mlaen, a gwystlo ein hunain i ddefnyddio ein holl adnoddau gydag egni ac ymroddiad ail ddyblig, gyda ffyrnigrwydd cyfartal i eiddo ein harch elyn, at y gwaith mawr sydd o'n blaen ac yr ydym yn gwasgu ar ein holl frodyr, gartref ac yma, yr angenrheidrwydd o gydgorffori yr holl nerth effeithiol a'r cydweithrediad calonog at ein gwrthddrych cyffredin, sef dinystr a diddymiad y pwer Prydeinig yn yr Iwerddon." Dyna iaith O'Donovan Rossa, ddarllenydd, ac y mae yn deilwng o fod yn benaeth y cythreuliaid Gwyddelig.
Y Llofruddiaeth yn Dublin.
Y Llofruddiaeth yn Dublin. Er chwilio a chwalu yn mhob cyfeiriad, methir yn glir glan a dyfod o hyd i gyflawn- wyr y g, flafan felldigedig yn Phcenix Park, Dublin. Cymerwyd llawer mewn dalfa ar ddrwgdybiaeth ond wedi methu cael dim i'w heuog-farnu, yn rhydd y cawsant fyned. Derbyniodd y Press Association ohebiaeth yn proffesu bod oddiwrth ysgrifenydd y gyffes a ymddangosodd yn y Freeman's Journal o barthed i'r bradlofruddiaethau yn Dublin. Gofidia yr ysgrifenydd iddo, mewn moment ddrwg-ystyriol, oddef ei hun i ildio i'r demtasiwn druenus i ysgrifenu y fath swm o ffugiaeth. Gofidia fod Gol. y Freeman wedi cysylltu agwedd mor bwysig a'r hyn, ar ei wyneb, oedd ddim mwy na joke ymarferol, ond un anweddus, rhaid addef. Gobeithis' na fyddai i un dyn o'r ddealltwriaeth leiaf gredu am foment yn modolaoth y Gymdeithas Fradlofruddiog Wyddelig. Gwna ddiheurawd i 01. y Freeman am ei gabldraeth ar y bobl Wyddelig, ac yn enwedigol i Lady Frederick Cavendish, a Miss Burke, a'r Prif-weinidog, i Lywodraethwyr yr Iwerddon, ac i'r police Prydfeinig, am ei wahanol ensyniadau. Y mae Adran y Dectective yn ddiwyd yn archwilio sibrydion am y bradlofruddiaethau yn Dublin, a chymerir pob rhagofal i atal ffurfiad cyd-fradwriaeth er meddianu y wobr o 10,000p. Y mae y gyffes honedig gan un o'r llofruddion yn y Freeman's Journal wedi achosi cryn lawer o siarad. Hysbysir fod awdurdodau oddeutu gwneyd ymholiadau o bf rthed i rai o'r mynegiadau hyny. Yr ydys wedi gorphen clragio am y deigr yn yr afon, ac ni chawd dim. Cymerwyd dyn o'r enw Florence M'Carthy o flaen yr heddlys yn Glasgow, dydd Sadwrn, ar y cvhuddiad o fod yn nglyn a llofruddiaethau Phoenix Park. Pan ymaflwyd ynddo, yr oedd newydd gyrhaedd o Dublin. Yr oedd clwyf wedi haner gwella ar ei drwyn, a'i lodrau a'i got yn ystaenedig gan waed. Gohiriwyd ei z, y brawf. Gwneir ymchwiliad am gydymaith iddo, yr hwn sydd wedi ffoi. Gyda golwg ar ba ddosbarth o'r cynhyrfwyr Gwyddelig fu wrth wraidd y cigyddwaith yn Phoenix Park, y mae llawer o wahanol farnau, ond tueddir ni hollol i gredu, mai y dosbarth eithafol o'r Horne Rulers fu a llaw yri y gwaith. Cymer- asant y fantais ar yr amgylchiad o apwyntiad Arglwydd Raglaw a Phrif-ysgrifenydd newydd i'r Iwerddon, a diau, pe buasai Iarll Spencer gyda'r ddau lofruddiedig y cyfarfydd- asai yntau &'r un dynged. Hyderwn y gwna y mesur gorfodogol newydd sydd yn awr gerbron Ty y Cyffredin chwalu nythleoedd bradlofruddiog yr Iwerddon, a dwyn Pat rywle i gymydogaeth pwyll a synwyr.
Terfysgoedd Difrifol yr Iwerddon.
Terfysgoedd Difrifol yr Iwerddon. Cymerodd terfysg difrifol iawn le yn Limerick, dydd Sadwrn diweddaf. Cymer- odd tri cwnstabl ddyn mewn dalfa am fod yn feddw a therfysglyd, pan ymosodwyd arnynt gan dyrfa o dros 4,000 o bobl, y rhai a daflent geryg atynt. Y mae y ddau gwnstabl Scully a Stewart wedi eu clwyfo yn ddifrifol, ac ofnir am eu bywydau. Tynedd y police eu llawddrylliau allan, ond ni ddefnyddiasant hwynt. Darfu i amryw offeiriaid Pabaidd ymdrechu tawelu y dyrfa, ond yr oeddynt yn analluog i wneyd hyny, a tharawyd un ohonynt i'r 11awr gan gareg fawr. Yna, aeth un o'r offeiriaid i barracks y police am gynorthwy, pan ddaeth 40 o gwnstebli allan gyda llawddrylliau llwythog, ac ymosodasant ar y dorf gan eu gwasgaru. Sicrhaodd y cwnstebli clwyfedig eu carcharor, ac aethant ag ef i'r gell. Nid oedd un ynad yn bresenol, ac ofnid y byddai i'r terfysg ail-ddechreu. Llosgwyd ffermdy a thai allan yn Clon- mohan, sir Tipperary, yr hwn a berchenogid gan weddw o'r enw Mulhare, ar ystad Mr. I E. Purse, dydd Sadwrn diweddaf. Llosgwyd dau geffyl i farwolaeth, deifiwyd v gwartheg, a niweidiwyd amryw anifeiliaid ereill yn ddifrifol. Talodd Mrs. Mulhare ei rhent yr wythnos ddiweddaf, er na wnaeth y rhan fwyaf o'i chymydogion hyny. Y mae hysbysiaethau wedi eu tyngu, a gofynir am iawn o 200p. Darfu i barti o bedwar neu bump o'r Moonlighters ymweled a thai yn Craugh- well, nos Iau, yn hawlio arfau ac mewn un lie, aethant a. gwn ymaith. Y mae tri mewn dalfa gan y police.
Achos Anarferol o Orphwylledd.
Achos Anarferol o Orphwylledd. Yn heddlys Bow-street, dydd Sadwrn, cyhuddid John M'Adam Poplar o fod yn grwydryn gorphwyllog, heb fod dan ofal priodol. Ar yr 13 eg cyfisol, ysgrifenodd y diffynydd lythyr at Syr H. Ponsonby, yn Mhalas St. James. Dechreuai trwy wneyd diheurawd am fod yn hollol tuallan i swydd ysgrifydd, ac ai yn mlaen i ddweyd, oddiar ei fod yn ddyn rhydd, ac wedi bod yn orphwyllog cyhyd, nas gallai gael digon o fater ar ba un i anerch y Frenines ond yr oil a ewyllysiai ef ddweyd oedd ei <fod wedi blino bod yn frenin dan lywodraeth dynes. Ymddangosai hi fel yn gweddu i ryw ddynion yn eithaf da. Yna, cyfeiriai at y gwahanol gyfrinachau a gawsai a Duw. Cyfeiriai ato ei hun fel brenin, gan nodi llwybrau oedd ganddo yn ei balas a'i diroedd, a mynegai pe buasai yn rhyw M'Lean gorphwyllog y gallai ddwyn rhywun i lawr yn fwy na phaent gwyn gyda phelen allan o hen ddryll. Ond nid oedd "breninoedd" yn gwneyd hyny. Dygent hwy i lawr yn rhyw ffordd fwy anrhydeddus. Eto, ni wna un addewid i Syr Henry na'r Frenines ond os ai pethau yn mlaen lawer yn hwy, nis gallai ddweyd pwy syrthiai. Pan yn cyfeirio at yr anhawsdra Gwyddelig, dywedai fod dau ddyn a aethant i'r Iwerddon wedi syrthio mewn gwaed, ond nid felly gyda'r rhai a'u danfonasant. Yr oedd efe wedi eu rhybuddio o fwriadau Duw, ac wedi dweyd wrth Gladstone yr oil am hyny, ond gallai efe wneyd oriawr aur can gynted ag y gallai reoli yr Iwerddon. Profwyd gan feddyg ei fod yn orphwyllog, a chadwyd ef mewn lie diogel.
Mudiad y Rhydd-Ddarllenfa…
Mudiad y Rhydd-Ddarllenfa yn Merthyr. Y mae pobl dda (?) Merthyr a Dowlais wedi gosod eu gwynebau a'u pleidebau yn erbyn cael rhydd-ddarllenfa yn mhrif-ddinas yr haiarn, yr hyn, os goddefir i ni draethu ein barn yn onest a didderbynwyneb, ni fydd yn adlewyrchu fawr gredyd i'w henwau na'u heg- wyddorion. Y mae y Saeson filltiroedd lawer o flaen y Cymry yn y mater hwn. Dygwyddasom fod yn aros am rai wythnosau, bedair blynedd yn ol, yn Middlesbro', prif ddinas yr haiarn yn Ngogledd Lloegr, a dyna He yr oedd rhydd-ddarllenfa ardderchog, lie yr aem i drenlio rhai oriau bob boreu i edrych dros y gwahanol newyddiaduron, &c. Nis gallwn lai na thosturio wrth ymddygiad plwyfolion Merthyr Y mae yn y plwyf fwy o drigolion nag sydd yn Middlesbro', ac eto dyna hwy yn gwrthod y rhydd-ddarllenfa Wedi polio y plwyf, cafwyd fod dros y rhydd- ddarllenfa, 294; yn erbyn, 826 mwyafrif yn erbyn, 532. Nid oes genym ond go- beithio y bydd plant yr oes nesaf yn gallach yn eu cenedlaeth na phlant yr oes hon yn mhlwyf Merthyr.
[No title]
Po mwyaf gonest y byddo dyn, lleiaf oil y ffugia efe agweddiad sant. QWENWYNWYD 15 o blant yn L'erpwl trwy fwyta ffa oeddynt wedi bigo fyny. ELIZA HOLLOWAY, cadben y Salvation Army, a gyhuddid o ddau-wriaeth. Gwrthdystiai yn erbyn yr erlyniad, gan ddweyd fod ei gwr wedi rhoddi caniatad iddi,
Cymanfa Ganu Cynulleidfaol…
Cymanfa Ganu Cynulleidfaol y Meth- odistiaid, Dosbarth Aberdar. Cynaliwyd yr wyl gerddorol uchod eleni dydd Llun diweddaf, Mai 22ain, ac fel arfer, yr oedd cyfarfod y boreu yn cael ei gynal yn Methlehem, Mountain Ash cyfarfod y prydnawn yn Liban- us, Aberaman, a chyfarfod yr hwyr yn Methania, Aberdar. Arweinydd y canu am y dydd oedd Mr. Johu Thomas, Llanwrtyd. Ni wnawn ddi- lyn y rhaglen y tro hwn, gan na chaniata gofod i wneyd hyny ond gallwn ddwyn tystiolaeth fod y canu eleni yn llawn mor fendigedig ag erioed, ac yn adlewyrchu clod nid bychan ar arweinydd cyffrediuol y dosbarth, yn ogystal a'r arweinwyr lleol. Ond yr oedd feature newydd yn nglyn ct chyfarfod y hwyr yn Methania ag sydd yn deil- wng o sylw arbenig, sef cyflwyno tysteb i ar- weinydd galluog y dosbarth, Mr. Daniel Grif- fiths. Llywyddwyd gan y Parch. Wm. James, gweinidog y capel, ac yr oedd amryw o weinid- ogion a phersonau o nod o gylch yr areithfa. Hawdd oedd deall wrth y gynulleidfa fawr a pharchus fod rhywbeth anarferol ar gymeryd lie. Wedi canu rai tonau hyd nes yr oedd rhyw naws nefolaidd yn treiddio drwy y lie, cododd y Ilyw- ydd, a chan arddangos oriawr a chadwen aur ys- blenydd, y rhai oeddis ar gyflwyno i Mr. Grif- fiths, dywedai eu bod yn costio dros 30p., a bod yr arian tuag at eu pwrcasu wedi dylifo i mewn yn hynod o ddidaro. Wedi rhai sylwadau pell- ach, galwodd ar Gwilym Williams, Ysw., Y.H., Miskin Manor, i anerch y cyfarfod, yr hwn a siaradodd yn Saesonaeg, ac a ddywedai ei fod wedi gwneyd cryn ymdrech i fod yn bresenol er anrhydeddu yr arweinydd galluog fod llai o bechu wedi bod yn yr ardal o ba un yr oedd efe yn dyfod yn ystod yr wythnos ddiweddaf nag arferol, a thrwy hyny, galluogwyd ef i fyned drwy ei waith yn gynt er ymbresenoli yn y cyf- farfod. Arddelai berthynas a Mr. Griffiths, ac am hyny ni fyddai yn weddus iddo ef siarad yn rhyw organmolus am dano. Y r oedd sefyll yn y man lie yr oedd yn dwyn hen adgofion melus i'w feddwl- Yr oedd yn cofio pob capel o eiddo y Methodistiaid yn cael ei adeiladu, ac yn cofio adeg pan yr oedd canu cynulleidfaol yn hynod o ddilewyrch yn y cwm. Cyfeiriodd at y diweddar hen gerddor medrus Abraham James, Carmel, fel un ag oedd wedi gwneyd ei oreu yn y cyfeir- iad hwn yn y blynyddau a aethant heibio, a thalodd deyrnged o barch i goffadwriaeth Ieuan Gwyllt drwy ddweyd mai trwy ei offerynoliaeth ef, yn nghyd a chynorthwy gwerthfawr Mr. Griffiths, yr oedd canu cynulleidfaol Bethania, Aberdar, wedi dyfod i gymeryd y safle uwchaf fel y cyfryw yn Neheudir Cymru. Ar ol araeth ddyddorol Mr. Williams, ceisiodd y cadeirydd gan Mr. John Morgan, adeiladydd, yn nghyd ag un o'i weithwyr i ddyfod i fyny er tynu allan o'r case ddarlun mawreddog a phrydferth o Mr. Griffiths, a'i arddangos i'r gwyddfodolion. Tara- wyd y dorf a syndod boddhaus pan welsant y darlun, a mawr fel yr edmygid ef gan bawb. Yr oedd y darlun yn Hfe-size oil painting, ac wedi ei weithio mewn modd destlus a chelfyddgar gan Mr. Smith, ieu., arlunydd, Abertawe, dyn ieuanc talentog a fagwyd ac a godwyd i fyny yn Aber- dar, a chostia o leiaf tua 50p. Yna, cafwyd areithiau gan ysgrifenydd pwyllgor y dysteb Mr. Morgan Edwards, Aberaman Mr. Davies, Mountain Ash Mr. D. Davies, Canton House y Parch. Henry Jones, Cwmbach; Mr. John Thomas, Llanwrt/d ac ereill, a'r oil yn dwyn tystiolaeth i unplygrwydd cymeriad Mr. Grif- fiths, yn nghyd a'r modd dystaw a dirodres, ond eto effeithiol a deheuig, yr oedd yn cyfiawni ei waith fel arweinydd cyffredinol canu cynulleid- faol y dosbarth. Hefyd, darllenwyd yr englyn- ion tlws a phenigamp a ganlyn gan y bardd cadeiriol a cherubaidd Dyfed Hawdd yw rhoddi arwyddion—o'r goreu Gariad fedd cyfeillion I Daniel,—cariad union Fu'n creu y deg anrheg hon. Darlun Daniel fel yn fyw,-iach ei wedd, Braidd na chan yn hyglyw; Eneidiol ddarlun ydyw, Ac hardd rodd i'r cerddor yw. Oriawr addas roir iddo,-oriawr aur Oreu 'rioed yn eiddo; Diludded y dalied o, A'i rinwedd fel aur hono. Haeddodd ei anrhydeddu,-gawraidd wr 0 gerddorol allu; Yn y d6n rhydd galon gu, A dwg enaid i'w ganu. Enyn galon ein gwyliau—&'i ddethol, Ddoetbaf awgrymiadau; Digrynedig yw'r nodau, Yn null nef i'n llawenhau. Ni chwyd neb na chydnabu -ei chwaeth bur, Heb chwith ball i'n dysgu Ei gerddol ddawn gyflawn, gu, Gwyd genedl i gydganu. Grym enwog yr emynau,-a gwlithog Lwythi eu meddyliau, Gwel yr oil, i'w heglurhau Ar dyner gysegr donau. Fe roed nef i'w rhad nofio,—a'i chanu, Heb na chwyn nac wylo Enwog fan-beth bynag fo, 0 Daniel! tyred yno. Cododd Mr. Griffiths i ddiolch am y rhoddion gwerthfawr, ond hawdd oedd gweled wrth ei wynebpryd fod ei deimladau yn ei luddias ef i siarad llawer. Yr oedd yn teimlo yn falch ar un olwg, ond yr oedd yn teimlo yn wahanol ar olwg arall. Yr oedd wedi ofni er's cryn amser y buasent yn gwneyd hyn Ag ef, ond gobeith- iai ar yr un pryd y buasent yn ymatal rhag gwneyd unrhyw arddangosiad o'r fath. Yr oedd yn fatch o'r rhoddion fel arwydd o'u serch a'u teimlad da tuag ato ef, ond o'r ochr arall, teimlai na ddylasai eu derbyn am wasanaeth yn y cysegr. Yr oedd efe yn cael hyfrydwch mawr wrth lafurio yn eu plith, a mwy o dal iddo ef na'r holl roddion i gyd oedd clywed y modd swynol a nefolaidd yr oeddid wedi datganu rhai o'r tonau y diwrnod hwnw. I derfynu, datganwyd yr anthem Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," o dan arweiniad yr awdwr ei hun, ac wedi gwedcli fer gan y Parch. J. Davies, Soar, ymwasgarodd y dorf wedi cael gwledd i'r llygad, y glust, a'r deall.
[No title]
ABERDAR.—Mai 19eg, 1882, yn 70 mlwydd oed, bu farw Mrs. Mary Williams, 94, Cemetery- road, Aberdar, priod Mr. Wm. Williams, a mam Gwilym Medi a Cynonfryn, ar ol cystudd byr o saith diwrnod, o enyniad y gwynt-bibellau, yr hwn a ddyoddefodd gydag amynedd ac ym- ostyngiad i'r Ewyllys Ddwyfol. Ca hanes y gladdedigaeth, yn nghyd a byr fywgraffiad o'r Gristionoges loew hon, ymddaugos mewn rhifyn dyfodol.
Tipyn o Bobpcth.
Tipyn o Bobpcth. BYDDAI y bardd Longfellow yn amyneddgar lawn gyda'i ymwelwyr dirif; dywedai wrth ei gyfeiIlion, Yr wyf yn credu dclarfod i mi letya llawer o angylion yn ddiarwybod." NID oes Iuddewon yn trigo yn Methlehem na Nazareth. Yn Bethlehem y mae dwy foneddiges Seisnig yn cynal ysgol genethod, ac y mae dros ddeg-ar-ugain o dan eu haddysg. DARGANFYDDWYD beddrod o ddyddordeb an. arferol yn y ddinas danddaearol yn Rhufain y dydd o'r blaefi. Y mae yr enw Ampliati yn gerfiedig arno, a phar yr enw i wyr dysgedig dybied mai efe ydyw beddrod y teulu Cristion- ogol yr ysgrifena Paul atynt gan ddywedyd, Anerchwch Amplias fy anwylyd yn yr Arglwydd." DAMWAIN ANGEUOL YN BRITON FERRY.— Sadwrn wythnos i'r diweddaf, aufonwyd Wm. Bond, engine-fitter, gan ei feistr i Resolven â llwyth cert o beirianwaith. Yr oedd ganddo ddau geffyl, a dywedwyd wrth Bond am fyned a. chyfrwy, fel, wedi gosod y peirianwaith yn ei Ie, y gallai farchog adref. Gorphenwyd y gwaith, a chychwycodd Bond tuag adref ond pan yn pasio dan bout rhwng Resolven ac Aberdylais, tarfodd y ceffyl, a thaflwyd y marchogwr ar ei ben yn erbyn y mur. Cripiodd y truan i dy ar ochr y ffordd, lie y gweinyddwyd yn garedig at ei glwyfau, a rhoddwyd ef eil- waith ar y cyfrwy, a chyrhaeddodd adref tua chanol nos, Trodd yr archoll ar ei wyneb i erysipelas, a bu y truan farw nos Wener diweddaf, tuag 11 o'r glach. DAMWAIN DDIFRIFOL YN NIIREFFOREST.—• Prydnawn dydd Sadwrn, cyfarfyddodd Mr. Thomas Richards <1 damwain enbycl ger y cutting ar Reilffordd Pontypridd a Chaerffili, uwchlaw Eglwys Glyntaf. Yn y cutting dan sylw, y mae llawer iawn o saethu'r graig yn cael ei gario yn mlaen, ac yr oedd Richards yn pasio ar yr heol uwchlaw pan darawyd ef gan gareg, ar ol i ergyd gael ei danio yn y graig. Cafodd yr ergyd ar ei ben, a syrthiodd yn ddi- deimlad ar yr heol. Gweinyddwyd arno gan. Dr. Hunter, yr hwn a'i cludodd adref yn ei gerbyd. Dywed awdurdodau y rheilffordd eu bod yn cael anhawscler mawr i ddylanwadu ar y cyhoedd i ymatal rhag pasio dros y ffordd uchod yn ystocl y saethu. Weithiau, bydd pump neu chwech ergyd yn cael eu gollwng ar ol eu gilydd, a theflir cerig i bob cyfeiriad.
Advertising
GRUFFYDD LLWYD ac OGOF Y DAREN GOCH. Dwy nofel ddyddorol gan ADOL- PHUS. Pris swllt. Ar werth gall bob llyfr- werthwr cyfrifol yn Nghymru. Elw da i lyfr- werthwyr. Cyfeirer-ROGER THOMAS (Adolphus), Ystalyfera. 2664. LLYFRAU NEWYDDION Oyhoeddedig gan D. L. JONES (Cynalaw). B R I TON FER R Y. ALCO FEDDYG neu Beryglon ac Aneff- eithiolrwydd Diodydd Meddwol fel Meddygin- iaeth." Gan T. B. GRIFFITHS, Allt-ddu. Y mae y llyfr poblogaidd hwn yn rhoddi tystiolaethau prif feddygon y byd ar effeithiau alcohol ar y cyfansoddiad dynol." Ei bris y w 6c., ond danf onir 12 i unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad blaendal o 3s. 9c. neu 6 am 2s. CANEUON Y PLANT Yn cynwya darnau rhagorol o waith yr un awdwr (T. E. GRIFFITHS), ac ar yr un telerau. "MOLWCH YB. ARGLWYDD Anthem newydd, pris 4c., Sol-ffa, 2g. Gan JOHN THOMAS (Blaenanerch), Llanwrtyd. Dywedai y diweddar Ieuan Gwyllt wythnos cyn ei farwolaeth, "Y r wyf yn meddwl y dylech ddwyn allan yr anthem 'Mol- wch yr Arglwydd' ar unwaith, fel y galler ei chael i fewn i waith ein Cymanfaoedd Gerddorol y flwyddyn nesaf."
Ymfudiaeth.
Ymfudiaeth. YSWYDDFA YMFTTDOL GYMREIG. Goruchwyliwr Cyffredinol a Chynrychiol- ydd Trwyddedig y gwahanol gwmniau agerawl a fordwyant o Lynlleifiad i wahanol wledydd y byd. Manylion a chyfarwyddyd i'w cael drwy anfon llythyr fel y canlyn :—N. M. JOSES (Cymro Gwyllt), Passenger Broker, 28, Union-street,. Liverpool. Amser hwyliad y gwahanol agerlongau, a phris- oedd y cludiad yny trydydd dosbarth Llinell Inman-yn wythnosol, pris, 6p. 6s. „ White Star „ „ 6p. 6s. Y National Line „ o 6p. Os. Llinell y Gunard i Boston, dydd Mercher; a'r Sadwrn i Efrog Newydd; pris y cludiad, 6p. 6s. Llinell Allan, yn morio i wahanol borthladdoedd, megys Halifax, Boston, Baltimore, Portland, a Montreal; pris y cludiad, 6p. 6s. lie canol, 8p. 8s. Llinell y Quion yn morio bob dydd Sadwrn am Efrog Newydd pris, 6p. 6s. lie canol, 8p. 8p. Llinell y Dominion i wahanol borthladdoedd, fel yr Allan Line, gydag ychwanegu New Orleans, gan droi i mewn i Galveston o Texas; pris, 6p. 6s. Llinell agerawl Lamport t, Holt yn wythnosol i Buenos Ayres, a phorthladdoedd ereill. Y pris i Buenos Ayres—lOp. i berson unigol; ac uwchlaw hyny, fel y canlyn :— Cwmni uwchlaw 6 a than 10 9p. 10s. Cwmni uwchlaw 10 a than 15 9p. Os. Cwmni uwchlaw 15 a than 20 8p. 10s. Cwmni dros 20 a than 40 8p. Os. Cludiad plant yn amrywio yn ol yr oedran. Dyma y porthlad I lie y glania teithwyr fyddant yn myned i Patagonia ond cofied y darllenydd fod y llywodiajth Argentaidd yn anfon pobl i wahan- ol barthau o'r wlad yn rhad o Buenos Ayres, yr un fath ag y danfonir hwynt i'r Wladfa Gymreig. Barned pob ymfudwr drosto ei hun am y wlad oreu i fyned iddi, ac na fydded i neb fod mor ddwl a chymeryd ei arwain yn fyrbwylL gerfydd ei drwyn. heb yn gyntaf bwyso y mater cyn chwalu- cartref. Mae yn elw a chynaliaeth i mi gyfar- wyddo ymfudwyr; ond ni charwn fod yn euog o gamarwain a thwyllo neb er mwyn ychydig geiniogau. Gallaf ddweyd hyn, ,fod genyf y ty Cymreig helaethaf yn L'erpwl, a digon o Ie 'cysur- us i letya ymfudwyr yn ddidrafferth. Byddai yn ddoeth i ymfudwyr ffurfio minteioedd bychain, er myned gyda'u gilydd, lie bynag y byddont wedi. meddwl am ymfndo, yr hyn fyddai yn gysur ychwanegol iddynt ar y daith droaforawl. Cofied ymofynwyr y cyfeiriad — CYMRO GWYLLT, American Eagle, 28, Union-street, Liverpool. O.Y.—Mae o bwys arbenig i deithwyr i anfon i'r porthladd am gyfarwyddiadau, yn hytrach nag ymddiried i oruchwylwyr yn y wlad, llawer o ba rai na wyddant y gwahaniaeth rhwng ymfudlong a ffedel-faen y crycld, neu fwrdd tori y teiliwr, -C. G.
CRYNODEB SENEDDOL.
ysbryd dadleuol, ond yr oedd yn gamgymer- iad mawr i dybied fod yr ysgrif wedi ei seilio ar un ysgelerder yn unig, sef y gyflafan erchyll yn Phcenix Park. Ni fu erioed fwy o garagymeriad ac er ei fod ef wedi derbyn o leiaf 500 o anerchiadau oddiwrtb gyrff cyhoeddus yn Lloegr, nid oedd dau ar nad oeddynt yn galw ar y Llywodraeth i lynu gyda'r gwaith o gymod. Cododd amryw o'r aelodau Gwyddelig, acyneu plithMr. Parnell, i wrthwynebu yr ysgrif. Rhanwyd y Tý, a chafwyd dros yr ail-ddarlleniad, 383; yn erbyn, 46 mwyafrif, 338. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Llun, gosododd Iarll Sydney ar y bwrdd gydsyniad graslawn ei Mawrhydi i'r anerchiad yn erfyn ar i'r deddfau a ffurfiwyd gan Ddirprwywyr y Prif-ysgolion dros Goleg Lincoln beidio d'od i weithrediad. Pasicfdd amryw ysgrifau drwy y Ty, a bu siarad ar helyntion yr Aifft, Ysgrif Ffrwydriadau Berwedyddion (yr hon a ddar- llenwyd yr ail waith), a Chytundeb Kilmain- ham, a gohiriodd y Ty am 7.30 hyd ddydd Iau, y laf o Fehefin. Yn NHY Y CYFFREDIN, dydd Llun, cyflwyn- wyd deisebau gan Syr H. H. Vivian a Mr. Dillwyn, o Abertawe, yn erbyn agor am- gueddfeydd, &c., ar y Sul. Yna, bu blwydd- daliadau, llong ei Mawrhydi yr Inflexible, ac Ysgrif 01-renti yr Iwerddon dan sylw. 0 barthed i'r Ysgrif Orfodogol, rhoddodd Mr. Gladstone rybudd y byddai iddo dranoeth, am 2 o'r gloch, gynyg fod Ysgrif Ataliad Trosedd (Iwerddon) i gael rhagflaenoriaeth o ddydd i ddydd ar bob busnes arall. Mr. Parnell a roddai rybudd y byddai iddo gynyg fod Ysgrif yr Ol-ddyledion i gael ei chynwys yn nghynyg Mr. Gladstone. Cymerodd Mr. Holden ei lw a'i sedd dros Adran Ogleddol Riding Orllewinol Yorkshire. Yna, cynyg- iodd Mr. Gladstone ail-ddarlleniad Ysgrif yr Ol-renti. Dywedai y byddai i 200,000 ym- ofyn buddiant dan yr ysgrif hon. Cynyg- ■" iwyd gwelliant gan Mr. Sclater-Booth (C., Hants), yr hwn a eiliwyd gan Cadben Aylmer (C., Maidstone). Mr. Forster a ddywedai, ar ol llawn ystyriaeth, ac o dan holl amgylch- iadau yr achos, yr oedd efe wedi dyfod i'r casgliad nad oedd un cwrs arall yn agored i'r Ty na phasio yr ysgrif a gynygid yn awr gan y Llywodraeth. Os gallent roddi heddwch i'r Iwerddon, nid oedd un drysorfa arall na gweddill yr Eglwys a allesid ei defnyddio yn well i'r perwyl htvnw. Yr oedd yn rhaid i'r Ty wneyd ymdrech fawr i setlo cwestiwn yr ol-ddyledion. Yn wir, os na setlid ef yn fuan, ni fyddai yr Act Dirol ond o ychydig ddefnydd i ffermwyr bychain yr Iwerddon. Pa beth bynag oeddynt y peryglon o fabwya- iadu cynllun y Llywodraeth, nid oedd amheu- aeth eu bod lawer yn llai nag y byddent chwech mis yn ol, a'r bobl, sefyllfa pa rai yr oedd yn ddymunol ei chyfarfod, oeddynt y rhai a wyddent, os talent eu rhenti yn awr, eu bod mor anobeithiol mewn dyled fel na wellheid eu cyflwr ond ychydig. Siaradodd Mr. Shaw yn erbyn yr ysgrif, ond ni chawsom y manylion am derfyniad y ddadl ar ein mynediad i'r wasg.