Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Yr Eisteddfod Genedlaethol,…

News
Cite
Share

Yr Eisteddfod Genedlaethol, 1881. Y GWEDDILLTARIANOL ETO. Y mae hwn yn aros fyth yn ddrewiant yn ffroenau y wlad. Cynaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor yn Temperance Hall Merthyr, dydd Iau, y 18fed cyfisol, i benderfynu pa gwrs gymerid o barthed i'r gweddill yn llaw Mr. Merchant, y trysorydd, Banc Cenedlaethol Cymru, Pontypridd. Yn absenoldeb yr Uwch-gwnstabl, etholwyd Mr. D. Davies, Glebeland, i lywyddu. Agorodd fusnes y cyfarfod trwy ddatgan ei ofid gwirioneddoIfod y pwyllgor wedi cael ei orfodi, trwy weithred un neu ddau o'i aelodau, i'r cwrs y cyfeirid ato yn y cylch- lythyr yn galw y cyfarfod. Ond yn gy- maint a bod aelodau y pwyllgor yn dal mai hwynt-hwy oedd perchengion. yr arian a gedwid gan Mr. Merchant, nid oedd gan- ddynt ddim i wneyd ond gwasgu am eu hawliau trwy rym cyfraith. Darllenodd yr ysgrifenydd lythyr oddiwrth Mr. J. Ed- wards Price, cyfreithiwr, Pontypridd, yn yr hwn y dywedai fbd Mr. Merchant yn barod i osod yr achos o flaen Mr. B. T. Williams, Q.C., neu Mr. Gwilym Williams, a darllenwyd copi o lythyr arall oddiwrth yr un at Mr. D. Williams, Taff Vale Brewery, yn nghyd ag ateb Mr. Williams iddo yntau. Mr. John Jones a sylwai nad oedd y pwyllgor yn addef hawl Mr. Mer- chant na neb arall i gwestiynu eumeddian- iaeth o'r arian a gedwid gan y trysorydd. Cynygiai ef fod y llythyrau i orwedd ar y bwrdd. Eiliwyd hyn gan Mr. E. P. OBiddle, a chariwyd ef yn unfrydol. Fe gy- mygiwyd gan Mr. John S. Jones, ac eiliwyd gan Mr. John Forrester, "Fod yr ymddir- iedolwyr, Mri. G. C. James, D. Williams, T. J. Webster, a John Jones, trwy hynyma, yn cael eu hawdurdodi i suddo y, gweddill yn nwylaw y trysorydd mewn rhyw fudd- soddiad da, fel ag i ddwyn y Hog goreu ellir gael, yn unol a'r penderfyniad 24ain o Chwefror, 1881." Cynygiwyd gan Mr. H. W. Southey, ac eiliwyd gan Mr. John Lewis, "Fod Mr. Merchant, trwy hyn, yn cael ei droi o'i swydd o drysorydd, a bod iddo gael ei gyfarwyddo i dalu gweddill yn -ei ddwylaw i'r ymddiriedolwyr, sef Mri. G. C. James, D. Williams, T. J. Webster, a John Jones." Cynygiwyd gan Mr. -Joseph Williams, ac eiliwyd gan Mr. W. Thomas, "Fod yr ymddiriedolwyr, Mri. •G. C. James, D. Williams, T. J. Webster, a John Jones, i gael eu hawdurdodi, os dygwydd Mr. Merchant wrthod talu y .gweddill yn ei law, i gymeryd y gweithred- iadau cyfreithiol i'w orfodi i wneyd hyny." Cynygiwyd gan Mr. E. P. Biddle, ac eiliodd Mr. J. Watkins, Fod copi o'r pen- derfyniadau a basiwyd heddyw i gael ei ddanfon, y nos hono, gyda'r Post, i Mr. Merchant." Terfynwyd y gweithrediadau trwy dalu diolch i'r cadeirydd.

[No title]

llarwolaeflj.

[No title]

CRYNODEB SENEDDOL.

DARWINIAETH.