Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. MAE yr adroddiadau sydd wedi ein cyr- haedd yr wythnos ddiweddaf oddiwrth ein cefndryd o'r UNOL I)AXAETHA.tr, yn mherthynas a helyntion yr ymdrafod- aethau metelaidd yn Philadelphia—canol- fan, ïe, prif ganolfan fetelaidd yr American- iaid,-yn parhau yn dra thebyg i'r hyn yr ydym wedi nodi amrywiol weithiau, bell- ach, yn helyntion masnach yr haiarn a'r dur. Oddiar gyfuniad amrywiol achosion a dylanwadau, ymddengys fod yr olch eur- aldd wedi myned ymaith yn mron oil yn awr oddiar fara penboeth masnach yr haiarn Americanaidd. Mae y bywiogrwydd rhy- feddol oedd yn weladwy yn y cais am reil- iau dur yn y flwyddyn 1880, ac yn y rhan flaenaf o'r flwyddyn 1881, i fesur mawr yn awr wedi cilio o'r golwg, ac y mae y "boom" yn y stoc rheiiffyrdd Americanaidd, hefyd, wedi diflanu. Gwendid y railroad securities, bid sicr, a raid fod yn effeithio mewn modd sylweddol ar y cais am haiarn rheilffyrdd; ond ar wahan i hyn, rhaid cyfrif, hefyd, cynydd galluoedd cynyrchiol y melinau rowlio Americanaidd. Tra y mae y cais am reiliau dur yn mhrif leoedd America wedi myned ychydig yn llai mewn bywiogrwydd, mae eu hadaoddau cynyrchiol yn dangos tueddrwydd cynydd ol; ac o dan yr am- gylchiadau hyn, nid yw mewn un modd yn syndod fod y meistri haiarn Americanaidd yn dyfod yn fwy pryderus am gyrhaedd archebion, er fod y prisoedd ryw rithyn, ac feallai ychydig yn fwy na rhithyn, yn llai na'r hyn oeddent ddeuddeg mis yn ol. Y ffaith yw, fod cynyrch y melinau rowlio Americanaidd yn debyg o fod yu fwy na chyfartal i'r oil o'r ceisiadau tybiedig ar ol yr haf dyfodol, fel y mae y llofwneuthur- wyr yn cyfaddasu eu hunain i wneyd cytun- debau ar delerau rhyddfrydig, pan fyddo suitable deliveries yn alluadwy i'w gwneyd. Wrth daflu golwg ar sefyllfa bresenol masnach haiarn reilffyrdd yn yr America, nis gallwn lai na theimlo rhyfeddod wrth ddylanwad a gallu coel. Pan fydd coel yn gryf, mae llafurwaith yn gryf hefyd. Pan fyddo coel yn wan, mae gwaith yn myned yn wan hefyd. Nid yn unig y mae yn bry- derus ac-ofnus fod gwneuthuriad rheilffyrdd Americanaidd eto wedi diffygio drwy or- weithiad, yr hyn sydd wedi cyfranu yn bre- senol ryw gymaint o wendid ae ',ansierwydd yn rheiiffyrdd gorllewinbarth y byd, ond y mae y cydymollyngiad o raganturiaeth mewn yd, cotwm, &c., hefyd, yn ymarfer dylanwad galluog ar y stock market Ameri- canaidd. Mae yr alroddiadau a dderbyn- iasom ddiwedd yr wythnos o Efrog Newydd, Philadelphia, a holl brif leoedd masnachol yr Unol Dalaethau yn dangos fod, am ryw gymaint o amser, lai o alw am haiarn bwrw Americanaidd. Ychydig, er hyny, o ar- wyddion gwendid sydd yn ganfyddadwy, a dim rhyw wasgfa neillduol am werthu. Mae y cais am haiarn bwrw Ysgotaidd i raddau yn ysgafn yn Efrog Newydd, a phris- oedd ryw fathau o brand8 wedi troi yn ffafr y prynwyr. Rhyw gymaint yn llai o far- siandiaeth yn myned yn mlaen. Rheiliau dor yn cael eu prisio wrth y melinau o 57 i 60 doler y dunell, a rheiliau haiarn o 40 i 50 doler y dunell. 0 SIR FYNWY, mae yr allforiad o haiarn a dur wedi bod yn hynod o dda yn ystod yr wythnos. Nid oes yma yn awr ond arwyddion daionus am y dyfodol. Yn adran MERTHYB TYDFIL, y mae llaesder, i raddau, wedi ymollwng i mewn i'r gweithfeydd glo. Yn rhai o byllau glo y Gyfarthfa, nid oes amser llawn wedi ei weithio er's tro bellach. Nid yw Gweithfeydd Haiarn a Dur Dowlais mor fywiog ag y maent wedi bod. Yn adran ABERTAWE, y mae rhyw gymaint o leihad yn yr arch- ebion am nwyddau dur a haiarn. Cais da am lo o bob math, a'r allforiad ohono yn parhau yn rhagorol o dda. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, 17,976 o dunelli o lo, 6,250 o dunelli o latent fuel, a 264 o dunelli ojiaiarn a dur. Gyda ni yma, yn NGHAERDYDD, nid oes dim yn newydd i'w adrodd am faanach y glo a'r haiarn. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, 101,541 o dunelli o lo, 1,091 o dunelli o haiarn a dur, a 1,523 o dunelli o olosglo. GOHEBYDD MASNACHOL.

[No title]

COLEG Y GWEITHIWR.

Haner Awr Ofnadwy.:

Eisteddfod Jerusalem, Resolven.

Adolygiad y Wasg.

Yr Amerig fel Cartrefle Gweithwyr.