Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
ARTHUR J. WILLIAMS will open a GROCERY and PROVISION BUSINESS at 6, COMMERCIAL-STREET, ABERDARE, on SATURDAY NEXT, MARCH 18th, 1882.
[No title]
salt nad oedd wedi ei gofrestru a ddylai fod yn ddiwerth. Siaradodd Mr. Warton, Mr. Seargeant Simon, Mr. Cropper, a Mr. Cham- berlain yn mhellach ar y mater, a darllenwyd yr ysgrif yr ail waith. Yna, bu Ysgrif Di- wygiad y Gyfraith o barthed i droseddau dan sylw y Ty, ac ar ol cryn lawer o siarad, dar- llenwyd hi yr ail waith. Ar ol sylwi ar fan- bynciau dibwys ereill, gohiriodd y Tý am 5.50. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Iau, cymer- odd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd am 5 o'r gloch. Cyflwynwyd Arglwydd Howth gyda'r ffurfiau arferol, a thanysgrifiodd y rhol. 0 barthed i'r ymgais ar fywyd y Frenines, hysbysodd Iarll Sydney eu harglwyddi fod ei Mawrhydi yn raslon wedi awgrymu y gwnai dderbyn y ddirprwyaeth o'r Parliament dra- noeth (dydd Gwener), yn Nghastell Windsor, am un o'r gloch, ar bwnc yr anerchiad iddi, mewn cyfeiriad at yr ymgais ar ei bywyd. Ar gynyg Iarll Kimberley, gorchymynwyd lod y genadwri i gael ei hysbysu i Dy y Cyff- redin, a bod yr Arglwydd Ystafellydd a'r Arglwydd Stiward i gael eu hapwyntio i gyflwyno yr anerchiad ar ran Tf yr Arglwyddi. Bu xhyfel-longau haiarn dan sylw ond ni phasiwyd un penderfyniad o barthed iddynt, a gohiriodd eu harglwyddi am 5.55. Yn NHY Y CYFFREDIN, dydd Iau, cymerodd y Llefarydd y gadair am 4 o'r gloch. 0 barthed i Arolygydd Ffyrdd yn Neheudir Cymru, gofynodd Is-iarll Emlyn i Lywydd Bwrdd Lleol y Llywodraeth ar ba ddiwrnod y golygai ddwyn yn mlaen ysgrif yn delio ag .apwyntiad Arolygydd Cyffredinol Ffyrdd yn Neheudir Cymru. Mr. Dodson a ddywedai yn uniongyrchol ar ol cael allan olygiadau y gwahanol fyrddau, yr oedd efe wedi cyfar- wyddo fod ysgrif i gael ei pharotoi. Darfu i'r Mil. Afiles, yn nghanol bloeddiadau oddi- wrth yr wrthblaid, gymeryd ei sedd dros Malmesbury. Ar ol i amryw rybuddion a man-faterion fod dan sylw, dywedodd y Llefarydd iddo dderbyn cenadwri oddiwrth Dy yr Arglwyddi i'r effaith fod ei Mawrhydi wedi apwyntio dranoeth i dderbyn anerchiad- au llongyfarchol y ddau Dý o Barliament ar ei gwaredigaeth. Mr. Gladstone a gynygiai ei fod ef ei hun, Syr W. Harcourt, Cyfarch- wyliwr y Teulu, a'r Is-ystafellydd i fyned gyda'r arglwyddi i gyflwyno yr anerchiad i'r Frenines. Yna, bu yr arglwyddi a'r Ysgrif Dirol dan sylw, pan y siaradodd amryw o'r .aelodau ar y mater. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener, dygodd Iarll Sydney gerbron atebiad ei Mawrhydi i'r anerchiad a bleidleisiwyd gan y ddau Dy. Dywedai ei Mawrhydi" Fy Arglwyddi a boneddigion, yr wyf wedi derbyn gyda boddhad calon yr anerchiad teyrngarol a dyladwy a bleidebwyd gan fy nau Dy o Barliament. Yr wyf yn ddiolchgar i'r Hollalluog, gofal trugarog yr hwn a'm hamddiffynodd i a'm hanwyl blentyn rhag perygl. Yn fy awydd i hyrwyddo hawddfyd fy mhobl, cysurir ac ategir fi gan y sicrhad parhaol o'ch ymlyniad wrth fy mherson a.'m gorsedd." Bu tipyn o siarad ar yr ymladd yn Transvaal. Yna, darllenwyd Ysgrif Bylor y Chwarelau Llechi yr ail waith, ac yna darllenwyd Ysgrif y Drysorfa Gyd- gyfansoddedig y drydedd waith, a phasiwydhi. Gohiriodd y Ty am 5.55. Yn NHY Y CYFFREDIN, cymerodd y Llefar- ydd y gadair am bedwar o'r gloch. Rhodd- wyd amryw rybuddion gan wahanol aelodau, -ac ar ol sylwi ar faterion dibwys ereill, daeth rhyfel Gwyddelig arall yn mlaen. Mr. Forster, mewn atebiad i Mr. Healy, a ddywedai, oddiar Rhagfyr diweddaf, fod copiau o newyddiadur yr Irish World wedi eu hatal yn llythyrdy Dublin, ar warant oddi- wrth yr Arglwydd Lifftenant, gan yr ystyrid hi yn angenrheidiol gan y Llywodraeth Gwyddelig i gymeryd y cwrs hwnw. Mr. Healy a ofynai os ydoedd yn wir fod Mr. James Rorke wedi ei gymeryd mewn dalfa yn Dublin dan yr Act Orfodogol. Mr. Forster a atebai yn fyr ei fod yn wir. Yr oedd Mr. Rorke wedi ei ddal ar dir rhesymol, ei fod wedi arfer ei ddylanwad i frawychu. Yna, cynygiodd Mr. Healy ohiriad y Ty, a gwadai fed cysgod o ddrwgdybiaeth resymol yn gorphwys ar Mr. Rorke. Condemniai ei garchariad yn yr iaith gryfaf y gallai dd'od o hyd iddi. Cyfiawnhai Mr. Forster ei garchar- iad, ond dilynwyd ef gan haid o'r aelodau Gwyddelig, y rhai a ataliasant waith y Ty am tua thair awr. Pan ranwyd y Ty., cafwyd dros gynygÏarl Healy, 14; yn erbyn, 147 mwyafrif, 133. Ar ol hyn, bu tipyn o siarad ar y Boeriaid a'r brodorion, ac ar y drysorfa segur yn y Chancery, yn nghyd a rheilffyrdd yr Iwerddon., Y mae twrw y Gwyddelod yn y Senedd, dydd Gwener diweddaf, yn uchel brofi fod angen cael y Cloadur (Cloture) mewn grym i roddi taw ar eu baldordd ynfyd. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Llun, bu tipyn o siarad ar helyntion Deheubarth • Affrica, a galwodd Arglwydd Lamington sylw at y siarter a ganiatawyd yn 1881 i'r North British Borneo Company, yr hwn, meddai ef, oedd yn rhoddi i'r cwmni hwnw awdurdod dros ran helaeth o'r ynys, gydag awdurdod bywyd ac angeu, gallu i godi trethoedd, yn nghyd a'r holl hawliau cyffredinol a ymarferid gan lywodraethwyr. larll Granville a ddy- wedai fod llawer o gamdriniaeth o barthed i'r mater. Yr oedd Borneo, yn ddiau, yn nesaf at Awstralia, yr ynys fwyaf yn y byd, ac yn cynyrchu llawer o fwnau a llysiau. Meddian- wyd hi gan y Dutch, yr Ysbaeniaid, a'r Portugiaid yn y ganrif ddiweddaf, ac ar y pryd hwnw yr oedd gan gwmni India'r Dwyrain hefyd gytundebau o barthed iddi. Oddiar y flwyddyn 1814, nid oedd ond dau dl: Galluoedd wedi cadw yn mlaen unrhyw gysylltiad a hi, sef Prydain Fawr a Holland. Yna, rhoddodd eglurhad helaeth o'n perthyn- As &'r ynys ac ar ol hyny, Uongyferchid y Llywodraeth gan larll Caernarfon ar y cwrs a fabwysiadwyd ganddynt, fel yr un oedd yn fwyaf tebygol o brofi y mwyaf manteisiol i'n masnach yn y Dwyrain. Ar ol ychydig siarad pellach ar yr un testyn, ac ar y Tir- lysoedd Gwyddelig, gohiriodd y Tf am 7.0. Yn NHY Y CYFFREDIN, dydd Llun, ym- seddodd y Llefarydd am 4.0. Awd yn mlaen ag amryw fan ysgrifau, a bu siarad ar y Code Addysgol newydd; ac o barthed i fflangellu am droseddau, dywedai Syr W. Harcourt nad oedd efe yn bresenol yn golygu cymeradwyo unrhyw gyfnewidiad yn y gyfraith o barthed i droseddau am y rhai yr oedd fflangellu yn awr yn gosb. Bu siarad ar y Channel Tunnel, ac ar fusnes y Ty, pan ddywedodd Mr. Gladstone ei fod yn golygu myned at y cwestiwn o reoleiddio busnes y Ty yr wythnos nesaf. Amgylchiadau yr Aifft, a gwisgoedd ein milwyr oeddynt y pethau diweddaf fu dan sylw.
Hwnt ac Yma.
Hwnt ac Yma. PURION peth fyddai i'r gwrurddasol a'r genau cyhoeddus, nid yn nepell o Donypandy, i gadw ei fysedd o bastai y codi yn ardreth tai pobl dlodion. Gwareded Rhagluniaeth y bobl rhag y fath arweinydd. Ar y bobl mae y bai am ethol y fath gywion i'r cynghoraa. Pa le mae yr Homo Ddu ac ereill o edmygwyr rhyddid a chyfiawnder? Ai cysgu y maent ? TESTYN i'r beirdd, neu seiri y cynghaneddion, "MÔr y Canoldir." Gwobr, haner cant o ddoleri, a chadair. Dyfed, dyna le i ti nofio dy gwch, a'i gael i mewn yn ddymunol i'r hafan ddwyreiniol. Hoi beth sydd wedi dyfod o Oriel y Beirdd" yn Nghyfaill yr Aelwyd? A ddychryn- odd y paentiwr ? Gresyn os do. I GAEL ei gyhoeddi yn fuan, gan lenor o urddas, "Taith o Forganwg i Arfon, gyda darluniau.Hyn yn bresenol, TOM JONES.
Pafodd yr halogodd yr Hebreaid…
Pafodd yr halogodd yr Hebreaid Enw Sanctaidd Duw a'u Ffieidd-dra. GAN MORIEN. ENW Duw. Pa beth a olygir wrth y frawddeg hon? Golyga yr un peth a Gair Duw. Wrth Air Duw golygwn ni y Beibl; ond i'r hynafiaid yr oedd yn golygu peth hollol wahanol. Yr oedd mewn arferiad cyn ysgrifenu na'r Hen Destament na'r Newydd gan hyny, amlwg yw mai nid enw ar y Beibl ydoedd gynt, ond ei fod wedi ei fenthyca a'i roddi ar y Beibl yn ddiweddar, canys yn ddi- weddar, mewn cyferbyniad, y gosodwyd y Beibl yn ei ffurf bresenol. Traethodau ar wahan oddiwrth eu gilydd oedd llyfrau yr Hen Destament a'r Newydd bron i lawr hyd yr amser y dyfeisiwyd argraffu gan Caxton, tua phedwar cant o flynyddoedd yn ol. Gall- wn lanw dwy golofn o'r GWLADGARWR o enw- au efengylau ac epistolau yr Eglwys yn oes- oedd boreuaf Cristionogaeth, megys Epistol Barnabas, Epistol Polycarp at y Philipiaid, Epistol Clemens Romanus at y Corinthiaid, Epistolau Ignatius, Epistol Clemens o Alex- andria, &c. Mae y rhai uchod, medd y dysg- awdwr enwog Toland, received as apostoli- cal, though not canonical, in the Church of Rome, and also by most Protestants." Mae, hefyd, Epistolau Paul at Seneca, ac eiddo Seneca at Paul. Seneca oedd athraw yr adyn melldigedig Nero pan yn fachgen, yr hwn, pan yn ymerawdwr, a dorodd ben Apostol mawr y Cenedloedd. St. Jerome, yr hwn oedd yn preswylio yn Methlehem yn nechreu y bumed ganrif, a esyd Seneca yn mhlith yr ysgrifen wyr Cristionogol. Y gwirionedd yw, nid yw y Testament Newydd sydd genym ni yn bresenol ond detholiad o hen ysgrifeniadau yr Eglwys a wnaeth y Tadau Pabyddol yn eu cymanfaoedd ac y mae un peth pwysig iawn i'w ystyried yn nglyn a'r detholion, sef na ddetholasant i fod yn ganonaidd ond y rhai hyny yn unig ag oeddynt yn ffafriol i'w tradd- odiadau hwy. Mae rhyfyg y tadau hyny—eu heondra wrth drin pynciau mawrion Duw yn ei oruchwyliaethau tuag at blant dynion, yn rhoddi golwg i ni ar waeledd dynion pan yn yn cael eu harwain gan fympwy a nwyd Mae ymddygiadau y pleidiau y* nghymanfaoedd Ephesus, pan sefydlwyd rhai o'r pynciau egwyddorol pwysicaf a dderbynir genym ni yn Nghymru heddyw fel iawn-dyb, yn warth i ddynoliaeth. Ond er pob mympwy a nwyd -er y brathu, lladd, a llosgi yn enw Crist,- arosodd Enw Sanctaidd Duw yn uchaf, a gosodwyd ef yn enw ar y crynodeb o draeth- odau Cristionogol a elwir genym ni yn Feibl. Enw Groegaidd ydyw, yn ei ffurf Roegaidd, sef Biblion, am unrhyw lyfr. Ni alwodd yr Hebreaid erioed unrhyw ran o'r Ysgrythyrau yn Air Duw neu yn Enw Duw, ond yr enw a roddasant iddynt oedd I I Y Gyfraith." Peth hollol ddiweddar yw yr arferiad o alw yr ysgrifeniadau eysegredig yn Air Duw. Amlwg yw mai Geiriau Duw, ac nid Gair Duw, yw y Beibl. Ond gftyr yr hanesydd yn eithaf da mai enw benthyciol yw Gair Duw. Yr oedd yn arferedig yn mhlith y Cenedloedd, yn ogystal ag yn mhlith' yr Iuddewon, ganoedd o flynyddoedd cyn bod Beibl mewn bod. Galwai y Groegiaid Air Duw yn Logos, a'r Hebreaid ef yn Jah. "Yr hwn," medd Dafydd, "sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a'i enw yn Jah," Deu Iao. Yr oedd yr Enw yn arwyddluniol yn mhlith y Derwyddon, ac yn mhlith yr Iuddewon. Dywed Josephus fod arwyddlun yr Enw yn cael ei wisgo ar benwisg yr Archoneiriad ac hyd heddyw, cyn myned i'r presenoldeb dwyf- ol mewn gweddi, gwisga yr Iuddew arwydd- lun yr Enw Mawr Jehovah ar ei dalcen ac ar ei wegil. Mae i'w weled yn y lythyren gynt- af yn y gair Shaddai, a thyma fe \| neu, fel y gwisgid ef gan y Gwyddon, sef Archoffeir- iad Prydain, /1\. Mae Eisteddfodwyr Cymru y dydd hwn yn ei osod yn ddigon ysgafn ar leni yr Eisteddfodau ond i'n teidiau, yr oedd yr arwyddlun mwyaf cysegredig ac ofn- adwy yn ei sancteiddrwydd yn yr holl fyd. Gelwid ef Pill y Beirdd—hyny yw, Cyfoeth y Beirdd. Arwydda y gair Pill, hefyd, cyff, paladr, &c. Y Pill hwn II yw'r hwn y cyf- eiria Gutto o'r Glyn ato yn y llinell,- Ac olew'r tair Gwialen," yr hon a ysgrifenwyd tua'r flwyddyn 1400' Mae yn fy synu i ag sydd yn gwybod hanes y Nod bendigedig hwn yn mhlith yr hen gen- edloedd, i rai fel Mr. Thos. Stephens, Mer- thyr, haeru mai lolo Morganwg a'i dyfeisiodd tua'r flwyddyn 1812 Mae y fath haeriad, nid yn unig yn gabldraeth ar Iolo pur ei fuch- edd, ond, hefyd, yn profi fod y rhai a ddy- wedant y fath beth yn hollol anwybodus am arwyddluniau crefyddol y byd. "Hwy a halogasant fy Enw Sanctaidd a'u ffieidd-dra," medd yr Arglwydd trwy y pro- tfwyd. Sylwer,-nid "halogi" trwy gymeryd yr Enw yn "ofer," ond a'u ffieidd-dra a ddywedir. Pa beth, ynte, yw Eaw Duw, neu Jehovah 1 "Adeiledais dy," medd Solomon, i enw yr Arglwydd," neu, yn ol y g'wreidd- iol, i Enw Elohim-hyny yw, Arglwyddi. Peth hollol warthus yw fod cyfieithwyr wedi cymeryd yr hyfdra ofnadwy, yn eu mympwy cywilyddus, i gyfieithu Elohim yn Arglwydd, ac nid Arglwyddi, yr hyn yw yn y gwreiddiol. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a was- anaethi, ac i'w Enw y tyngi" (Deut. vi. 13). Nid i'r Arglwydd, sylwer, ond i'w Enw. Mae yr Enw yn cael ei bersonoli. Yn hanes Seth. dywedir mai ar ol geni Enos "y dechreuwyd galw ar Enw yr Arglwydd." Nid ar yr Ar- glwydd, sylwer, ond ar ei Enw. Yr un peth yw Enw yr Arglwydd" a Gair yr Ar- glwydd." Yr Enw ydyw "Gair ei nerth." The Name of God," medd Calmet, in- cludes all things; he who pronounces it shakes heaven and earth, and inspires the very angels with terror. There is a sovereign authority in the Name it governs the world with its power. The other names and sur- names of the Deity are ranged about it, like officers and soldiers about their sovereigns and generals; from this KING NAME they receive their orders and obey." (Historic Die., vol. i., p. ,50). Alexis a ddywed, Wheresoever Jehovah and Elohim are read in the Hebrew, there Onkelos com- monly renders it, in his Chaldee paraphrase, the WORD of the Lord the other Targums more commonly describe the same person under the title of Shechinah." Gair Duw, gan hyny, yn ol y Rabbiniaid Iuddewig, oedd y Shechinah. Dywed Targum Jona- than mai y Logos (y Gair) a siaradodd i Moses, a dywed yn mhellach, Y Logos, yr hwn a lefarodd, a chrewyd y byd." "A'i Air a red yn dra buan. Yr Hwn sydd yn bwrw ei la fel tameidiau pwy a erys gan ei oerni Ef ? Y Fe a enfyn ei Air (pelydrau 1) ac a'u tawdd hwynt" (Salm clxvii. 15, 17, a 18.) "A Mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r Arglwydd" (Jehovah, neu y Gair) arno mewn t&n; a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr." Gan mai yr un yw Jehovah, y Gair, neu y Logos, y Gair a ddis- gynodd ar y mynydd. Dywed,Onkelos ar Exodus xix. 3 Aeth Moses i fyny i gyf- arfod & Gair yr Arglwydd." Eto, ar adnod 17:- "Moses a ddygodd yr Israeliaid allan o'r gwersyll i gyfarfod a Gair yr Arglwydd." Hefyd, ar Deut. v. 5, dywed:—"Saf odd Moses rhwng y bobl a Gair yr Arglwydd." Cofied y darllenydd i'r pethau uchod gael eu hysgrifenu ddeg-ar-ugain o flynyddoedd cyn geni Crist, a dywed dysgedigion mai yn ol Targum Jonathan y dyfynodd Crist wahanol ranau o'r Hen Destament yn ys<jod ei fywyd cyhoeddus ar y ddaear. Yn awr, pa beth a feddylir wrth "halogi" yr Enw Sanctaidd a'u ffieidd-dra ? A'i Air y creodd Duw bobpeth. Ei Air-y Memra- oedd y cyfrwng trwy pa un y crewyd pob- peth. Y "ffieidd-dra" crybwylledig oedd yr arferiad, yn y llygriad o'r drychfeddwl pur cyntefig am y Gair yn dylanwadu yn hadol'ar Anian, i arwyddluhio y Gair neu yr Enw dwyfol mewn dull cnawdol, y cyfeirir ato yn y Beibl dan yr enw puteindra a Sodom- iaeth. Nid yw yn gweddu i mi fanylu yn mhellach ar hyn, ond dywedaf mai gweddill- ion o'r ffieidd-dra" oeddynt y fedweit haf, y May pole, yr obelisk, a'r monuments pig- feinion a welir yn mynwentydd ein gwlad heddyw. Ond gyda'r hen Gymry, cawn gysegr Duw yn bur. Fel Shechinah yr Iuddewon, yr oedd llygad goleuni yr or sedd yn arwyddlun pur o'r Gair dwyfol-yr Enw goruwch pob enw. (Fw barhau.)
[No title]
DYDD Iau, y 9fed cyfisol, yn Workington, oymerwyd dyn o'r enw Maynard Harrison i'r ddalfa mewn cysylltiad a llofruddiaeth Lucy Sands, corff yr hon a gafwyd wedi ei gladda o dan dwmpath o geryg yr wythnos flaenorol. YMFUDIAETH. Y roae y Parch. Styleman A. Herring, B.A., a Mr. John James Jones, aelod o'r Bwrdd fsgol dros Lundain, yn gwneyd trefniadau i gludo nifer luosog o grefftwyr, morwynion, a llafurwyr, i'r Unol Dalaethau a Canada yn Ebrill a Mehefin nesaf.. Cynorthwyir yr ymfudwyr hyn i gael gwaith wedi iddynt lanio yr ochr draw i'r Werydd. Am fanylion pellach, ymofyner a Mr. John James Jones, 98, High Street, Homerton, London, E. YCHYDIG ddyddiau yn ol, ceisiodd mam gan ei phlentyn chwe' mlwydd oed i roddi ymborth i'r hwyaid oedd tuallan i'r drws. Ufaddhaodd y plentyn yn union i orchymyn y fam, a dechreuodd daflu ceirch allan iddynt. Ar hyn, daeth y tad yn mlaen, a dywedodd, "Dyna ddigon, Willie, oblegyd mae malwod i'w cael iddynt hwy." Yna, aeth y tad a'r plentyn i giniaw. Wedi i'r tad yfed basinaid o gawl, gofynodd i'w briod a oedd y tatws wedi berwi. Gyda hyn, edrychodd y plentyn yn myw llygaid ei dad, a dywedodd wrtho, Na hidiwch am ragor, oblegyd mae digon o falwod i'w cael 'nawr, nhad."
SCETTY.
SCETTY. CYNGHERDD.—Cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn y lie uchod nos Lun, Mawrth 6ed. Llywydd wyd ar yr achlysur yn ddeheuig iawn gan Mr. J. Blundell, Scetty. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Mrs. Richardson. Canwyd gan W. Rees, Cockitt, a'i barti; W. Davies, Cockitt; Aaron. Rees, a'i barti; D. Williams, ac ereill. Yr oedd yn gyngherdd gystal ag y gellid ddymuno gael. MAESTEG. GAItTH. --Ebenezer. — Nos Lun, Mawrth 6ed, traddodwyd darlith yn y capel uchod ar Pethau prydferth," gan y Parch. I. 0, Evans, y gweinidog. Dangosodd y darlithydd yn eglur beth oedd y prydferth," yn nghyd a'r ffordd i wneyd pethau y byd yn ddymunol. Yr oedd ei apeliadau, ar y diwedd, yn anorehfygol. Cadeiriwyd gan Mr. W. Rees, manager, Llettyhrongu Farm, Llangynwyd. Yr oedd yr elw yn myned i leihau y ddyled sydd ar y capel.—Garthfab. PONTYPRIDD. YN mudd-gyngherdd Joseph Davies a gynelir nos Sadwrn, y 25ain cyfisol, llywyddir gan Mr. Thomas Williams, manager Glofa y Great Western, a bydd yr enwogion cerddorol a ganlyn yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau :—Madame S. A. Williams-Penn, R.A.M. Miss M. A. Daviesy Treharris; Miss R. James; Mr. John Richard (Alaw Illtyd); Eos y Llan; Mr. W. Abraham (Mabon); Mr. Daniel Goronwy a Mr. Thomas Jenkins. Bydd y Great Western Glee Party hefyd yn gwasanaethu ar yr achlysur, ac y mae pob rhagolygon yn awr y ceir cyngherdd rag- orol a llwyddianus.—B. Gwyngyll Hughes. TREHERBERT. CYDYJIDEIMLAD AR EI DRAED.—Nos Iau, y 9fed cyfisol, yn Neuadd Gyhoeddus y lie, cynaliwyd cyngherdd o gydymdeimlad a'r cyfaill E. Thomas, guard, T.V.R., yn yr amgylchiad pwysig o golli, trwy ddamwain, un o'i aelodau. Cymerwyd rhan yn y canu gan Mrs. Davies, Tynewydd Miss E. A. Buler, Miss C. Price, Treherbert; Mr. D. Davies, Tynewydd Mr. T. Howells, Treherbert; Mr. D. Morgan, T.V.R. Mr. G. Jenkins, Tre- herbert yn nghyd a glee party o'r lie, dan ar- weiniad Mr. D. Davies. Yr oedd string band Libanus yn chwareu. Chwareuwyd ar y concertina gan Miss A. Price, ac ar y berdoneg gan Dr. A. Warburton a Mrs. Williams.-B. D. G. GILFAOH GOCH. "AMERICA."—Nos Lun, Mawrth 6ed, traddod- odd y Parch. E. Edmunds, Abertawe, ddarlith ar y testyn uchod yn nghapel y Methodistiaid. Caf- odd gynulleidfa fawr i'w wrando, a rhoddodd yntau foddlonrwydd cyffredinol. Y mae Mr. Edmunds yn hen ddarlithiwr; ond y mae, yn y ddarlith hon, mor nwyfus ag erioed. Gellir meddwl wrtho mai Americanwr gwreiddiol ydyw, gan mor ddarlun- iadol o'r cyfryw ydyw. Y mae hefyd yn llawn o ddywediadau prydferth, ac o addysgiadau rhagorol i'r sawl sydd a'u bwriad am fyned i'r wlad Orllew- inol. Y "BLUE RIBBON ARMY."—Y mae y fyddin yma wedi gwneyd ei hymddangosiad yn y lie, a llawer iawn wedi ymuno a hi.-Gohebydd. MERTHYR. "JUDAs MACCABEUS."—PerSormiwyd yr ora- torio uchod yn y Drill Hall, nos Iau, y 9fed o'r mis hwn. Yr artistes oeddynt Madam Edith Wynne. Mr. H. Guy, Mr. J. Sauvage, a Miss Annie Williarns. Dadganwyd y corawdau gan y Dowlais Harmonic Society, dan arweiniad Alaw Glan Morlais. Orchestra, Seindorf Cyfarthfa. Y cyfeillydd oedd Mr. D. Bowen a Miss L. Davies, Dowlais. Yr oedd y neuadd yn weddol lawn ag ystyried y tywydd, ond yr oedd lie i ganoedd yn ychwaneg. Yr oedd y gynulleidfa yn un barchus iawn. Yn mysg ereill, gwelsom yr Uwch-gwn- stabl a'i briod, y cyn-Uwch-gwnstabl, ac amryw 0 ddynion blaenaf y dref. Yr oedd yno, hefyd, amryw o gewri cerddorol; yn mysg ereill, Mr. Emlyn Evans. Gwnaeth yr artistes enwog uchod, yn nghyd a'r cyfeillwyr a'r band, eu rhan yn nod- edig, ac ymadavvodd pawb wedi eu llwyr foddhau. Gobeithir fod y pwyllgor wedi eu digolledu yn yr anturiaeth ganmoladwy, ond ofnir na fydd dim ganddynt i'w drosglwyddo at y dyben bwriadedig, sef at y Children's Hospital.-Gohebydd; MOUNTAIN ASH. CARMEL, PSNRHIWCEIBR.—Mae ein lie bach ni yma, erbyn hyn, wedi dyfod yn le mawr, a llawer iawn o gyrchu i'r capel, yn enwedig y Saboth. Pan fydd ein lie wedi ei gyfaddasu a heolydd, bydd yma ddylifiad pobl lawer. Mae yma hefyd bregethwr, sef Mr. Robert Thomas, a Goleg y Bala, pa un sydd yn bregethwr da, ac o ymddang- osiad serchus, yr byn sydd yn gwneyd llawer dros ddyn mewn sefyllfa 0 fod yn weinidog. Nid yw amseriad yr ordinhad wedi ei benodi eto, ond lied debyg bydd hyny cyn hir. Mae ein cyngherdd fawr wedi ei rhifo at y pethau a fu, pa un sydd wedi troi allan yn llwyddianus. Y mae pawb, pell ac agos, wedi bod yn hynod gymwynasgar, ac y mae pawb o'r firawdoliaeth, sef aelodau yr eglwys, yn dymuno talu diolchgarwch i bawb am hyny. Nid gwiw son am y canu, oherwydd nid wyf yn ddigon o feirniad i wneyd hyny ond medd y deallus, Yr oeddynt yn dda dros ben." Ond yr oedd y cantorion yn melldithio y lie, sef y Workman's Hall, fel adeilad anaddas i ganu. Paham na wna perchenogion y gymydogaeth y lie yn fwy cyfleus ? Sicr y talai y ffordd cyn pen fawr o amser. A fydd perchenog y ticket No. 616 ddyfod am ei rodd, sef Gwaith Josephus ?" Os na fydd wedi ei gael cyn daw hyn o nodyn allan, gwneled felly, os bydd cystal. Uil, 0 blant 11 uân. ABERDAR. DIAMHEU y bydd yn ddrwg-iawn gan bawb a gawsant y pleser o fyned i weled panorama Mr. Poole, a elwir "The World," wybod fod un o'r cwmni, sef y Proffeswr Alexander, y bolebrydd (ventriloquist) wedi marw yn Aberdar foreu dydd Gwener diweddaf, ar ol perfformio wyth neu naw noson yma. Tua 26 mlwydd oed ydoedd. Yr oedd y trancedig yn ymwybodol fod ei fuchedd ddaearol bron ar ben, canys pan gyrhaeddodd yma o Ddowlais gyda'r cwmni, awgrymodd ei feddwl wrth Mr. Poole na fyddai yn fyw yn ymadael 0 Aberdar. Ymddengys fod ei ysgyfaint mewn cyflwr hynod o druenus. Cymerwyd ei gorff i Bryste, boreu dydd Llun diweddaf, i gael ei ddaearu. Yr oedd yr ymadawedig yn un a berchid yn fawr gan ei adnabyddion. Y GYMDEITHAS DDADLEUOL.—NOS Iau, y 9fed, cynaliodd y gymdeithas hon ei chyfarfod olaf, yn Nghoffi Tafarn Dance, dan lywyddiaeth Mr. D. H. Richards. Darllenwyd papyr ar "Gynyady Gymdeithas, o'i chychwynied hyd yn bresenol," gan yr ysgrifenydd, yr hwn a sylwodd yn fyr ar deilyngdod bob papyr a ddarllenwyd, ar y gwa- hanol destynau, yn ystod-y tymor., Sylwodd fod y gymdeithas wedi dadleu, o bryd i bryd, ar ddeu- ddeg o destynau—chwech yn y Gymraeg, a'r un nifer yn Seisnig, ac yr oeddynt oil yn ddangoseg eglur o chwaeth dda y gymdeithas yn ei dewisiad o'r cyfryw. Cafwyd papyr maith a chynwysfawr, yn cynwys hanes gyflawn o'r gymdeithas o'i chy- chwyniad hyd yn bresenol. Siaradwyd yn bwrpas- 01 iawn hefyd gan yr aelodau canlynol :-Mri. D. Phillips, a Hugh Thomas, Trecynon; D, Bowen,, H. W. Howells, R. Thomas, Howell Howells, T. Harrison, J. Barkley, J. D. Morgan, ac E. Wil- liams, y rhai a dystient oil fod y gymdeithas wedi bod o les nid bychan iddynt mewn mwy nag un ystyr. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Darfab a. Didymus Wyn yn datgan eu gofid am eu hanallu i fod yn bresenol, ond yn dymuno y byddai i'r gym- deithas gael ei sefydlu eto am dymorau lawer yn y dyfodol. Cafwyd cyfarfod dyddorol ac hwylus dros beu, ac yr ydym, wrth derfynu, yn hyderu y bydd i'r gymdeithas hon fod yn foddion i ddwya bechgyn ieuainc yr ardal yn y dyfodol i werth- fawrogi eUr horiau hamddenol, trwy iddynt eu defnyddio i gario allan bwriad teilwng y gymdeith- as hon, sef dyrchafu a chwyddo safon eu gwybod- aeth. —Gohebydd. DOWLAIS. CYNALIWYD cyfarfod pregethu yn nghapel y Wesleyaid dydd Sul, Mawrth 5ed, pryd y cafwyd y fraint o glywed y Parchn. Griffith Roberts,. Merthyr, a David Davies, Ferndale, yn efengylu gyda dylanwad anarferol i gynulleidfaoedd lluosog. Nid ydwyf yn cofio mwynhau gwell cyfarfod erioed, a chredwyf fod yr argraff a wnawd ar fedd- yliau y dorf yn un arosol. Yr oedd y ddau fon- eddwr yn rhoddi eu gwasanaeth yn ddidil.- Hyfryd genym gael ar ddeall fod Mr. Roberts i draddodi ei ddarlith alluog ar Mansone" yn fuan yn y lie hwn. Diau y ca dorf o wrandawyr. CREATION. Y n mysg amryw bethau ereill sydd yn cael eu parotoi yn bresenol, bydd yn dda gan lawer glywed fod y Dowlais Choral Society, dan arweiniad Mr. J. Evans (Alaw Myrddin), yn bwriadu perfformio yr uchod dydd Llun y Pasc. Y mae y c6r a'r arweinydd uchod yn ddigon adnabyddus bellach i bawb, fel mai ofer fyddai eu canmol. Y maent wrthi yn ddiwyd oddiar per- fformiad Judas," ac y mae y corawdau yn dyfod yn mlaen yn gampus. Y mae yr artistes canlynol wedi eu sicrhau :—Ap Herbert, Miss Marie Gaul (Bryste), a Mr. Dan Price. Y GYMDEITHAS DDADLEUOL.—Cyfarfu y gym- deithas uchod nos Fawrth, y 7fed cyfisol. Yn absenoldeb y cadeirydd, llywyddwyd gan Mr. Alexander Smith. Yn mysg pethau ereill, dar- llenodd Mr. Philpott bapyr ar Y dyn yn y lleuad." Cymerwyd rhan yn y ddadl gan Mri. T. E. Jenkins, 1. Asbury, W. Harris, James Griffith, a'r cadeirydd.-Gohebydd. BRITON FERRY. CYNGHERDD FAWREDDOG. — Cynaliwyd cyn-- herdd Hynyddol Cdr Bethel (T. C.) nos Iau, Mawrth 9fed, dan arweiniad medrus Mr. Jones. Arweinid yr orchestra gan Mr. Hulley, Abertawe, a chwar- euid y berdoneg gan Miss Mathews, Castellnedd. Y prif gantorion oeddynt:—Miss Gertrude Lewis, Caerdydd Mi-ses Marshall a Williams Mr. C. W. Fredericks, R.A.M., principal tenor Eglwys Gadeiriol Henffordd; a'r Mri. S. a W. Williams. Gwnaeth y cantorion eu gwaith yn rhagorol iawn. Enw dyeithr, yn ddiau, yw eiddo Mr. Fredericks i lawer 0 ddarllenwyr y GWLADGARWR. Hon oedd y waith gyntaf iddo ddyfod i'r cylchoedd hyn, ond credwyf mai nid dyma y tro olaf. Y mae yn leis- iwr nodedig 0 fwyn, ac () gwmpas eang iawn. Ni chlywais burach canwr er's blynyddau. Yr oedd y rhan gyntaf o'r gyngherdd yn cael ei chymeryd i fyny gan berfformiad y gantawd gerddorol gyf- oethog, Praise of Jehovah, o waith Carl Von Weber, a'r ail ran gan amrywiaeth. Rhoddodd yr holl weithrediadau berffaith foddhad i'r dorf fawr oedd yn gwrando. Yr unig rai a gawsant eu siomi oeddynt y lluaws a fethasant gael myned- iad i mewn o ddiffyg lie. Yr oedd y derbyniadall yn agos i 50p., ac wedi talu y treuliau, rhoddir y gweddill, fel arfer, tuag at leihau dyled y capel. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r cor, a'i arwein'- ydd galluog, Mr. Jones, am eu Uafur tuag at ddi- ddyledu eu capel. Yr oedd y boneddwr parchus, E. Edgar Morgan, Ysw., fel arfer, yn llywyddu y cyfarfod. Gohebydd.
Priodas.
Priodas. JONES—JENKINS.—Mawrth 2il, yn Ebenezer. Abertawe, gan y Parch. Mr. Jones, Hermon, Plasymarl, Mr. David Jones, Plasymarl, a Miss Elizabeth Jenkins, Copperman's Arms, Glandwr. Varwolaeth, EVANs,-Chwefror 28ain, yn 24 mlwydd oed, Mary, anwyl ferch Mr. John Evans, 5, London- street, Mountain Ash, gynt o Ystradgynlais. Yr oedd yr ymadawedig yn un a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Claddwyd hi y dydd Iau canlynol, yn y cemetery, Mountain Ash. Gweinyadwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Llewellyn, gweinidog parchus Caegarw. —Qymydog.
PORTHLADDOEDD CAERDYDD.
PORTHLADDOEDD CAERDYDD. Sybrydirfod Ardalydd Bute ar fin gwerthtl y porthladdo.^dd uchod i ryw gwmpeini o farsiandwyr cyfoethog ac anturiaethus. el
DAEARiRYN YN COSTA RICA.
DAEARiRYN YN COSTA RICA. Pelleoryn o Panama, Deheudir America, a ddywed i ddaeargryn gymeryd lie yn Costa Rica, trwy ba un y caf6dd pedwar pentref eu dinystrio, ac y collodd amryw filoedd o'r trigolion eu bywydau.
GLOWYR YR OCEAN, CWM RHON-IDIJA,…
GLOWYR YR OCEAN, CWM RHON- DIJA, A'U CYFLOGWYR. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o amryw filoedd o'r dynion cyflogedig gan yr Ocean Colliery Company, ar ochr y mynydd. yn agos i Pentre, Rhondda. Amcan y cyfar- fod oedd ystyried pa beth oedd i'w wneyd yn y dyfodol gyda golwg ar drefniadau y Sliding Scale, yr hon a gyrhaedda ei therfynau ar ddiwedd y mis presenol. Creda y gweithwyr fod ychydig gyfnewidiad yn angenrheidiol. Etholwyd cadeirydd o'u plith eu hunain, a darllenwyd rhestr hir o gyfnewidiadau cynyg- iedig gan bwyllgor o'r gweithwyr. Dadleu- wyd arnynt am gryn amser, ac o'r diwedd,, pasiwyd penderfyniadau i'r perwyl nad oedd. y scale bresenol yn gyfaddas i'w fabwysiadu yn y dyfodol; fod pwyllgor penodedig i ym- ddyddan a Mr. Jenkins, y manager, ya nghylch iselhau y standard; ac os na fodd- lonir y pwyllgor, y rhoddir y rhybudd cyf- reithlon i derfynu y scale yn mhen mis.
[No title]
DV-IVED y Parch. J. C. Holbrook, D.D., pe byddai America wedi ei phoblogi fel mae Lloegr a Chymru, y byddai ynddi 1,500,000,000 o bobl! Y MAE y ddychweleb sydd newydd ei gwneyd i fyny yn nglyn a'r drafnidiaeth deithiol rhwng Dover a Calais yn dangos mai nifer y teithwyr, yn ystod y deuddeg mis diweddaf, oedd 196,391, cynydd o 4,739 ar y flwyddyn flaenorol. ÐYDD lau diweddaf, yr oedd ei Mawrhydi y Frenines yn bresenol yn Beaumont Jesuit College, Windsor, i dderbyn anerchiad o gyd- Jawenhad oddiwrth y bechgyn ar ei diangfa rhag bradlofruddiaeth.