Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

',.DIRWEST.

News
Cite
Share

DIRWEST. LLTTH II. DYMUNWYF alw sylw mwyaf difrifol miloedd darllenwyr y GWLADGARWR yn bresenol mewn cysylltiad &'r peehod mawr o feddwdod. Pa Ie, tybed, y ceir meddyginiaeth yn ddigon effeithiol i'w ddileu a'i wellhau? Ni a arrn ar Wibdaith i Senedd Prydain Fawr, i gael gweled pa faint o gynorthwy a ellir ddysgwyl o'r cyfeiriad hwnw er rhoddi atalfa ar y mawr- ddrwg hwn ? Yr ydym yn parhau i anfon deisebau i'r Senedd, gan ddymuno yn daer a difrifol arnynt am basio cyfraith effeithiol i wrthweithio effeithiau niweidiol y diodydd Weddwol drwy ein gwlad ond pa faint o sylw a delir i'r cyfryw ddeisebau gan ein Senedd- Wyr ? Wel, ar ol myned i'r drafferth i'w llanw ag arwyddnodau (signatures), bydd ein cyn- fychiolwyr, ar ol tatiu cipolwg arwynebol drostynt, yn eu taflu o'r golwg gyda'r diystyr- Wch mwyaf, gan wawdio y feddyginiaeth a ofynir ynddynt. Ychydig iawn ohonynt sydd yn pleidio ac yn cefnogi yr achos ardderchog a gwynfydedig hwn. Ynfydrwydd a ffolineb ydyw i'r Senedd ymyraeth gormod a'r mater yn ol eu barn hwy, a hyny oherwydd blys a chwant llawer ohonynt at y pethau meddwol. Ofnant y bydd i'r gyfraith gyfyngu ar eu rhyddid personol hwy eu hunain. Ond hyd yn nod pe byddai i'r Senedd basio mesur er gosod terfyn ar y fasnach feddwol, nis gallesid dysgwyl y byddai i hwnw osod atalfa union- gyrehol arni, oblegyd nid oes digon o nerth a gallu mewn cyfraith i'w difodi. Y mae y blys at y gwlybyroedd meddwol wedi lled- aenu i'r fath raddau yn mhlith y bobl, fel y cymera amser maith i'w ddiwreiddio yn llwyr. Er hyny, gallai deddf Seneddol wneuthur llawer er cyfyngu difrodiadau y fasnach fell- dithiol hon, drwy roddi yr hawl i'w rheoleiddio yn fwy yn nwylaw y trethdalwyr, drwy gau y tafarndai i gyd ar ddydd cysegredig yr Ar- glwydd, lleihau yr oriau y caniateir iddynt fod yn agored yn ystod yr wythnos, &c. Yr oil a ddichon y Llywodraeth wneyd ydyw rhwystro ac arafu ychydig ar rym y llifeiriant angeuol hwn. Er hyny, na ddigaloned neb o filwyr dewrion y gad ddirwestol. Os ydyw cyfraith ein gwlad yn annigonol ac aneffeithiol, y mae cyfraith santaidd Duw yn ei hegwyddorion pur yn ddigon effeithiol i berffaith iachau trigolion eln gwlad oddiwrtho, a hyny fel y dengys fynlluo yr egwyddor ddirwestol. Henffych i'r °°teu pan y cymer y pethau mawrion a gor- J?°bel hyn le yn ein gwlad. Ein gweddi ni oil vddo am i Dduw gyflymu yr amser dedwydd Pan y bydd dirwest wedi llwyr fuddugoliaethu ar feddwdod. Mae y milwyr sydd yn ymladd ar faes y gWaed yn cael gorchymyn a chyfarwyddyd gan y swyddog milwrol pa adeg i ymosod ar y gelynion, ac y mae y swyddog yn cynllunio y 1idyfail fwyaf doeth ag y gall er diogelu byw- ydau y milwyr, ac i enill y fuddugoliaeth a pbe byddai i un ohonynt anturio i wyneb y magnel tanllyd heb ganiatad, buasid yn ei gyfrif yn ynfyd, ac yn ei waith yn neshau at ddanedd y perygl, y mae ei elynion yn anelu eu magnelau at ffynonell ei fywyd, a dacw y belen danllyd yn myned at ei galon, gan ei iladd mewn amrantiad. WeI, pe buasai i'r milwr wrandaw ar orchymyn a chyfarwyddyd y swyddog, hwyrach y gallesid ei achub rhag yr ergyd marwol. Cyffelyb ydyw gyda'r achos dirwestol, yn erbyn y Goliath mawr o an. nghymedroldeb. Ofer fydd ein gwaith. yn ymosod yn erbyn y cawr bwn, yn groes i orchymyn a chyfarwyddyd ein Tywysog nefol. Gan hyny, fy anwyl gyfeillion, bydded i ni gydymdrechu i ladd y gelyn hwn trwy lwyr- ymataliad, gweddi, a gair Duw, gan weddio bob amser am gymhorth a chyfarwyddyd i ddarostwng y gelyn mawr trwy ein gwlad a'r gwledydd yn gyffredinol.-D., Aberafon.

Tipyn o Bobpeth.

Byr Ebion o L'erpwl.

GAIR AT DYFED.

OYMDEITHAS DDARBODOL YI GLOWYR.…

CRYNODEB SENEDDOL.