Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. WllTII daflu golwg dros wahanol ran- barthau LLOEGll, yr ydym yn gweled yn amiwg fod cais rhagorol o dda am lo at wasanaeth teuluol yn Ngogledd Lloegr, a glo nwy a chais mwy bywiog am dano. Y cais am lo yn Ngorllewinbarth Cumberland yn parhau yn rhagorol o dda. Prisoedd y golosglo yn sefydlog. M wn haiarn yr un fath. Nid oes ond ychydig i'w adrodd, yr wythnos hon, o adran Cleveland. Yn marchnad Middlesbro', dydd Mawrth, yr oedd cynull- iad rhyfeddol o luosog. Yr oedd v farch- nad yn fwy aefydlog, a thrwy ddilyn Glas- gow, yr oedd y prisoedd, i raddau, yn well. Rbif 3, Cleveland, o haiarn bwrw yn gwerthu am o lp. 19s. 3c. i lp. 19s. 6c. y dunell. Mae yr allforiad o Middlesbro' yn parhau yn hynod o fawr. Symiau mawrion o haiarn bwrw yn cael eu hanfon i Ysgot- land. Yn yr haiarn gorphen-weithiol hefyd y mae gwaith rhyfeddol o belaeth yn myned yn mlaen. Dim cyfnewidiad yn y prisoedd. Prisoedd yr haiarn yn Darling- ton yn sefyll fel y canlyn :-Platiau. 6p. 17s. 6c. y dunell; bariau, 5p. 15$.; haiarn- onglau, o 7p. 17s. 6c. i 8p. Yn Barrow- in-Furness, mae masnach glo yr adran yn parhau yn sefydlog. Yn masnach yr haiarn bwrw, mae ton sefydlog yn bodoli, a masnach dda wedi cael ei dwyn yn mlaen yn ystod y pythefnos diweddaf. Mae yn gred gyffredinol yn mysg y Barrowiaid y bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn o ad- fywiad a llwyddiant. Yn masnach y dur, y mae bywiogrwydd rhyfeddol o dda yn bodoli. Y mae y consumption o haiarn a dur yn hynod o fawr. Y\vn haiarn yn sefydlog. Wrth droi ein golwg i Ddeheudir Cymru, yr ydym yn gweled fod gweithfeydd SIR FYNWY yn parhau i fyned yn mlaen yn rhagorol o dda, ac arwyddion amlwg fod masnach yn ymadfywio yn raddol. Mae yn ddios fod gwell cais am nwyddau gwneuthuredig, a'r prisoedd yn sefydlog, er heb un math o godiad sylweddol. Allforiad ragorol o haiarn, dur, a glo, yn cael ei wneyd o Gasnewydd. Yn adran MERTHYR TYDFIL, mae masnach yr haiarn a'r glo yn ar- ddangos bywiawgrwydd neillduol, yn enwedig yn Nowlais, a symiau mawrion o reiliau yn cael eu hanfon ymaith oddiyno, yn ogystal ag o'r Gyfarthfa. Mae masnach Americanaidd yr adran hon yn cynyddu yn raddol, ac yn ol yr arwyddion presenol, bydd y cyfryw geisiadau yn bwyntiau cryf- ion yn masnach yr haiarn Cymreig. Yn adran ABERTAWE, y mae yn amlwg fod masnach yn ymgodi o lwch marweidd-dra. Yr oedd y son allan yn ystod yr wythnos ddiweddaf fod yr hyn a elwir Hen Waith Dur Glandwr yn nghylch cael ei ail-gychwyn, ac na fyddai hyny yn faith cyn cymeryd lie. Er prawf fod mas- nach yn adfywio yn raddol, gallwn gry- bwyll fod gweithfeydd dur newydd yn cael eu hadeiladu yn Llansamlet, gan gwmni limited, ac y byddant o'r ffurf ddiweddaraf. Mae y Meistri Morewood a'i Gyf., o Weithfeydd Dur Llanelli, hefyd yn nghylch ychwanegu un ffwrnes ddur arall i'w gweithfeydd, lie y mae ganddynt ddwy yn barod yn gweithio. Mae y gweithfeydd alean yn aros mewn cyflwr lied ansefydlog Stociau mawrion ar law, ac am hyny nid oes modd i godi y prisoedd. Cais da am lo. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, 17,305 o dunelli o lo, 1,058 o dunelli o batent fuel, ac yn nghylch 170 o dunelli o gopr i Ffrainc. Mordroswyd i fewn hefyd wm- bredd o dunelli o fvVn copr o wahanol wled- ydd, a synfiau da o ffrn haiarn o Bilboa a lleoedd ereill. Y mae masnach ar ei gwell- iant drwy yr holl adran-yn N yffrynoedd y y Llwchwr, y Tawe, a'r Nedd, yn ogystal ag Aberafon. Yn adran CAEBDYDD, y mae masnach yn hwylusu ei chamrau er y rhwystrau ar ei ffordd drwy ddamwain Penygraig. Allforiwyd, yr wythnos ddi- weddaf, oddiwrthym ni yma, 98,177 o dunelli o lo, 2,015 o dunelli o batent fuel, 2,263 o dunelli o haiarn a dur, a 2,178 o dunelli o olosglo. Daeth i fewn hefyd filoedd lawer o dunelli o fwn haiarn o Bilboa, a 3,650 o dunelli o'r unrhyw nwydd o leoedd ereill yn ein gwlad ni. Y mae yn amlwg yma hefyd fod codiad wedi eymeryd lie yn mhrisoedd y glo, er fod y peth yn rhy ddirgelaidd i ni ddywedyd pa faint; ond can gynted ag y deuaf o hyd iddo, caiff ei wneyd yn amlwg. Rhaid terfynu yn awr, rhag myned & gormcd o'ch gofod, gan fod yr Eisteddfodwyr yn dysgwyl cael adroddiad Eisteddfodau Nadolig yn y rhifyn hwn. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Rhag. 27ain, 1880.

[No title]

AWGRYMIADAU I LOWYR DEHEUDIR…

Ymdrechfa gyda Python.

[No title]

Y Drysorfa Gynorthwyol i FwnwyrI…

BYR ESION 0 L'ERPWL.