Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BWRDD Y GOLYGYDD.]

News
Cite
Share

BWRDD Y GOLYGYDD. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR, 1881.— Cydriabyddasom dderbyniad ysgrifau Aelod o'r Pwyllgor, Aelod o'r Pwyllgor Cyffredinol, ac Un o'r Pwyllgor Cyffredinol, yr wythnos ddi- weddaf. Amddiffyn sylwadau Alaw Ddu y mae y tri, yn fwyaf neillduol. Yn gymaint a bod Alaw Ddu ei hun yn ateb ei wrthwynebwyr yn y rhifyn hwn, a'n gofod ninau yn brin iawn, yn enwedig felly yr wythnos hon, bydded i'r cyfeill- ion uchod fod mor hynaws a maddeu i ni am beidio cyhoeddi eu llithiau. GLAN CARNANT.— Nis gallwn gyhoeddi yn ddidal yr hyn a ddanfonasoch atom. Hysbysiad ydyw. MERTHYRTYDFIL. — Nid oes dim yn wahanol yn eich llith chwi i'r hyn a ymddengys yr wythnos hon gan hyny, ni byddai ei gyhoeddi ond yn amddifadu llithiau pwysicach o ran o'n gofod. BEIRNIADAETHAU Eisteddfod Porth, Cwm Rhon dda, Nadolig, 1880, gan y Parch. E. Gurnos Jones, wedi dyfod i law. Ymddengys yn ein nesaf. LLAIS Y WLAD. —Rhy enllibus, gyfaill. D. DAVIES (Serenog).—Byddwn yn ddiolchgar iawn i chwi am bob gohebiaeth, os y bydd yn fyr a dyddorol.

SEFYLLFA ADDYSGOL Y CYMRY.

[No title]

Hanesion Dosbarthawl.

[No title]

Tystiolaethau Pwysig