Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

MADOG AB OWAIN -GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN GWYNEDD. Ffugchwedl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, Aivst, 1880. PENOD VII. RELYNT CARTREF. Wedi i'r Brenin Dafydd ddyfod i wybod am yr helynt yn Nghastell Caer-yn-Arfon, aeth yn wylltwibwrn cynddeiriog. Casgl- odd ei gynghoriaid at eu gilydd i Gastell Aberffraw, ac wedi eu dyfod, ymddangos- odd MItau yn eu mysg, ac fel ar bob am- gylchiad arall o'r lath, gwnaeth rywbeth ar ffurf araeth agoriadol, yn yr hon y dy- wedai, Gwyddoch fy mod yn Frenin Gwynedd, ac fel y eyfryw dylasai fy aw- durdoa a'm hurddas gael ei deimlo trwy yr holl wlad. Dylasai pob trigianydd, o Gaer i For y Gorllewin, gydnabod fy ngorseid a'm tevrnwialen, ond yn lie hyny y maent yn cs flawni pob math o ystranciau, ac yn chwerthin am ben fy awdurdod. Nid ydynt yn gofalu dim am danaf, nae ychwaith am fy urddas breninol. Y mae y wlad mews rhyw gyflwr ofnadwy a dychryn- llyd." "Pa beth sydd yn bod?" gofynodd un Marchell, yr hwn oedd yn ddyn cyfrifol, ac yn meddu ar lawer o gyfoeth a dylanwad yn y wlad. A oes rhywbeth we ii dyg- wydd yn ddiweddar yn y dyddiau di- weddaf hyn ?" Oes, y mae rhyw ystraneiau dychryn- llyd wedi cael eu cyflawni." A fydd y brenin mor garedig a'u nodi a'u hegluro ?" ebe yr un gwr. "Gwnaf gyda y parodrwydd mwyaf, a gobeithio y bydd i chwithau weithredu ac ymddwyn yn ddoethyn eu cylch. Gwran- dewch. Dydd Iau diweddaf o ddyddiau y byd, aeth rhyw greadur anwaraidd i Gas- tell Arfon, a rhyddhaodd wyth o'r carchar- orion, ac alltudiodd geidwad y Castell i Dyganwy. Ac efe eto yn llefaru, wele wyliwr yn rhuthro i mewn i'r ystafell, ac yn gweithio ei ffordd yn mlaen at y brenin, a hwnw, pan y'i gwelodd, a ofynodd, Pa beth sydd yn bod ?" a'r gwyliwr a atebodd, Y Tywysogion Hywel a Maelgon sydd wedi casglu byddin gref, ac y maent yn gwer- syllu ar Ian y Menai." "Byddedd melldith y PaboRufainar eu penau," ebe y brenin, gan syllu ar ddefw y Forwyn Fair oedd ar ei gyfer. "Na fydded iddynt gael eu rhyddhau o'r purdan yn dragywydd. Hym! Casglu eu byddinoedd, sie. 'Nawr, gyfeillion, yr wyf yn gofyn am eich cymhorth unwaith eto. Y mae y gelynion wedi ymgasglu, ac yr wyf yn gofyn am eich help i'w gyru ar ffo, ac allan o'r wlad. Nid oes amser i'w golli. Cesglwch eich byddinoedd gyda'r buandra mwyaf, a dygweh hwynt oil tua glan y sianel. Gwnewch frys." Gadawodd pob un yr ystafell, ac aeth y brenin i ben y twr er cael golwg ar y gelyn- ion. Yr oeddynt yn rhifo tuag ugain mil, a thra yr ydoedd efe yn syllu arnynt, gwelai hwynt yn symud yn mlaen tua'r bont. Daliodd ei olygon yn sefydlog, a gwelodd hwynt yn y man yn dechreu croesi. "Byddant yma cyn pen pedair awr," ebe fe, "ac i ba le yr af? Byddant yn sicr o fy llofruddio. Nis gallaf eu gwrthsefyll cyn nos yfory. Deuant yma yn un rheffyn. 0! na wlawiai y Forwyn dan o'r nefoedd i'w llosgi yn ulw! 0 na chesglid hwynt yn un pentwr i dan uffern." Disgynodd o'r twr, ac aeth i lawr i'r brif neuadd. Yna danfonodd am ddau o'i weision dirgel, ac wedi eu dyfod, dy- wedodd, "Arfogwch eich hunain hyd at eich danedd, a gwnewch eich ffordd i enau y fynedfa ddirgel gyda'r brys mwyaf." Cyn pen chwarter awr yr oedd y gweision wedi dychwelyd at enau y fynedfa, ac yn fuan wele y brenin yno gyda hwynt. Man y daeth yn mlaen, dywedodd, "A ydych yn meddwl fod Maelgon a Hywel yn gwy- bod am y fynedfa hon ?" "Nid wyf yn credu eubod," ebe un o'r gweision, ond dichon y gall Hywel fod yn gwybod rhywbeth. Yr wyf yn meddwl ei fod ef wedi pasio unwaith y ffordd yma; ond os ydyw y brenin am ddirgelu ei hun, bydded iddo ein canlyn ni." Dyna'r pwnc. Bydd fy ngelynion yma cyn pen pedair awr, a byddant yn sior o fy llofrnddio. Yr wyf am gael rhyw le i ffoi o'u gwydd." Bydded i'r brenin ein canlyn ni ynte," ebe y gwas, gan oleuo ei lusern, a chych- wyn yn mlaen trwy y fynedfa tanddaearol. Wedi iddynt fyned yn mlaen oddeutu tri neu bedwar cant o latheni, safodd y ddau was, a dywedodd un ohonynt, gan edrych ar y mur cadarn, neu y graig oesol, oedd yn yr ochr, Nid wyf yn meddwl y bydd iddynt ein canlyn y ffordd yma." c, Y ffordd yma," ebe y brenin, gan agor ei ddau lygad megys dau fyd. le, y ffordd yma, eich mawrhydi." Trwy y mur ?" Ie, trwy y mur" A ydyw yn bosibl gwneyd ein ffordd drwy y graig hon ?" "Ydyw—edrychwch yma." Gosododd y gwas ei droed ar spring fechan oedd ar y llawr, a chyn pen mynyd, gwelid talp o'r graig yn symud o'i lie, gan adael mynedfa glir iddynt hwy i fyned rhagddynt. Ni welais y lie hwn o'r blaen," ebe y brenin, gan fyned rhagddo. Ardderchog. A wna y drws gau eto ar ein holau ?" Wedi iddynt fyned i mewn, gosododd y í gwas ei droed ar y spring, a symudodd y graig i'w lie, a'r brenin, pan welodd hyn, a ddywedodd, Ni welais ragorach peth yn fy mywyd. Campus ar air a chydwy- bod. Gwobrwyaf chwi yn dda am ddangos yr ystafell hon i mi. Gall fod yn werth- fawr yn y dyfodol." "Nid ydym wedi dangos y cyfan eto," ebe un o'r gweision. "Wei ?" "Bydded i'ch mawrhydi edrych yma." Yna cerddodd yn groes i'r ystafell, yr hon a fesurai tuag ugain troedfedd wrth ddeg, ac wedi myned at y mur pellaf, safodd, gan edrych yn fanwl o dan ei draed. Wedi cerdded yn ol ac yn mlaen am ychydig, dywedodd, "Yr wyf yn metha canfod y fan, ond yr wyf yn sicr nad wyf yn mhell oddiwrtho." Chwiliodd drachefn, ac yn go fuan dywedodd, Yr wyf yn iawn— dyma fe." Yna plygodd a chymerodd afael mewn dagr o'i wregys, a dechreuodd lanhau yn ofalus o gwmpas gwialen haiarn fechan oedd yn rhedeg i mewn o dan y llechen oedd ar y llawr. Cyn hir cyfododd ar ei draed, gan syllu yn ddyfal a difrifol ar y wialen. Yr wyf yn meddwl y bydd iddi weithio yn awr," ebe efe fel yn fyfyr- iol. "Beth bynag, gwnaf brawf ohoni." Yna gosododd ei droed ami, a chyn pen eiliad yr oedd yn teimlo darn o'r llawr yn rhoddi ffordd o dano, ae ni fu yn hir cyn diflanu o'r golwg. I ba Ie yr aeth yn awr?" gofynodd y brenin. "I'r beddrod dirgel oedd gan eich hyn- afiaid," ebe y gwas arall, yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl ei fawrhydi. "Beddrod A oes y fath beth a beddrod yn y fan hyna ?" Oes. Deuwch yn mlaen i chwi gael golwg arno." Symudodd y brenin a'i was yn mlaen, a saftaant uwchben yr hen gladdfa freninol. Math o ystafell ysgwar ydoedd, yn mesur ugain troedfedd wrth ddeunaw, ac yr oedd yr ochr bellaf ohoni yn llawn esgyrn dynion. Yr oedd wedi cael ei naddu yn y graig, ac wedi costio llawer o'r llwch melyn i rywrai. Yr oedd lamp fawr y gwas yn taflu goleuni i bob twll a chornel ohoni, ac wrth syllu ar y pentwr esgyrn, dywedodd y brenin, Y mae hon wedi bod yn Iled ddefnyddiol rywbryd. A oes rywbeth heblaw esgyrn ynddi ?" Oes," atebodd y gwas oedd ar y gwaelod. Y mae yr offerynau oedd gan- ddynt yn dienyddio yma, ond nis gwelaf ddim arall." Felly. Pa fodd y deuwch i'r lan ?" Deuaf i'r lan yn rhwydd. Edrychwch yma." Yna neidiodd ar y trap-door, a tharawodd un droed yn erbyn y llawr, ac ni fa uwchlaw haner mynyd cyn bod ar lan, ac aeth y drws i'w le yn y fath fodd fel nas gallesid adnabod fod yno ddim yn bod. Yr oedd y cyfan wedi ei osod yn nghyd yn y modd mwyaf cywrain. Yr oedd yr ystafell hon wedi gyru y brenin i fwy o syndod na'r ystafell gyntaf, a dywedodd, Nid oes ben draw ar weith- redoedd rhyfedd yr hynafiaid. Gallwn feddwl nad yw bon wedi cael ei defnyddio i ddim er's tri chan' mlynedd." Y mae eich mawrhydi yn sicr o fod yn gywir," ebe y gwas. "Y mae yr esgyrn f, ywir, yn profi nad oes dim ohonynt wedi cael eu casglu yma er's oesau. "Dim—y mae y cnawd wedi myned yn Ilwyr." Yn yr ystafell arall yr oedd mainc hir o faen naddedig, ac ar hono eisteddodd y tri, gan siarad am ryfeddodau y Castell. Yr oedd digonedd o ymborth ganddynt. Tua deg o'r gloch dranoeth, dywedodd y brenin, Y maent yn tyna tua glan y sianel erbyn hyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned i'w cyf- arfod ar fyr o dro." Wedi eistedd rhyw awr arall, cyfododd ar ei draed gan ddy- wedyd, "Yr wyf yn rhwym o gychwyn. Agorwch y drws." Wedi agor y drws, a myned allan i'r fynedfa, gofynodd un o'r gweision, A ydyw eich mawrhydi am i ni eich canlyn ?'' "Nac yd wyf. Gosodaf y wisg hon am danaf, ac yna byddaf ddiogel." Tynodd wisg chwaer drugarog (sister of mercy) allan o'i fynwes, ac wedi ei thaffu am dano, dywedodd, Nid oes un creadur yn Ngwynedd a faidd osod ei law prnaf yn awr. Canlynwch fi allan, ac yna dych- welwch." Ar ol iddynt fyned yn agos i enau y fynedfa, safasant, a dywedodd un o'r gweis- ion, Gwell i mi fyned allan yn gyntaf er edrych a oes perygl." Yr ydych yn iawn. Na fyddwch yn faith." Dychwelodd y swyddog yn go fuan, gan hysbusu fod y ffordd yn rhydd. Brysiodd y brenin allan, a gweithiodd ei ffordd i'r coed ar fyr o dro, gan osod ei ddwy fraich yn mhleth ar ei ddwyfron. Dychwelodd y I gweision, a chawsant y dref a'r palas breninol dan warchae. Yr oedd y gelynion wedi cylchynu y cyfan, ond heb gael amser i sicrhau eu hunain yn gadarn iawn. Yr oedd tua phymtheg cant o filwyr yn y dref, pa rai oeddynt yn ei hamddiffyn goreu y medrent. Yr oedd mur cadarn o'i chwmpas, a chryn orchwyl fyddai i'r fyddin warchaeol wthio eu ffordd i mewn iddi, yn neillduol gyda'r fath beirianau ag oedd ganddynt hwy. Gan na agorwyd y pyrth yn ol y gorchymyn, yr oedd y gelynion yn parotoi eu hwrdd-beirianau i'r dyben o ymosod ar y muriau can gynted ag y buasai y nos yn taflu mantell o dduwch dros wyneb y maes. Yr oedd yn naw o'r gloch, os Did ychwaneg, pan y dechreuodd y fyddin fawr o gwmpas y dref ddangos ar- wyddion o fywyd, ac yn fuan yr oeddynt yn barod i ymosod ar y dref. Yr oedd eu hwrdd-beirianau wedi eu gosod i fyny, ac yn barod i guro y muriau yn llwch, os oedd hyny yn bosibl; ond yn sydyn ac ar unwaith, dyma floeddiadau erchyll yn rhwygo yr awyr, a rhyw ellyllon afrifed yn neidio yn mlaen, a'u bwyelli a'u cledd- yfau yn eu dwylaw, ac yn parablu angeu ffordd y cerddent. Ymdrechfa ofnadwy a a fu, ond gan fod gwyr y Brenin Dafydd gymaint arall o rif, cawsant y fuddugol- iaeth wedi tua phedair awr o ymladd erchyll. Tywysog tlawd i'w ddeiliaid oedd Dafydd, ond cadfridog rhagorol. Ar faes y gwaed yr oedd yn rhagori ar neb yn y wlad, ac yr oedd yn rhagori hefyd fel gor- meswr a thyrant. Wedi i'r ddau frawd ganfod fod eu hachos yn anobeithiol, ceis- iasant encilio, a llwyidasant i wneyd hyny, gan adael pymtheg mil o'u cyfeillion yn feirw. ac yn glwyfedig ar y maes. Fodd bynag, cymerwyd Hywel yn garcharor yn mhen ychydig amser ar ol y frwydr, a chadwyd ef mewn carchar am saith mlyn- edd, pryd y cafodd ei ryddhau ar amodau neillduol. Ar ol y rhyfel hwn, parhaodd heddwch am ddwy flynedd, a dychwelodd Dafydd i'w balas mewn rhwysgfawredd. Nos dranoeth, gwnawd gwledd dywysogol er cof am y fuddugoliaeth, pryd yr oedd yn bresenol holl delynwyr, beirdd, ac udgan- wyr clodydd y wlad. (Fw barhau.)

Tanchwa Penygraig.

[No title]

Helyntion Cymreig y Brif-ddinas.

COLEG Y GWEITHIWR.

[No title]