Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

wl ? Y mae y cynllun rhag-grybwylledig o ddadleu yn gwneyd y tro pan yn ystyried y pethau anianyddol yn unig, ond y mae yn dwyllodrus pan yn penderfynu natur foesol dyn. Dywed rhai Anffyddwyr nad ydyw dyn ond yn hunan-ysgogydd materol, ac nad oes meddwl ganddo ogwbl-mewn gair, mai peiriant (auto. maton) ydyw. Dywedant fod corff dyn fel yr awrlais (clock). Pan y mae y pwysau i lawr, y mae y clock yn sefyll; ond coder y pwysau, a dyna'r awrlais yn symud. Felly dyn. Pan y mae y corff yn lluddiedig, a'r holl aelodau yn gwrthod ateb yr ewyllys, fod y corff yn galw am fwyd-eisieu dirwyn yr awrlais i fyny; ond y mae pob un a ilygaid yn ei ben yn gweled gwa- haniaeth dirfawr rhwng y ddau. Pan y mae yr awrlais yn sefyll, John sydd yn dirwyn y pwysau ond pan y mae John yn newynog, efe sydd yn porthi ei hun-y mae y peiriant yn dirwyn ei hun i fyny. Safai y clock am dra- g'wyddoldeb cyn y byddai yn dirwyn ei hun i fyny o gwbl. Sonier eto am ddyn, nad ydyw yn f6d cyf- rifol-nad ydyw ei gydwybod yn eiddo personol iddo, ond fod ei gyfansoddiad yr un fath a'r ci yn union; ac mewn amddiffyniad i'r dybiaeth yma, cymerir, er engraifft, dyn yn ysbeilio cosyn o gaws allan o'r siop. Pan gaiff y ci y cyfleusdra, gwna yr un peth; ond pwy yn y byd mawr a glywodd am gi yn cymeryd y caws yn ol, gan ei osod ar y counter, a theimlo ei fod yn edifarhau yn llwyr ddwys am ei bechod. Ond y mae dyn yn alluog i edifarhau, ac wedi gwneyd felly. Yn ddiamheu, y mae gwahan- iaeth rhwog dyn a'r creadur afresymol. Y mae meddwl yn perthyn i'r naill, tra nad oes ond greddf noeth yn perthyn i'r Hall. Byddaf yn dilyn yn mhellach, yr wythnos nesaf, ar y pwnc dan sylw, gan obeithio na fydd fy ymdrechion i gadarnhau meddyliau ieuenctyd ein gwlad yn mhurdeb a gwirionedd y grefydd Gristionogol yn ofer, oblegyd saif y gwirionedd hyd drag'wyddoldeb, pan y bydd damcan- iaethau ansylweddol a gwag Anffyddwyr wedi eu cyfrif yn mysg y pethau a fu. Eternal Truth, when yonder spheres sublime Pealed their first notes to sound the march of time, Thy joyous youth began-but not to fade- When all the sister planets have decayed; When 'rapt in fiye the realms of ether glow, And heaven's last thunder shakes the world below, Thou, undismayed, shalt o'er the ruins smile, And light thy torch at Error's funeral pile." HUGH S. GRIFFITHS (Gwynlais). Llantwit Fardre.

Man-gynilion trwy Lythyrnodau.

[No title]

AT Y BEIRDD.

ENGLYNION

CYFLWYNEDIG

[No title]

Advertising

To America.

Advertising