Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. AT HOLL LOWYR CWM ABERDAR, 0 HIR WAIN I MOUNTAIN ASH. HYN sydd i'ch hysbysu y cynelir Cyfarfod o Gynrychiolwyr, dau o bob Pwll (un gweith- iwr hur ac un torwr glo), yn Y BUTE ARMS, ABERDAR, nos Lun nesaf (Tachwead 22ain), i ymdrin ar bwnc y naw awr, yr hwn sydd i ddyfod i weithrediad Rhagfyr laf Dysgwylir i bob Glofa drwy y Cwm gael ei chynrychioli. Y cyl- arfod i ddechreu am 5 o'r gloch. (Arwyddwyd), HENRY HARRIS, Cadeirydd. JOHN LEWIS, 1 Ysgrifenydd. 2392 D. MORGAN, Mountain Ash. .n "The Mutual Provident Alliance" SYDD ben Gymdeithas Gyfeillgar anrhyd- eddus, dan nawdd rbai o brif foneddigion y deyrnas. Ei tbrysorydd ydyw yr enwog SAMUEL MORLEY, Ysw., A.S., er 1847. Rhydd allan symiau ar farwolaeth, o lOp. i 200p. ac mewn clefyd, o ddau i ddeg swllt ar ugain yr wythnos. Llawn ar lodaeth mewn chwe' mis. a llawn dal yn parhau am flwyddyn. Goiuchwyliwr dros Aberdar,—D. EVANS, 85, Cemetery-road. D.S.-Agents yn eisieu. 2391 FOR SALE, A /J-INCH BICYCLE. Has been recently 40 overhauled. In good running order. Suitable for a Beginner. Price 22 15s.-Apply J. P. D., care of Mr. W. Lloyd, 2398 "GWLADGARWR" Office, Aberdare. WANTED in large or small quantities, Ameri- can Petroleum and Benzoline Barrels, price 4s. 2d. each. Paraffin and Naptha Barrels, 3s. each. Oil Barrels, Is. 9d. each. Delivered at ALBION WHARF COOPERAGE, Temple Backs, Bristol. Prompt Cash on receipts of goods. 385 rjn WEEKLY and UPWARDS may be Ijl EASILY and HONESTLY REALISED by persons of EITHER SEX, without hindrance to present occupation.—For particulars, &c., enclose a plainly addressed envelope to EV ANS, WATTS, and COMPANY (P 107), Merchants, Birmingham. 2382.
EIN TELERA U.j
EIN TELERA U. Danfonwn y GWLADGARWR gyda'r post ar y telerau canlynol:- s. C. Un GWLADGARWR, y chwarter 1 8 Dau 9 I America, &c., y chwarter 2 2 Taliadau i'w gwneyd bob amser yn mlaenllaw- Danfoner stamps at- W ALTER LLOYD, Gwlad. garwr Office, Aberdare. Ni wnawn sylw o unrhyw ohebiaethau, &c., fwriedir i'w cyhoeddi, os na chyfeirir hwynt fel y canlyn: To the Editor, Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pol archebion, taliadau, a llythyratb masnachol i'w danfon i Walter Lloyd, Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pob Uyfrau, &c., i'w hadolygw i'w danfon i Mr. T. E. Davies, (Dewi Wyn o Essyllt), Pontypridd.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. BRYSIOG.-Un o'ch blaen, Diolch, er hyny. WEDI DYFOD I LAW,—Lienor—T. T,—Myfyr Glan Og wy —G wy ndraethog.
ADDYSG UWCHRADDOL.
ADDYSG UWCHRADDOL. GELLID meddwl, gan gymaint yw y twrw a'r cynhwrf sydd mewn cysylltiad a'r pwnc o addysg uwchraddol i Gymru, fod yr addysg hono yn hollol ddyeithr i'w chy- ffiniau, ac nas gwyr neb o'i thrigolion ddim mwy am dani nag y gftyr Esquimaux y Pegynau. Ond camsyniad dirfawr ydyw y fath dybiaeth. Y mae miloedd ar fil- oedd yn Nghymru yn meddu ar yr addysg hono, ac i gymaint gradd o orphenedd a pherffeithrwydd ag unrhyw genedl dan haul, yn ol rhif ei phoblogaeth. Ai nid yw yr addysg hono a pha un y cynys- gaeddir mawrion ein gwlad, gweinidog- ion ein heglwysi, ac athrawon ein colegau, a hi, o nodwedd uwchraddol ? Ai ni ellir rhesu yr addysg a gyfrenir yn Ngholeg Dewi Sant, Coleg yr lesu, ac Athrofa Aberystwyth, ac addysg-leoedd cyffelyb, ddim yn uwch mewn gradd na chanolig- rwydd ? Credwn fod addysg yn fendith i wlad, ac yn dderchafiad i genedl, ac ni cblywsom neb yn dadleu i'r gwrthwyneb, nac hyd yn nod yn awgrymu y byddai yn debyg o gynyrchu enwd o O'OONEIXS, PARNELLS, a SULLIYANS yn Nghymru, ond yn unig y crack-brained hwnw a eilw ei hun yn Candid Welshman I" Gwyddom y byddai ychwanegiad addysg i Gymru yn ychwanegiad manteision iddi; ond nis gallent fod yn fanteision i bawb, eithr i'r rhai hyny yn unig ag sydd yn eu medd- ianu mewn rhan yn barod. Ni wnelai ond derchafu yr uchel yn uwch, a gadael yr isel yn y man lie maent. Gellir bod yn ddigon sicr na fydd iddi wneuthur pawb ohonom yn I I broffwydi, yn offeir- iaid, a breninoedd "—breuddwya gwag- saw ydyw hona, oblegyd bydd yn rhaid wrth wehenwyr dwfr a chymynwyr coed," tra y gweithredo deddfau, ac yr ymsymudo y byd yn ol ei economy bresen- ol. Y mae genym ddigon o enghreifftiau o'r anallu hwn yn mherson y Gwyddel noethlwm, yr Ysgotyn trwm-lwythog, a'r Saxon hir-gul a welir yn tramwyo ein gwlad, ac yn ymostwng i gyflawni gorch- wylion ag y byddai yn ddirmygus gan y Cymro diwyd a gonest feddwl am danynt. Ond wrth son am addysg i Gymry, na feddylied neb ei bod hi y fath bentwr o dywyllwch ag y myn ei chelwydd-wneuth- urwyr gelyniaethus i'r byd gredu ei bod. Os nad oes rhyw luaws mawr o'n cenedl yn feddianol ar addysg uwchraddol, nac, feallai, ar addysg ganolraddol ychwaith, y mae y mwyafrif, yn mhell, o'i thrigol- ion, er hyny, yn berchenogion meddwl goleuedig, a chalon ddaionus a da. Nis gall unrhyw ychwanegiad o addysg, bydded uwchraddol neu arall, wneuthur Cymru yr un mymryn yn fwy moesol, na rhinweddol, nag ydyw yn bresenol, canys y mae wedi cyrhaedd pwynt nad oes ei ogyfuwch yn mhlith un genedl arall. Y mae y Cymro wedi ei addysgu oddiar yr aelwyd i rodio hyd lwybrau moesoldeb a rhinwedd, ac wedi ei egwyddori yn drwyadl yn athrawiaeth y grefydd Grist- ionogol. Nid oes wlad o dan haul y nef- oedd mor ami ei heglwysi, ei chapeli, a'i gwrandawyr, na gwlad dan haul mor ami ac mor effeithiol ei phregethau, ei gweddi- au, a'i haddysg foesol a chrefyddol a Chymru. Y mae delw y dylanwadau hyn yn anad un cenedl arall i'w gweled ar wynebpryd a moes ei thrigolion; ac effeithiau yr achosion daionus hyn yw yr amyneddgarwch, y dyoddefgarwch, y diwydrwydd, y gonestrwydd, yr heddych- londer, a'r defosiwn diffuant a difrifol ag sydd yn nodweddu bywyd y Cymro. Dyma egwyddorion llywodraethol ei galon, pa rai a welir yn blaguro a ffrwytho gyda'r fath gyflawnder a phryd- ferthwch annghydmharol yn ei holl weith- redoedd, a'i holl ysgogiadau. Nid oes ar y Cymro eisieu dim ond cyfiawnder a thegwch, er ei osod yn nosbarth blaenaf teilyngdod ac enwogrwydd cydgenedl- aethol; ond ni cha efe hyn, os gall y Saxon, canys mae y Saxon yn eiddigeddu wrth, ac yn ofni y Cymro, fel un peryglus i'w ddadymchwelyd ef o'i uchelderau, a'i adael yn mhell ar ol ar yrfa gystadleuol bywyd. Y mae y Saxon yn ddigon ym- wybodus mai nid ei deilyngdod ef, na'i ragoriaeth ar y Cymro, sydd wedi ei godi ef i swyddi a blaenoriaethau ein gwlad, eithr ei eonder a'i haerllugrwydd ei hun, yn tarddu oddiar yr ymwybyddiaeth mai. efe yw y gallu llywodraethol, a ninau y genedl oresgynedig; ac hefyd, drwy oy ffafriaeth annheilwng, yr hon a estynir iddo oddiar y dybiaeth nad oes un Cymro, am ei fod o dan ddarostyngiad, ac yn siarad yr iaith Gymreig, yn deilwng ohonynt, nac yn abl i'w cyflawni. Gan nad pa bryd bynag y bydd anghen am bost-feistr, tir-oruchwylion, neu hyd yn nod arolygwr heolydd, bydd yn rhaid anfon am naill ai Sais, Ysgotyn, neu Wyddel, i lenwi y cyfryw swyddi, tra mae yn ymyl ddegau ac ugeiniau o Gymry mewn tref a gwlad a allent gyflawni y swyddi hyn lawn cystal, os nid gwell, na un o'r estroniaid etholedig hyn. Y mae yn gywilydd calon i arlwyddi ein tir, i'n hustusiaid heddwch, ac i awdurdodau ein vestries a'n boards o bob math, eu bod yn ymgynyg at, chwaithach cefnogi, y fath annghyfiawnder at, ac yn bwrw y fath sarhad anfaddeuol ar fedr, a thalent, ac athrylith frodorol ein gwlad. Ar ben- defigon ac awdurdodau brodorol ein gwlad y mae y bai am hyn oil., Os ydynt hwy yn gallu dibrisio, iselhau, a diystyru cynyrchaeth frodorol, pa reswm sydd am i'r estron beidio ? Hwynt-hwy sydd wedi rhoddi yr esiampl cyntaf o ddiystyrwch ar Gymro o flaen cenedloedd ereill. Gellir gofyn yma, pa bendefigaeth ac awdurdod- aeth o dan haul sydd yn ymddwyn yr un modd tuag at ei brodorion ag eiddo Cymru ? Dechreued y dosbarth uwch- raddol yn Nghymru gyflawni eu dyled- swyddau yn yr ystyr hwn tuag at ei brodorion, yna, daw y Cymro i deimlo ei werth, ac estroniaid idd ei gydnabod ac yna, nid hir y bydd holl enllibwyr Cymru cyn myned yn fud a dileferydd.
Family Notices
Geoedigaethau. DAVIEs.-Tachwedd 6ed, priod Mr. David Davies, Gadlys-street, Aberdar, ar ferch. Gelwir ei henw yn Gwenllian.-G. H. JONEs.-Tachwedd lleg, priod Mr. Seth P Jones, ysgolfeistr, y Crwys, ar ferch, a gelwir ei henw yn Edith Anita Jones. Marwolaeth. MORGANS.—Tachwedd 9fed, Lewis Morgans, Victoria-street, Cwmbach, Aberdar, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Cemetery Aber. dar ar y 13eg o'r un mis, pryd y daeth nifer lluosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Morgans. Yr oedd yr ymadawedig yn ddiacon hen a pharchus gyda'r Annibynwyr.—Gwen- ffrwd.
Y GLOWYR A'R GYMDEITHAS YMWABEDOL.
Y GLOWYR A'R GYM- DEITHAS YMWABEDOL. GAN D. MORGAN, MOUNTAIN ASH. DYDD Llun, yr lleg o'r mis hwn, daeth y mater uchod dan sylw Pwyllgor y Sliding Scale, yn Nghaerdydd. Dygwyd ef i mewn gan y meistri, ond gwrthod- odd y gweithwyr wneyd dim a'r pwnc, am nad oeddynt wedi eu hawdurdodi gan y rhai a gynrychiolent. Ond oddiwrth yr hyn a ymddangosodd yn y Wasg y dydd canlynol, gallai y cyhoedd gasglu ein bod, fel cynrychiolwyr y gweithwyr, wedi myned at ymyl sefydlu y cynllun; ond gallaf eu sicrhau nad ydyw rhai ohonom, fel cynrychiolwyr y gweithwyr, ddim yn gwbl mor barod i weithredu yn y mater hwn. Dylaswn ddweyd ar y cyntaf mai y Permanent Relief Fund a olygir wrth Gymdeithas 1mwaredol Cofier, mai dim ond cydnabod yr egwydd- or yn unig a wnaethom ni yn y pwyllgor. Mae yn ymddangos i mi fod y meistri yn orawyddus am gael y gymdeithas hon, ac y mae ganddynt amcan mewn golwg wrth wneyd hyny, sef tynu eu hunain allan o'r cyfrifoldeb a syrthia arnynt drwy ddarpariadau y Ddeddf Iawnol, yr hon sydd i ddyfod i weithrediad yn mis Ionawr nesaf. Cynygiant i ni rywfaint o dal i drysorfa y gymdeithas, ond y maent am gael rhan yn ? llywodraeth. Cofier hefyd y byddant, wrth gael y gym- deithas yma, yn lleihau eu trethoedd o gymaint ag a fyddant yn dalu mewn i'r drysorfa. Yn awr, edrychwn ar ymddygiad y meistri wrth geisio tynu eu hunain allan o gyfrifoldeb y ddeddf. Credwyf nad oes llawer o ddynion yn Nghymru yn fwy archwaethus am heddwch rhwng meistr a gweithiwr na mi, ond nis gallaf gydsynio a r meistri yn y mudiad hwn. Cofier nad oeddwn yn un o'r rhai poethaf am gael y ddeddf hon fel y'i cynygiwyd gan Mr. Macdonald ond y mae y ddeddf fel y'i cyfansoddwyd gan y Llywodraeth yn fwy cymedrol, ac felly yr wyf am ei chadw yn ddilwgr. Dywedai cadeirydd y pwyllgor fod un o bob pump o'r dam- weiniau a gymerent ]e yn y glofeydd yn eu tynu hwy yn gyfrifol dan y ddeddf, sef fod un o bob pump o'r damweiniau yn dygwydd oddiar esgeulusdod y swydd- ogion wrth gwrs. Yn awr, ni a ofynwn, yn ngwyneb rhesymeg, a ydyw yn gyf- iawn i ofyn i'r rhai a dderbyniant y cam oddiar eu dwylaw i gyfranu tuag at ryddhau y meistri oddiwrth gyfrifoldeb y ddeddf ? Yr wyf yn credu fod rhesymeg, a phob dyn rhesymol, yn cyd-ddweyd a mi, Nac ydyw. Y mae pob cyfraith yn golygu fod yn rhaid i ni wneyd neu beidio gwneyd y peth hyn neu y peth arall, ac os na wnawn ufuddhau, y mae yn golygu cosbi Os na chosbir, gwnaethpwyd y ddeddf yn ddirym, a'i gweithrediad yn ddieffaith. Carwn ofyn hefyd i fy nghyd weithwyr yn y Deheudir, a ydyw yn foneddigaidd ynom, ar ol bod yn dadleu am y pymtheg mlynedd diweddaf am gael y ddeddf hon, i ni i sefydlu mesurau i'w gwneyd yn ddirym ? Ie, ar ol i ni gael y Llywodr- aeth bresenol i gymeryd ein plaid, i ni droi y tucefn iddynt a'u brathu ? Byddem wrth wneuthur felly yn gwneyd y Llyw- odraeth yn wawd gerbron y wlad, trwy ddangos (yn ein hymddygiad) eu bod wedi pasio cyfraith ddialw am dani Beth. fy nghyd-wladwyr, a feddyliech fyddai y canlyniad o hyn ? Wel, dyma fyddai y canlyniad—cymerai y Llywodr- aeth y fath ymddygiad yn sarhad arnynt, a byddai iddynt benderfynu peidio bod mor barod i wrando ar ein cais eto mewn unrhyw achos. Y mae rhai o'n brodyr ag oeddynt yn orselog am gael y gyfraith hon i weithrediad yn cefnogi rhoddi yr ymwared hwn i'r meistri; ond cofier, nid wyf yn credu mai er mwyn y meistri y dymunant wneyd felly. Y maent wedi eu siomi yn y gyfraith-nid yw y peth ag oeddynt hwy yn ei ddysgwyl. Wel, credwyf, os yw yn ddoeth i wneyd felly, y byddai yr un mor ddoeth i mi roddi terfyn ar fy einioes am fy mod yn ddyn egwan, ac am nad wyf yn ddyn nerthol mewn ystyr corfforol. Rhaid yw terfynu yn awr, gan fod fy amser yn brin yr wythnos hon; ond addawaf ysgrifenu, yr wythnos nesaf, ar amser yn brin yr wythnos hon; ond addawaf ysgrifenu, yr wythnos nesaf, ar ba delerau yr ydwyf yn cefnogi y Per- manent Relief Fund, mewn egwyddor a gweithrediad.
[No title]
Y MAE Mr. Sims Reeves, (yr hwn sydd yn bwriadu ymneillduo o'i fywyd cyhoeddus fel cantor yn 1882), yn ysgrifenu i'r papyrau i hysbysu ei barodrwydd i roddi dwy neu dair awr pob diwrnod fel athraw i ddyagu datgan- iaeth lleisiol yn y Royal College of Music a adeiladir yn fuan. Bydd yn gwneuthur y gorchwyl hwn yn berffaith rhad, fel ad-daliad bach i'r cyhoedd am eu cynorthwy iddo, ac hefyd i borthi celfyddyd Prydeinig. Gwawd- iai y crediad nad oedd yr iaith Seisnig yn un gymhwys at ganu; yr oedd y nesaf at yr Italaidd. Carem yn fawr wybod pa le y safai y Gymraeg yn scale Mr. Sims Reeves.
Glowyr y Rhondda a'r Naw Awr.
Glowyr y Rhondda a'r Naw Awr. Cynaliodd pwyllgor gweithiol y dosbarth uchod eu cyfarfod misol dydd Sadwrn, yn y Windsor Castle Hotel, Ton, pan gymerwyd i ystyriaeth y penderfyniad a basiwyd yn nghyfarfod dirprwyol y Nelson o barthed i'r cyfarfod i'w gynal yn mhob ardal gyda golwg ar Fudiad y Naw Awr, a phenderfynwyd yn unfrydol fod y cylchlythyr a ganlyn i gae] ei anfon i bob glowr yn y dosbarth :— At lowyr y Rhondda a gweithwyr tanddaear- ol ereill. GYDWEITHWYR,—Y mae pwyllgor y dos- barth, yn unol a'r penderfyniad a basiwyd yn y cyfarfod dirprwyol cyffredinol a gynaliwyd yn y Nelson, Llanfabon, dydd Llun, yr 8fed cyfisol, wedi penderfynu fod cyfarfod cyffredinol o'r glowyr, hauliers, a gweithwyr tanddaearol ereill, i gael ei gynal yn Tonypandy, dydd Llun, yr 21ain cyfisol; i ddechreu yn gywp' am I o'r gloch. Anerchir y cyfarfnd gan Mri. John Jenkins, Llanfabon, W. Abraham (Mabon), &c. Dymuna y pwyllgar hefyd, ac anoga pob glofa hysbysu y ffaith ar unwaith i'w meistri, er iddynt drefnu ar gyfer y dydd heb fyned i draul ddiangen.-Ar ran y pwyllgor, "J. HUGHES, Ysgrifenydd, "W. ABRAHAM, Goruchwyliior."
Dyn wedi ffoi gyda Gwraig…
Dyn wedi ffoi gyda Gwraig Dyn Arall. AKNOT, PA., Hydref 1.—Taflwyd yr ardal yma i gryn gyffro, drwy i Gymro o'r enw John Jones (Northman) fyn'd i ffwrdd o'r lie yma gan gymeryd gwraig y ty lie yr oedd yn bordio gydag ef. Mae gan y gwalch di- egwyddor wraig ac wyth o blant yn yr Hen Wlad, yn byw mewn ardal o'r enw Ton, Pen- tre Ystrad, Cwm Rhondda. Daeth yr adyn diegwyddor i'r lie yma yn Ionawr diweddaf, gyda'r bwriad o ymsefydlu ei hun yma, ac anfon am ei wraig a'i blant bach yma ato ond erbyn heddyw, mae'r anghenfil brwnt wedi cyfnewid ei feddwl, fod yn well iddo fyn'd a gwiaig dyn arall i ffwrdd gydag ef nag anfon am ei wraig a'i blant bach, pa rai sy'n byw mewn eisieu yn yr Hen Wlad. Nid oes yma neb yn gwybod i ba le y mae ef a'i wraig newydd wedi myned fe ddywedodd ef ychydig amser yn ol, ei fod yn bwriadu myned i Braidwood, 111. Yr olwg ddiweddaf gafwyd arnynt oedd mewn buggy yn Blosburg, yn myned i ffwrdd i gyfarfod a thren i ryw- le. Wel, er mwyn i drigolion Illinois a'r byd eu hadnabod, mae eu marciau fel y canlyn Dyn tua phum' troedfedd a phum' modfedd o hyny i bump a chwech o hyd, gwallt du trwchus, a gwyneb tywyll, yn cadw barf ar ei en, yn nghyd a moustache du. 'Mae hi yn fenyw weddol dal, a hoew ei cherddediad, gwyneb hir, ac yn deneu a thywyll, ac y mae yn un sydd yn siarad yn lied Gardiaidd. Gobeithio bydd y ltinellau hyn yn rhwystr iddynt gael lie yn un man yn y wlad yma.- O'r Drych.
Cyflwyniad Tysteb i Mr. W…
Cyflwyniad Tysteb i Mr. W T. Lewis, Mardy, Aberdar. Dydd Mercher diweddaf, Tachwedd lOfed, ymgasglodd amryw o drigolion Merthyr, Aber- dar, a'r cylchoedd, yn nhy Mr. W. T. Lewis (yr ymgeisydd Toriaidd anfuddngol am y fwrd- eisdref yn yr etholiad diweddaf), er anrhegu ef â. thysteb. Cynwysodd yr anrheg dinner service arian-yr hwn cafodd ei arddangos gan y gwneuthurwyr yn yr Arddangosfa ddiweddaf yn Paris-ac anerchiad wedi ei rwymo mewn ffurff Hyfr y cwbl yn werth 1,200p. Etholwyd Mr. R H. Rhys yn gadeirydd y cyfarfod. Dar- llenodd Mr. D. Williams, Uwch Gwnstabl Merthyr, yr anerchiad, a chyflwynodd yr anrheg dros y tanysgrifwyr, ryw 350 mewn nifer. Syr George Elliot, Barwnig, anerchodd y cyfarfod nesaf, gan sylwi mai cymaint oedd ei barch tuag at Mr. Lewis, fel y daeth i lawr o Lundain yn neillduol i fod yn bresenol yn y cyfarfod hwn. Sylwocld ar gymhwysder Mr. Lewis i fod yn Aelod Seneddol dros Ferthyr oherwydd ei gysylltiad â. masnach y glo a'r haiarn. Ar ol i Mr. T. Edwards, Cefn, siarad, gwnaeth Mr. Walter Smyth ychydig sylwadau. Dywedodd mai ohprwydd y chapel screw y collodd Mr. Lewis y dydd—fod y gweinidogion yn gwasgu ar yr etholwyr i addaw pleidleisio dros Lewis, ac ar ddydd yr etholiad yn pleid- leisio yn berffaith groes i'w haddewid. vr oedd Annghydffurfiaeth yn hollol dda yn ei Ie. ond pan y gorestynid hi er cuddio pethau ereill, yr oedd yn gamsyniad, a charai efe ei gweled yn cael ei stampio allan. (Clywch.) Mr. R. H. Rhys oedd y siaradwr nesaf. Credai ef y buasai Mr. Lewis yn dysgleirio yn y Senedd, ac y byddai yn edrych ar ol buddianau y fwrdeisdref. Yr oedd y 3,300 o plumpers a gafodd Mr. Lewis wedi eu rhoddi heb y screw o gwbl. Yr oedd y ffordd y dysgai y gweinidogion ragrith (hypocrisy) yn ofnadwy. Yn lie dysgu dynion i fod yn eirwir ac onest, yr oddynt yn gweithio eu goreu i'w troi yn gelwyddwyr. Yr oeddynt fel y Jesuitiaid —unpeth i gyrhaedd eu hamcan. Rhoddodd Mr. W. T. Lewis ddiolch am yr anrheg ardderchog oeddynt wedi gyflwyno iddo. Dywedodd ei fod wedi enill parch llawer un oedd yn groes iddo mewn golygiadau politicaidd yn yr etholiad. Y cwbl i'w wneyd yn bresenol oedd bod yn dawel, ac aros eu hamser. Ter- fynodd hyn y cyfarfod.
[No title]
ADRODDIR fod y Tywysog Gortschakoff yn wael iawn ei iechyd, ac yn annhebyg o wella. ODDIWRTH adroddiad swyddogol sydd newydd ei gyhoeddi, ymddengys fod 49,000 tunell o lo yn llai wedi dyfod i'r Brif Ddinas dros y mor yn ystod y mis diweddaf na'r mis blaenorol. Y MAE Mr. John Bright wedi ei ethol yn Lord Rector Prif-ysgol Glasgow. Darfn iddo guro ei wrthwynebydd, Mr. Ruskin, drwy fwyafrif o 314 o bleidleisiau. YCHYDIG ddyddiau yn ol, bu ysgydwad .Y trwm o ddaeargryn yn Awatria, pan y collwyd llawer o fywydau, ac y drylliwyd amryw dai. Cafwyd tair ysgydwad yn fuan, un ar ol y Hall.
[No title]
Tystiolaethau Pwysig I QUININE BITTE88 GWILYM EVANS. Brynhyfryd, ger Abertawe. ( Anwyl S;,Tr. — Yr ydwyf wedi bad yn gwerthu y Quinine Bitters am rai blynyddau beilacli. Y maent wedi gwneyd l'iawei o les yn yr ardal vtna, c y mae dyfodiad dysglaer iddynt. Yr ydwyf. wedi sylwi yn fanol ar e') heffaith ar wahanol personam, ac yr yrwyf wedi gweled rhai o'r dolur- iau gwaethaf a allai neb ddvchvjnygu yn cael eu llwyr wellhau trwy ddefoyddio y meddyglyn yma. Y mae platit o bob oedran, dynion ieuanc a hen, gwragedd a merched, oil yn tystiolaethu "i'w heffaith daionus. Y mae yn drueni na ellid eu darostwng ychydig yn eu "pris, heb wanychu eu heffaith gan fod canoedd o bobl weimon yn sychedu am dreio ei h-ifaith, ond eto heb fodd i wneyd hyny. — Yr uiddoch yn serchog, ISAAC OWEN. From Gr jiin Tl' Liticir/iSy JjlcnieTcliyTiiQcldi Angle- sea Syr,—Da genyf gael y cyfleusdra i anfon gair o ganunoliaeth rch "Quinine Bitters." Y maent yn dderbyniol iawn yt, y gymydogaetb hon. (rwertnais iawer ohonynt yn ystod y blynyddau diweddaf. ac y mae y galwa.) arnynt yn parhau i gynyddu. Nid oes meddyginiaeth yn debyg iddynt at iselder ysbryd, diffyg traul, dychlamiad- au y galon, a chur yn y pan. Yr eiddoch vn. gvwiv, Medi 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS. From Mr. John Lltuyd (loan Cynffig), Mynydd Oynffig Syr,—Bu'rn yn dyoddef llawer oddiwrth ddolor yn fy jnhea, iselder ysbryd, ditfyg arch* aeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blinder mawr. Prynais botelaid 4s 6d. oddiwrth Mr. Richard Jenkins, Kenfig Hill, ac ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi adferyd i'm iechvd arferol, ac yn alluog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwvf wedi eu cymeradwyo i ersil), a thystiola.eth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies annhraetholtrwyddvnt, a byddaf yn teirnlo yn ddyledswydd arnaf ea" cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. From the Rev J. H. Williams (Brynfirdd), Head Master of the Dowlas Grammar SchooZ. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—-The wonderful efficacy of your Quinine Bitters to restore health and vigour after lingering illness and debility, has been recent- ly and sufficiently proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J Ellis Edwa-ds M.B C.S. L.S A., q'c., Saint Clears Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked by my patietts as to the desirability of taking your Quinine Bitters," I have for the last two years given it a fair trial, and find it, without exception, the most pleasant aDd effectual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.K. C.S. L.S.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph liees Oavdig-.n; Mr. Griffith Williams, Llanerchymedd; Mr. W. H. Thomas, Dowlais Mr. John Francis Wrexham Mr. Myrddin Davies, Swansea Mr. Hugh G. Hughes, Holvhead; Mr. W. Sims, Aberaman; Mr. E. P. Wynne, Aberystwyth; Mr. Jones, St. Asaph Mr. D. Evans, Cemmaes, Montgomeryshire Mr. J. P. Jones, Aberayron all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr. Watkin J. Thomas, Chemist. Aberdare, Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr. Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Llanelly. Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.-I am happy to state that the sale of the Quinine Bitters is rapidlv increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct and remarkable cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believe in. -Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Peny- groes, North Wales. August 26th, 1880. I have taken your "Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. The benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. Sept. 27th, 1880. I certify that the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from minerals, and that the ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Office, Tre- „• lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir,—Although you must be overload- ed "with testimonials in favour of your now celebrated "Quinine Bitters," yet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those of my customers who have truly proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they derive much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years, and find the demand for it in this part continually increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24th, 1880. Mr. 0. Isgoed Jones, Chemist, Llanrwst, has sold grosses of the Quinine Bitters," and from close observation of their effects, can vouch for their efficacy as a tonic in cases of extreme debility, &c., being particularly suitably to t patients recovering from long illness.