Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BYR EBION 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

BYR EBION 0 L'ERPWL. NEWIDWRIAETH. Mae cyfundraeth taliad mewn nwyddau yn ein gwlad ni wedi myned o dan farn condemn- iad er's blynyddoedd ond nis gellir condemn- io gweithred o drugaredd. Gelwir y gyfun- drefn yn yr iaith fain, The Truck System. Tybiwyf fod cwrs o wahaniaeth yn bod rhwng fod dyn yn cael ei orfodi i gymeryd nwyddau am waith yn lie arian. Yn y cysylltiad hwn, trugaredd sydd wedi bod yn agor ei 11aw i borthi yr angenus, an nid yr ysbryd gorfodol sydd wedi bod yn ymwneyd a'r gwaith. Mel ar fara ambell i gyfreithiwr bychan ydyw ceiriacheiddio rhyw achos bychan, gan wneyd iddo ymddangos fel mynydd, pan nad yw mewn gwirionedd yn ogyfuwch a thwmpath pridd y wadd. Mae cyfiawnder a gwirionedd yn sicr o weithio eu ffordd yn llwyddianus, er cymaint ffalsder twmeiod a man-gawciod sydd beunydd a byth yn ymhyfrydu mewn pobpeth nad yw yn deilliaw o'r da. Amser yn ol, fe gymerodd amgylchiad le mewn cilfach, heb fod yn nepell o Benybont- ar-Ogwy, pryd yr aeth gwraig i lafurwr neu lowr at arolygwr y lofa i ymofyn am gynorth- wy hyd ddiwrnod y tal, gan fod angen yn y teulu. Cafodd y cais mewn ffurf hollol ddi- feddwl-drwg gan yr arolygwr, ond gwarchod ni am y canlyniadau Y cymwynaswr yn gwneyd trugaredd, a'r hon oedd yn derbyn y gymwynas yn poeri ar ben y cymwynaswr Gweithredoedd ac ymddygiadau fel hyn sydd yn creu cenfigen a dygasedd rhwng meistr a gweithiwr, ac ymddengys fod y pellder rhyng ddynt yn myned yn fwy bob diwrnod o'r wythnos. Rhaid cydnabod fod cyfraith y wlad yn hawlio tâl am waith mewn aur neu arian cylchredol; ond os bydd dyn wedi cael cymwynas mewn dillad neu ymborth, lie y cyfryw ydyw bod yn ddigon dynol i dalu yr echwyn yn ol gyda diolch, yn hytrach na chy- meryd y fantais o ddwyn yr achos i tys y gyf- raith. Mae troion o'r fath yn chwerwi teim- ladau perchenogion cyfalaf, fel y gwnant ym- bellhau oddiwrth y llafurwr, ac edrych i lawr arno fel creadur ysgymunedig. Gwell i'r gweithiwr ydyw cadw mewn pellder parchus oddiwrth fechgyn y cwila, am nad oes yr un ohonynt a wna ddim am ddim, a'r taliad lleiaf a ofynant am gynghor ydyw chwech ac wyth. Os nad all y gweithiwr drefnu materion cyd- rhyngddo a'i feistr heb fyned i ymgyfreithio, gwell i'r cyfryw symud ei nyth, a cheisio aros- fan newydd. Camsyniad dybryd ydyw enyn teimladau drwg rhwng meistr a gweith- iwr, a phan wneir hyny ar gefn gweithred dda neu gymwynas o drugaredd mewn angen, mae hyny yn anoddefol o ddrwg, a dylai y cyfryw enynwyr gael teimlo bias y ffrewyll gynffonog. Mae yn ddigon hawdd gwneyd drygioni, a gwneyd rhwyg mewn cymdeithas, a bydd ami un yn ywhyfrydu mewn drwg yn hytrach nag mewn daioni. Bydd adgof hir am y prawf, ac edrychir arno gyda dirmyg gan bob dyn synwyrol. Os nad allwn wneyd daioni, na fydded i neb ein cael yn euog o wneyd drwg, am y rheswm fod meibion yn ddigon drwg a llygredig wrth natur, heb i neb geisio gwneyd y drwg yn waeth. Coder llais a lief yn erbyn ymyrwyr taeog a drygionus nad hoff ganddynt ddynt ddim sydd yn tueddu at ddaioni mewn ffurf rhinweddol. Ymhyfryda y dosbarth hwn mewn ymgynghreirio k phlant y tywyli- wch, a phan gallont elwa, hwy a wnant hyny gyda melusder a boddhad arbenig. Nid â-f i fanylu ar hyn yn awr, gan yr hyderaf y caf gyfle i ymhelaethu mewn rhif- ynau dyfodol. Mae genyf ddigon o fater i lenwi nifer o dudalenau, ond rhaid ymatal.- Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

Gohsbiaethau Diweddaraf.

Hanesion Dosbarthawl.

Creulondeb at Blant yn Mhenfro.

Deiseb er ceisio lleihau y…

Newyddion Cyffredinol.

CERDDORIAETH

CYHOEDDIADAU

Advertising