Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Tachwedd 12fed. Huw Ffradach. Ofer dadl wedi barn," medd hen ddywediad Cymreig ond y mae yn debyg fod amgylchiadau yn dygwydd yn ein byd ni sydd yn cyfreithloni "dadluwedi barn weithiau, ac y mae yr hen gyfaill Llew Llwyfo wedi tybied fod ganddo sylfeini digon- ol dros ddadlu yn erbyn ei feirniaid ar destyn mawr," Buddugoliaeth y Grqes," yn Eistedd- fod ddiweddaf Caernarfon. Y mae y Llew wedi cyhoeddi y bryddest, ac y mae yn rhaid anfon am dani, er mwyn i ninau gael bwrw barn arni. Nid wyf yn gwybod yn mha le y safai y Llew yn y gystadleuaeth, canys yn yr hysbysiad am y bryddest, dywed fod ganddo wrthddadleuon yn erbyn Tafolog, Llawdden, a Vulcan. Wel, nid yw beirniaid yn anffael- edig, welwch chi, a gorchwyl ofnadwy oedd beirniadu y pryddestau ar 11 Fuddugoliaeth y Groes," pan oedd rhai ohonynt yn ymyl 5,000 o linellau Digon i drethu amynedd dwsin o Jobau. Ond ni fynwn weled pryddest y Llew, ac yna, ni allwn ddweyd rhywbeth. Fy nghred i ydyw, fodd bynag, nad oedd testyn o'r nodwedd hyna yn taro awen y Llew. Mewn arwrgerdd, y mae y Llew gartref. Gwir fod yn Muddugoliaeth y Groea arwr, a Thywysog arwyr y byd ond y mae y maes mor sathredig, a chymaint o ganu wedi bod arno, fel mai gorchwyl anhawdd iawn oedd troedio tir newydd. Agrippa.—Gwelaf fod rhai o destynau yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu cyhoeddi yn y GWLADGARWR diweddaf, a dyna le i'r Llew dreio'i law ar arwrgerdd Due Wellington- hen arwr rhyfeloedd yr Orynys a Waterloo Gall gael digon o fwg a than, a mellt, a gwaed yma, nes y bydd ei awen yn codi i fyny, a'i gwallt yn fflamio gan bylor a llosg belau. H Cariad yw testyn y gadair, ac y mae yna faes digon eang i ganu arno. Bywvd," wedi hyny, yn destyn y bryddest-maes hel- aeth iawn eto, yn cyrhaedd o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb, a digon o le i'r awen chwareu eu hesgyll. Tomos Ashtons,-A wyddoch chi pa bryd yr ydym yn myned i gael clywed y ddadl ysbrydegol yn Merthyr, gan John Thalamus a.'i wrthwynebydd 1 Y mae yn debyg fod llythyr J. B. Lewis wedi myned yn geubren- aidd o enllibus, ac yn rhy ddrwg felly i gael ymddangos yn y GWLADGARWR diweddaf. Wn i ddim beth sydd ar ddynion y byd 'ma, na fedra nhw wleua ar fater o ddadl, heb fyn'd i sarnu'u gilydd. Y mae pob synwyr- oldeb yn dweyd mai arwydd o wendid rhes- ymegol yw myn'd i stampan a chico raget. Hen blmi gwrachod yr heolydd ydyw hwnw. Os ydych am glywed doniau difriol, ewch l wrando dwy virago yh tafodi yn rhai o back slums ein trefydd mawrion. Y mae pob gair bychanus, enllibus, a chableddus sydd yn ngeiriaduron daear fel marbles ar benau'u bysedd a phaham y rhaid i ysgrifenwyr yn y papyrau, y rhai a broffesant addysgu'r werin, ymollwng i'r fath lwybrau brwmstanllyd 1 Sam Rhydijfuwch Jones.-Gadewch squab- bles y beirdd a'r ysbrydegwyr, fechgyn, a bydded i ni droi ein sylw' at bynciau mwy buddiol ac ymarferol. Fi garwn i wbod pun ohonoch chi enillodd dorth ginog erioed wrth mhelach a. rhwy atecs felly ? Ma John Thala- mus yn 'nillid cinog go lew wrth ddarlithio ond 'nillwch chi ddim whidlen goch wrth "myryd yn i fusnes e. Felly, rwy'n cynyg i n bod ni'n myn'd i wleua am bethe fyddant o fuddioldeb meddyliol, neu o les pocedol i ni. Ttofh a awn ni dan svlw 1 John Phylacteran Evans.—Wei, un newydd da iawn glwes i o gymydogaeth 'Byrdar yco, yw fod rhyw seren fach o obaith fod rhyw gyffroad yn ngwaith Abernant. Ma rhwy bibe yn cael 'u glanhau yno, ac 'ro nhwn dishgwl Mistir Fothergill 'no'r wthnos ddi- weddaf. Dim ond i waith harn Abernant i starto, fe fydd Aberdar eto ar gefen i cbeffyl cyn pen hir, ar ol bod lawr yn nghorsydd segurdod ac anweithgarwch er's chwe' mlyn- edd. Y fact am dani yw hyn, all hi ddim bod yn amser drwg iawn yn hir mwy Mae rau- uoays y deyrnas yn wero mas, ac fe fydd ishe rails newyddion dros y wlad l gyd yn fuan iawn, ac fe fydd rhaid cael y gweithfeydd harn off eto cyn hir. A dyna beth arall weles i yn y papyr, yr wythnos hon—lythyr o America, gan fachan, yn dweyd fod yr lancies yn siwr ddigon o ddileu y protection, ma nhw n i alw e, yn mhen amser, ta bryd bydd hyny, alla i ddim dweyd ond pan gymer hyny Ie, fe fydd y gweithfeydd harn off fel y ffluwch-Gadlys, Aberaman, Abernant, Plymouth, Pentrebach, a. Phendarren. Gwawrio nelo'r dydd yn fuan, weta i. Ap Gorwynt.—Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd adroddiadau o'r marchnadoedd yn dan- gos fod prisoedd yr haiarn yn ysgogi tuag i fvnv ac mewn rhai amgylchiadau, wedi codi 2s. 6c. 3s. 6c., a 5s. ydunell. Cael yr haiarn I "fyny—dyna ergyd o blaid y gweithiwr oblegyd fel y cynydda y fasnach haiarn- wneuthurol, bydd mwy o alwad am lo, a bydd y glo i'w drosforio o angenrheidrwydd yn brinach, ac y mae prinder unrhyw nwydd yn y farchnad, fel y gwyddoch, yn peri codiad yn ei bris, a phan gyfyd pris y glo, y mae y sliding scale, fel y gwyddoch, yn darbodi fod y gweithiwr i fod yn gydgyfranog o'r bendith- ion a ddeilliant o hyny. Cyn diwedd y mis hwn, y mae pwnc y rheilffordd o Gwm Rhon- dda i Hirwain i ddyfod dau ystyriaeth pwyll- gor Seneddol, ac nid oes genym ond gobeithio ? pasir hi yn llwyddianus, yna, ni fyddir fawr o dro cyn dechreu gweithio arm. yn bydd gwaith i ganoedd laweri dylln tunnel trwy yr hen fynydd. Bydd y tunnel hwn yn fwy nag un yn Nghymru, pan orphenu ef, a IIv ydyw y cymer dair neu bedair blynedd, neu efallai ragor, cyn y llwyddir l w gael I ben. Ni ddylem fel gweithwyr, o gwbl, fod yn ddi- galon, wrth edrych yn mlaen lr dyfodol. in tn peth, y mae y llifeiriant ymfudol yn parhau i fyned allan o L'erpwl i'r America, a Chymro Gwyllt yn chwys mawr wrth gyfarwyddo y lluaws o ddydd i ddydd ar fwrdd y llongau. Teneuer rhengau y gweithwyr yn y wlad hon, ac y mae pob synwyr yn dweyd fod hyny yn gam pwysig tuag at gael codiad yn nghyflogau y rhai fydd ar ol. Gwybedfardd.—Boys, rwy'i wedi bod yn dishgwl sha'r sers a'r Twr Tewdws er's llawer dydd, gan feddwl y gwelwn y "Oysawd Barddol," o waith John Mabonwyson, yn ol- wyno trwy'r gwagle ond weles i ddim cymal ohono hyd yma. Lie mae o, Mabon ? Cych- wyn e allan ar ei daith gysawdol o'r Bwthyn Barddol, a gosod e i fyn'd fel y fly-wheel i lawr sha Pontypridd, ac i lawr i Ffrwdamos a Phen-yr-englyn. Sam Asglod Jones.-O, fe ddaw ond dylet wybod mai nid gorchwyl bach yw gosod y Cysawd mewn motion. Y mae Mabon- wyson wrthi yn saernio er's blynyddau, a phan ddaw i ben, fe fydd yn gampaith discregyns a digoncro. Dyna beth arall sydd yn cael ei barotoi i'r Wasg, gan John Gurnos, yw rhyw lyfr ar y Beibl. 'Sposo fod ei lythyrau yn erbyn Brythonfryn i dd'od allan yn hwnw. Wel, ni fynwn ei wel'd o, os byw ac iach, pan ddaw allan, a ma rhaid i ni 'scribo am bobo gopi yn y Coleg yma. Casgla di, Huw Ffrad- ach, yr enwau erbyn y daw allan. Zephaniah Jenkins.- Y mae yn dda genyf weled "Oyfaill yr Aelwyd," dan olygiaeth Mr. Beriah Gwynfe Evans, yn dal ei dir, ac yn cynyddu mewn dyddordeb. Caffed lwydd- iant mawr. Y mae gan Mr. Evans staff iawn o ysgrifenwyr i gynal ei freichiau, o'r hen frawd-fardd Essyllt hyd at lenorion ieuengaf y tir. Byddai yn dda genyf weled bywgraff- iad byr, yn awr ac yn y man, o ambell i Gymro enwog a llwyddianus ar ei dudalenau, er sym- byliad i'r ieuenctyd a'i darlleno. Ond diau y cawn hyny gydag amser. Byddai hanes byr a chryno o wroniaid rhyfalgar yr hen Gymry hefyd yn rhwym o fod yn ddarlleniadol, o Caradawc ap Bran i lawr hyd at Owain Glyndwr. Ephraim Sparkin Evans.—0, ni gawn hyny aydag amser, yn ddiau. Y mae yn anmhosibl gael pobpeth ar unwaith, welwch chi. Ychydig iawn ohonoch chi sy'n gwybod y drafferth a'r gofal o barotoi ar gyfer papyr bob wythnos. Wyddot ti, Ap Corwynt, rywbeth am dani hi -gad i ni gael tipyn o dy brofiad. Ap Gorwynt.—Na, gorfu i mi fyned drwy fy mhrentisiaeth fy hun, heb gael fy nysgu gan neb perthynol i newyddiadur, ond y tipyn ysgol gefais i gan fy nhad a mam, ac os Eif fi i ddatguddio i chwi gyfrinion newydd- iadurol, dyna fi yn cyfranu addysg yn rhad i chwi, y bu raid i mi ymdrechu yn galed i'w chyrhaedd fy hun. Ychydig feddyliwn, pan yn yr ysgol, ac yn cael excercises gan fy hen athraw (y mae yn fyw heddyw, ac y mae genyf barch calon iddo) i'w cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesonaeg, y buaswn wedi ym- wneyd cymaint a hyny mewn blynyddau i ddyfod. Yr wyf yn awr wedi bod mewn cysylltiad a'r Wasg Seisnig a Chymraeg er's deunaw mlynedd, sef oddiar y flwyddyn 1862, ac wedi ysgrifenu, am wn i, lwyth un o wageni mwyaf y Great Western oddiar hyny hyd yn awr, ac y mae y llaw yma, fel y mae goreu'r modd (diolch am hyny i Ragluniaeth dyner) mor ystwyth a pharod at waith ag erioed. Efallai y bydd rhai ohonoch chwithau sydd yma heno yn ieuainc mewn dyddiau yn cymer- yd i fyny lwybrau'r Wasg. Derbyniwch gynghor bach. Gofalwch bob amser beidio ysgrifenu libel am berson na phersonau. Dwywaith yn fy mywyd cefais i fy mygwth am libel; ond nid oedd dim sylfaen i fyned yn mlaen a'r achosion, onide buaswn wedi cael cyfraith, 'does dim dwywaith am dani. py Mae rhai papyrau yn Nghymru wedi cael ergyd ar ol ergyd am libel o'r cwils cyfreith- iol; ond mi heriaf fi bawb ohonynt i allu dwyn indictment yn fy erbyn i ar y tir yna. Felly, beth bynag ysgrifenoch i'r Wasg, gad- ewch bersonau a chymeriadau yn llonydd. Yn enw'r anwyl, os ydych am ddyrnu a morthwylio, dewch a'r sledge hammer fwyaf sydd yn eich meddiant i ergydio ar ben ffol- arferion yr oes, a rhyw whimsicaleiddiwch sydd yn dangos ei ben yn ein byd ni, yn awr ac yn y man. Curwch ar ben y pechod, ac fe ga'r pechadur ddolur wrth hyny, a bydd y cyfryw foddion yn debycach o beri iddo adael ei bechod, na thrwy ei fflippeno ef ei hun. Yr wyf yn cofio gwrando un yn darlithio ar ddirwest, flynyddau yn ol, yr hwn oedd yn blagardio y meddwyn, ac yn galw pob enwau cas arno-ffordd anhebygol iawn i'w ddych- welyd i'r ffydd ddirwestol. Darllenwch chwi J areithiau Gough o'r America. Nid dyna'r cynllun a gymer efe. 0 na, ond daw i lawr fel mil o briddfeini ar bon meddwdod ac eto, y mae ganddo air dengar a charedig at y meddwyn, a thrwy y cyfryw foddion, y mae wedi bod mor llwyddianus i sobri'r byd. Maddeuwch i mi-o radd i radd, yr wyf bron wedi myned oddiar y testyn. Oes rhywbeth yn ychwaneg heno 1 Agrippa.-Na, nid wyf fi yn cofio am ddim yn neillduol; ond carwn eich gweled yma yn gryno wythnos i heno, i ni gael tipyn o hanes ffordd y pasiodd pethau yn mhwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, cyfarfod yr hwn a gynelir cyn y cyfarfyddom nesaf.
[No title]
PELENI HOLLOWAY yw'r feddyginiaeth fwyaf mewn bri am wella yr amrywiog ddoluriau a ymosodant ar ddynoliaeth, pan fyddo tywydd gwlyb ac oer yn rhoddi lie i hinoedd mwy cynyrchiol. Yn fyr, mae'r peleni hyn yn rhoddi esmwythder,, os nad ydynt yn gallu gwella y cylchrediad, y treuliad, a grym gieuol, pa rai, ar brydiau, a orthrymant ran aruthrol o r boblog aeth. 0 dan y galluoedd iachus, pureiddiol, a chryfhaol a osodir allan gan y peleni rhagorel hyn, "maeJr tafod yn dyfod yn lanach, yr archwaeth yn gwella, y treuliad yn cael ei fywiogi, ac ymdebyg iad yn cael ei adferyd yn berffaith. Mae meddyg- et iniaeth Holloway yn meddu y rhinwedd uchelfrf- aidd o lanhau yr holl waed, pa un, yn ei sefylifa adnewyddol, a garia burdeb, cryfder, a grym bob gwe o'r corff.
EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR.
EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR. Gair at y Gantorion. GYFEILLION,—Er mantais i'r rhai hyny ohonoch sy'n bwriadu dyfod yma yn gorau i gystadlu ar y prif ddarn, "The heavens are telling," i gael myned adref mewn amser cysurus gan y trenoedd rhwng 6 a 7 o'r gloch, y mae y pwyllgor wedi penderfynu gosod y gystadleuaeth hono i gymeryd lie yn nghyf- arfod y prydnawn, am ddau o'r gloch. Dys- gwyliwn rai o gorau y Dywysogaeth yma y Nadolig.-Dros y pwyllgor, ALAW TYDVIL, Ysg.
" Y SAITH GYSGADUR."
Y SAITH GYSGADUR." MR. GOL.Yn y GWLADGARWR, yr wyth- nos cyn y diweddaf, ymddangosodd gofyniad gan E. H. Jenkins, Cwmafon, yn gofyn pa rai ydynt Y Saith Cysgadur." Dymunwyf yn ostyngedig osod yr atebiad canlynol i'w ofyniad. Nis gallaf fod yn sicr pa un a ydyw yn iawn ai nad ydyw. Os nad ydyw, bydded i rai o'ch gohebwyr fod mor garedig a dangos hyny ar dudalenau y GWLADGARWR. Y gwcw ffol a'r wenol ddiffydd, Braith yr had a'r ystlwm, Y neidr fraith a ffroga'r ddol, A'r seithfed yw'r morgrugyn." Tyrbach. MARTHA WILLIAMS.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. MR. GOL.Nid oes genyf amser nac awydd i ddilyn y Cymro Gwyllt. Mae ei ragosodiad yn hollol annghywir, ac felly yr oil o'i ymresymiad. Prawf yr hyn a gyhoedd- wyd o'r testynau fod gweithiau Gogleddwyr yn y program, ac y mae rhagor ar ol; a dywedaf eto mai trueni i ohebydd fel y Cymro ruthro i'r Wasg heb yn gyntaf fynu gafael yn y gwir, a thrwy hyn (yn anfwriad- ol), gamarwain y cyhoedd, gamddarlunio'r pwyllgor, a chamchwareu a rhagolygon yr Eisteddfod—Eisteddfod a wna, gydag ych- ydig o chwareuteg, fwy dros gerddoriaeth Gymreig na'r un a fu o'i blaen. Mae y lol dragywyddol am North a South yn boenus, ac y mae genyf o'm blaen yn awr brofion o'r dirmyg a pha un yr edrycha rhai o brif gyfansoddwyr y "North" ar weithred- iadau eu would-be champions yn y South." Cofied y Cymro nad yw ef yn gynwysedig yn hynyna o ddosbarth.—Yr eiddoch, Un o'i Gyfeillion, ac Tachwedd 13eg. UN O'R PWYLLGOR.
" MANTEISION ARIAN PAROD."
MANTEISION ARIAN PAROD." At Profiadol. SYR,—Mewn atebiad i'ch llith yn y GWLAD- GARWR diweddaf, yn amheu cywirdeb yr hyn a ysgrifenais parth teilyngdod fy nhraethawd, yr wyf am alw eich sylw at a ganlyn :-Nid yw y beirniaid wedi dweyd gair mewn cysyllt- iad â. byrdra na hirdra fy ysgrif, ac nid yw y gair eang ond yn gosod allan yr olwg gy- merais ar y testyn. 0 ran hyd, nid yw ond 17 tudalen o sermon paper, tra y mae y budd- ugol yn 38 tudalen felly, os nad yw yr olaf wedi violatio telerau y gystadleuaeth, yn sicr nid wyf fi wedi gwneyd hyny. Er mwyn i chwi beidio gwneyd mwy o gamddyfyniadau, a rhuthro i conclusions yn annheg, rhoddaf y feirniadaeth air yn air fel yr ymddangosodd Profiadol. —Traethawd rhagorol, yn nodi y man- teision yn eglur a chryno. Mae yn deall ei destyn, ond dylasai roddi mwy o ffigyrau a phrofion ond yr ydym yn ei hopi. Masnachwr Prlderus. -Cymer hwn olwg gryno ac eang ar ei destyn. Ymdrinia ag ef o dan bump o raniadau teilwng iawn. Mae y traethawd, o ran cynllun, meddwl, geiriad, a diwyg allanol, yn ar- dderchog. Ei ragoriaeth ydyw eglurder a syml- rwydd; ond nid yw yn gafaelu yn ei bwnc mor rymus ag y dymunem. Er ei fod yn un da, nid yw agos cystal a Gwen Llwyd. Gobeithio y bydd hyn yn ddigon i'ch con- vincio fod yr hyn a ysgrifenais yn gasgliad teg oddiwrth y feirniadaeth.—Yr eiddoch yn gywir, J. B. DAVIES (ARTHUR WYN). Llanelli.
TREHERBERT.
TREHERBERT. MR. GOL.Da genyf weled Mr. D. Mor- gan yn addaw ysgrifenu. Nid awn i ffraeo pa un ohonom yw y lleiaf, canys byddai hyny yn beth newydd o dan haul. Felly, teflweh eich cot ati, a bydded i'r. radd weithgar yn gyffred- inol i ddarllen y llythyrau, a gweithredu yn ol yr addysg a geir ynddynt. Yr ydym ar ein ffio :dd fel gweithwyr i'n safle briodol yjji y wladwriaeth, ond i ni ddefnyddio ein pleid- leisiau yn briodol yn yr etholiadau-nid etholiadau yr aelodau Seneddol yn unig, ond etholiadau y byrddau amrywiol ag sydd yn ein gwlad, y rhai sydd bron a'n llwyr lethu fel trethdalwyr. Credaf fod llawer gormod o segur-swyddwyr yn cerdded ar hyd ein cym- oedd i ddyben gwaeth na bod yn ddiles, ac eto yr ydym yn gorfod eu talu, er gorfod- lawer ohonom-prinhau ein byrddau, a'n gwisgoedd ein hunain a'n plant i wneyd hyny Y mae llawer yn gorfod talu trethi yn ein gwlad heddyw er cynal y byrddau beichus a osodir arnom, a hyny pan y byddai yn llawer mwy rhesymol iddynt i dderbyn cymhorth i gael gwell ymborth i'w byrddau, a gwell gwisgoedd am danynt hwy a'u plant, ac ar eu gwelyau, er eu cynesu yn adeg y gauaf oer ag sydd ar ein goddiweddyd. f..J" Y mae gobaith genym fel trigolion y Rhon- dda unwaith eto y bydd i ni gael ffordd haiarn, os nad ffyrdd haiarn, i redeg drwy y mynyddau tua'r West. Dywedir fod y ffordd i Hirwaun yn debyg iawn o gael buddugol- iaeth y tro hwn, ac hefyd fod gw £ r galluog yn dweyd y mynant ffordd i Flaen Avan, ac i Abertawe. A byw ar un, yr olaf yw'r goreu ond byddai y ddwy yn sicr o wneyd ein cwm -yn neillduol y rhan uchaf-yn llawer gwell nag ydyw, canys y mae, fel y mae yn awr, yn gongl annghysbell, yn byw ar drugaredd y 0 T.V.R. ond wedi cael ffordd i'r West, bydd- ai mewn cyflwr hollol wahanol mewn llawer ystyr. Y mae dymuniad pob gweithiwr am weled y ffyrdd hyn ar waith, a gadewch i ni wylio pwy a wna eu gwrthwynebu y tro hwn, canys dywedir fod y prif achos o'u haflwydd- iant yn y gorphenol wrth ddrysau y rhai a ddylasent fod ar eu goreu i hyrwyddo eu mynediad rhagddynt, er lies y lluoedd pre- swylwyr drwy'r cwm oil. Pan yn son am dalu trethi, ac am fyrddau, credaf y talai y ffordd i ni fel gweithwyr yn y cwm hwn i ddeall ein gilydd, a bod a dynion yn barod i'w cynyg a'u hanfon drosom i'r byrddau, y rhai a ant yno, ac a ofalant am ein hiawnderau wedi myned.—Yr eiddoch, D. WEEKS.
AT BWYLLGOR YR EISTEDDFOD
AT BWYLLGOR YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, MERTHYR. FONEDDIGION,-A ydych yn golygu i bob ymgeisydd gyfansoddi tair can pedair rhan, neu bwriadu yr ydych i wobrwyo y tair can oreu pwy bynag fyddo eu hawdwyr ? INQUISITOR.
GELWYDD GOLEU.
GELWYDD GOLEU. MR. GOL.,—Deall wyf fod y sarff ddirgel- aidd wedi bod yn taenu ar hyd a lied Mountain Ash, a lleoedd ereill, fy mod i yn anfon fy mhlant at y Catholiciaid i'w haddysgu, a thrwy hyny yn ceisio dangos fy annghyson- deb fel crefyddwr a dyn cyhoeddus a chyf- addefaf, pe byddai hyny yn bod, y byddwn yn hollol annghyson. Ond yr wyf am i'r cyhoedd wybod mai anwiredd noeth ydyw y chivedl, a rhoddaf 5p. yn wobr i unrhyw un a brofa yn wahanol. Ni fu yr un o fy mhlant yn Ysgol y Catholiciaid erioed. Yr oedd wedi cael ei daenu fod Father Hamelin, o Aberdar, wedi cael caniatad genyf i fyned i'r swyddfa, yn y gwaith, i godi'r arian oddi- wrth y poundage system, fel tal am eu hysgol, ond celwydd ydyw yr oll. Bum gyda'r hen dad yn nghylch y mater, ac 0 mor ddifrifol yr oedd, yn gymysg o Seisnig a Ffrengig, yn gwadu na ddarfu iddo ef wneyd defnydd o fy enw. Ni fuaswn yn gwneyd sylw o'r cyhudd- iad oni buasai fod rhai yn gwneyd defnydd ohono i'm drwgliwio y tuallan i Mountain Ash.—Yr eiddoch yn gywir, Mountain Ash. D. MORGAN.
DADL GO LEG Y BALA.
DADL GO LEG Y BALA. At Dr. Kennedy. ANWYL SYR,—Daeth eich llythyr, dyddied- ig Hydref 9fed, yr hwn, fel y dywedwch, na anfonwyd cyn Hydref 20fed, i'm Haw yn ddiogel. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi ei ysgrifenu ar gyfer y Wasg, ond gan iddo gael ei gyfeirio yn ffurfiol i mi, cymeraf fy rhyddid i'w ateb. Gadawyd allan o'r Adroddiad eich llythyr olaf, Ebrill 17eg, o'n gohebiaeth flaenorol, ar y dybiaeth ei fod wedi ei adael allan o'r Genedl yn fwriadol gan y cyfieithwyr, yn nwylaw y rhai y gosodasoch chwi yr oheb- iaeth. Nid oedd yn rhyw ry foesgar. Yr oedd wedi ei ysgrifenu heb yn wybod i'ch cyd- gynghorwyr (colleagues), a phriodola i mi am- canion na wyddwn ddim am danynt. Natur- iol, gan hyny, oedd tybio eich bod yn dymuno ei alw yn ol. Yn y brawflen gyntaf o'r Adroddiad, yr hon sydd yn awr ger fy mron, cyfeirir ato yn benodol fel un o dri pheth oedd wedi cael ei gadw o'r golwg. Ond gan fod hyny yn edrych fel beio am beth oedd ynddo ei hun yn berffaith ddibwys, tynasom allan bob cyfeiriad ato. Ond wedi derbyn eich llythyr chwi, chwiliwyd y Genedl, a chaf- wyd hyd i'r nodyn Ebrill 17eo, wrtho ei hun ar wahan oddiwrth y llythyrau ereill, a drwg iawn genym iddo ddianc ein sylw. Tra yr oeddym yn boddloni yn dawel i'ch gwaith chwi yn ddystaw gadw y nodyn hwnw o'r golwg fel y tybiem ar y pryd, nis gallem ac nis gallwn lai na'ch beio am beidio cyhoeddi y llythyr pwysig a anfonodd y trysoryddion at Mr. Morley, ac nis gallwn ddyfalu ar ba egwyddor y cyhoeddasoch ein llythyrau ni, ac y peidiasoch gyhoeddi llythyrau yr ochr arall, y dystiolaeth a dderbyniasoch, yn nghyd ag enwau y tystion. Yr ydych yn condemnio y sylw sydd yn nglyn a'ch llythyr cyntaf, yn yr hwn yr ydym yn galw sylw y darllenydd at yr hyn a gy- merir yn ganiataol genych yn y geiriau cyn- taf. Pwyllgor Gweinyddol Coleg y Bala," a'r cymeriad answyddogol y gosodweh y Parch. M. D. Jones ynddo. Nid ydych chwi yn gallu ei weled. Caniatewch i ni ddefnyddio cymhariaeth er ei wneyd yn fwy dealladwy. Tybiwch fod Capel Mawr Coffadwriaethol wedi ei adeiladu yn eich cymydogaeth chwi, a gorchymyn wedi myned allan mai gwell fyddai cau i fyny eich capel chwi ac un arall, er bod y ddau mewn sefyllfa flodeuog. O'r diwedd, mae pleidwyr cynllun yr un capel yn llwyddo i derfysgu eich eglwys ac yn achosi rhwyg, a rhai o'r encilwyr yn sefydlu eglwys arall mewn ystafell ardrethedig o fewn can' llath i'ch capel chwi. Maent, drwy basio penderfyniad, yn eich troi chwi o'ch swydd, ac yn cyhoeddi y Parch. J. G. Rogers yn weinidog a chwithau >yn wrthryfelwr. Yna, y maent yn tynu eich enw allan o'r Blwydd- iadur (Year Book), ac yn gosod enw Mr. Rogers yn lie eich enw chwi fel gweinidog capel Stepney. Yn mhellach, tybiwch fod Mr. Morley, ar ol rhoddi i chwi danysgrifiad o 50p., yn galw am dano yn ol, ac yn ei roddi i bobl Mr. Rogers. Tybiwch yn awr i'ch gwrthwynebwyr fyned yn ostyngedig am gyf- arwyddyd at Mr. Morley, a gwyr blaenaf y pwyllgor sydd yn cyhoeddi y Blwyddiadur, yn yr hwn yr oeddych chwi wedi eich anwyb- yddu, a bod y boneddigion hyny wedi ysgrif- enu atoch gan ddywedyd, "Mae eglwys a chynulleidfa Stepney a'i gweinidog wedi gofyn i ni wneyd ymchwiliad i'r ddadl, a wnewch chwi a'ch cyfeillion ?" Ai ni ddywedech chwi eu bod hwy yn cymeryd yn ganiataol yr unig achos mewn dadl ? Wrth ddweyd eich bod yn cymeryd yn ganiataol mai y rhai a'ch gos- ododd chwi ar waith oedd Pwyllgor Gwein- yddol Coleg y Bala, nid oeddem yn eich cyhuddo o wneyd cam yn fwriadol. Yr hyn a wnaethoch chwi yn fwriadol oedd dal i gredtr yr hyn oedd heb ei brofi. Mae y casgliad rhyfedd a dynwch, sef os yw ein hadroddiad ni o'r ddadl yn gywir, 11 yr ydym ni, Mr. Morley, Mr. Wright, Mr. Spicer, Mr. Rogers, a minau yn gelwyddwyr," yn ymddangos i ni yn dra gwrthun. Gallasech yr un cystal ddywedyd, os yw yr egwyddorion Protestan- aidd yn wir, yna y mae yr holl gardinaliaid yn gelwyddwyr. Ond y mae yn ddiamheu y gwneir defnydd o'r hyn a ysgrifenwyd genych. Edrychir arnom ni fel parsonau sydd wedi colli pob gronyn o foneddigeiddrwydd fel ag i alw celwyddwyr ar un o'r dynion rhagoraf a mwyaf anrhydeddus.—Gorphwysaf, anwyl Syr, yr eiddoch yn ffyddlon, DAVID REES. Y Parch. Dr. Kennedy.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881. MR. GOL.Da genym ddeall yn y Coleg fod gwledd gerddorol o'r fath ardderchocaf yn cael ei pharotoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Merthyr am 1881. Y mae y darnau datganiadol yn ddetholedig o weith- iau Handel, Mendelssohn, Dr. Parry, Owain Alaw, J. A. Lloyd, D. Emlyn Evans, John Thomas, Alaw Ddu, a David Jenkins. Felly, dyma gyfle godidog i fechgyn ygân dreio'u meginau. Rhaid i gorau y De dynu eu cot- iau, waeth wyddis yn y byd mawr na cheir cor neu ddau o'r Gogledd yn yr ymdrechfa fawr.—Yr eiddoch, ar ran aelodau y Coleg, Ap CORWYNT.
ATEBIAD I "HWNTW.".
ATEBIAD I "HWNTW." MR. GOL.,—Gwelwch ddaed a chaniatau i mi atebu Hwntw. Frawd Hwntw, anerch, —ymdrechaf eich atebu, rhag eich dyfod yn y diwedd i'm syfrdanu." Yna, gan na chredwyf i mi fodoli mewn un byd o flaen hwn, ofer a fyddai i mi chwilio am englynion i'r "Cwmwl" o'r cyfnod hwnw. Ofer, hefyd, chwilio am y fath yn y byd hwn, gan na chyfansoddwyd hwy. Ond y mae'n gofus genyf i mi ffurfio rhywfath 0 un englyn ar y testyn, gryn flynyddau'n ol, ac i mi ei anfon i gystadleuaeth ond crogi neb "fryr," canys nid oes genyf frith gof, pa un a gefais i wobr am dano neu beidio. Nis gallaf gofio, pe'm blingid, oherwydd pe cawswn y wobr, buasai ar fy log oherwydd ei maint. Odid nad oedd yn swllt glas cyfan—'does bosibl iddi gyrhaedd gwerth pedwarau o fyglys, pris arferol englyn! Ond y mae rhai eithriadau hefyd. Cefais dri gini gan Wenynen Gwent am englyn beddar- graff Syr Charles Morgan. Cefais hefyd ddau gini, a thlws gwerth dau gini, am hir a thodd- aid beddargraff plant Mr. W. J. Parry, Llandegai, Arfon, o Eisteddfod Bethesda. Yr oedd y rhai hyny yn croeni tipyn ar y mil cant englynion am ddim, ac yn porthi cetyn ar fy ngwag-ogoniant. Wel, nid ysgrifiais i ond yr un englyn hwn ar y testyn erioed. Dyma fe :— CWMWL. Cwmwl yw nifwl yn nofiaw-awyr, Gan nwyfreawg chwyfiaw; Castell brith y gwlith a'r gwIaw- Teml mellt i ami ymwylltiaw. Dyna gyd wn i am dano. A wyr yn well, traethed ei len, a boddlon fydd—Yr eiddoch hyd y talar, HEN NATHAN DYFED. Bwth St. Tydfil, Merthyr.
Y Cythrwfl yn yr Iwerddon.
Y Cythrwfl yn yr Iwerddon. BRADLOFRUDDIAETH ARALL. Daeth y newydd o Limerick, dydd Sadwrn, fod dyn ieuanc o'r enw Wheeler, 25, yr hwn a weithredai fel tir-oruchwyliwr ar eiddo yn y gymydogaeth, wedi ei fradlofruddio y noson flaenorol ar y ffordd mewn parth mynyddig tua phum' milltir o dref Tipper- ary. Yn ol y manylion a gafwyd, ymddengys iddo fod yn casglu rhenti, ac yn cerdded yr heol yn nghwmni bugail o'r enw Moore. Yn sydyn, trwy agoriad yn y berth, gwelid baril dryll, ac ergyd yn cael ei danio, a syrthiodd Mr. Wheeler yn erbyn Moore wedi ei saethu trwy ei ben. Rhedodd Moore ymaith mewn braw. Dywed iddo glywed tri o ergydion, ac wrth edrych yn ol, gwelai ddyn a rifle yn ei law, a'i wyneb wedi duo, yn ymgrymu uwch corff Mr. Wheeler. Pan ddaeth y police i'r lie, yr oedd Wheeler yn farw, ac wedi ei saethu drwy ran uwchaf ei ben. Dywedir mae cwerylon a rhai o'r tenantiaid oedd achos y llofruddiaeth. Nid oes neb yn y ddalfa hyd yn hyn. Enfyn gohebydd o Limerick Junction, nos Sadwrn, ei fod newydd ddychwelyd o'r fan lie y cyflawnwyd y llofruddiaeth. Yr oedd golwg ddychrynllyd ar y corff, yr hwn a orweddai ar fwrdd mewn ty- allau perthynol i ffermdy cyfagos. Yr oedd cwnstabl arfog- edig yn cadw gwyliadwriaeth trwy y nos, ac yr oedd un arall i gymeryd ei le am ddeg foreu dydd Sul. Y mae y pedwar brawd o'r enw Moore, dau o ba rai oedd gyda'r llofruddiedig pan saethwyd ef, dan wyliad. wriaeth yr heddgeidwaid. Bu ymrysonau yn ddiweddar rhwng tad y trancedig a rhyw denantiaid, ond mynegir nad oedd y trancedig ei hun ar delerau drwg a neb ond a'r Moores, rhyngddo a pha rai y bu ychydig wahaniaeth. Y mae un-ar ddeg o archollion ar ben y trancedig. Yr arf a ddefnyddiwyd yn ddiau ydoedd dryll dwbl-faril, wedi ei lwytho a, darnau o blwm. Y mae cyffro mawr ym ffynu yn y lie. Ymddengys na fu Wheeler farw yn union- gyrchol ar ol cael ei saethu, ond iddo redeg am tuag ugain llath, pan ddilynodd y llof- rudd ef, gan ei guro yn ei ben a chareg. Aeth yr ergyd i mewn trwy ei glust, ac allan trwy ei enau, gan fwrw ei ddanedd yn I rhyddion.