Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MADOG AB OWAINI GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN I GWYNEDD. Ffugchivedl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, Awst, 1880. GAIR AT Y DARLLENYDD. GYFAIIX,—Yr wyf am i ti ddeall fod gwrthddrych ein testyn yn byw yn y ddeu- ddegfed ganrif. Plentyn o ordderch ydoedd i'r Tywysog Owain Gwynedd, a dywedir ei fod wedi cael ei ddwyn i fyny yn forwr, neu o'r hyn leiaf yr oedd ganddo ef duedd neillduol at forwriaeth. Nid oes ond un ffaith bwysig yn hanes ei fywyd, a dichon fod hono yn unig yn ddigon i'n cyfiawnhau ni am ei ddwyn i sylw yn y gwaith dilynol. Wedi marw ei dad, dechreuodd ei frodyr ymryson a chyndynu yn enbyd yn nghylch y freniniaeth, a bu ymladdfeydd gwaedlyd rhyngddynt. Gan ei fod ef yn wr hedd- ychol a thangnefeddus, penderfynodd fyned i chwilio am wlad oedd yn rhydd oddiwrth vmrysonau a chynenau felly. Rhyw ddi- wrnod, casglodd lynges fechan yn nghyd, a ffwrdd ag ef tua'r gorllewin, a dywedir ei fod wedi tirio ar dir America. Yr oedd ei ymadawiad mor sydyn a chuddiedig, fel y barnodd llawer o'i berthynasau, ac ereill, ei fod wedi cael ei frad-lofruddio. Syrth- iodd drwgdybiaeth ar lawer o'i gyfoeswyr, ond yn benaf ar Llywarch ap Llewelyn, neu Brydydd y Moch. Bu rhaid iddo ef, neu, o'r hyn lleiaf, bu yn go agos i hyny, fyned trwy yr hen brawf uffernol hwnw— "cerdded dros haiarn poeth, gafaelyd ynddo a'i ddwy law, &c. er profi ei ddiniweid- rwydd. Yn y penill canlynol o'i "Awdyl yr Haiarn Twymyn," dywed fel hyn:- Da haearn diheura pan lias, Lleith Madawc nad om llaw canas; Noe y ceif Cain ae glas, Ran o nef ac naw ternas Minhau mynnaf gyweithas, Bot Duw ym a dianc oe gas." Yn yr awdl hon, geilw y bardd ar ei I Greawdwr, Pedr, Tomas, Phillip, Paul, ac Andreas fel tystion i brofi nad oedd wedi Uadd y Tywysog Madog. Y mae yr un bardd, yn mhen blynyddoedd lawer wedi diflaniad Madog, pan yn canu i Llywelyn ab Iorwerth, neu Llywelyn Fawr, yn coff- hau yr un pwnc, ac ymddengys nad oedd un gradd o oleuni wedi cael ei daflu arno y pryd hwnw. Ceir cyfeiriadau ganddo hefyd at yr un mater yn ei Awdl i Rodri ab Owain. Ond y mae Cynddelw, Brydydd Mawr, yn ei Farwnad i deulu Owain Gwynedd, yn eoffhau am Madog fel un wedi cael ei ladd gan y mor. Fel hyn y dywed:— Eny Has Madawc mur dygymorth nar, Neu auar car kymorth. Ymddengys mai barn ei gydoeswyr am ein harwr ydoedd ei fod wedi myned i chwilio am wlad a thir allai gadw yn ei feddiant ei hun, a'i fod wedi syrthio yn aberth i'r ton- au. Beth bynag, yr oedd coffadwriaeth am ei fordaith yn fyw yu Nghymru am flyn- yddoedd lawer wedi iddo gychwyn, canys mewn cywydd o waith Meredydd ap Rhys, offeiriad Ruabon, ac athraw Dafydd ab Edmwnd, yr hwn a flodeuai rhwng y blyn- yddoedd 1430 a 1460, cawn y llinellau can- lynol Madog wych yr wyndeg wedd, Ia\«—enau Owain Gwynedd Ni ljuai dir f'enaid oedd, Na da mawr ond y moroedd." Cofier fod y Uicellau yea wedi cael ea cyf- ansoddi dros gan' mlynedd cyn i'r Yspaen- iaid osod troed ar gyfandir America. Y mae yn ffaith fod Madog wedi myned o Gymru, ond nis gwyddai ei gyfoeswyr i ba Ie. Dywed Dr. Powell, ac awdurdodau credadwy ereill, ei fod wedi dyehwelyd drachefn, a chymeryd haid o'i gydgenedl ymaith gydag ef. Os ydyw hyn yn wir, ac nid oes genym fodd i'w wrthwynebu, rhaid ei fod wedi gwneyd hyny yn hynod ddirgelaidd, oblegyd pe amgen buasai wedi gadael mwy o son am ei daith yn Nghymru. Bellach, cychwynwn at ein testyn. YR ÅWDWR. PENOD I. Y CYFARFOD AR Y MYNYDD. YR oedd yn noswaith oer, ac yn tynu yn mlaen tua chanol mis Rhagfyr. Yr oedd ychvdig dros ddeg o'r gloch. Y pryd hwnw gwelid dyn ieuane cryf a hoyw yn sefyll a'i gefn ar fur gogleddol tref henafol Bangor, yn Bwydd Caer-yn-Arfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn dal ei olygon yn sefydlog ar fynyddoedd talgribog yr Eryri. Wedi aros yn y man hwnw am ryw haner awr, start- iodd allan i'r heol, gan ddywedyd, Y mae yr amser i fyny. Cymer y daith ddwy awr. Byddant yn sier o fod yno erbyn hyny." Yna, dechreuodd ddringo llechwedd y mynydd Edrychai yn ami o'i gwmpas, a theithiai yn gyflym Yr oedd yn noswaith hyfryd. Y lleuad yn dysgleirio yn ei nerth, a'r ser yn dawnsio yn y ffurfafen. Chwythai yr awelon yn gryf a theneu o'r Gogledd, ac yr oedd tua llathen o eira yn gorchuddio y maes, a hwnw wedi ei gloi o gwr i gwr gan rew. Yr oedd yr holl gylch yn ymddangos yn brydferth a hyfryd. Gellid adnabod gwahanol wrthddrychau yn y pellder o filltir oddiwrthynt. Wedi teithio a dringo am gryn amser, cyrhaedd- odd y teithiwr goryn uchaf y mynydd. Wedi iddo edrych yn fanwl o'i gwmpas, dywedodd yn uchel wrtho ei hun, Gallwn feddwl ei bod yn rhy gynar-wedi canol nos. Lie rhyfeddol ydyw hwn. Y mae y golygfeydd yn swynol. Mor amlwg y mae yr Eryri a'r Wyddfa, Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn! Y mae y cyfan yn ymddangos yn brydferth. Ha dacw hwy yn dyfod. Dim ond pedwar! Pa le y mae y pumed ? Dichon y daw yn y man." Yr oedd y pedwar dyn y soniai am danynt yn dyfod i fyny rhwng dwy fraich o'r mynydd, a chyn hir yr oeddent wedi cyrhaeddyd y gwastadedd. "A ydyw y tywysog yma er's gryn am- ser ?" gofynodd un ohonynt ar eu gwaith yn dyfod yn mlaen. I I Oddeutu chwarter awr, feallai," oedd yr ateb. Pa le y mae Ifor ?" Ar ei daith, a bydd yma yn mhen awr," ebe yr an gwr. Purion. Gadewch i ni gychwyn at fusnes ar unwaith." I I Ie, yr wyf yh awyddus am drafod y pwnc." "Felly ninau," ebe y lleill o'r dynion. Yr ydym am gael hollol ddealldwriaeth yn ei gylch." "Bydd i mi wneyd fy ngoreu i'cb boddio," ebe y gwr cyntaf a ddaeth i'r mynydd. Yr wyf yn credu fy mod yn ei ddeall, ac felly y mae genyf ryw gynyg i wneyd i chwithau i'w ddeall. Gwyddoch fod ein gwlad wedi myned i ryw gyflwr ofnadwy. Gwyddoch fod ei mynyddoedd yn cael eu cochi gan waed dynol, a'r dyffrynoedd yn cael eu llanw o esgyrn y meirw. Gwyddoch fod miloedd o blant yn cael eu gwneyd yn amddifaid bob blwydd- yn, a chanoedd o wragedd yn cael eu gwneyd yn jweddwon. Gwyddoch fod y wlad wedi cael ei chylehynu gaD elynion, tra mae ei rhanau mewnol yn berwi fel crochan gan lid a chynddaredd. Gwyddoch fod fy mrodyr yn sychedu am waed eu gil- ydd, a gwyddoch hefyd eu bod yn rhifo miloedd o'u cydgreaduriaid i'r farn a byd arall trwy fin y cleddyf. Nis gallaf fyw yma yn hwy. Yr wyf yn rhwym o gael cartref mwy cysurus na hwn. Nid oes yma ddim ond llofruddio ac ysbeilio yn barhaus a diddiwedd. Y mae ein gwlad wedi syrthio i annhrefn a barbareiddiweh. Nid yw ond maes y gwaed o'r naill gwr i'r Hall, ac yr wyf yn rhwym o gael trigfan mwy heddychol yn ihywle. Yr wyf wedi sylwi, a dichon eich bod chwithau wedi sylwi hefyd, fod y gwynt yn chwythu weithiau dros amryw ddyddiau o'r gor- llewin, yr hyn sydd yn peri i mi feddwl fod tir a gwlad yn y eyfeiriad hwnw yn rhywle. Gwir nad oes neb wedi eu darganfod-gwir nad oes neb wedi eu meddianu; ond nid vw hyny yn un prawf nad ydyntyno i'w cael." "Anturiaeth enbyd!" ebe un Caerfall. wch. Myned i wlad nas gwyddom ddim am dani!" Eithaf gwir," oedd yr ateb ond ni fyddwn yn wahanol i'n tadau. Daethant hwy allan o'r Dwyrain; teithiasant am ganrifoedd ar hyd a lied eyfandir Ewrop, ac o radd i radd, croesasant y sianel i'r ynys hon. Trigiasant yn y wlad yma drachefn am oesau a chenedlaethau lawer cyn i un gelyn ddyfod i'w haflonyddu. Yr oeddent yn gryf a dewr, a chadwasant eu dychryn ar eu holl elynion. Gadewch i ninau fod yr un fath. Gadewch i ni feddu ar ysbryd gwrol ac anturiaethus, a dilyn ol traed ein henafiaid. Yr wyf yn credu fod gwlad yn y gorllewin, a gadewch i ni fyned a'i medd- ianu." "Yr wyf yn ofni," ebe Caerfall wch, fod gogoniant y wlad hon wedi ymadael. Ni fydd i'w haul dywynu byth mwy. Y mae Maelgon a Hywel yn casglu eu bydd- inoedd unwaith eto, a chochir daear Gwyn- edd gan waed y lladdedigion." Eithaf gwir. 0 fy ngwlad! fy ngwlad! y mae pob llwchyn ohonot yn cartrefu yn fy nghalon. Bydd dy fynydd- oedd a'th fryniau yn werthfawr yn fy ngolwg byth. Nid a dy ddyffrynoedd ffrwythlon a'th ffynonau grisialaidd yn an- nghof genyf hyd nes bydd angau yn cau fy llygaid. Ond, rhaid ymadael. 0 gyfeill- ion, gadewch i ni gychwyn." Eithaf boddlon," ebe Ifor, yr hwn oedd wedi cyrhaeddyd erbyn hyny; "dilynaf chwi droed yn mhwll i ba le bynag yr eloch." "Porion. A ydych chwi oil o'r un farn a theimlad ?" "Ydym," oedd yr ateb; canlynwn chwi i eithafoedd y ddaear." Da genyf glywed. Y peth nesaf yw, pa bryd yr ydym i gychwyn." "Yn mis Ebrill," ebe un. "Yn mis Mai," ebe y llall. "Yn mis Mehefin," dywedai y trydydd ac yr oedd dau ohon- ynt am gychwyn yn mis Awst. Wedi siarad a dadlti am gryn amser, daethant oil i'r un farn mai mis Mai fyddai oreu, ac felly terfynodd y mater. Pwnc arall ydoedd llongau. Yr oedd tair llong yn eu meddiant, ac yr oedd yn rhaid adeil- adu tair newyddion. Gorchwyl.lled an- hawdd i'w benderfynu ydoedd hwn, gan fod yn rhaid cadw pob peth yn ddirgel. Nid oedd un creadur byw i gael gwybod am y fordaith, ac felly yr oedd adeiladu llongau yn gryn orchwyl; ond wedi siarad cryn lawer, gorchfygwyd hwn hefyd. Wedi i bawb draethu eu lien, dywedodd y tywysog, Nis gallwn wneyd dim a'r mater yma heno." Pa fodd hyny ?" gofynodd un o'r cyf- eillion. Yr ydym yn rhy bell oddiwrth y sianel. Nid ydym ddim gwell o adeiladu y llongau os nas gallwn eu cael i'r dwfr." Yr ydych yn iawn," oedd yr ateb. Nid yw llongau yn werth fawr ar dir sych." Gwir, ac felly rhaid i ni gael golwg ar y llecyn cyn gosod llif mewn pren." Pa bryd y cyfarfyddwn, ac yn mhale ?" Wythnos i heno ydyw yr amser mwyaf cyfleus genyf fl., a chyfarfyddwn ryw dair milltir tu isaf i Arfon," neu fel y gelwir y lie yn awr, Caer-yn-Arfon. Eithaf da," ebe y lleill; byddwn yno yn eich cyfarfod." DIWEDD Y BENOD GYNTAF.

"MANTEISION ARIAN PAROD."

Lloffion Difyrus.

[No title]

Nodiadau Ystadegawl.

Amrywiaeth.

[No title]