Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Tachwedd 5ed. Ap Corwynt.-Yr oedd yn dda genyf weled Ilythyr synwyrol Mr. Thomas James (Iago Cynon), Abercwmboy, yn y GWLADGARWR diweddaf, yr hwn oedd yn llwyr gyfiawnhau fy ngolygiadau am dano, ac nad oedd ganddo yr un cydymdeimlad â chwyddiaith Carwr Tegwch, a'r froth a'r effrontery a ddangosodd efe. Agrippa.-Mi fum i neithiwr yn Mhwyll- gor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Merthyr, a chytunwyd yno mai can' punt yw y brif wobr gorawl i fod felly, dyna le i'r corau i ymwregysu o Gapcoch i Gapadocia. Felly, heb ddim rhagor o lol na chroesdynu na chroes-ddadleu, ewch at eich gwaith, fechgyn cerddorol, yn ddiymaros. Fel y cewch glywed eto, penderfynwyd fod yno ddwy wobr i gorau o'r un gynulleidfa, ac yn nglyn a hyny, ni fydd hawl dewis arweinydd tuallan i gynull- eidfa y c6r fydd yn cystadlu felly, peidied Cor Jerusalem, Aberpebyll, a meddwl myned i Aberdar, Hirwain, Mountain Ash, na Chwm Rhondda i 'mofyn arweinydd-rhaid i un o'u bechgyn hwy eu hunain gymeryd at yr ar- weinffon, neu tod heb g-ystadlu. Wrth gwrs, ni ellir rhwystro y corau i gyflogi arweinydd i'w trainio yn mlaenllaw ond ni chaiffhwnw dd'od i'r llwyfan ar ddydd mawr y cystadlu. Am yr arweinydd ar y prif ddarn, wrth gwrs, fe ellwch anfon, os mynwch, i Buenos Ayres i'w gyrchu—neu i Montenegro-fel y byddwch yn dewis. Huw Ffradarh.—Yr ydwyf yn gweled fod ffair Eisteddfodol i fod yn Aberdar eto ar ol i'r holl Eisteddfodau y Nadolig basio. sef tua Gwyl Dewi. Dyna ddau fis o amser i'r cerdd- orion gael eu hanadl ar ol ymdrechfeydd y Nadolig, ac i loewi tipyn ar y Bendigedig," oblegyd yr wyf yn deall mai hono yw y prif ddarn i fod. Ond er mwyn gadael y cauu a'r ymgiprys Eisteddfodol, gadewch i ni fyned at rywbeth dipyn yn fwy sylweddol. Diau fod trigolion Cwmafon, Aberafon, a'r cylchoedd, ar eu huchelfanau oherwydd cychwyniad gwaith alcan o'r newydd yn Nghwmafon. Y mae hyn yn arwydd o ba gyfeiriad y mae y gwynt yn chwythu, ac nad yw masnach yr .alcan yn myned dan gwmwl, fel y lled- awgryma rhai. Yn mlaen yr elo fe, 'wedaf fi, a llawer gwaith gydag ef, o'r newydd, er mwyn i ni gael gauaf mwy bywiog na'r llynedd. Y mae y gauaf yn dechreu yn gynar eleni- lawer yn gynarach nag y dechreuodd yn 1878, a phwy a wyr na allwn gael tri mis o rew o hyn i ddiwedd Ionawr ? Ond os ceir bywyd yn y gweithfeydd, fe ymdopir o lew. Tomos Surffedlyd Jones.-Fechgyn, dyna le cynyddfawr yw Treharris, Quaker's Yard, wedi dyfod. Y mae tai newyddion yn neidio i fyny yno fel bwyd y barcud. Fe ddaw yn le mawr budyr ar fyr, ac nid yw yn mhell iawn oddiwrth "Fwthyn barddol" yr hen gyfaill Mabonwyson. Mi fum i lawr yno pwy ddydd, ac fi synais wel'd y lie. Bum yn holi am yr hen gyfaill Mabonwyson, ond nid oedd hamdden genyf i fyned i ymweled ag ef. Mr. Evans, gynt o Hirwain, sydd yma fel manager, a dywedid wrthyf fi mai yma y mae y pwll dyfnaf yn Neheudir Cymru, ac mae yno hefyd beirianau o nerth aruthrol; a chodir o'r pwll hwn yn fuan, meddir, tua phymtheg cant o dunelli o lo yn ddyddiol. Y mae hwn yn fath o Eldorado newydd eto yn Neheudir Cymru, fel y bu Cwm Rhondda gynt, a Ferndale, a'r Mardy, ar ol hyny. Ap Gwrychell.-Dyna newydd da iawn sydd 'Wedi tori ar fy nghlustiau i yn ddiweddar yw fod mesurwyr wrthi yn brysur iawn yn levels y rheilffordd newydd sydd i gael ei gweithio o Flaen Rhondda, yn rhywle o dan y myn- ydd, ac i ddyfod allan rhwng Hirwain a Rhigos, ac i redeg i fyny heibio Penderyn, a thrwy Gwm Cadlan, ac allan yn rhywle i uno a'r rheilffordd o Ferthyr i'r Gogledd. Bydd yna waith i ganoedd lawer am flynyddau wrth y tunnel yma, ac y mae pobl Hirwain, Rhigos, a Phenderyn yn edrych yn mlaen a llygad ffydd am amser odiaethol i wawrio, pan gychwynir y rheilffordd hon. Heblaw rhoddi gwaith i'r ardalwyr, rhydd hefyd fasuach i'r siopwyr, ac fe werir miloedd ar filoedd o bunau yn y cymydogaethaa hyn. Wel, fe garwn i gael byw i weled gorphen y llinell hon eto, ac fe fydd gwedd arall ar Hirwain y pryd hwnw. i mae y si yn y gwynt fod pwll glo mawr i gael ei suddo ger y Rhigos, yr hyn, os gwir, a fydd yn gaffaeliad arall i'r ardal hono. 0, peidiwch a chlafychu dim, gyfeill- ion, nid yw y dyfodol yn dywyll i gyd ac os na chawsom y mesur o lwyddiant a ddymunem ac a ddysgwyliem eleni, wyddom ni yn y byd ffordd y try pethau tua spring 1881. Darllen- ais pwy ddiwrnod yn y GWLADGARWR fod rhyw ddeunaw mil ar ugain o filiynau o dunelli o 10 eto heb ei godiyn Neheudir Cymru, ac fe gymer flynyddau lawer cyn y daw hwnw lan i gyd. Ond beth wneir yn y Deheudir yma wedi clirio hwnw i fyny 1 Rhagluniaeth yn unig a wyr. Sanbalat Hughes.—Paid a pheswch dim, machgen i, am hyny.. Fe fydd ein penau ni wedi eu cuddio, bob copa ohonom, CYD y cymer hyny Ie, a managers, overmen, a choliers newyddion yn mhob pwll. Fallai mai or- orwyrion orwyrion y to presenol fydd byw y pryd hwnw, neu do yn agosach at y mil- flwyddiant na rheiny. Y mae yn gysur i ni y par y glo cyhyd ag y byddom ni, ac yna, shifted y bobl fydd yn byw yn Morganwg, pan derfydd y glo, oreu y gallont. Glo welson ni yma, a glo adawn ni ar ein hoi; felly, ni raid i ni bryderu dim byd. Ond sut y mae tua'r Iwerddon yco y dyddiau hyn 1 Agrippa.-O, busnes y saethu a'r agitato sy'n myn'd yn mlaen acw, a chyflawni pob dyhirwaith. Y mae y ringleaders, sef y Parnell & Co., wedi cael summons i dd'od c flaen eu gwell i roddi cyfrif o'u goruchwyl- iaeth, a dywedir y bydd hwn yn brawf broc cyhyd a phrawf John Tichborne, gan fod gar Parnell ryw ganoedd o dystion i'w dwyn yn mlaen. Un peth sydd sicr, y mae yn rhaid cael dibendod ar y tywallt gwaed a'r berw ynfyd sydd yn yr Ynys Werdd. Wedi casglu iddynt trwy bob rhan o'r deyrnas i'w hatal rhag newynu y gauaf diweddaf, a rhoddi help iddynt i gael llafur a thatws had, dyma hwy eto fel y filen, yn pallu talu rhent, ac yn saethu eu meistri, llosgi eu hydlanau, a rhyw garlibwns felly Lewis Pilcorn. -Gadewch chi Pat yn llon- ydd, fe ddaw e i'w le bob yn dipyn. Y mae yn bryd i John Thalamus a J. B. Lewis dynu pen ar y ddadl ar Ysbrydegaeth, bellach, yn lie cornio eu gilydd, a phlastro'u gilydd o Shakspeare a Notloc, fel pe bydden nhw ryw ddramatists blaenaf y wlad. Gadewch i ni gael y manifestations neu y detestations, beth chi'n galw nhw. Ma digon o wleua difudd wedi bod-eishe prawf a gwaith sydd bellach, ac os yw dyn J. B. Lewis yn ffaelu gwneyd y pethau hyny, wel, dyna ben am dani. Wel, fechgyn, chi ddylech wel'd nad yw hi o un budd at all i ddarllenwyr y GWLADGARWR eich bod yn ymdrabaeddu fel hyn o wythnos i wythnos. At y prawf ar unwaith. Deued J. B. Lewis a'i ddyn, a chwrdd dithau Thai ag ef a hyny o 'stations sy gen ti.

GAIR AT DEWI ALAW.

AT NATHAN BY FED.

GEIBIAU PILAT.

COFGOLOFN ISLWYN.

ATEBIAD I YMOFYNYDD.

Y BEIBL A SYNIADAU AN.FFYDDOL.

GAIB AT ABTHUB WYN, LLANELLI.

EISTEDDFOD CARMEL, TREHERBERT.

[No title]

BYR EBION 0 L'ERPWL.