Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

SARAH WILLIAMS,

News
Cite
Share

SARAH WILLIAMS, Etifeddes y Gelli. FFUG-CHWEDL AIL OREU EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEHEUDIR CYMRU, 1879. PENOD XXYII. CYMUN-RODD PRIODFERCH ANGETT EDAEEDD GWASCABEDIG YN CAEL EU DIRWYN I FYNY YE ETIFEDDES YN CAEL EI GWOBRWYO. Sarah, a ellwch faddeu i mi?" gofynai Elen Mostyn ar waith ei hen gydymaitb yn plygu uwch ei phen. Yr oedd arnaf ofn na wnelech ddyfod-o'r hyn lleiaf, ddim mewn pryd." "Nid oes genyf ddim i'w faddeu, fy anwylyd. Pa fodd y gallaswn ddysgwyl i chwi na'ch mam ymddiried mewn geneth ieuanc ddyeithr pan yr oedd pob peth yn ymddangos mor ddrwgdybus yn fy erbyn ? Peidiwch a meddwl byth mwy am beth sydd wedi ei lwyr ddileu allan o'm calon er's hir amser. Y mae wedi rhyngu bodd i'r Nefoedd i mi allu dyfod mewn pryd i'ch aehub, feallai, trwy fy ngofal tyner am danoch, fy anwyl Elen." Na! na! nid oes genyf ond ychydig amser i fyw—llawer llai o ddyddiau nag y mae fy mam erioed wedi dybied," ebai y claf yn wanaidd. Oddiar pryd y deallais y gwirionedd, nid oes ynof yr un chwant i fyw." Pa wirionedd? Paham y dylech chwi, mor ieuanc a phrydferth, ddymuno am ym- adael a byd sydd yn rhwym o fod a dyfodol dysglaer i chwi ?" Dyna y peth yr wyf wedi hiraethu am ei hysbysu i chwi. 0! mor ami yr wyf wedi dymuno eich gweled, oherwydd gallaf ymddiried fy nghyfrinach i chwi, ac yr wyf am i chwi addaw i mi yr unig beth a all fy Dgwneyd yn hapus. A wnewch chwi hyny, Sarah ?" Gwnelwn lawer er eich mwyn ond y mae yn rhaid i mi gael ei glywed yn gyntaf," oedd atebiad Sarah. "Gwyddoch yn dda fy mod yn dal eich geiriau fel ym- ddiriedaeth gysegredig, hyd yn nod pe yn analluog i gyflawni eich dymuniadau. Llefarwch, Elen anwyl. Pa beth ydyw ? A gaf fi ddychymygu pa beth ydyw, a thrwy hyny arbed i chwi yr ymdrech ? Ai nid yw eich car, Aneurin, wedi llithro i mewn i'ch calon yn rhy ddwfn ?" Claddodd Elen ei phen o'r golwg am eiliad, ac yea cododd ef i fyny gyda gwen ar ei gwefusau gwelw. Paham y rhaid i mi fod a chywilydd yn awr, pan y mae go- beithion y bywyd presenol wedi darfod. Ie, Sarah, gwnes Aneurin yn eilun i mi, ac eto yr oeddwn yn teimlo bob amser nad oedd yn fy nghyfrif yn amgen na chwaer anwyl, ac na freuddwydiodd erioed am gariad ataf. Eto, gobeithiwn weithiau a chredwn ei fod yn fwy tyner nag arfer, ac y gallai feallai ddyfod i deimlo serch gwa- hanol tuag ataf pan fyddwn yn henach. Ond pan ddaethoch chwi atom, ac y gwel- ais ef gyda chwi, gwyddwn ei bod ar ben arnaf, ac nid oeddwn am fyw." Ond Elen, dvwedais wrthych o'r blaen, a dywedaf yr un peth eto. Nis gallaf fod yn fwy na chyfeilles i'r iarll byth, hyd yn mod pe cawsem fy adfer yn ol i fy hen le a sefyllfa, ac yr wyf yn gobeithio nad yw yn chwenych mwy." Ust! ust! rhaid i chwi beidio siarad felly. Y mae yn eich caru yn anwyl— dywedodd hyny ei hun wrthyf. Y chwi yw yr unig fenyw y mae efe wedi ei barnu fel yn deilwng i gael y fath galon ag sydd ganddo ef i'w rhoddi, ac y mae yn rhaid i chwi addaw dychwelyd ei gariad. Nis gallaf feddwl am iddo ef fod yn druenus fel ag yr wyf fi wedi bod. 0! Sarah, ni wyddoch chwi fawr beth yw." Fy anwylyd, yr wyf yn dymuno arnoch am beidio coleddu y fath obeithion a dy- muniadau diles," meddai Sarah yn brudd- aidd. Nis gall byth fod felly." Nid ydych yn iawn, Sarah," ebai Elen gydag ymdrech. Yr wyf yn dywedyd wrthych—enillai Aneurin unrhyw galon, a gwnelai unrhyw fenyw yn hapus, os na fyddai ei chalon yn eiddo un arall yn flaen- orol. A oes rhywun arall ag a ddewisech o'i flaen ef-rhywun ag yr ydych yn bwr- iadu ei briodi ?" "Nac oes neb. Byddai yn well genyf fod yn wraig i Aneurin nag i neb arall." Yna, gwnewch addaw i mi i beidio priodi neb arall-y caiff ef ei ddewis o flaen unrhyw ymgeisydd arall? Dywedwch ar fyr, oblegyd yr wyf yn llewygu!" "Gwnsf gallaf yr wyf yn addaw hyny," atebai Sarah, gan wylio yn bryderus y lliw ag 6edd y cyffro wedi roddi ei fenthyg i'w gwyneb teg. Fy anwylyd, tawelwch eich hun Ymddiriedwch ynof -gwnaf bob peth yn fy ngallu i'r rhai yr ydych yn eu caru, er eich mwyn chwi! Gwnaf wylio dros eu dedwyddwch, fel ag yr ydych yn ddymuno. Yr wyf yn rhoddi fy ngair y byddant y gwrthddrychau mwyaf anwyl ag a adawyd i mi mewn bywyd yn awr." Feallai na ddeallodd y claf y gair olaf, deallodd yr addewid, a gwenodd, gan ym- ollwng i gwsg adfywiol. ■ £ « "A ydyw efe-a ydyw Aneurin wedi dyfod?" gofynai Elen pan ddihunodd :yn mhen tua dwy awr. Ydyw, fy merch, y mae wedi bod yma am beth amser, ac y mae yn aros am gan- iatad i ddyfod i fyny atoch," atebai yr Arglwyddes Emily yn dyner. Wel, gadewch iddo ddyfod i mewn, a bydded i bawb arall ymadael a'm hys- tafell am ychydig fynydau, ac yna dychwel- wch chwi a Sarah." Gwnaethpwyd fel ag yr ewyllysiai yr eneth glaf. Ymneillduasant i ystafell gyf- agos, gan adael yr iarll a hithau wrth eu hunain. Nid oedd dim idd ei glywed yn ystafell angeu ond lleferydd yr iarll yn ateb yr hyn a ofynai y claf. Yn mhen ychydig amser, agorwyd y drws gan yr iarll, a daeth i mewn a'i ruddiau yn wlyb gan ddagrau. Deuwch—y mae yn galw am danoch," ebai efe. Cododd yr arglwyddes, ac aeth at ei merch, gan bwyso ar Sarah a'r iarll. "Fy mam, yr wyf yn ddedwydd—mor ddedwydd! Deuwch chwithau cyn hir! Sarah, fy chwaer Cofiwch eich addewid —Aneurin Plygodd ei phen yn ol ar ei gobenydd, ac edrychodd am y tro diweddaf ar yr iarll. Yna cauodd ei llygaid, a gwa- hanwyd ei gwefusau tyner gan wen nefol- aidd, ac yr oedd y dyoddefydd wedi cyrhaedd ei gorphwysfa. t- -? -? Rhaid i ni frysio. Gwnaeth yr iarll gynyg am law Sarah Williams, yn ol ei addewid i Elen Mostyn ar ei gwely angeu. Parhaodd Sarah i wrthoi am hir amser, ond o'r diwedd cydsyniodd, a phriodwyd ( hi ag Iarll Conwy, yr un boreu, ac vn yr un eglwys, ag y priodwyd William Williams a'r Arglwyddes Gwendolen. Daeth Sarah i feddiant cyfoeth Mr. Jones, yn ol ei ewyllys, bob dimai. Gwellhaodd Gwilym,' mab Arglwydd y Dyffryn, a dilynodd ei I dad i'r teitl a'r ystad. Priododd yn mhen amser, a chafodd luaws o blant anwyl. Ymadawodd Syr John Gwyn a'r wlad, ond ni wyddai neb i ba le yr oedd wedi myned. Teimlai Gwendolen a Sarah ryw ddyddor- deb ynddo o hyd, ac yr oeddynt yn awyddus am gael gwybod beth oedd wedi dyfod ohono. O'r diwedd, un diwrnod tua dwy flynedd ar ol ei ymadawiad o'r Neuadd, daeth y newydd chwerw a ganlyn i law mewn newyddiadur tramor :— "YMOSODIAD AR DEITHWYR GAN ARABIAID.— Bu ymgyrch rhwng nifer o Arabiaid a pharti o deithwyr, yn yr anialweh, yn ddiweddar, a drwg genym ddeall i ddau o'r teithwyr gael eu lladd, y rhai oeddynt Brydeinwyr. Yr oedd un ohonynt yn foneddwr o safle uchel, fel y dangosai ei bapyr- au, ac o'r enw Syr John Gwyn. Cafodd y barwnig anffodus ei gladdu yn Alexandria, gan nad oedd yno neb i wneyd unrhyw drefniadau, nae i ddy- muno ar i'r corff gael ei drosglwyddo i Brydain; ond bydd i'r awdurdodau ohebu a'i berthynasau, er cael ar ddeall eu dymuniadau." Dyna y fath ddiwedd a ddaeth i gyfarfod a Syr John Gwyn, ac er cymaint, ac er mor chwerw, ydoedd treial merch amddifad yr euog John Williams wedi bod, eto teimlai ei chalon yn llawn o ddiolchgarwch i'r Hwn ydoedd wedi ei harwain trwy dywyll- wch ac adfyd am ei hachub rhag y trallod a fyddai yn ei haros pe buasai Syr John yn hawlio ei.llaw addawedig fel "etifeddes gvfoethog y Gelli." Mynwent y Crynwyr. I. CRAIGFRYN HUGHES. Y DIWEDD.

Hyn a'r Llall ac Arall.

[No title]

"MANTEISIO N ARIAN p AROD."

Nodiadau Ystadegawl.

Lloffion Difyrus.

[No title]