Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Eisteddfod y Rhydri.

Addysg i Gymru.

News
Cite
Share

Addysg i Gymru. CYFARFOD YN MERTHYR. Mewn cyfarfod neillduedig a gynaliwyd yn Merthyr Tydfil ar y 26ain cynfisol, ary testyn o Addysg i Gymru, yr oedd yn bresenol y boneddigion canlynol:- Proff.Ed wards, Coleg Aberystwyth; Proff. Morris, Coleg Aber- honddu Proff. Morgan, Coleg Caerfyrddin Proff. Howell, Coleg Trevecca Proff. Davies, Coleg Hwlffordd; E. T. Davies, M.A., Aber- tawe Mri. Conway, Pontypwl; L. Williams, Caerdydd Thos. Williams, Gwaelodygarth Simons, Waunfarren; Sonley Johnstone, Caerdydd; W. L. Daniel, Merthyr Charles H. James, A.S., Merthyr. Ar ol dadleuaeth faith, pasiwyd y penderfyniadau canlynol: — 1. Mae eisieu ysgolion cyfryngedig i Gymru. Fod safle a nifer y cyfryw ysgolion i gael eu penderfynu ar ymofyniad ag awdur- dodwr Llywodraethol, yn ngwahanol ddos- beirth o'r wlad. 2. Fod yr ysgolion cyfryngedig ac elfenol sy'n bodoli, os yn ansectol mewn athraw- iaethu a threfniant, i gael eu cefnogi gan ar- ddangosiadau (exhibitions), ysgoloriaethau, a chan daliadau am ganlyniadau (results). 3. Fod i Gymru a Mynwy ddau goleg, mewn safleoedd cyfaddas, a'u bod i'w hadeil- adu a'u cynal trwy roddion (grants). 4. Fod i Gymru brif-athrofa, gydag awdur- dod i raddoli (mewn celfyddau), neu, am y presenol, fod y colegau i'w perthynasoli a'r Victoria University. 5. Fod yr holl sefydliadau addysgawl i fod yn mhob ystyr yn ansectol mewn athraw- iaethu a threfniant. 6. Fod yr ysgolion gwaddoledig yn Nghymru a Mynwy sydd yn bodoli er's haner canrif i'w hail-gyfansoddi, a'r gwaddoliadau i'w defnyddio ar yr egwyddorion a ofynir yn awr parthed ysgolion cyfryngedig. Fod trysor- feydd elwedig yr ysgolion gwaddoledig i'w gwario ar sefydlu a chynal y cyfryw ysgolion cyfryngedig He bydd angen, a bod rhoddion i'w gwneyd gan y Llywodraeth at adeiladu a chynal yr ysgolion mewn ardaloedd lie mae eu heisieu. 7. Fod ysgolion i ferched hefyd i'w sefydlu ar yr egwyddorion rhagflaenol.

[No title]

! BYR EBION 0 L'ERPWL.

Pwysig i Berchenogion Glofeydd.

Cyfarfod o Gynrychiolwyr y…

[No title]