Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
Eisteddfod Gadeiriol Pontypridd, 1881. CYNELIR TBYDYDD Eisteddfod Gadeiriol Pontypridd Sulgwyn, 1881. Ceir manyl- ion pellach ar fyr. Dros y pwyllgor, D. LEYSHON, Cadeirydd; JOSEPH DAVIES, Ysg., 2381 Graig Board School, Pontypridd. FOR SALE, A £ -INCH BICYCLE. Has been recently He l) overhauled. In good running order. Suitable for a Beginner, Price t2 15s.—Apply J. P. D., care of Mr. W. Lloyd, 2398 "GWLADGARWR" Office, Aberdare. BWRDD Y GOLYGYDD. LLWYNTEG.- Gwnawn fel y byddwn yn gweled yn oreu. Diolch i chwi am eich barn, er hyny. HIEAETHUS. —Ilhy ddiweddar. WEDI DYFOI) I LAW,—" Adolygiad ar hanes llen- yddiaeth yn Merthyr, &c."—" Rechabiaeth "yn Nghastellnedd -Un oedd yno (Ystradgynlais)— M. G. FL-Llanc o'r Lie (Troedyrhiw). FT ARWYDDAIR PO RHYDDID POB GKADD HEB NA LLADD NA LLID. artor. ABERDAR, GWENER, TACH. 5, 1880.
YR IWERDDON.
YR IWERDDON. DYMA un o'r gwledydd mwyaf aflonydd ac aflywodraethus o dan haul. Ni waeth pa ryw fesurau diwygiadol, na pha ryw freintiau gwleidyddol a estynir iddi-myn gadw cynbwrf a chyflawni ysgelerderau yn ddiymattal. Y mae ymgynhyrfu, bygythio, lladd, a llofruddio wedi myned yn fyfyrwaith, yn gelf, ac yn fasnach yn y wlad annedwydd hon. Pwy a fyddai byw am ei bwysau o aur mewn pandaemoniuin o wlad fath yr Iwerddon, lie nad yw bywyd nac eiddo, na dim arall yn ddiogel ? Byddai yn llawn eystal genym ni fyned i gyffyrddiad a'r Twre bradwrus, y Groeg- llawgoch, neu yr Ysbaenwr llofruddiog, a myned i gyffyrddiad a'r Gwyddel brochus a gwaedwyllt. Dyma y ddynol- iaeth fendigedig y mynai y Candid Welshman" gyffelybu cenedl dawel, lonydd, a theyrngar y Cymry iddi! Pa bryd y clywyd fod y Cymro yn anfon llytliyrau bygythiol, a thynu lluniau eirch arnynt at ei arlwydd ? Pa bryd y gwel- wyd y Cymro yn tori beddau yn mlaen- Uaw ar diroedd ei arlwydd, fel ago y gwna'r Gwyddel, gan awgrymu drwy hyny beth oedd ei dynghed i fod yn fuan, os na chydsyniai a'i ewyllys afresymol ef ? Pa bryd y clywyd fod un amaethwr o Gymro yn saethu ei feistr tir, am na chaffai aros ar ei dyddyn yn ol ei delerau ei hun ? Ond yn ol rhesymeg brydferth y Candid Welshman," nid yw y Cymro wedi cael digon o addysg i'w gymhwyso i fod yn ddigon o farbariad etto-rhaid cael tipyn o trimming up," a diwyllio tipyn ar ei feddwl. 0, ie, a llaesu ychydig hefyd ar ei hualau crefyddol, yna, bydd wedi ei drawsffurfio yn Wyddel perffaith, ac yn llwyr gymhwys i gyflawni unrhyw ysgelerder Feadigedig addysg! ai dyna y fath dywyllwch yw'th oleuni di ? Ai dyna y fath effeithiau a gynyrchir gan achosion. y dysgwylir cymaint oddiwrth- ynt, ac yr ymgynhyrfir cymaint o'u plegid? Nid yw y rhesymeg uchod o eiddo y Candid Welshman yn deilwng o neb ond ohono ef ei hun, neu un o breswylwyr y gwallgofdy. Paham yr edliwia y symlyn ddiffyg addysg y Cymro, a phaham y dadleua ei anghen am addysg uwchraddol, os mai ei wneyd yn Wyddel neu yn fwystfil a fydd y canlyniad o'i meddianu? Yn ol rhesymeg y Candid Welshman," y peth effeithiolaf i dawelu yr Iwerddon a fyddai-nid ychwanegu ei heddlu, a lluosogi ei chatrodau a'u mil- wyr, eithr ymgymeryd ar unwaith a chau i fyny ei holl ysgolion, colegan, ac athro- feydd; canys ffrwyth a bendithion y rhai hyn sydd wedi ei hynfydu. Cadwer Cymru a hithau mewn anwybodaeth tragywydd- ol, ac yna, ni bydd tor-heddwch o'u mewn. Achwyna y Candid Welshman" ar ryw "vernacular abuse y mae wedi gael oddiar law golygydd y GWLADGARWR, fel pe byddai yn cael y camwri mwyaf-fel pe byddai o fwy pwys ei warthruddo ef nag iddo ef warthruddo conedl gyfan! Annghyfiawnder dybryd yw cymhwyso yr un driniaeth atto ef ag y mae ef mor ddidaro yn ei chymhwyso at ereill! Ond nid oedd y "Candid Welshman" yn gwneuthur y fkth hafog ar genedl y Cymry, heb fod rhyw amcan. ganddo mewn golwg. Y mae, o'r hyn lleiaf, wedi enill gwen ei eulun-dduwiau, wrth hyny, ac y mae, yn ddiau, yn dysgwyl gwobr o ryw gyfeiriad neu gilydd etto ac yn wir, bychan o beth gan rai dynion yw aberthu y gwirionedd, os bydd hyny o'r fantais fydol leiaf iddynt. Ond i ni gael dychwelyd at yr Iwerdd- on. Nid ydym yn tybied fod amaethwr yr Iwerddon yn dioddef oddiwrth ddim nad yw amaethwr Cymru, Lloegr, Ys- gotland, a gwledydd ereill, yn dioddef oddiwrth yr un pethau. Achwynai Mr. HEALEY, yn ei araeth yn Bantry, ar ym- ddygiad yr arlwyddi Gwyddelig yn codi rhentoedd eu tiroedd. Ai nid felly y mae yn dygwydd yn achlysurol yn mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol ? Onid oes yr un hawl gan yr arlwydd i ofyn ei bris am ei dir ag sydd gan yr amaethwr i ofyn ei bris am ei anifail ? Nid yw y prynwr yn rhwym o brynu, os gwel y pris yn ormod, ac nid yw yr amaethwr yn rhwym o rentu, os gwel y tir yn rhy ddrud ac os daw rhywun arall ag a rydd y prisoedd ag y mae y naill a'r Hall yn eu gofyn, nid oes le gan neb i achwyn. Meddai Mr. HEALEY With reference to the case of MANNING, who had taken a farm from which Mr. M'GRATH had been evicted, the rent was Y,75 (groans); but this was not enough for the agent until he put Y,103 a year on M'GRATH (groans and hisses)." Yn awr, os oedd Mr. MANNING yn methu talu ei ardreth i'r arlwydd, pa reswm oedd iddo gael cadw y tir ? Pa fodd yr oedd yr arlwydd yn myned i fyw, os nad oedd i gael ei ardreth ? Ac os oedd Mr. M'GRATH yn foddlawn i roddi 103p. am y tyddyn, pa wedd y gallesid dysgwyl i'r arlwydd ei gwrthod ? Yn gyffredin hefyd y mae yr hen ddeiliaid yn cael y cynyg cyntaf i aros yn ei dyddyn, os rhydd efe y codiad yn yr ardreth ag mae rhywun arall yn foddlawn ei rhoddi; ac onid yw hyn yn anrhydeddus yn yr arlwydd ? Ond creulona yr amaethwr Gwyddelig, am na chai aros yn ei ffarm o dan y peth y mae eraill yn gynyg am dani; ac i fod yn fwy afresymol fyth, tybia y dylai gael aros ar yr ardreth y gwelo efe ei hun yn dda ei thalu, ac os na all, neu os na fyn dalu, tybia y dylai gael aros am ddim A oes synwyr yn y fath olygiadau ? Pa ddyben i neb fyw yn ddiwyd, darbodus, a chynil, sefyll arian, a phrynu tai a thiroedd, os ydynt, wedi hyny i fyned yn ysglyfaeth fel hyn rhwng haid o afradloniaid, neu, feallai, o ddiogwyr, na fynant weithio am eu cynaliaeth, eithr achwyn byth a hefyd fod eu tyddynod yn rhy ddrud, pan mae yr achos o'u haflwyddiant yn gorwedd yn gwbl wrth eu drysau hwy eu hunain ? Os mynir darostwng y Gwyddelod, a'u cadw mewn ufudd-dod, rhaict eau geneu- au y rhai hyny a elwir eu harweinwyr. Ar y rhai hyn y mae y eyfrifoldeb am gythrwfl, annhrefn, ac annheyrngarwch y Gwyddelod yn gorphwys. Yr ydym yn synu yn fawr fod y rhai hyn yn cael eu goddef i ymddangos yn nau Dy y Senedd, nac i gymeryd rhan yn neddf- wneuthuriad y lilywodraeth o gwbl, a hwy y cyfryw ddyhirod annghymodlawn.
IPriiodas. I
IPriiodas. I WILLIAMS — JONES.—Iiydref y 30ain, yn ngwydd y cofrestrydd yn nghapel yr Annibyn- wyr, Merthyr, Mr. John Williams, a Miss Ellen Jones, y ddau o Aberdar. Dedwydd fywyd dyddan—i J. Williams A Ellen serchoglan; Mewn moes boed hiroes eirian, A phob llwydd yn rhwydd i'\v rhan. W. Davies ( Gwilym Gwyllt), Aberdar.
.Ms»r w© 1 an.
EDWARDS.—Nos Sadwrn, Hydref 30ain, yn 40 mlwydd oed, Sarah, anwyl wraig y Parch. John Edwards, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, Brynhyfryd, Abertawe. Cleddir ei chorff ar y 4ydd cyfisol (dydd Iau) yn nghladdfa Cwmgiedd. MORRIS.—Tachwedd laf, priod Mr. Samuel Morris, builder, David Price-street, Aberdar, wedi cystudd maith, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, Yr oedd yn gymydoges gymwyn- asgar, ac yn aelod hardd o eglwys Aumbynol Siloa, Aberdar. Gadawa briod ac amryw o blant i alaru ar ei hoi. JONEs.-Hydref 17eg, ya 76 mlwydd oed, Jonah Jones, ¥sw., Brynbrain, ger Cwmllynfell. Yr oedd yr ymadawedig yn hanu o deulu cyfrif- ol a pharchus, ac yn ewythr (brawd ei dad) i E. Jones, Ysw., meddyg, Tymawr, Aberdar. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghwmllynfell, Chwefror laf, 1829, gan yr anfarwol a'r diwedd- ar Barch. J. Rowlands. Cadwodd ei gwys yn gywir hyd ei fedd. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded i'w weddw gystuddiol a'i dair merch, y rhai sydd wedi eu gadael yn amddifad o briod cariadus a thad tyner a diniwaid.—Gyllin.
Helynt y Dwyrain.
Helynt y Dwyrain. Ceir y newydd o Paris, Hydref 29ain, fod bryslythyr wedi ei dderbyn yno o Rwsia y dydd hwnw yn tfjynegu fod y mynyddwyr Albanaidd wedi fiatgan wrth Riza Pasha na fyddai iddynt wjthwynebu meddkniad Tusi gan y catrodau TJyrcaidd, ar yr amod fod rhoddiad Dulcigl 0 i fyny i ganlyn. Gan fod RizaI Pasha, fodd bynag, yn ben- derfynol i elFeithio trosglwyddiad y lie, torodd ymaith bob cyfrwng rhwng Scutari aDulcigno, a chasglodd gcnff o filwyr i Goriza. Y mae hefyd wedi meddianu Belai ar lan aswy y Boyana. ATHENS, Hydref 28ain.- Y mae corfllu arall o wirfoddolwyr yn rhifo 260 wedi cyrhaedd yma o Galatz. Cerddasant yr heolydd gyda banerau, ac aethant i'r Palas, gan waeddu am ryfel yn erbyn Twrci. Parhau yn dywyll hyd yma y mae amgylchiadau y Dwyrain.
[No title]
Y MAE Ceidwadwyr L'erpwl wedi pender- fynu adeiladu club newydd ar draul o :28,OOOp.
MASNACH YR HAIARN A'R GLO…
MASNACH YR HAIARN A'R GLO A'U CYSYLLTIADAU. GAN D. MORGAN, MOUNTAIN ASH. WEDI gweled awgrymiadau yn rhai o'r newyddiaduron Cymreig ar y mater uchod, cynbyrfwyd ni i ysgrifenu y llith hwn, fel na fyddai i'r glowyr, yn fwyaf neillduol, gael eu dallu gan Iwch cyfeiliornad. Nid ydym yn ysgrifenu y llith hwn gyda'r bwriad o godi dadl; ond cofier, os bydd rhywun yn teimlo awydd am hyny, yr ydym yn barod i ym- resymu y pwnc yn ngwyneb haul a llygad goleuni. Ofawn fod y cyfeiliornad y cyf- eiriwn ato wedi ei wneyd yn unig er mwyn taflu llwchi lygaid glowyr Deheadir Cymru yn ngwyneb ein penderfyniad i geisio cyr- haedd rhyw fesurau, heb fod yn hir, er cael hwylusdod yn y fasnach haiarn, oblegfd nis gallwn yn llwyr gredu fod y personau sydd yn ysgrifenu mor ddall a chredu yr byn a ysgrifenant. Y cyfeiliornad sydd wedi ei WDeyd yw, fod ffeithiau wedi dyfod i'r amlwg yn awr i brofi uad oes yr un C.-syllt- iad rhwng masnach yr haiarn a'r glo ond yr ydym yn credu y rho idwn brawfion amlwg i ddsxllenwyr y GWLADGARWR i'r gwrthwyneb. Cofus gen vm am gyfarfod vn Mhontypridd yn 1871, pan y cododd dadl ar y mater hwn o'r bla m, sef pa un a oedd cjrsylltisd rhwng y fasnach haiarn a'r glo ai peidio, ac yr oedd yr hen dad LEWIS MORGAN (parch i'w lwch) yno, Yr oedd rhai yn ceisio dadleu nad oedd yr un cy- sylltiad rhwng masoach yr haiarn a'r glo ond cododd y doethwr LEWIS MORGAN ar ei draed a dywedodd, Os bydd masnaeh yr haiarn yn dyfod i lawr, ceisiwch atal v fas- nach lo ddyfod i lawr; byddai yr un peth i chwi geisio atal y gwlaw i syithio o'r nef- oedd, neu atal y gwynt i dr im »y ar hyd y ddaear, neu atal y wawr i dori yn y boreu." Dyna dystiolaeth yr hen filwr profiadol LEWIS MORGAN, ac os cymerwn dystiolaeth dyn yn safon, yr ydym yn credu na chawn well awdurdod. Eto, cymerwn ha-63 mas- nach am y deng mlynedd diweddaf er engraifft. Ya y flwyddyn 1870, aeth mas- nach yr haiarn i'r lan, ac yna y fasnach lo yn canlyn. Cynyddodd y fasnach haiarn hyd y flwyddyn 1874, a bu Cfffelyb gynydd ya y fasnach lo. Wedi yr amser a nodwyd olaf, trodd y fasnach haiarn yn ol ar y gori- waered, a dilynwvd hi gan y fasnach lo Mae tua 120,000,000 o dunelli o lo yn cael ei godi o lofeydd y wlad hon bob blwyddyn, ac anfonir tua 16,000,000 o dunelli i wled- ydd tramor yn flynyddol. Gwelir, o gan- lyniad, fod 104,000,000 o dunelli yn cael ei ddifa yn y wlad hon a'r modd y mae yn cael ei ddifa yw, i fod yn danwydd yn y tai, i doddi meteloedd, megys haiarn, dur, plwm, copr, sine, &c., ac hefyd er creu ager yn y llaw-weithfeydd, ac yn y peirianau er cludo teithwyr a phob math o nwyddau trwy y wlad; ond yn sicr, y mae rhan bwysig ohono yn cael ei ddifa i wneyd haiarn a dur. Fel y. dywedasom mewnllith o'r blaen, y mae pump tuaell olo yn cael ei ddifa wrth wneyd pob tunell o haiarn wedi ei gwblhau, ac yr ydym yn sicr fod rhagor yn cael ei ddifa i wneyd dur. Yn awr, edrychwn ar y fasnach haiarn yn y flwydd- yn 1873. Fe ddywedir fod holl weithfeydd haiarn a dur y wlad yr amser hwnw yn cynyrchu tua 4,000,000 o dunelli o haiarn a dur. Mae hyn yn golygu difa taa 20,000,000 o dunelli o lo. Yr oeddsm fel glowyr yr adeg hono yn gweithio yn llawn. Ond erbyn 1877, yr oedd y fasnach haiarn a dur wedi dyfod i lawr mor isgl a 1,500,000 o dunelli, sef o dan yr haner, yr hyn a olyga lleihad mewn difa glo yn y wlad o tua 12,500,000 o dunelli. Yr wyf am ofyn yn y fan hon i lowyr Deheadir Cymru, pan gymerodd y lleihad yma le yn y fasnach haiarn a dur,—hyny yw, pan ataliwyd yr holl weithfeydd haiarn drwy y wlad, megya Abernant a Plymouth, Gyf- arthfa, Blaenau, Nantyglo, Abersychan, Pontypool, rhanau o Ogledd a Dahau swydd Statford, Middlesbro', Cleveland, a rhanau o Ysgotland,—a ddarfu i'r glofeydd hyny oeddent yn cynyrchu glo iddynt gael eu hatal ar yr un adeg ? Yr ydych yn gwybod fel finau na ataliwyd ddim ohonynt, ond darfu iddynt gadw y glofeydd ya y blaen, y rhai oeddent yn cynyrchu y deuddeg mil- iwn a haner o dunelli, ac anfon y glo i farchnadoedd y gwledydd tramor, fel y llanwodd y marchnadoedd dros yr ymylon, a'r canlyniad fu, y gystadleuaeth fwyaf gwrthdarawiadol, a'r prisoedd yn dyfod i lawr am y glo, a ninau yn gweithio ond rhyw ddau ddiwrnod o bob wythnos. Os nad yw yr uchod yn ddigon i brofi fod mas- nach yr haiarn a'r dur yn dylanwadu ar y fasnach lo, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn deall dim oddiwrth fasnach. Yn y flwyddyn ddiweddaf, sef 1879, cafwyd gwelliant yn y fasnach haiarn a dur eto, fcl y gwerthwyd o'r wlad hon tua 3,000,000 o dunelli; a'r flwyddyn hon eto, bydd y cynyrchiad wedi cynyddu, a'r can- lyniad yw, fel y g*yr y glowyr, fod y glo- feydd yn mhob man yn myned yn fwy cyson. Y mae y glowyr drwy y wlad yn awr yn gweithio tua phump diwrnod o bob wythnos, tra nad oeddynt yn yr amser araf ond yn gweithio dau neu dri diwrnod yn yr wythnos, a'r rheswm am hyny yw, nad yw y glofeydd perthynol i'r gweithfeydd haiarc yn anfon cymaint o'u glo i'r farchnad, tra yr ydym ni, y rhai sydd yn tori y glo marchnadol i'r gwledydd tramor, yn cael mwy o lo yn ein marchnad ein hunain Ond, cofier, nid yw y fasnach lo wedi cynyddu yo gyfatebol i'r ffigyrau uchod yn y fasnach haiarn a dur, oblegyd yr oedd miloedd, os nad miliynau, o dunelli o haiarn wedi eu hystorio erbyn daeth yr alwad. Hefyd, mae mwy o'r haiarn a elwir p<ig iron yn cael ei werthu o'r wlad hon yn bresenol nag oedd, a llai o'r haiarn wedi ei gwblhau a chofier nad oes eisien cymaint o lo at haiarn felly ag s Filil at haiarn wedi ei gwbl- hau. Wel, meddai rhywun, os ydych vn gywir, paham nad yw pris y glo wedi codi ? Ein hatebiad yw, am nad yw y gyst-idleu- aeth wedi gorphen yn y farchnad, ac nad yw y galwad wedi goresgyn y llanw end oreri wn fod y prisoedd wedi troi, a bod meistri y gweithfeydd glo wedi cael v llaw drechaf ar y prynwyr felly, gallwn ddys- gwyl amser gareU fel glowyr y flwyddyn nesaf, ac y ctiff yr hwn sydd yn llafurio ya merfeddioa yr hen ddaear godi ei hun o'r pridd tew a'r clai tomlyd." Gobeithiwn ht;fyd, os cawn amser da eto, nad annghof- i ?n ein hunain, ond y gwnawn y goreu o'n hamser, ac na fydd i ni wario ein hurian am yr hya nid yw fara." Cofied y glowyr am y cyfarfod sydd i fod yn y Nelson ar yr 8fed o'r mis hwn, gan fod yco bethau pwysig i'w trafod, yn neillduol mater y trethoedd ar ein nwyddau yn y gwledydd tramor. Os llwyddwn i gael gwared o ran o'r trethoedd hyn, bydd hyny yn foddion i greu galwad am yr haiarn, a'r dur, a'r alcaa, ac yn y blaen, a'r galwad hwnw yn esgor ar fwy o alwad am lo, ac yna bydd codiad yn y prisoedd yn c:mlyn yn naturiol. Hefyd, eoliweh mai nid llai pwysig yw mater y sub-inspector, yr hwn sydd yn cynyg am gadw llawer tad yn fyw i'r plant, a Iliwer priod i'r wraig, y rhai a gant eu colli heb yr inspector, yn ol ein barn ni.
Annghytundeb Pwll y Tunnel,…
Annghytundeb Pwll y Tunnel, Gwmbacli. Y mae yr annghytundeb uchod heb ei benderfynu hyd yma. Pwnc y ddadl yw fad y glowyr am gael ychwanegiad at y pris arferol I am dori wytbien y naw troedfedd. Cynaliwyd eyfarfodydd dydd Sadwrn a nos Lun a phenderfynwyd o'r diwedd fod y cwestiwn i gael ei bandsrfynu gan bwyllgor y Sliding Scale, a'i baaderfynu yn ddi-droi-yn ol gan- ddynt hwy.
Llith o'r Bwthyn Barddol.
Llith o'r Bwthyn Barddol. IOANT RHAD.—Wei, dyma enw newydd spon yn Gymraeg am y tro cyntaf ya y GWLAD- GARWR) er fod y Cheap John o Gwm Rhondda wedi ymddangos ar brydiau, ond yn Quaker's Yard y mae a fynom ni âg ef yn awr. Talodd ymweliad a'r lie uchod er's tua mis yn ol, a bu yma ran o bythefnos yn gwerthu yn hwylns i ugeiniau, os nad canoedd, bob nos, a gwyddom ei fod yn gwerthu papyr a phinau ysgrifenu yn rhad iawn, oblegyd ceicl 25 envelopes, 36 sheets of notepaper, a deuddeg dwsin o binau ysgrifenu, am chwe'cheiniog. Y papyr yn rhesymol o dda, a llawer o'r pens yn gystal a fu yn fy ilaw erioed. Rhyw noson, cyhoeddodd fod oriawr aur i gael ei rhoddi yn wobr i'r datganwr goren, a'r dorf i feirniadu trwy godi dwylaw. Daeth deg yn mlaen, a minau feddyliais, pan yn cael fy nghy- mhell, fod eisieu oriawr arnaf, ac felly anturiais i'r ornest, ac er canu yn yr awyr agored tra yr oedd yn llwydrewi, eto buotn yn llwyddianus, ac y mae yn parhau i dipian gyda'r oreu yn y wlad, a llawer o'r ieuenctyd wedi ei chwenych, ac yn cynyg yn wych am dani,- Ond hon sydd oriawr eirian, A gwobr am fy nghyngan Ar daith ac yn y tt mae'n ffrynd- I neb chaiff fyn'd am arian. Yr oedd drawing am fochyo, gwerth pumpswllt ar ugain, ar noson wedi hyny, a daeth hwnw i ran gweddw dlawd o'r enw Mary While, ac os bydd Mr. Hunt byw i dalu ymweliad a'r lie eto yn y gwanwyn, bydd pawb yn ei roesawi,- Gan ddweyd yn eitliaf lion, "We1, dyma'r gwych Cheap John; Boed llwyddiant iddo yn mhob man, Ar dir ac ar y don." YMWELIAD.—Bu Edwin W. Lewis, Ysw., C.E., Ystrad Rhondda, ar ymweliad a'r lie hwn yn ddiweddar, am fod ganddo berthynasau a chyfeillion yma, ac y mae eich gohebydd yn un ohonynt, a theilwng cofnodi ei fod weii fy nghydnabod yn sylweddol fel y cyfryw, ac yn deilwng o'i sefyllfa Talodd yrnwel al a'r Garthfach, sef preswylfa Mrs. Jenkins, ei fodryb (chwaer ei ddiweddar dad). ANGLADD, Teimais yn dd wys pan y olywais am farwolaeth Mrs. Glanffrwd Thomas, gan ei bod wedi byw yn ymyl ty fy nhad er yn blantyn, a minau wedi ei magu ganoedd o weithiau. Ond weithian y mae Glanffrwd yn weddw, ac y mae hithau, yr un fwyn, dyner, serchog, a chariadus, wedi bJaenu i'r Ganaan fry. A Glanffrwd, yntau A fydd ryw forau Yn canu gyda hi, Tudraw i afon angau, A'i dwfn-ruadrawg li'. Heddwch i'w llwch, a derbynied Glanffrwd fy nghydymdeimlad yn yr amgylchiad chwerw hwn. GOLLWNG LLWYNOG. — Dydd Iau diweddaf, gollyngwyd llwynog yn Glantaf, a heliwyd ef gan gwn ardderchog y Glog, yn mhlwyf Gelligaer, nes ei ddal, a chafodd Twmi Morgan Dafydd, hen heliwr yn ymyl pedwar-ugain oed, y benefit, a gwnaeth Mr. Williams, o'r Glog, yn nghyd â. boneddwyr ereill, a lluaws o weithwyr, gasgliad da iddo, yn cynwys amryw bunoedd, a theimla yntau yn wir ddiolchgar am eu caredigrwydd.—■ Mabvnwyson. r¡rr. t l' 1 .n i;; Ð"
\ Ti/sfiolaeihau Pwysig I…
Ti/sfiolaeihau Pwysig I QUININE BITTERS GWILYM EVANS. ¡, V "1-L' "J Brynhyfryd. ger Abertawe. Anwyl Syr. -Yr yd wyf u;edi bod yn gwerthu y "Quinine Bitter" ava rai blynydtiau bellach. Y inaont wedi srwneyd llawsi o les yn yr ardal c y mae dyfodiad rlysglaer iddynt. Yrydwyf- wedi sylwi yn fauol ar oil heffaith m'wàJul101 bersoBau, ac yr ydwyf wedi gweled rhai o'r dolur- iau gwaethaf a allai neb ddvchjmygu yn cael eu llwyr welihau trwy ddefoyridio y meddyglyn yma. Y mas plant o hob oedran, dviaou ietianc a hen, gwr:ged'l a merched, oil yn tysti<l?.ethn i'w heffaith da'tono. Y yn drueni na ell id eu darostwng ychydig yn eu pris, heb w&nychn en heffaith gan fod canoedd o bo hi weinion yn s vchidu am dreio c-i }i*ff,vif.h. o).;d eto heb fedd i wnt;yd hvny.— Yr ■•iddoch yn serchog, ISAAC OWEN. From Mr. John Lhvvd (loan Cyvfig), Myiiydd Cynffig. Syr, — Bu'm yn dyoddef lis wer oddiwrth ddolnr yn fy r&hen, is 'lder y^-bryd, di!fvg arcb»!-a?th at fwyd, r,.a ar 01 ei fwyta, blirnler mawr. Prynais botelald 4s 6d. (Hldiwr-th Mr. Richard Jenkins. Keafi- Hill, ac ar ol i mi d chymervd, teimlais fy hun wedi ai.ixei'yd 1 ill iculiVi.1 ai'i^roi, ;m; yn alluog i d'iiiyn fy ngslwe>ijgs.eth Yr ydw-xf we,H eu cymeradwyo i er>il!, a thystio'iaethV rhai liyny yw eu bod wedi derbyn lies ansiaj aethol trwvddynt. a bvduaf yn tAniriU» yn dd.ylsdswydd arnaf eu c'tdw bob amssr eel tryscr penaf y From the R»v. J. Tf. William7 (Brj>nf»rdd), Head Master of the DowlMs Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. Dear c>irT—Ll>6 of your Quinine Bitters to restore health and vigour, after lingering illness and debility, has b;en recent- ly and sufficiently proved by my fatriiiv. and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J. Ellis Eiwa-ds 31.It <?. £ L.S A., S:c., Saint Clean CarmartJum^.ire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked by my patients as to the desirability of taking your Quinine, Bitters." I have for the hst two years given it a fair trial, and find it, without exception, the most pleasant a1:c1 elfe-etual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, ir.ii c.ss. I..s.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph Jiees, Cardigan Mr. Griffith Williims, Llarierclivmedd; Mr. W. H. Thomas, Dowlais Mr. John Francis, Wrexham Mr. Myrddin Davies. Swansea Mr. Hugh G. Hughes, Holyhead; Mr. W. Sims, Aberanian; Mr. E. P. Wynne, Aborystwyta; Mr. Jones, St. Asaph Mr. !>. Evans, Oemmaes, Montgomeryshire Mr. J. P. Joac-s, Aberayron all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr. Watki.i J. Thomas, Oheniit-t. Abevdore, Aug. 17th, certifies to its good results produced in several cases that earn a under his immediate notice. To Mr. Gwilym Evans, E.O.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Llanellv. ° Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.-I am happy to state that the sale of the Quinine Bitters is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct and remarkable cases came iindcr my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believe in. -Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Pewy- groes, North Wales. August 26th, 1880. I have taken your" Quinine bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. The benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. Sept. 27th, 1880. I certify that the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitte-s is quite free from mineral)-, and that t, e ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John Dnw-d Evans, Post Office Tre- lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir,—Although yen must be overload- ed with testimonials in favour of your now celebrated "Quiihte Bitters," yet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results. and those of m'f customers who have truly proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they deiire much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part continually increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24th, 18S0. Mr. O. Isgoed Jones, Chemist, I/aurwst, has sold grosses of the Quinine Bitters,* and 'from close observation of their effects, c: n vouch for their efficacy as a tonic in cases of extreme debility, &c., being particularly suitably to patients recovering from long illness.