Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
MASNACH YR HAIARN A'R GLO.
MASNACH YR HAIARN A'R GLO. UN o'r prydweddau mwyaf hynod yn hanes presenol.masnach ein glo yw y cynydd parhaus yn y cais am dano o'r Trefedigaethau Pry- deinig, a gwledydd ereill tudraw i'r mor. Mae yr ychwanegiad ag sydd yn barod wedi cy- meryd lie yn yr allforiad c lo o'n gororau, yn ystod y flwyddyn hon, yn dyfod i fyny, mewn round figures, i 2,100,000 o dunelli, a chan fod y cynydd yn parhau o fis i fis, ymddengys, yn ol pob tebyg, y dygir hyn yn mlaen i 2,500,000 o dunelli erbyn diwedd y flwyddyn. Yr oedd yr allforiad o lo y llynedd yn dyfod i fyny i 23,000,000 o dunelli, ac felly gwelwn fod yr ychwanegiad a nodasom am eleni yn debyg o fod ddim dan ten per cent ar y flwyddyn 1879. Mae y cynydd hwn, yn ddiamheu, yn arddangos adnewyddiad bywyd masnachol yn y glo. Wrth daflu cipdremied ar fasnach glo a haiarn ein gwlad, y mae genym y seiliau cryfaf dros gredu nad pell y dydd y cawn weled y cyfryw fasnach mewn full swing un- waith eto. LLOEGR. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd cais bywiog am lo yn marchnad Llundain, a'r prisoedd wedi codi o 6c. i Is. y dunell. Ar y Gyfnew- idfa, yn Middlesbro', dydd Mawrth, yr oedd cynulliad rhagorol, a gwell swn yn y farchnad na fu er's wythnosau. Y prisoedd hefyd yn uwch na't dydd Mawrth blaenorol. Rhif 3, Cleveland, yn gwerthu am Ip. 19s. 6c. y dunell, ond ni werthai amryw o'r meistri am lai na 2p. Er fod y tymor wedi rhedeg yn mbelt gyda golwg ar allforio haiarn bwrw o borthladd Middlesbro' i'r Baltic, eto y mae yn myned ar gynvdd. Mae cryn lawer o waith yn myned yn mlaen yn masnach yr haiarn gorphen-weithiol yn y parthau hyn, ac y mae yn dra thebygol y gwoa y bywiogrwydd pre- senol barhau am fisoedd i ddyfod, oblegyd y mae archebion diweddar wedi dyfod i mewn. Prisir platiau haiarn at longau yn 6p. 12s. 6e. y dunell platiau berwedyddion, 7p. 10s. 6c.; bariau haiarn, 5p. 10s. i 5p. 15s. haiarn- ocglau, 5p. 15s.; rheiliau haiarn, 5p. 5s. Rhywbeth cyffelyb yw y prisoedd yn Darling- ton, a thrwy holl wahanol weithfeydd haiarn ein gwlad. Nid oes yr un cyfnewidiad yn mhris. oedd y glo a'r golosglo yn wabanol i'r hyn a nodasom yn ddiweddar. Yn rhanau glofaol siroedd Lancaster a Chaerlleon, mae y gweith- feydd glo at wasanaeth teuluol yn gweithio yn gyson. Am y glo Wigan Arley goreu, ar lan y pyllau, y pris oedd o 8s. i 8s. 6c. y dunell, ac o 6s. 6c. i 7s. y dunell am inferior quali- ties agio pedair Pemberton. Wrth daflu golwg dros wabanol ranbarthau Deheudir Cymru, canfyddasom fod SIR FYNWY wedi ei haflonyddu i raddau, yn marchnad yr haiarn Cymreig, gan swn y eyfarfodydd chwar- terol, ond cyn diwedd yr wythnos ddiweddaf, yr oedd llawer gwell teimlad yn bodoli, a'r prisoedd yn tueddu i godi. Mae yn debygol y bydd masnach yn y sir hon am y tri mis nesaf yn weddol fywiog. Mae yr allforiad o lo o brif borthladd y sir yn ystod yr wythnos wedi bod yn hynod o fywiog, a'r allforiad o haiarn yr un eyffelyb fodd. Yn Nglyn Ebwy, Blaen- afon, Tredegar, a gweithfeydd ereill y sir, y mae gweithio rheolaidd yn myned yn mlaen, a phawb mewn gwaith. Yr oedd y swn, yr wythnos o'r blaen, fod marweidd-dra wedi meddianu y gweithfeydd alcan, a dywedir fod rhai gwerthiadau wedi cymeryd lie mor isel a 14s. 6c. am coke plates. Mae y glofeydd lie y codir glo-ager yn brysur iawn — y cais yn llawer mwy na'r cyflenwad. Mae y cais am reiliau dur Bessemer yn parhau yn rhagorol o dda, ac arcbebion mawrion ar gyfrif tramor mewn Haw. Yn adran MERTHYR TYDFIL, nid oes fawr seiliau i acbwyn am sefyllfa pethau yn y gwahanol lofeydd. Mae masnach yn parhau yn fywiog, a symiau anferthol o lo yn cael eu cymeryd i ffwrdd gyda'r gwahanol reiiffyrdd. Mae Dowlais yn awr yn barod i ymgymeryd a gweitbio llafnau alcan, a gwmant hyny pan fyddo unrhyw gwympiad ymaith yn masnach y cangenau ereill. Mae ffwrnesi y Gyfarthfa yn bresenol yn parhau i roddi ym- ddangosiad gobeithiol, ac yn cael eu cadw mewn llawn fywiogrwydd. Yn ABERTAWE a'i chylchoedd adranol, mae y gweithfeydd haiarn yn lied farwaidd. Mae y gweithfeydd dur yn Nglandwr ac yn Mhontarddulais yn weddol weithgar, a chais rhesymol am y nwyddau amrywiaethol a wneir ynddynt. Meddyliwn mai rhywbeth temporary yw y marweidd-dra a nodwyd sydd yn y gweithfeydd haiarn, gan nad yw y percheoogion yn fodd- lawn gostwng y prisoedd. Mae prisoedd yr alcan hefyd wedi rhoddi ffordd i raddau, oher- wydd fod y cyflenwad yn fwy na'r cais am y cyfryw yn bresenol. Mae rhai o'r prif weith- feydd hyn yn bwriadu lleihau y gwneuthuriad, tra y mae perchenogion y gweithfeydd ereill yn golygu y rhaid i ostyngiad cyflogau gy- meryd lie er eu galluogi hwy i gyfarfod y farchnad. Mae y porthladd a'r dociau yn lled wâg o longau yn bresenol, gan nad oes galw mawr am lo i'w allforio; ond y mae glo at wasanaeth teuluol 3, chais rhagorol o dda am dano, yn ogystal a glo at y llof-weithfeydd, a'r prisoedd am y cytryw yn dal yn mlaen yn rhagorol. Yn NGHAERDYDD, y mae yr allforiad o lo a haiarn yn parhau yn rhagorol dda. Yr wythnos ddiweddaf, allfor- iwyd oddiyma 106,418 o dunelli o lo, 4,480 o o dunelli o haiarn a dur, 4,083 o dunelli o batent fuel, a 507 o dunelli o olosglo. Mae gweithfeydd y glo-ager yn gweithio yn fywiog drwy yr holl adran. Mae amryw o'r marsiand- wyr yn methu cael y cyflenwadau a ofynant, ac y mae yn awr yn beth a gyfaddefir yn gyffred- 'not gyda ni yma fod masnach wedi cymeryd Iro er gwell. GweithfeydJ y glo tai hefyd yn tweithio yn rheolaidd, a llyfrau y cynyrchwyr gaiarn yn weddol lawn o archebion.—M.
Eisteddfod Cymrodorion Dyfodwg,…
Eisteddfod Cymrodorion Dyfodwg, Medi 14eg, 1880. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU. GAN T. J. POWELL (TEGANWY). ( Parhad). "Pryddest Farwnadol i'r diweddar Mrs. Mary Davies, Brithweititlldd." Dwy bryddest ddaeth i law ar y testyn uchod, yn dwyn y ffugenwau Gwynollydd ac Adgofydd. Gwynollydd.- Y mae gan yr ymgeisydd hwn bryddest dda iawn, ac yn gwella wrth fyned yn y blaen o hyd. Nid ydyw yn dechreu mor hapus ag y dymunem. Dipyn yn hen ffasiwn yw ei linellau cyntaf. Cwyno ar angau y mae. Nid ydym yn cymeradwyo hyn. Gadewch i ni gael newydd-deb, os gellir beth bynag. Nid ydyw wedi atalnodi hefyd. Dylai fod wedi gwneyd hyny. Nis gwyddom beth yw ei reswm dros hyn, oherwydd y mae yn an- hawdd genym gredu nad ydyw un sydd yn medru ysgrifenu mor gywir a hyn yn analluog i wneyd gorchwyl mor fach. Y mae ganddo rai gwallau, ond o'r braidd y maent yn werth eu nodi, gan fod ei bryddest, a'i chymeryd gyda'i gilydd, yn un na fydd rhaid i'w hawdwr gywilyddio gweled ei enw wrthi. Y mae hon yn llawn gwerth y wobr ond er cystal ydyw, nid ydyw mor gyflawn ei desgrifiad o'r gwrth- ddrych, nac ychwaith mor faith ac mor fardd- onol ag eiddo ei gydymgeisydd. Dyfynwn rai o'i linellau er engraifft. Angau i'r Crist- ion Nid yw angau'n ddim i'r Cristion Ond ysgydwad bywyd mad, Yn ymddatod gwisg marwolaeth, Er i enaid gael rhyddhad; Fel y gallo ymddadblygu Yn awyrgylch byd di-boen, A thragwyddol ymgynyddu Wrth ddyrchafu'r Dwyfol Oen." Bywyd y gwrthddrych, yn dlws iawn eto :— 'Run fath a'r Llwybr Llaethog, Yn ganaid iawn ei bryd, A myrdd o ser tryloewon Fel gemau ar ei hyd, Mae bywyd Mari Davies, Yn brydferth ac yn der, A llawer o rinweddau Ar hyd-ddo fel y ser." Haelioni Mrs. Davies :— "Nid byth y cai car doty n Yn waglaw fyn'd i ffwrdd I dlodion ac amddifaidj 'Roedd croesaw ar ei bwrdd. Ni cheisiai gasglu cyfoeth Trwy haner borthi 'i phlant, A chadw'r oil i foddio Rhyw gul, gybyddlyd chwant; Ond fel y cwmwl prydferth A nofia'r nefoedd glyd, Yn sugno'r dwfr i fyny I'w wasgar dros y byd." Eto :— Golygfa ysblenydd Min nos yn Brithweunydd, Oedd gwel'd Mari Davies a'i hen Feibl mawr, A'i phlant fel t'w'sogion Yr aelwyd mor dlysion O'i hamgylch yn wylion yn eistedd i lawr." Gwasanaetha yr uchod er dangos i'r darllen- ydd beth ydyw y bryddest uchod fel cyfan- soddiad drwyddi; gan hyny, symudwn yn mlaen at Adgofydd.-Pryddest faith iawn ydyw hon, ac yn dal yn ei bias o'r dechreu i'r diwedd. Yr ydym yn teimlo yn swil i wneyd unrhyw sylwadau ar hon, gan ein bod yn gorfod teimlo ein bod yn nghwmni un o feib yr awen wir." Rydd i ni ddarluniad cyflawn o'r gwrthddrych, a hyny yn wir farddonol. Y mae yn tra rhagori ar ei gydymgeisydd mewn cynllun, teimlad, mauyldeb, a ffresni barddonol. Nid ydyw yn hollol rydd oddiwrth ryw fan wallau ond y mae y perlau sydd ynddi yn eu gorbwyso i rywle, fel nad ydynt yn werth sylwi arnynt yn y fan hon. Yr ydym wedi cael pleser mawr wrth ei darllen, ac nid oes ynom y petrusder lleiaf i'w chyhoeddi yn oreu o ddigon, pe. byddai y wobr yn bum' punt. Y mae yn glod i'w hawdwr, ac yn anrhydedd i'r Eisteddfod. Rhoddwn fraslun ohoni gerbron y darllenydd. Fel hyn y dechreua :— "Harddywanian wedi ymwisgo yn mhrydferth- wch ganol haf, Blodau gwridog sydd yn gwenu yn mhob gardd yn llwyni braf Natur wedi ymddadblygu, dol a bryn mewn hawdd- gar wedd, Tlysni o dan goron hawddgar, harddwch ar flodeu- og sedd; • Ond mil harddach yw, er hyny, gweled ceinion dysg a moes Yn dysgleirio mewn cymeriad, iddo'n addurn drwy ei hoes; Blodau rhinwedd yn eu ..harddwch yn gwasgaru nefol sawr, Crefydd megys lili'r dyffryn yn ei gogoneddus wawr. Hardd yw'r lloer mewn gwylaidd dremiad ar ei gorsedd rhwng y ser, Fel brenines gwyn y cyfnos mewn urddasol dlysni ter; Llewyrch glan ei gwyneb prydferth yn claer liwio'r nefoedd fawr; Sêr yn odryfrith drwy'r eangder, fel yn gwenu yn eu gwawr Ond, er hyny, harddach lawer ydyw'r fenyw hono sydd Yn ymdaflu moes lewyrchiad pur o'i chylch fel gwawr y dydd, Ac yn cerfio'i delw brydferth megys ar barwydydd byd, Fel pan yn y bedd yr huna, byddo'i moes yn fyw o hyd." Pwy na theimla wrth ddarllen y darluniad tlws a thoddedig a ganlyn o Brithweunydd ar ol colli yr hen fam "?— I'r fynwes hen adgofion ddaw O'r dyddiau dedwydd hyny Pan nad oedd gofid, poen, na braw, Yn blino neb o'r teulu Caed tad, a mam, a phlant yn lion Ar aelwyd lawn cysuron, Heb neb yn gweled garw don Yn codi ar yr eigion. Ond heddyw gwag yw'r aelwyd gu Fu'n deml o lawenydd; Y fam a'r briod oedd mor gu Ni welir yn Brithweuydd; Ond tystia'r dagrau red i lawr Tros ruddiau rhai sy'n weddill, Mai byw mewn rhinwedd yw yn awr, A'i nerth bob dydd yn sefyll. Daw hen gynghorion doeth y fam Yn llu i'w meddwl weithian, A'i gofal rhag i'w phlant roi cam I unrhyw lwybr anan Ar dudalenau'r Beibl mawr,' Canfyddant 61 ei bysedd, A'i henw anwyl ar ei glawr Er's mwy na deugain mlynedd." Dyma benill tlws iawn eto :— Os yw'r tafod heddyw'n dawel Gan fudanrwydd dwfn y bedd; Er i angau daenu cwmwl Rhyngom ni a'i hawddgar wedd; Ond llefaru wna yn eglur Yn ngweithredoedd bywyd pur, Ac ar oriel brydferth llafur Ceir ei delw eto'n glir." Ni chaniata gofod i ni ddyfynu ychwaneg gan hyny, rhaid terfynu.—Yr eiddoch, ar air a chydwybod, heb ofni gwg na charu gwen, Dowlais. TEGANWY.
Adolygiadau Cerddorol.
Adolygiadau Cerddorol. 'RWY'N MYNED ADREF Can gan Eos Brad- wen. Can ar eiriau cysegredig yw 'Rwyn myned adref," a dengys gryn lawer o demlad, ac o sympathy yr awdwr a'r geiriau, fel ag y gellir dysgwyl, gan ei fod yn awdwr y geiriau a'r gerddoriaeth. Tra chyffredin yw y ddwy adran gyntaf, ac y mae rhywbeth yn an- nghysylltiol i'w deimlo rhwng adranau y cyn- taf a'r ail, a'r drydedd a'r bedwaredd. Gydag eithrio yr hyn, y mae yn gan wir dderbyniol, heb fod yn trethu galluoedd y cantor cyffred- in yn ormodol i'w ddehongli. TBAETHAIS Dy FFYDDLONDEB Anthem gan D. W. Lewis, A.C. Anthem lawn, o bedwar o symudiadau, i bedwar o leisiau ydyw hon. Nodweddir y cyfansoddiad drwyddo a melodion rhwydd a naturiol ond teimlwn fod ynddo ormod o stwff, gan y gallesid gwneuthur y tro ag haner y defnyddiau. Y mae yr awdwr yn ysgrifenu yn ami yn yr arddull rydd efelychiadol (free imitative style); ond nid oes yma ddim develop- ment o unrhyw idea. Beth bynag, y mae yn llwyddo bob amser i fod yn naturiol, os nad yn rhyw gelfydd iawn.
Y Brenin a'r Bardd.
Y Brenin a'r Bardd. Adroddir hanesyn am frenin dwyreiniol, yr hwn bob amser a wrthodai wobrwyo y beirdd am eu cyfansoddiadau iddo. Meddai y brenin hwnw ar gof rhyfedd—cof a'i galluogai i ad- rodd pryddest air am air wedi iddo ei chlywed unwaith. Hefyd, yr oedd ganddo filwr a fedrai gyflawni yr un gamp, wedi iddo glywed y bryddest ddwy waith. Dywedai y brenin wrth bob bardd a ddeuai a. phryddest neu g&n o glod iddo, Os caf allan fod eich cyfansoddiad yn wreiddiol, mi a'i wobrwyaf a chymaint o aur a phwysa pa beth bynag yr ysgrifenasoch eich gwaitharno." Boddlonai y bardd i'r amodau, ac yna, ad- roddai ei waith a dywedai y brenin, Nid gwreiddiol mo'ch can, canys mi a'i chlywais pan yn hogyn, a dysgais hi pan yn bur ieuanc." Yna, adroddai y gan, ac ychwanegai, "Mae'r milwr hwn hefyd yn ei gwybod er's blynydd- au," a gorchymynai i hwnw ei adrodd eilwaith, yr hyn a wnelai gyda'r rhwyddineb mwyaf. O'r diwedd, clywodd bardd pur gyfrwys am y trick, a penderfynodd guro'r brenin. Cyf- ansoddodd bryddest yn cynwys y geiriau mwyaf meithion, dyeithr, a baglog a allai ddyfod o hyd iddynt. Ond nid hwn ydoedd ei unig fesur rhagbarotoawl—daw'r Hall i'r golwg yn fuan. Aeth a'i gyfansoddiad i'r brenin, yr hwn a ddarllenodd ei amodau iddo fel hyn Os nad yw'r bryddest yn wreidd- iol, ni chei ddim, eithr os ydyw, mi a'th wobrwya a phwysau pa beth bynag yr ysgrif- enaist arno o aur." Atebodd y bardd, Boddlon wyf i'r amodau, o arglwydd frenin," ac adroddodd ei bryddest. Nis gallai y brenin gofio dim ohoni, a rhoddodd awgrym i'r milwr ei adrodd ond nis gallai hwnw ychwaith ad- rodd gair ohoni. Cyfaddefodd y brenin fod y bryddest yn wreiddiol, a gofynodd am yr hyn yr ysgrifenwyd hi arno, fel ag i'w alluogi i roddi pwysau hwnw o aur. Ebai'r bardd, Dichon y danfona fy arglwydd frenin un o'i weision i'w gario yma." I'w gario yma ydoedd ateb y brenin, "Ai nid papyr ydyw ynte 1" "Nage, fy arglwydd frenin. Pan yn cyfansoddi y bryadest wyf newydd adrodd i'ch uchelder, nid oedd genyf bapyr wrth law, ac felly, nid oedd genyf ddim i'w wneyd ond ei cherfio ar ddarn o hen marble column a gefais ar ol fy anwyl dad." Yr oedd y bardd wedi dyfod a'r golofn yn rhwymedig ar gefn camel at ddrws palas y brenin. I gyflawni ei addewid, bu rhaid i'r brenin fenthycia arian at yr hyn oedd yn ei feddiant i dalu'r bardd. Gwelwn oddiwrth yr uchod fod beirdd y cyn- oesoedd, fel beirdd yr oes bresenol, yn bur gyfrwys. Dywedodd barbwr Dean Swift wrtho un diwrnod ei fod wedi cymeryd tafarndy. Beth fydd eich sign ?" ebai'r Dean. Oh, 'The Pole and Basin," ydoedd yr ateb. Gofynodd y barbwr hefyd i'r Dean am gyfan- soddi llinell neu ddwy i'w gosod ar y sign. Tynodd y Dean ei bin o'i goden, ac ysgrifen- odd y ddwy linell ganlynol, y rhai fu'n addurno sign y barbwr am hir amser Rove not from pole to pole, but step in here, Where nought excels the shaving but the beer. Rhag eich blino a meithder, Mr. Gol., mi a benaf yn y fan hon y tro hwn. Mae y GWLADGARWR a minau yn gyfeillion mynwes- ol er's talm bellach, a gyda'ch caniatad chwi, bydd i mi ddanfon rhywbeth o'r natur uchod iddo 'nawr ac eilwaith. SIION 0 GEFN TYLCHA.
Mr. Ap Dick, alias "Candid…
Mr. Ap Dick, alias "Candid Welshman." MR. GOL. ,-Nis gallaswn lai nachwerthin, er bod allan o gywair chwerthin ar y pryd, wrth ddarllen eich compliment chwi i'r bon- eddwr (?) uchod am ei gompliment yntau i genedl y Cymry yn y Western Mail. Beth fuasai ein tynged, wys, pe buasai gan yr ethnig dienwaededig hwn awdurdod arnom fel cenedl 1 Wel, of course (mae tipyn o Saesonaeg yn fashionable y dyddiau hyn, gan ein bod yn cyfranogi mor helaeth o'r "ani- mal," ac mor amddifad o speculation "), ein tynged fuasai cael ein troi allan i'r maes i bori gwellt, bid sicr. Ymddengys, oni b'ai i'r Candid Welshman ddyfod i gontact a rhyw respectable Englishmen," y buasai yn dlawd arno-yn gorfod byw, feallai, mewn cut, heb obaith byth cael gweled dim ond penfoel fryniau "poor little Wales"; ond trwy ddyfod i gyffyrddiad a'r Sacson, gwnawd Mr. Candid mor speculative nes rhyfygu myned i daith mor bell a Manchestcr a'r Brif-ddinas Gwarchod pawb I ba le yr arweinia ei speculation ef nesaf, wys ? Mae impertinence digyffelyb yr arch-wctg Dic-Shon-Dafyddol hwn yn anoddefadwy, ac yn ddigon i godi cyfogiad ar gi, wrth ganfod ei fod o'r gwyneb i ddywedyd mai rhyw haner anifail yw y Cymro, yn ymfoddloni ar fod a'i drwyn yn barhaus ar y ddaear, heb deimlo un amser duedd i godi ei olygon i gylch anrhydeddus cymdeithas, symud gyda'r oes, nac ymgys- tadlu a neb mewn anturiaethau, nes y delo i "gontact" a "respectable Englishmen." Mae hyn yn rhy ddrwg, ar fy ngair i, ac yn gelwydd noethlymyn, oblegyd yn y fasnach haiarn ac alcan yn Ngogledd Lloegr yma, y Cymry o bawb sydd wedi enwogi eu hunain fwyaf. Beth fuasai Middlesbro' heddyw pe "Old Jacky Vaughan" (chwedl y Saeson) heb fyned yno ? Nid oedd Mr. Vaughan ond roller pan y daeth o Dredegar i'r wlad hon, a dilynodd yr alwedigaeth hono am flynyddau yn Walker-ar-Dyne; ond cododd yr hen Gymro o radd i radd, nes ydoedd am flynyddau cyn ei farw yn cael ei ystyried yn mhlith y meistri haiarn fel oedd Saul yn Israel-yn uwch o'i ysgwyddau fyny nag un ohonynt. Yn awr, sut y daeth John Vaughan, Ysw., mor enwog a hynyna? Tybiwyf y clywaf y Candid Welshman yn dywedyd mai trwy ddyfod i gontact" a'r diweddar Mr. Bolckow, yr A. S. dros Middles- bro', y daeth efe mor enwog. Gwir, gan Bolekow yr oedd y cash, ond cofier mai gan Vaughan yr oedd y pen, y dwylaw, a'r specu- lative mind; ac ar fedrusrwydd Vaughan yr ymddibyna Bolckow yn gwbl; a gwyr pawb sy'n gwybod rhywbeth o'u hanes beth fu y result. Gan nad pa faint o fudd yw i Gymro deallus ddyfod i gyffyrddiad a boneddigion Seisnigaidd, neu ryw genedl arall, mae yn rhwym o fod cymaint, os nid mwy, o fudd iddynt hwythau trwy ddyfod i gyswllt &'r Cymro. Ai trwy ddyfod i "gontact" a rhyw Seison yn Nowlais y cymhwyswyd Ieuan Mor- ganwg i arolygiaeth gweithfeydd eang Losh, Wilson, a Bell yn Walker-ar-Dyne ? Bu Ieuan yn dra llwyddianus am flynyddau yn Walker y tro cyntaf y bu yno, ac ar ol ei ym- adawiad, ymddengys na fu neb o'i olynwyr yn fwy, os mor llwyddianus ag ef, pe amgen ni chawsai gynyg ar y llywyddiaeth yr ail waith, a mwy o gyflog o lawer, yr hwn gynyg a dder- byniodd, a llywyddodd i foddlonrwydd hyd nes y cododd ei feibion i'r llywyddiaeth ar ei ol. Gwyneb Ieuan Morganwg-oedd hygar Ddigon pan heb gilwg Ond gwir yw, rhag ei wyw wg E giliai'r Sais o'r golwg. Gwybydded y darllenydd nad dweyd rhyw- beth er mwyn gwneyd englyn yr wyf, ond dweyd gwirionedd. Yr oedd Ieuan yn feistr yn Walker. Beth am E. Williams, Ysw. (Ap Taliesin ap lolo Morganwg), ai Seison ynte Cymry wnaethant ef yr hyn ydyw 1. Pa un ai yn Nowlais ynte yn Middlesbro' yr addysgwyd ef mor fedrus fel llywydd haiarnfa ac haiarn- wneuthurwr ? Gwyr pawb mai yn Nowlais yr addysgwyd ef; a phan y daeth i Middles- bro' i lywyddu gweithfeydd Bolckow a Vaughan, rhoddid iddo o bymtheg cant i ddwy fil o bunau yn flynyddol, heblaw com- mission ar y dunell haiarn, am ei wasanaeth. Onid yw hyn yn llefaru yn uchel am allu a thalent Gymreig ? Mae efe wedi rhoddi fyny y llywyddiaeth weithfaol er's rhai blynyddau am lywyddiaeth cymdeithas fferyllol y meis- tradoedd haiarn, a gelwir ef yn awr yn feistrad haiarn, ac ystyrir ef yn un o'r pwysicaf yn eu plith. Mae efe hefyd wedi bod yn Faer Mid- dlesbro', a mynai y werin iddo sefyll am ael- odiaeth Seneddol, ond gwrthododd. Beth a ddywed y Candid Welshman am hyn ? Onid yw Ap Taliesin yn werth siarad am dano 1 Ein Williams gwnawn anwylo,—gwr hynaws, A gwir enwog Gymro Gwr elus, ac wyr lolo Morganwg syw ydyw o. Un yw o goeth uchel gais,-o foddus Feddwl a da ymgais; Ond pa enwog, swehog Sais 0 dalent gwron Dowlais ? Terfynaf yr ysgrif hon gyda'r anwylyd Ivander; ac os y meddyliwch, Mr. Gol., y bydd hanes y Cymry sydd wedi codi i enwog- rwydd a chyfoeth yn Ngogledd Lloegr yn dderbyniol gan ddarllenwyr y GWLADGARWR, rhoddaf ddau neu dri llythyr etc —mae genyf ddigon o ddefnyddian wrth law. Nis gwn pa le mae dechreu yn iawn gydag Ivander, am fod cynifer o leoedd dymunol perthynol iddo yn ymgynyg i'r meddwl ar unwaith. Pe 11 y byddai wabbling yn anrhydedd i ddyn, nid gormod anrhydedd arno ef fyddai ei wabHo o'i ben i'w draed, fel na fyddai dim ond blaen ei drwyn yn y golwg ond nid yw efe yn hoff o wabbling, mwy nag ydyw yn hoff o flew oddeutu ei gernau a'i enau, fel sydd gan rai ohonom. Dyn bach plain yw efe, heb ddim nonsense yn perthyn iddo, mor gymhwys a. saeth, mor foesgar a hawddgar a lady, a dau lygad treiddiawl cerub yn ei ben. Nid yw efe yn rhy dew nac yn rhy deneu, ond os rhywbeth, tueddu y mae at deneurwydd; ond digon hawdd cyfrif am hyny, oblegyd .Y gwelir yn eglur fod ei babell briddlyd, er mor lluniaidd, hardd, a threfnus ydyw, yn rhy gyfyng i'r preswylydd cawraidd sydd yn ei phreswylio. Gwyr y byd alcanaidd am Ivan- der fel masnachydd alcan enwog a gwneuth- urwr y cyfryw nwydd yn well nag y medraf fi draethu gan hyny, anfuddiol fyddai dweyd dim ar y pen hwn. Yn Workington, Der- went, a'r cylchoedd, nid oes un symudiad llenyddol, caniadol, moesol, na chrefyddol o unrhyw fath nad yw efe a Haw flaenaf yn- ddynt, a pherchir ef gan wreng a bonedd brodorol y lie fel pe byddai yn un ohonynt. Meddyliwyf ei fod wedi cyrhaedd nod ei uchelgais, sef dylanwad, cyfoeth, ac anrhyd- edd a sicr wyf fod pob Oymro cenedlgarol, os nad yw y Candid Welshman, yn ymlawen- hau yn ei lwyddiant, ac yn ei edmygu ar binacl anrhydedd. Ivander, gain yswainwr,-a barchwn, Heb orches na dwndwr Ei radau ef, tra rhed dw'r, Wych enwed bardd a chanwr. (Pw barhau).
Gyfarfod y Sliding Scale yn…
Gyfarfod y Sliding Scale yn Nghaerdydd. Cynaliwyd cyfarfod o bwyllgor y Sliding Scale Uudeb Glofaol Deheudir Cymru a Mynwy yn y Royal Hotel, Caerdydd, dydd Iau diweddaf. Yr oedd yn bresenol ar ran y meistri, Mri. Edward Jones, W. Menelaus, J. Nixon, a J. L. Rowbotham. Dros y gweithwyr yr oedd Mri. W. Abraham, Philip Jones, D. Morgan, E. Francis, Isaac Evans, J. Jenkins, a J. Blacker. Yr oedd hefyd Mr. Dalziel, a Mr. J. Thomas, yr* ysgrifen- yddiuu. Y cadeirydd oedd Mr. W. T. Lewis, a Mr. W. Abraham yn is-gadeirydd. Gosod- wvd adroddiad y cyfrif wyr o flaen y pwyllgor; ac oddiwrth hwnw yr oedd pris y glo, ar gyfartaledd, wedi bod mor isel yn ystod y pedwar mis diweddaf, fel yr oedd yn an- mhosibl cael codiad yn y cyflogau. Ar ol cadarnhau yr uchod, daethpwyd yn mlaen 4 chwestiwn yr Employer's Liability Act," a'r doethineb o gynorthwyo y glowyr i sefydlu trysorfa gynorthwyol i bersonau a anafir yn y mwnfeydd. Ymdrinwyd a'r pwnc yn fanwl, ac yr oedd y meistri yn unfrydol dros sefydlu y fath drysorfa. Ond yr oedd y gweithwyr o'r farn ei bod ychydig rhy gynar i ymgymer- yd a'r fath beth. Yr oedd yr Employer's Liability Act yn taflu ychydig o faich ar y meistri, ac yr oedd hyn yn amddiffyniad i'r glowr. Nid oedd enillion presenol y glowr yn ddigon i'w alluogi i gynal y fath drysorfa ar hyn o bryd. Felly, gorfodwyd hwynt i wrthod sefydlu y fath fudiad ar hyn o bryd.
Tan Dinystriol yn Nghwm Rhondda*
Tan Dinystriol yn Nghwm Rhondda* Nos Iau diweddaf, bu yn amser cynhyrfus anarferol yn y Pentre, Rhondda, mewn can- lyniad i dan a dorodd allan yn nhai perthynol i'r Cardiff and Swansea Smokeless Steam Coal and the Pentre Colliery Company. Cynwysant bedwar o'u hadeiladau mawrion, sef y Pentre Chambers, lie y cynalia y gwahanol fyrddau eu cyfarfodydd, ac y cad- went eu swyddfeydd, yn nghyd a siop a. gedwir yn awr gan Mr. John Payne, Caer- dydd, masnachwr mewn dodrefn ac arwerth- wr; siop saddler Mri. Yorath a Thomas a. siop esgidiau (Wellington House) Mr. John Jones. Yr oedd y tri olaf yn dair llofft o uchder, ac yn gwynebu yr heol. Yr oedd yno ganoedd o alwyni o betroleum yn werth mwy na l,000p. Torodd y tân allan yn siop Mr. Payne. Yr oedd Mr. Payne, yr hwn sydd ganddo sefydliad cangenol i lawr yr heol, ar fwriad i agor ei siop yn y Pentre Chambers dydd Sadwrn, ac i'r perwyl hwnw yr oedd wedi ystorio llawer o nwyddau newyddion. Prydnawn y dydd hwnw y rhoddwyd y nwy-fesurydd i mewn. Dywedai John Boulton, un o weision cwmni y nwy, iddo droi ymaith y gas cyn iddo adael, a rhoddodd ofal y lie i hen wr pan yr oedd pob peth yn dda. Aeth oddiyno i siop arall Mr. Payne. Am haner awr wedi pedwar, galwodd cynorthwywr Mr. Thomas, y saddler, sylw ei feistr at y cymylau o fwg a ddyrchent allan trwy agenau drws Mr. Payne. Torwyd y drws yn agored, a gwelwyd fod yr ystafell yn fflamiau. Daeth torf fawr i'r lie ar unwaith, yn nghyd a'r heddgeidwaid, gan weinyddu pob cynorthwy galluadwy. Nid oedd hose na hydrants yn agos i'r lie, a'r oil ellid wneyd oedd taflu Uestri o ddwfr ar y tan. Pellebr- wyd i Bontypridd, a chyda tren nwyddau daeth Supt. Matthews, Sergt. Jones, a'r holl swyddogion i'r lie, a'r tan-beiriant gyda hwy; ond nid oedd o un defnydd, gan nas gellid cael un hose. Cyfrifir fod y golled ar y cyfan tua 3,500p. Y mae tua haner dwsin wedi cael myned i'r carchar am ladrata nwyddau a geisiwyd eu hachub yn adeg y tan.
Marwolaeth Mrs. T. Howells,…
Marwolaeth Mrs. T. Howells, Aberaman. Y mae genym y newydd pruddaidd yr wythnos hon i gofnodi marwolaeth gwraig anwyl Mr. T. Howells (Hywel Cynon), argraffydd, Aberaman, Aberdar, yr honIa fu farw dydd Gwener, y 22ain cyfisol. Yr oedd hi yn wraig hawddgar, a pherchid hi yn fawr gan bawb a'i hadwaeniai. Er ei bodjyn wan mewn corff, yr oedd hi bob amser yn ffyddlon mewn gwasanaeth crefyddol. Ei hoedran oedd 38 mlwydd, a gadawodd wr a^phlant i alaru eu colled. Claddwyd hi yn mynwent Aberdar, y dydd Mawrth canlynol, gpan ddaeth torf fawr yn nghyd. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Rowlands.