Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
Ail Gychwyniad Eisteddfod Dewi Sant A GYNELIR yn Temperance Hall Aberdar y dydd olaf yu Chwefror, sef yr 28ain, 1881, 0 y pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwvddianus mewn caniadaeth, barddoniaeth, a rhyddiaith. L I'r cSr heb fod dan 100 mewn nifer a gano yn oreu Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel" (gan John Thomas); gwobr, 25p. 2. I'r cdr heb fod dan 40 mewn nifer a gano yn oreu "Y Gwanwyn" (gan Gwilym Gwent); gwobr, 8p. Ceir manylion pellach, yn nghyd ag enwau y beirniaid, yn y rhifynau dyfodoi., Cadeirydd- EzEB GEiFFTHS, Highland-pl. Try sorydd—Edward Arnott, Fothsr« ill's Arms. Ysgrifenydd—J. M. WILLIAMS (Cynonfryn), 78, Gadlys road, Aberdar. At y Beirdd. RHODDI R PUM' GINI O WOBR am y Secular Idbretto oreu, heb fod dros 150 o linellau, ar gyfer cantawd Eisteddfod Genedl- aethol Merthtr, 1881, am yr hon y cynygir gwobr o ugain gini gan y London Welsh Choir. Yr awdwr i ddewis ei destyn. Y cyfansoddiadau i fod yn Haw ysgrifenyddion y c6r ar neu cyn y 18fed o Ragfyr, 1880, wedi eu cyfeirio i- Messrs. EDWARDS & JENKINS, Gwalia House, 9. Upper Woburn P ace, London, W.C. Yscyfan.-oddiad buddugol i fod yn eiddo y c6r. Y-beirniaid i'w hysbysu yr wythnos nesaf. [2378 Cymanfa Ganu y Methodistiaid Calfinaidd, 1880. MAE'R holl ANTHEMAU, t-c., ar gyfer y Gymanfa uchod, i'w cael gan— WALTER LLOYD, Swyddfa Y Gwladgarwr," Aberdar. YN EIN RHIFYN NESAF, CYHOEDDIR Traethaivd Ail-oreu n Un-ar-bymtheg yn Eis- teddfod Gadeiriol y Deheudir, 1880, ar 1fanteision Arian Parod." Mae'r traethawd hwn wedi derbyn nchel gymeradwyaeth y beirniaid—y Parch. W. G. Thomas (Glanffrwd) a Dafydd Morganwg—fel nad oes angen ein canmoliaeth ni.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. IESTYN WYN.—Diolch. Caiff ymddangos yn ein rhifyn nesaf. DAVID HEEs.-Nis gallwn ufuddhau i gyheeddi yr hyn sydd eisoes wedi ymddangos mew.t1 wythnosolyn. ASAPH GLYN EBWY.-Cymeradwy. Dymunwn am barhad ohono. Eos HAFOD.—Adroddiad arall wedi ei gysodi cyn i'ch eiddo chwi ddyfod i law. Diolch, er hyny. NiD YSBRYD.- Ysbryd neu beidio, ni chewch ymyryd a'r ddadl. Twra DWEYD Y GWIR A'I LITHIAU.—Achwyna Eos Hafod ei fod yn cael ei gyhuddo o fod yn awdwr y 1 lithiau uchod. Bydded hysbys i'r cyhuddwyr eu bod wedi camgymeryd. Nid Eos Hafod ydyw'r awdwr.
CYFRAITH OYFRIFOLDEB MEISTRIAID.
CYFRAITH OYFRIFOLDEB MEISTRIAID. Gyda y manylion a ganlyn, y rhai a gymerasom o un o'n cyfoesolion, caiff ein darllenwyr brif gynwysiad y drydedd o'r Deddfau pwysig y mae y Llywodraeth bresenol wedi eu pasio, er dirfawr fantais y bobl, ac anrliydedd iddynt ei hunain :— 1.—Av ol dechreuad gweithrediad yr Ysgrif (Ionawr laf, 1881), os bydd un- rhyw weithiwr wedi cyfarfod a damwain bersonol, gall y cyfryw, neu os dygwydda y niweid dderbyniodd orphen mewn marwolaeth, gall gynrychiolwyr cyfreith- ol y gweithiwr, ac unrhyw berson a hawl ganddo yn nwyneb marwolaeth, gall y cyfryw hawlio yr un iawn-d&l (compensa- tion) oddiwrth y meistri, yr un modd a phe na buasai y gweithiwr yn weithiwr i, neu yn ngwasanaeth y meistr, neu yn gwneyd ei waith Rhaid i niweid personol y gweithiwr godi oddiar un o'r achosion canlynol: — (1) Oherwydd unrhyw ddiffyg yn y modd y cerir allan y gwaith yn ngwaitb y meistr, diffyg yn y peirianau, &c. Neu, (2) Oberwydddiofalwcbunrbyw berson yn ngwasanaeth y meistr sydd a rhyw c;1 arolygiaeth wedi ei hymddiried iddo pan yn nghyflawniad ei aroly giaetb. Neu, (3) Oherwydd esgeulusdra unrhyw berson yn ngwasanaeth y meistr i or- chymynion, pa rai ar adeg y niweid yr oedd yn rhaid i'c gweithiwr ufuddhau, a darfod iddo ufuddhau. ac os dygwy^dodd y ddamwain oherwydd y cyfryw uiudd- dod. Neu, (4) Oherwydd gweithredneu esgeulus- dra unrhyw berson yn ngwasanaeth y meistr a wnaed mewn ufudd-dod i reolau y gwaith, neu mewn ufudd-dod i unrhyw un a ddirprwywyd a'r un hawl a'r meistr. Neu, (5) Oherwydd esgeulusdra unrhyw berson yn ngwasanaeth y meistr sydd a gofal a rheolaeth unrhyw signal neu bwyntiau (points), agerbeiriant, neu gerbydres. 2.—Ni bydd hawl gan unrhyw weith- iwr i iawndal oddiwrth ei feistr o dan yr amgylchiadau canlynol:— ^<iuS3§ (1) Os bydd unrhyw ddiffyg yn y modd y cerir allan y gwaith yn ngwaith y meistr, diffyg yn y peirianau, &c.; ond os na bydd y diffyg a enwyd yn codi oddiar, neu heb ei ddarganfod oherwydd esgeulusdra y meistr, neu ryw berson yn ngwasanaeth y meistr, neu unrhyw uu arall yr ymddiriedwyd. iddo y gwaith o weled fod y moddion, gweithiau, a'r peirianau, mewn sefyllfa dda. (2) Mae'r adran (4) uchod yn ddaros- tyngedig i'r rheol ganlynol:—Ni bydd hawl gan y gweithiwr i dderbyn iawn- dal os derbynia niweid, os na fydd gwall neu ddiffyg yn y rheolau ac yn y gor- chymynion a dderbyniodd pan ddygwydd- odd y niwed. Ac y mae yn rhaid i'r rheolau hyn fod wedi eu cymeradwyo gan un o Ysgrifenyddion Blaenaf Llyw- odraeth ei Mawrhydi, neu gan y Bwrdd Masnach, o dan neu oherwydd unrhyw Ysgrif Seneddol. Ni bydd y rhai olaf hyn yn rheol anmhriodol neu ddiffygiol. (3) Mewn unrhyw achos lie y gwyddai y gweithiwr am y diffyg neu yr esgeulus- dra a achosodd y niweid, a lie y ddarfu iddo o fewn amser rhesymol roddi rhybudd amserol i'r meistr, neu unrhyw un uwchlaw iddo yn y gwaith, os nad oedd yn gwybod fod y cyfryw un neu y meistr yn gwybod am y diffyg neu esgeulusdra. 3.—Nid yw maint yr iawn-dal a ellir ei gael o dan yr Ysgrif yma i fyned dros ben y swm a dderbyniwyd gan berson yn yr un sefyllfa ag ef yn y gwaith, am y tair blynedd cyn derbyn y niweid. 4.—Nis gall y gynghaws am iawn-dal yn ngwyneb niweid gael ei dwyn yn mlaen oddigorth fod y rhybudd fod niweid wedi eymeryd lie wedi ei roddi o fewn chwech wythnos, ac os na fydd y gynghaws yn cymeryd lie o fewn chwe' mis i adeg y ddamwain, neu, mewn achos o farwolaeth, o fewn blwyddyn i adeg marwolaeth. Mae yna ddarpar- iaeth hefyd nad yw rhybudd yn angen- rheidiol mewn achos o farwolaeth, er myned yn mlaen a'r gynghaws, os bydd y barnwr yn tybied fod yna seiliau digonol dros beidio rhoddi rhybudd. 5.—Mae yr arian a delir o dan unrhyw ddirwy i gael ei dynu oddiwrth yr iawn- dal o dan yr Ysgrif newydd. 0 6.—(1) Mae pob cynghaws am gael yr iawn-dal yn ol o dan yr Ysgrif yma i gael ei dwyn i'r county court. Ond gellir, os bydd y naill blaid neu y Hall yn dymuno, ei symud i lys uwch. (2) Ar brawf y fath gynghaws yn y county court o flaen y barnwr heb reith- wyr, gellir apwyntio un neu ychwaneg o drethwyr i'r pwrpas o benderfynu swm yr iawn-do. (3) I'r pwrpas o reoleiddio amodau a dull apwyntiad ac ad-daliad y cyfryw drethwyr, a phob mater gyda golwg ar eu dyledswyddau, ac hefyd i'r pwrpas o gryfhau unrhyw gynghaws o dan yr Ysgrif yma mewn Ilys sirol, ac er mwyn rhwystro Iluosogiad y fath gynghaws, gellir gwneyd rheolau, a gellir eu ham- rywio, a'u didclymu o bryd i bryd yn yr un modd a'r rheolau er rheoleiddio y duM o gario yn mlaen gynghaws ereill mewn llysoedd sirol. 7.—Mae y rhybudd o berthynas i niweid o dan yr Ysgrif yma i gynwys enw a chyfeiriad y person a niweidwyd, ac y mae yn ofynol i'r rhybudd osod allan mewn iaith gyffredin achos y ddamwain, y dyddiad, ac y mae yn ofyn- ol i'r rhybudd gael ei anfon i'r meistr neu y meistriaid. Gellir gadael y cyfryw rybudd yn nhy annedd y cyfryw feistr, neu yn y gwaith. Gellir anfon y rhybudd hefyd gyda'r post fel llythyr cofrestredig (registered, letter) i gyfeiriad y meistr, ac ystyrir y llythyr yn cyrhaedd y cyfeiriad gyda'r un post a llythyrau yn gyffredin. Ni bydd unrhyw wall a wneir wrth godi rhybudd yn annghyfreithiol, oddigerth fod y barnwr yn golygu yr effeithia rywfodd er anfantais y meistr. 8.—Mae y frawddeg, person sydd ag arolygiaeth wedi ei ymddiried iddo," yn golygu person unig, ac arbenigol ddyled- swydd pa un ydyw arolygiaeth, ac un nad yw yn gyffredin yn gweithio a'i ddwylaw. Mae y gair meistr, neu gyflogydd, yn cynwys corph o bersonau corphoredig neu annghorphoredig. Mae y gair "gweithiwr" yn golygu gwas rheilffordd, ac unrhyw berson at ba un y mae yr Employers and Work Act, 1875, yn cyfeirio. 9.—Daw yr Ysgrif i weithrediad Ionawr laf, 1881. I 10.-Gelwir yr Ysgrif Employers' Lia- lility Act, 1880. Bydd mewn grym hyd Rhagfyr 3lain, 1887, ac hyd ddiwedd y Senedd-dymhor hono, ond nid yn hwy, oddigerth i'r Senedd benderfynu hyny, ac y mae pob cynghaws a ddechreuir o dan yr Ysgrif i barhau fel pe byddai yr Ysgrif heb ei dileu.
Family Notices
FINCH.—Medi 17eg, priod Mr. J. Finch, ysgolfeistr, Cwmbach, Aberdar, ar fab, a gelwir ei enw yn Ernest David James Finch. DAVIES.Hydref 17eg, priod Mr. John Davies, Ship and Castle Inn, Cwmbach, Aber- dar, ar ferch. REES.—Hydref 24ain, priod Mr. F. Rees, glowr, Oak-row, Cwmbach, Aberdar, ar fab. -Lewis. JENKINS BODYCOMBE. Hydref 20fed, yn,, ngwydd y cofrestrydd, yn nghapel y Trefnydd- ion Calfinaidd, Porth, Mr. John Jenkins, mason, a Miss Mary Bodycombe, Gelli Cottage. Dy- munwn hir oes a mwynhad iddynt.-Ifl. Hafod. MsarwolaetJasMi. JENKINS.—Hydref 19eg, yn 33 mlwydd oed, Mrs. Jane Jenkins, gwraig Mr. Jenkins, 15, Clive-place, Trecynon, Aberdar. WILLIAMS.—Hydref 17eg, yn 2 flwydd oed, Idris Williams, pedwerydd blentyn Mr. W. T. Williams (Tawenfryn), Brecon-road, Pontar- dawe. Idris bach, o drais y byd-'e laniodd I oleuni 'r Gwynfyd Yn y gan yn wyn i gyd—una'r del Mwy yn y goruchel mewn gwir iechyd. -J. Walters.
D AJiWEINIAU YN Y GLOFEYDD.
D AJiWEINIAU YN Y GLO- FEYDD. EU HACHOSION A'U MEDDYGINIAETH. GAN D. MORGAN, MOUNTAIN ASH. DARFU i ni, 'yn ol ein barn ni, ddweyd digon yr wythnos ddiweddaf ar y tanchwaau. Ceis- iwn yr wythnos hon ysgrifenu ychydig ar y mater o goedio. Oredwn fod y mwyafrif o lowyr y Deheudir yn argyhoeddedig nad yw cynyg dull Gogledd Lloegr o goedio ond yn- fydrwydd yma, gan y byddai rhaid cael dyn braidd rhwng pob pump gweithle er cadw y cyfryw weithleoedd yn ddiogel, oblegyd os na fyddai y dyn a neillduid gan y cwmni wrth law, byddai yn rhaid i'r torwr glo eistedd i lawr hyd nes y deuai yno, neu ynte gweithio mewn perygl. Gan ein bod yn deall fod braidd yr oil o lowyr y Deheudir yn argy- hoeddedig ar y mater hwn, ymataiiwn rhag dweyd rhagor. Ond credwn ei fod, yn angen- rheidiol ysgrifenu gair ar y mater o goedio, neu yn hytrach ar y priodoldeb i'r cwmnïau anfon y coed i mewn i bob gweithle. Er fod y mwyafrif o'r meistri yn y Deheudir yn gwneyd hyn, eto credwn y dylai yr oil ohon- ynt ei wneyd, oblegyd y mae fod y glowr yn gorfod anfon y coed i mewn o ben y pwll i'w weithle yn peryglu ei iechyd, yn ei wneyd yn agored i ddamweiniau, yn wastraif ar amser, ac yn golled i'r cwmni mewn codi glo, Sylwn ar y pedwar gosodiad uchod,— 1. Edrycher ar y glowyr yn goa-fod dyfod allan o'r pwll yn llawn chwya ar bob tywydd, rhew ac eira, pan fydd eisieu coed arnynt. Bydd ya rhaid iddynt ddiosg eu dillad, a ffwrdd a hwy i ganol y frwydr ar ben y truck, ac yno yn yrndrechu a'u gilydd am y coed, a hyny, fe ddichon, yn y gauaf, ac yn nglianol tywyllwch. Onid yw myned at y gwaith yn llawn chwys fel yma, yn enwedig yn y gauaf, yn achos i'r gweithwyr gael anwyd, a hyny yn esgor ar dwymynau, y gymalwst, a'r lumbago gyda amser ] 2. Y mae yn agored i ddamweiniau. Os bydd ei goed wedi terfynu yn y talcen am un o'r gloch, a chan fod y coed ar ben y pwll, ymdrecha a'i holl egni, er mewn perygl, i ddibenu ei durn glo, a thrwy hyny, fe ddichon, yn achosi damweiniau. 3. Y mae yn wastraff ar ei amser. Cofier nad yw y glowr, fel rheol, ar ol gasod ei goed yn y ddram, yn gallu mentro myned at ei waith a gadael y coed ar y ffordd i redeg eu siawns, oblegyd bydd yn debyg o'u colli ar ol yr holl drafferth os ^gwna felly, gan fod bechgyn y whip, fel rheol, yn lied ddiamyn- edd felly, y mae y glowr yn gorfod, nid yn unig eu taflu allan o'r truck, a'u llanw ar v ddram, ODd hefyd eu harwain i'w waithle, fel y bydd yn wyth neu naw o'r gloch arno yn dechreu ei durn lawer tro ac am ei bod mor ddiweddar arno yn cyrhaedd ei weithle, dyna fe, yn ei frys, yn rhuthro ar ei waith yn ddi- seremoni, pan y dylai eistedd i lawr am chwarter awr i astudio y ffordd oreu i'w weithio. 4. Pan fyddo y glowr yn colli amser felly, y mae yn rhaid fod yna. golled glo i'r cwmni. Hefyd, y mae y glowr wedi oolli haner turn neu durn cyfan filoedd o weithiau oherwydd ei fod yn gorfod myned i ben y pwll i ymofyn coed. Felly, yr ydym yn sicrhau na fyddai gosod dyn ar ben y pwll i anfon y coed i'r glowr yn un golled i'r meistri, tra y byddai yn enill mawr i'r glowr. Yr ydym yn gobeithio cael cydweithrediad y glowyr yn mhob man i gyrhaedd y fendith hon.
Cyilwr yr Iwerddon.
Cyilwr yr Iwerddon. Y mae sefyllfa yr Ynys Werdd yn parhau yn bur gyffrous, ac yn achosi pryder mawr i'r Llywodraeth. Y mae Mr. Parnell a'i gyd-anfoddogion yn tramwyo y wlad, ac yn pregethu terfysg yn mhlith y bobl, ac hefyd yn crochfloeddio am ladd y tir-feddianwyr. Traddododd Mr. Parnell araeth yn Galway dydd Sul diweddaf i gyfarfod mawr o tna saith mil o bobl. Dywedai fod yr amod a dorodd y Llywodraeth trwy yru ychwaneg o filwyr a heddgeidwaid i'r wlad yn hollol groes idd eu haddewid yn y Senedd wedi peri iddo beidio rhoddi iddynt ychwaneg o'i gymhorth. Y prif rhai atebol am lofruddiaeth Arglwydd Mountmorris ydyw Tý'r Arglwyddi, a Mr. Forster-" Buckshot Forster fel y geilw Mr. Parnell ef, gan gyfeirio at gynllun Mr. Forster o lwytho drylliau yr heddgeidwaid a shots man yn lie bullets. Yn ystod yr araeth, gwnawd sylwadau gan y gynulleidfa, yr hon oedd yn mhell o fod yn heddychol. Y mae yn cael ei sibrydu yu gyfiredinol fod y Llyw- odraeth yn bwriadu cosbi nifer o'r blaenorion yn y mudiad gwrthryfelgar, ac hefyd rai o swyddogion penaf y Land League. Yn ol fel y dywedir, y rhestr a ganlyn o'r rhai a fwriedir cosbi yw yr un iawn :—Mri. C. S. Parnell, A.S., J. Dillon, A.S., J. Bi^gar, I A.S., T. D. Sullivan, A.S., Thos. Sexton, A.S., James O'Kelly, A.S., W. H. O'Sulli- van, A.S., Arthur O'Connor, A.S., T. P. O'Connor, A.S., Thos. Brennan (ysgrifenydd taledig y Land League), Patrick Egan <trys- orydd yr undeb), Michael O'Sullivan (cyd- ysgrifenydd), A. J. Kettle (cyd-ysgrifenydd), James Boyton (trefnydd taledig), a James Redpath, gohebydd newyddiadur American- aidd. Wrth gwrs, nid oes dim wedi ei hys- bysu yn gyhoeddus hyd eto. Mae pobpeth yn cael ei gario yn mlaen gyda'r dirgelwch mwyaf. Y mae y clerc sydd yn copio yr hysbysiadau yn gwneyd hyny dan glo. Ni wyddis yn mha le y cynelir y prawf, pa un ai yn Llundain neu ynte yn Dublin.
NEWYDDION DIWEDDARAF
NEWYDDION DIWEDDARAF (GYDA'R PELLEBYR). Nos FA WRTH. GWRTHRYFEL YN AFFGHANISTAN. Y mae ail argrafliad o'r Daily News yn cynwys pellebryn o Lahore, India, dyddiedig Hydref y 26ain, pa un a ddywed mai y crediad cyffredinol yn Peshawar yw fod terfysgoedd y.n bodoli yn Cabul. Yn ol y traddodiad cyffredinol, y mae yr Ameer wedi ei lofruddio. Nid oes yr un post wedi dyfod o Cabul er's dyddiau. Y mae sail cryf am wirionedd yr adroddiad uchod. Nid ydyw'r India Office yn Llundain wedi derbyn yr un cadarnhad o unrhyw derfysg- oedd yn Cabul i fyny hyd brydnawn dydd Mawrth. Y mae yn wybyddus i'r Ameer Abdul Rahmen gael crya lawer o drafferth i gadw heddwch. MR. FORSTER. Hysbysa yr Iruh Times am heddyw fod Mr. Forster, yr Ysgrifenydd dros yr Iwer- ddon, wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i ym- ddiswyddo yn nwylaw Mr. Gladstone. Y mae Mr. Forster wedi awdurdodi y Central News i hysbysu fod hyny yn hollol annghy- wiif, ac heb y sail lleiaf. CYMERIAD L FYNY Y TERFYSGWYR GWYDDELIG. Y mae y cam hir-fygwthiedig wedi ei chy- meryd. Y mae penderfyniad y Llywodraeth i gymeryd mewn dalfa rai o brif derfysgwyr yn mysg y Gwyddelod yn awr wedi ei chyf- lawni. Yn Roche's Hotel, Glengariffe, Cork, daliwyd-gyda warrant yr Attorney-General —Mr. T. M. Healy, cymydog Mr. PArnell pan ar ei daith trwy'r America. Dysgwylir y y cymerir y lleill i fyny bron yn uniongyrchol. 7- Y BASUTOS. Y mae y gwyfrau pellebrol tros-dirol rhwng Durban a Cape Town (Deheudir Affrica) wedi eu tori gan y Basutos.
[No title]
CYHUDDWYD un contractor o'r enw Cripps yn Aylesbury, o ladrata plwm o goffinau yn mynwent eglwys Cold Brayfield, a gwasgaru y gweddillion dynol ar hyd y lie. Danfonwyd ef i garchar am flwyddyn am y weithred hon. MEWN cyfarfod, yn ddiweddar, yn Edin- burgh, dywedodd Mrs. Booth, o'r Salvation Army, fod yn awr yn gweithio mewn cysyllt- iad a'r fyddin 285 o swyddogion, a thros 6,000 o siaradwyr gwirfoddol-yn ddynion a gwi«agedd—pa rai oeddynt i gyd yn perthyn i'r dosbarth gweithiol.
ITystiolaethan Pwysig I QUININE…
I Tystiolaethan Pwysig I QUININE BITTERS GWILYM EVAJSS. JJ-i' j }¡'t" 1. Brynhyfryd. ger Abertawe. Anwyl Syr, —r ydwyf wedi bod vn ^werthu y Quinine Bitters am rai blynyddau bellach. Y m aent wedi gwneyd Lawei o les yn yr ardal yma, ac y mae dyfodiad dysglaer iddynt. Yr ydwyf' wedi sylwi yn faaol ar eu heffaith ar wah»nol bersonau, ac yi- y, wedi gweled rhai o'r dolur- iau gwaethaf a allai neb ddychyiDygu yn caelfeu llwyr wellhau trwy ddefoyddio y xueddyglyn yma. Y mae plant o hob oedran, dvnion ieuanc a'hen gwragedd a merched, oil yn tystiolaethu i'w henaith daionun. Y mae yn drueni na ellid eu daroatwng ychydig yn eu pris. liebtvaiaycliueu heffaith gall fod canoedd o bobl weinion yn svchedu am dreio ei hdhith, ond eto heb focid i wneyd hyny. — Yr eiddoch yn serchog. ISAAC OWEN. From Grijjiih Williams, Llancrchynicdd Angle- sea Syr,—Da genyf gael y cyfleus.lra j anfon csir o gamrioaaeth_ich "Quini.ue Bitters." Y maent yn dderbyiiiol iawn y-\ y gyniydo.^ji^tn G-werthaia Jawer ohoovnt yn y^t<>d y hlynycidau diweddar. ac y mae y gaiwa-i arnynt yn parhau i gynycldu. Nid oes meddyginiileÜ1 yn debyg iddynt at iselder ysbryd, disfyg traal, dychkmiad- au y gaion, a chur yn y pen. Yr eiddoch yn (ryv.ir. Medi 8, 1880. GiilFiTiTH WILLIAilS. From Mr. John Llw^l loau Cynjp.g), My-y.ydd Cynifig m yn ciyoudet llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, isdder ysbryd, diffyg arch*aeth at fwyd, ac ar cl ei twyta, blinder mawr. Prvnais botelaid 4a bd. oddiwth Mr. Itichard Jenkins. Jxenh<j Hill, ac ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi adferydim iechyd arferol, ac yn alluoo- l ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydtwf wedi eu cymeradwyo i ereill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies annhraethol trwyddynt, a byddaf yu teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser iei trys&r penaf y teu'u. From the Rev J. II. Williams (Brynf .rdd) Head Master of the Dowlns Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir.The wonderful efficacy of your "Quinine Bitters to restore health and vigour, after lingering iliness and debility, has hi-en recent- fj^d sufficiently proved by my family, and elicits tnis voluntary and conscientious testimonv from me for the benefit of others. From J Ellis Edwa-ds 3I.B C.S. L.S A.,$c., Saint Clear* ('armarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir. Having been so frequentlv asked by my patie&ts as to the desirab;litv of taking your Quinine Bitters." I have for the last two years given it a fair trial, and-find it, without exception, the most pleasant at d effectual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.E.C.S. L.S.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Air. JySeoh ];ees, Cardan j^^nititaWilikins, Llanerchymedd Mr. W. H. lhoma«; Dowlas Mr. John Francis, rexhani; Mr. ulyrddin Davies, Swansea Mr, Hugh G. Hughes. Holyhead; Mr. W. Sims, Aberaman; Mr E P. Wynne, Aberystwvth Mr. Jones, St Asaph Mr. D. Evans, Oemmaes Montgomeryshire Mr. J. P. Jones, Aberavron; ail ciieirnsts and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public bv advertisements and other means. Mr. Watkin J. Thomas, Chemist. Aberdare. Aug. 1/th, certifies to its exten--ive sale and -ood results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr. Gwilym Evana, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist. Llanelly. Llangadock, August 15, 1880. I)e^1" 11 ™ happy to state that the sale of the Qmnir e Bitters is rapidlv increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects and very lately two very distinct and remarkable cases caine under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the oth*r was a case, of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly helievr in. -Yours &c.. E. D. GEORGE. From Robert Watt*, VtUrwary Surgeon Peny. groes, Nerth Wales. T .August 2Gth, 1830. 1 have taken your "Qumiue Bitters for in- digestion and the many inconveniences arising- therefrom. The benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. T .-F 4. SEP.T- 2"TH> isJt a, i PreP^i*^tion known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from mineral, and that t,. e ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Ofi-ce Tre- lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir-Although you must be overload- ed with testimonials m favour of your now celebrated Qumme Bitters," jet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with vervbene- ficial results, and tliose of iay customers wilo have truiy proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the case mav require), every Spring and Autumn, testifying that they deuve much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part contint allv increasing. The last supply arrived safely. 7 Sept. 24th, 1880. Mr. 0. Isgoed Jcnea, Chemist, Llanrwst, has sold grosses of the "Qamme Bitters." and from close observation of their effects, can vouch fS their efficacy as a tonic in ca^es of extreme debility, &c.. hemg particularly suitably to patients recorenng from long illness.