Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
yn cymeryd yr hyfdra (a gobeithio y maddeu- wch i mi am hyny), i geisio genych i draethu -eich syniadau ar Yr enaid, pa un ai marwol -neu anfarwol ydyw, yn ol gwirionedd y Beibl V' Ac yn awr mi a gymeraf yr hyfdra i geisio genyt ti, Lex, i ddechreu, canys yr wyf yn awyddus am glywed dy syniadau, a bydd yn hawddgar ac yn ddidramgwydd yn dy ymadroddion. Yr wyf hefyd yn ceisio genyt tithau, Gwynlais, i fod o'r un ysbryd, ac nid cnoi a thraflyncu eich gilydd fel ag y gwnaethoch o'r blaen i raddau pell. D. J.
Hanesion Dosbarthawl.1
Hanesion Dosbarthawl. GLYN EBWY. LIB ANUS. —Cynaliwyd cyfarfodydd pregethu yr Annibynwyr yn y lie uchod eleni ar ddyddiau Sul a Llun, Hydref 17eg a'r 18fed. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Thomas, D.D., L'erpwl, a H. Elwyn Thomas (W.), Glyn Ebwy. Cafwyd pre- gethau grymus, cynulleidfaoedd mawrion anar- ferol, a chasglwyd tua. 33p. —Morbos. YST AL YFERA. CYFARFODYDD PREGETHU. — Cynaliwyd ein cvlchwyl flvnyddol nos Fawrth a dydd Ivlercner, Hydref 12fed a'r 13eg. Gwasanaethwyd gan y Parchediyion Hugh Hughes, Birkenhead; H P. Jenkins (A.), Y stalyfera; a William Rees (B.), Beulah, Cwmtwrch. Cafwyd hin ddymunol, cy- nulleidfaoedd llnosog, casgliad da, a gwenau y Meistr. Mae Mr. Hughes yn ffafr-ddyn yn yr ardal hon gan yr holl bobl. Buan yr ymwelo & ni eto. Derbynied ein brodyr Annibynol sydd yn addoli yn y Wern ein diolcfigarwch diffuant am eu caredigrwydd yn rhoddi eu capel at ein gwasan- aeth noson oiaf yr wyl. —Goheb. ABERDULAIS. Y"SGOLIOI< Y BNDYDDWYR.—Y ma,e y rhai hyn yn hynod o lewyrchus-wedi cynyddu dros chwech ugain mewn rhif yn ystod y chwe' mis diweddaf. Dydd lau, Hydref 14eg, cynaliwyd eu gwyl de flynyddol. Yn yr hwyr. cynaliwyd cyfarfod llen- yddol. Cadeiriwyd yn fedrus iawn gan y bonedd- wr twymgalon, D. Rees, Ysw., Cadoxton. Cy- merwyd rhan yn y cyfarfod gan gor y capel, dan arweiniad Mr. E. 'xething (Eos Glan Dulais), ac amryw o aelodau y cdr yn unigol. Ond seren yr hwyr oedd Mv Dan Protheroe, Ystradgynlais, yr hwn oedd wedi ei engago i gymeryd rhan yn y cyf- arfod. Adroddodd y boneddwr hwn amryw ddarnau, a chanodd "0 rest in the Lord" ac Onid oes balm yn Gilead." Nid yw ein harwr ond tair-ar-ddeg oed, ond er hyny, y mae wedi gwneyd argraff ddofn yn y byd cerddorol eisoes. Y mae ganddo laisftne iawn, a pherffaith awdurdod arno. Digon i dystio am ei dalentau yw y ffaith ei fod wedi enill dros ddeg-ar-ugain o wobrwyon mewn gwahanol fanau, ac yn mhlith y manau hyny, gallwn enwi ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod fawr Abertawe ac Eisteddfod Alban Elfed, Aber dar. Ni chlywsom y fath ganu erioed gan un mor ieuanc. Yr oedd ei ddatganiad o'r solos, "0 rest ii the Lord "ac "Onid oes balm in Gilead," yn ardderchog. Sicr fod dyfodol dysglaer o flaen y llanc hwn os bydd iddo gymeryd gofal o'i hun. Dymunwn o galon bob llwyddiant iddo, ac hyder- wn fod pobl yr Ystrad yn ofalus ohono, ac yn rhoi llaw o gynorthwy iddo i ddringo grisiau dyrchaf- iad. Caiff dd'od, 'rwy'n sicr, i Aberdulais eto. CYFARFODYDD PREGETHU a gynaliwyd gan y Methodistiaid yn Nghapel y Fforest. Y Parch. Dr. Harries Jones, Treveca; Wm. James, Aber- dar; a J. Prydderch, Goppa, yn gwasanaethu. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol. TON, YSTRAD. JERUSALEM.—Dydd Lluu. Hydref ISfed, cynal- iwyd te parti mewn cysylitiad a. Chan'-mlwyddiant yr Ysgol Sul gan yr eglwys uchod. Yr oedd yr wyl hon wedi ei bwriadu i gymeryd lie tua dau fis yn ol, ond oherwydd rhyw amgylchiadau, gohir- iwyd hi hyd yn bresenol Gan fod y oapel yn cael ei ail-godi, a'r vestry yn annghyfleus yn ystod y dydd, drwy fod y crefftwyr yn gweithio yn ymyl y lie, cynaliwyd y te yn vestry y Gelli (adeilad sydd gan yr eglwys uchod at gynal Ysgol Sul). Daeth yn nghyd plant ysgol Jerusalem a'r ddwy gansen, sef y Gelli a'r Tyfry. yr oil yn rhifo tua 400 Cawsant eu digoni i gyd â the a theisen yn drefnus iawn. Ni fuom mewn te parti erioed a gwell trefn nag oedd gan y cvfeillion yma. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn vestry y capel. dan lywyddiaeth y Parch. Mr. Jones, yn y drefn a ganlyn Ton gan y Band of Hope. C3,n o-an Mr. T. Felix. Cystadleuaeth mewn darllen rhyddiaith amryw yn ceisio goreu, Mr. Jonah Thomas. Can gan Dewi Dyfodwg. Quartett gan Mr. Treharne a'i barti. Adroddiad gan Mr. D. Thomas a Miss Sarah Wild. Deuawd gan Mri. A. Tudor a Jonah Thomas. Cystadlu mewn dar- llen darn o gerddoriaeth ar y pryd gan bedwar goreu, Mr. T. Jones, Cloth Hall, a'i barti. Deuawd a chydgan gan Mr. T. Joines a Tudor a'r plant. Araeth ddifyfyr; tesfyn, "Halen;" goreu, MB. Williams, teiliwr. Triawd ar yr har- i&oniums a'r comet, gan Mri J ohn J ones a Gomer a John Treharne. Can gan Mr. T. Felix. T6n gan y Male Voice Party. Can gan Dewi Dyfod- wg. Tdn gan y Band of Hope. Felly terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu o'r natur hwn y buom ynddo erioed. Yr oedd y vestry yn orlawn o gy- nulleidfa. Beirniadvvyd y darllen a'r araeth gan Mr. David Uvans. a'r cana gan Mri. Felix a Tudor. Gobeithio y cawn ragor o'r cyfarfodydd hyn yn ystod ycauaf dyfodol.-Gohebydd. ABERDAR. Y DWYMYN GOCH.- Yn nghyfarfod pymtheg- Tioaol Bwrdd Iechyd Aberdar. hysbysodd y swydd- ogion fod 35 o achosion newyddion o'r dwymyn goch wedi tori allan yn y dref a'r cylchoedd. Nifer y marwolaethan ya y cyfnod uchod oedd pedwar. Y mae y dwymyn ar gynydd o'i chymharu a'r wythnosau blaenorol. TAN YN YSGUBOBWBN.— NOS Lun diweddaf, tua naw o'r gloch, torodd tan allan yn ngweithdy y seiri a'r gofiaid perthynol i Lofa Ysguborwen. Ni ddiffoddwyd y tan cyn iddo adael dim yn ddi- losg ond y muriau moelion. Yr oedd yn bresenol dyifaoadd o bobl yn estyn cymhorth. Ni wyddis y wir golled eto, ond sicr yw ei bod yn rai canoedd o bunau. CWMBACH. — Cynaliodd eglwys y Bedyddwyr sydd yn addoli yn Bethania eu cyfarfodydd blyn- yddol ar dyddiau Sul a Llun, y 24ain a'r 25ain o'r mis hwn. Pregethwyd yn rymus ac effeithioliawn gan y Parchn. 1. Thomas, Caersalem Newydd, a Wm. Harris, Heolyfelin, ar y Saboth; a chan y ddau a nodwyd, a'r Parchn. R. E. Williams <Twrfab), Ynyslwyd, a Jones, Penydarren, dydd Mun. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn fawr iawn, a'r casgliadau yn dda. 11 GWYL DE A CHYNGHEBDD.—Dydd Llun, Hyd. 18fed, cynaliodd Annhyn wyr Cwmbach wyl de, pryd y cyfranogodd canoedd o'r deisien rhagorol a ffrwyth y ddeilen Chineaidd. Yn yr hwyr, am saith, cynaliwyd cyngh-irdd rhagorol dan lywydd- iaeth y Parch. J. Morgans, y gweinidog, ac wedi cael araeth fer ganddo, awd yn mlaen yn y drefn ganlynol: -Can gan Mr. D. Howells (Gwynalaw), jpa. rhagoroL Dechreuwyd canu Fresh cockles (mewn ty o. addoliad) gan dri o Heolgeryg, ond ymataliwyd hwy. Adroddiad, "Uwd i'r plant," gan D. Pugh. Deuawd gan M. Parker a'i chy- feilles. Adroddiad, Bedd yn yr ardd," gan Wm. Jones. Can gan Gwynalaw. Deuawd gan E. Humphreys a P. Morgans. Dadl, Y dwr a'r tân," rhwng Evan Lewis a Thomas Davies. Canu Badgân y Thames" gan barti John Daniel. Deuawd gan G. Lloyd au E. Williams. Canu "Call John" gan J. Daniel a'i gyfeillion, nes gwefreiddio y gynulleidfa. Wedi canu ac adrodd amryw o ddarnau ereill, a rhoddi diolchgarwch i'r llywydd, &c., terfynwyd eyfarfod hapus iawn trwy ganu Queen of the valley," dan arweiniad Mr. W. Lewis. Llwyddiant i bob gwaith o'r un natur, medd -Gwen:ffrwd. CLADDEDIGAETH Y DIWEDDAR BENJAMIN EVANS. -Yn y GWLADGARWR diwddaf, rhoddasom gry- bwylliad am farwolaeth sydyn ac anffodus y bach gen ieuanc Benjamin Evans, David Price- street, yn 22 mlwydd oed. Y dydd Mercher can- lynol, ymgynullodd tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Wrth y ty, cyn cychwvn, canwyd yr hen d6n anwyl Alexander," ar y geiriau, Yn y dyfroedd," &c., gyda theimlad angerddol. Yni. ffurfiwyd yn or- ymdaith, a throwyd i mewn i Gapel Bethania, yr hwn a orlenwyd yn mhob congl. Yr oedd y gallery wedi ei lanw gan gantorion yr ardal, a chanwyd "Lausanne," Yn y man," Salrn-don ar Yr Adgyfodiad," Cartref yn y Nef," a "Liverpool Yna ail-ffurfiwyd yr orymdaith, ac awd tua'r Gladdfa newydd, lie y gosodwyd corff sin cyfaill ieuanc i orwedd hyd foreu mawr y codi. Yr oedd yr ymadawedig yn un a berchid yn fawr gan bawb, a phrofwyd hyn gan y dorf fawr a ddaeth yn nghyd i'w angiadd, sef yn agos i ddwy fil o bobl. Yr oedd yn aelod crefyddol dysglaer yn Bethania, ac yn ffyddlon iawn yn mhob cylch -y cyfarfod gweddi, y society, yr Ysaol Sul, y Band of Hope, yr ysgol gan, &c. Yr oedd Benjamin yn wastad yn ei Ie, a. gair i ddweyd yn awr ac yn y man, yn ei ddull henafol iawn. Ond y mae wedi tewi, ac wedi uno a'r cor mawr sydd yr ochr draw, yn moli'r Oen yn dragywyddol. Yr Arglwydd a nertho y teulu galarus sydd wedi eu gadael ar ol, ac a'u cynorthwyo i ymbarotoi i fyned ar ei ol, ac i fod yn barod, Canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn." Ar Ian y bedd, canwyd y d6n "Abertawe," ar y geiriau, "Bydd myrdd o ryfedd- odau," &c. -Cludydd.. OWM RHONDDA. THE NATIONAL FEDERATION OF ENGINE-MEN'S PROTECTION ASSOCIATION OF GREAT BRITAIN AND IRELAND. Tua phedair blynedd i'r mis hwn y cychwynwyd yr undeb uchod rhwng y peirianwyr trwy Gymru a Lloegr. Parhaodd am rai blynydd- oedd, ond y mae yn mhlith y pethau a fu erbyn heddyw. Ond y mae yn llawen genym ddeall fod yn mwriad y peirianwyr i godi yr hen undeb eto ar ei draed, ond y bydd iddo gael ei gario yn mlaen yn wahanol i'r hen undeb yn 1876. Yr ydym o dan anfantais i ddweyd fawr heddyw am gynlluniau y newydd, yn gymaint ag nad oes ond ychydig o'r peirianwyr wedi dyfod at eu gilydd i ymgorffori yn bwyllgor gweithredol. Ond dymuna'r cyfeill- ion peirianol yn y Rhondda alw sylw holl beirian- wyr Cwm y Rhondda at gommittee a gynelir yn y Treorky Hotel (hen dy Caradog), dydd Mercher, Tachwedd 3ydd, am 7 o'r gloch yn yr hwyr. pryd yr hyderir y byddant oil yn bresenol, er mwyn ffurfio committee, a thrin materion ereill angen- rheidiol i lwyddiant dyfodol yr undeb. Bydd i sylw pellach a manylach ymddangos ar ol cynaliad y cyfarfod uchod.—Dros y peirianwyr, — Eryr Morganwg. CYFARFOD RlIYDDFRTDOL. — Nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, cynaliodd y Rhyddfrydwyr eu cyfarfod cyffredinol yn Nghapel Nebo, Ystrad. Cy- merwyd y gadair gan D. Evans, Ysw., prif oruch- wyliwrD. Davis, Ysw., Maesyffynon. Agorwydy cyfarfod trwy i'r cadeirydd fynegu dyben eu cyfar- fyddiad. Yn olynol i hyny. cofrestrwyd tri-ar- ddeg o aelodau, a derbyniwyd lp. 16s. Mae'n debyg, cyn y buasid yn aelod Rhyddfrydol cyf- lawn, fod yn ofynol talu swllt, a'r rhai fuasai yn gwneyd hyny, fod iddynt hawl i fudd y gym- deithas. Penderfynwyd fod y Parch. A. Williams, gweinidog parchus y Bedyddwyr, yn nehyd a'r Mri. D. Evans, Bodringallt, E. Davies, Primrose Hill, a D. Thomas, Gelli, i gynrychioli Rhydd- frydwyr Cwm Rhondda yn Nghyfarfod Rhydd- frydol y Cyfundodiant (Liberal Federation Meet- ing), yr hwn a gynelir yn Nghaerdydd ar yr 28ain cvfisol. TYSTEB I MR. THOMAS WILLIAMS. —Mewn cyf- arfod a gynaliwyd cos Sadwrn diweddaf, yn yr Holly Bush, ger Pontypridd, penderfynwyd fod Mr. Williams yn deilwng o gydnabyddiaeth am ei lafur diflino dros hyrwyddo Cyfrinfa Iforaidd Tre- hafod a'r Red Cow yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf. Cymerwyd y gadair gan Mr. John Thomas, saer, a chafwyd ganddo lawer o gyfar- wyddiadau sut i weithredu er gwneyd y mudiad yn llwyddianus. Siaradodd llawer o gyfeillion ereill ar yr achlysur. Argreffir llyfrau casglu, a bydd aelodau y pwyllgor yn myned a hwynt, yr wythnos hon, o amgylch y gwahanol gyfeillion i ofyn eu hewyllys da. Gallwn ddywedyd, oddiar adnabyddiaeth bersonol i1. gwrthddrych y dysteb, ei fod yn foneddwr yn gwir deilyngu cydnabydd- iaeth arfrhydeddus, fel yr awgrymwyd, am ei lafur gwerthfawr dros Iforiaeth, yn mhob ystyr ag oedd o fewn ei allu, a gwyddom mai nid i gylch bychan y dosberthir hwnw. DAM WAIN ANGEUOL. — Tuag un-ar-ddeg o'r gloch, boreu dydd Sul, y 24ain cyfisol, cafodd bachgenyn o'r enw Richard Deacon, 14 oed, ei ladd mewn modd gofidus yn Nglofa y Gelli. Dryswr oedd yr ymadawedig, ac, yn ol pob ar- wyddion, yr oedd wedi ymadael a'r fan lie yr oedd i arc:! er cyflawni ei orchwyl; ond trwy ryw an- ffawd, dygwyddodd tram, wedi ei llwytho a rubbish, adael y lie yr oedd yn sefyll arno gyda chyflymder anarferol, a phan ddeallodd y bach- genyn anffodus hyny, gwnaeth frys i hysbysu y gyrwyr, ond yn ei ymdrech i wneyd hyny, cwymp- odd o dani, a chafodd ei ladd ar darawiad. Mae cydymdeimlad mawr yn cael ei ddangos tuag at ei rieni, gan fod yr amgylchiad yn un gwir ofidus, a hwythau yn ddynion sydd a gofalon y byd yn pwyso yn drwm arnynt.
[No title]
LLINOS RHONDDA.—Diau y bydd yn dda gan luaws ddarllenwyr y GWLADGARWR ddeall fod y gantorea ieuanc ac adnabyddus, Miss Ellen Jones (Llinos Rhondda), Treorci, yn bwriadu myned i fyny i'r Royal Academy of Music, Llundain, er cael addysg a chyfar- wyddiad helaethaoh mewn cerddoriagth. Y mae nifer o bersonau yn ei chartref ag sydd yn teimlo dyddordeb ynddi, ac o'r farn y dylai hi gael gwell addysg, wedi dyfod i'r penderfyniad i gynal cyngherdd mawreddog, a throsglwyddo yr elw iddi. Deallwn y bydd i'r gyngherdd hon gymeryd lie tua y 9fed o Ragfyr, a chynelir hi, yn ol pob tebygol- rwydd, yn nghapel Bethania, Treorci. Yr ydym yn gobeithio y try y gyngherdd allan yn llwyddiant, fel y gallo y Llinos gael elw da. Y mae talent yn y foneddiges hon, a chyda y manteision crybwylledig, diau y dringa hi yn uwch ar risiau enwogrwydd. o
Eisteddfod Alban Elfed.
Eisteddfod Alban Elfed. Adjudication of the Knitting. I 'have carefully examined the stockings sent in for inspection. In all there were five pairs, each of which were very creditably done. I should decidedly have awarded the prize to Hen Wraig o'r Wlad, the knitting being done most regular and well shaped, with the. exception of the heel, which, in order to be comfortable, should be a little more rounded; but, being a gentleman's stocking and plain knitting, she is out of com- petition, for it specifies that the stockings should be fancy and for a female. The pair knitted by Morfydd is not a bad stocking, still it is of such a mixed pattern, and one leg longer than the other. That knitted by Gwendolen deserves praise, but the heel is of a decidedly bad shape, too pointed, and the foot not wide enough in pro- portion to the leg, in my opiaion. The pair knitted by Mair, although there t, has been a great deal of pains taken with them, are not both of the same size, and the feet are not well shaped. The prize therefore falls to the lot of Mrs. R. Bassett, Morriston, these being the best pair made according to the rules of the pro- gramme. They are really well knitted, and better shaped, and deserve great credit. Crotcheting. There are seven antimacassars for inspec- tion. Those done by Blodwen, Tegwen, and Mair are surpassingly good. The work is most regular in fact, these three appear as if they had been worked by the same hand. The raised rose pattern by Angharad is well executed. The roses are joined far superior to that done by Tegwen. The tassels of both are very similar. I don't think Tegwedd ever intended ob- taining the prize, for she sent her work in in a very unfinished state. It is also stained. She had better try again. Those done by Leontine, Angharad, and Noswad are very neat patterns and well finished, but having been washed, are against the rules for competition. Blodwen's being of the most intricate pat- tern, I really think she deserves the prize. MRS. REES. 22, Lewis-street, Aberaman.
Ymddygiad Gwarthus o Annynol…
Ymddygiad Gwarthus o Annynol yn Acton Dydd Llun diweddaf, yn Llys Heddgeidw- adol Hammersmith, cyhuddwyd un o'r enw George Parey o fod wedi llofruddio yn wir- foddol geneth 10 mlwydd oed o'r enw Ada Shepherd, merch John Shepherd, decorator, Oowper-road, Acton. Ymddengys fod y creadur annynol hwn yn gyntaf wedi treisio y plentyn, ac yna ei thrywanu a chyllell. Pasiwyd rheithfarn o "Lofruddiaeth Gwir- foddol" yn ei erbyn.
Damwain Angeuol yn Heolgerig.
Damwain Angeuol yn Heolgerig. Prydnawn dydd Llun diweddaf, cymerodd damwain angeuol le ar Reilffordd Gethin Mri. Crawshay, Merthyr. Yr oedd glowr o'r enw James Holloway, 18 mlwydd oed, yn byw yn 7, Ynysfach, yn dychwelyd oddiwrth ei waith yn ngherbydres y gweithwyr, a phan yn dyfod i groesffordd Heolgerig, gwnaeth gynyg i adael y cerbyd cyn ei fod wedi sefyll. Syrthiodd o dan olwynion y tren, a lladdwyd ef yn y fan, wedi ei chwilfriwio yn erchyll.
Marwolaeth y Parch. W. M.…
Marwolaeth y Parch. W. M. Lewis, M.A., Prif-athraw Coleg Pontypwl. Bu farw y gwr parchedig uchod, a chladd- wyd ef, dydd Llun diweddaf, yn Nghladdfa gyhoeddus Caerfyrddin. Ychydig wedi tri, gadawodd y cynhebrwng dy ei frawd, Mr. John Lewis, Commerce House, Guildhall- square, ac yr oedd yn bresenol, y Maer, Mr. 0. W. Jones, Mr. H. Howells, Mr. R. W. Richards, Mr. J. Jenkyn Jones, Mr. W. H. Coterell, Mr. T. B. Arthur, Mr. T. Mostyn Davies, Mr. W. R. Edwards, a Mr. Wm. Llewellyn (aelodau o'r Cynghor Trefol) y Parchn. Dr. Davies a'r Proffeswr Edwards, Hwlffordd; J. R. Morgan a J. Rowlands, Llanelli; J. Jones, Felinfoel; P. Phillips, Maescaner; W. Rees, Blaenafon; J. H. Rowland, Pontllwyn J. Williams, Coleg Pontypwl; D. B. Jones, ysgrifenydd, a D. Thomas, athraw clasurol, Coleg Pontypwl T. E. Williams a J. A. Morris, Aberystwyth D. Williams, Salem, Mydrim T. Lewis, Risca JamesJ Owen a A. J. Parry, Abertawe H. Price, Rhydwilym Thos. Thomas, G. H. Roberts, John Thomas, Joseph Evans, John Lewis, Phillip Collier, Richard Solomon, a'r Proffeswr D. E. J ones, Oaerfyrddin D. S. Davies, Llanboidy James, Llandilo Ro- berts, Talog Robins, Pontrhydfendigaid Thomas, Nantyglo Thomas, Llundam Davies, Abersychan; O. Griffiths, Blaen- conin J. Job, Cynwil; Thomas, Penclawdd Pratt, Coleg Pontypwl; Davies, Gambrose, Hwlffordd Jones, St. Clears Phillips, Horeb J@nes, Caerlleon B. Evans, Cas-' tellnedd J. Jones, Cwmifor; Jones, Llan- gendeirne B. Evans, Elim Park J. Rey- nolds, Cydweli; L. Davies, Bwlchnewydd J. Lloyd, Felinwen a Jones, Aberduar. Yr oedd hefyd yn bresenol 19 o fyfyrwyr Coleg Pontypwl. Torwyd Mr. Lewis ymaith yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Colled fawr i'r enwad a cholled i'r coleg fu ymadawiad dyn mor ddefnyddiol.
Teulu Cyfan wedi eu GwenwynoI…
Teulu Cyfan wedi eu Gwenwyno yn America. Moosic, PENNSYLVANIA, Medi 20, 1880. Cafodd trigolion y lie bychan hwn eu taro & dychryn a syndod mawr boreu Saboth, trwy y newydd fod teulu parchus wedi eu gwen- wyno pan yn bwyta eu boreufwyd, yr hyn sydd wedi profi yn angeuol i ddau o'r nifer, tra y mae y lleill mewn sefyllfa bur anobeith- iol. Enw pen y teulu yw Mr. J. D. Caryl, goruchwyliwr allanol ar weithfeydd yr Hills Coal & Iron Company, ac yr oedd y teulu yn gynwysedig o Mr. Caryl a'i briod, a bachgen bychan a morwyn chwaer Mr. Caryl a'i phriod-y ddau olaf ar ymweliad a'r teulu, ac yn byw yn Mill Creek, ger Wilkesbarre. Mae yn debyg fod y teulu wedi dewis cael com cake i'w boreufwyd, a chan nad oedd digon o'r defnydd hwn wrth law, anfonwyd y forwyn i dý cyfagos, sef tý chwaer Mrs. Caryl i geisio ychwareg. Oherwydd nad oedd y teulu wedi codi, gorchymynwyd i'r forwyn fyned i'r seler i'w gyrchu, ac yr oedd yno gorn mewn dau o wahanol fanan. Dyg- wyddodd i'r forwyn gymeryd o lestr oedd wedi ei gymysgu ag arsenic i'r dyben o ladd llygod cymysgwyd hwnw a'r hyn oedd gan- ddynt yn y tý, ac aethant at y gorchwyl o'i goginio, heb feddwl am un perygl ond caf- wyd allan yn fuan wedi dechreu bwyta fod rhywbeth allan o Ie, gan fod yr ell ohonynt yn dangos arwyddion eu bod wedi eu gwen- wyno. Ar ol iddynt oil fod yn sal iawn am oriau, darfu i'r rhai a daflasant i fyny ddo'd yn well, ond parhaodd y ddwy ddynes, sef Mrs. Caryl a chwaer ei gwr, yn wael iawn ac mewn poenau dirfawr hyd haner awr wedi deuddeg neithiwr, pryd y rhoddodd angau derfyn ar eu bywyd, a hyny o fewn tua deg mynyd i'w gilydd. Y mae y forwyn a'r bach- gen bychan yn bur wael, oud coleddir gobeith- ion am eu hadferiad. Y mae cydymdeimlad mawr i'w ganfod drwy y gymydogaeth a Mr. J. D. Caryl yn ei ofid a'i drafferth blin, canys y mae efe yn foneddwr a berchir gan yr holl gymydogaeth yn ddiwahaniaeth. Y mae y gweithfeydd wedi sefyll heddyw, a phawb yn ymddangos mewn math o lesmair oherwydd yr amgylchiad.—O'r "Drych."
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. AGORWYD Neuadd Drefol yn Wakefield dydd LIun, pa un a gostiodd 80,000p. HYSBYSIR am farwolaeth Mr. Mackenzie, o Henley-on-Thames, yr hwn oedd yn werth pedwar miliwn o bunau. Y MAE nifer yr ynfydion yn swydd Stafford yn cynyddu mor gyflym, fel y mae dwy asylum fawr yn rhy fach o lawer iddynt. Beth sy'n d'od dros y Saeson 1 GWNEIR cyfrifiad y bobl (census) yn nechreu y flwyddyn. Y mae swyddfa wedi ei pharotoi yn Whitehall, ac y mae'r ddeyrnas wedi ei rhanu i 35,000 o ddosbarthiadau. Y MAE Mr. Archibald Forbes wedi cyrhaedd New York, ac y mae yn bwriadu traddodi darlithiau ar ei brofiad fel gohebydd neillduol y Daily Neivs yn rhai o'r rhyfeloedd diwedd- af. Y MAE M. Gambetta wedi pwrcasu ei feddle yn mynwent P6re-la-Chaise, Paris, eisioes, am ba. un y mae wedi talu y swm o 150,000 francs. Doea dim yn debyg i rag-barotoi. Y MAE cau y tafarnau ar y Saboth yn yr Iwerddon wedi lleihau nifer y troseddau mewn modd rhyfeddol. Pa bryd y ceir yr un fraint i Gymru ? AR y lTeg cyfisol, dathlodd pobl Boston y 250 flwydd o oedran eu dinas, a chostiodd y darpariaethau a'r holl seremoniau lawn 25,000,000 o ddoleri, ond bernir i'r arian gael eu gwario yn ddoeth. YOTORM o EIRA.-Medi 18fed, a'r diwrnod- au canlynol, chwythodd ystorm ofnadwy o eira dros Buenos Ayres, Deheudir America. Cyfrifir y golled yn 700,000 o ychain, 500,000 o ddefaid, a 250,000 o geffylau Parhaodd yr ystorm am dri diwrnod cyfan, ac yr oedd y waethaf a fu erioed yn y wlad hono. DYN rhyfedd ydyw Mr. Lowe (Viscount Sherbrooke yn awr), mewn corff, meddwl, a thymer. Mewn corff yn Albino, hyny yw, ei lygaid yn gochion, a'i wallt yn wyn. Mewn meddwl, ei hoffbleserwaith ydyw astudio iaith newydd. Mewn tymer, y mae yn ymlacio trwy farchogaeth bicycle. Ni fu Mormoniaeth erioed can gryfed ag ydyw yn bresenol. Bu mwy o briodasau amlwrecaidd o fewn y ddwy flynedd ddiwedd- af nag a fu erioed o'r blaen yn yr un cyfnod. Y mae yn agos i 400 o gau-genadon yn ceisio denu pobl wladaidd Ewrop i ymuno a'r gyfun- drefn farbaraidd a gwarthus hon ANERCHODD Mr. Morgan Lloyd, A.S., ei etholwyr yn Nghaergybi, dydd Mercher wyth- nos i'r diweddaf, a chyfeiriodd gyda balchder at y ffaith nad oedd yr un ddeiseb am lwgr- wobrwyaeth (bribery) yn cael ei arholi yn Nghymru, er fod sefyllfa pethau mwyaf cywil- yddus wedi eu dynoethi mewn rhai trefydd yn Lloegr. Os ydyw Poor little Wales', yn dlawd mewn ystyr arianol, mae hi yn nvillionare gyda golwg ar ei sefyllfa foesol. GWOBRWYO TEILYNGDOD.-Y mae Joseph; Sipsey, glowr yn Ngogledd Lloegr, ac awdwr amryw ddarnau o farddoniaeth, yr hwn sydd. yn awr yn gweithio yn Nghlofa Backworth, ger Newcastle-on-Tyne, newydd dderbyn llythyr oddiwrth un o ysgrifenyddion Mr. Gladstone i'w hysbysu y telir iddo blwydd- dal, oherwydd ei wasanaeth lenyddol. Pa. bryd y cafodd un o feirdd Cymru cyffelyb anrhydedd ? Y mae llawer glowr Cymreig yn cyfansoddi darnau o farddoniaeth ag a fyddai yn anrhydedd i'r gwr penaf yn y wlad ond yr oil a dderbynia fydd yr anrhydedd o arwisgo ffugenw PONT NEWYDD I BONTYPRIDD. Y mae- Cwmni y Pontypridd and CaerfEUi Railway yn bwriadu adeiladu pont fawr yn.nghyuiyd- ogaeth Pontypridd, er cysvlltu eu rheilffordd (yr hon sydd yn awr ar waith) a rheilffordd y Taf. Dywed rhai y bydd y bont newydd yn dechreu mewn man agos i'r Gareg Siglo, ac ar ol eu gosod yn groes i'r dyffryn, y bydd yn terfynu yn agos iawn i orsaf bresenol y Taff Vale. Y mae gweithwyr yn awr yn suddo at lan yr afon, er cael sicrwydd pa. faint o bellder ydyw'r graig. Yn ddiamheu, pan fydd y bont hon wedi ei gorphen, bydd y gwahaniaeth rhyngddi a hen bont Thomas Edwards yn rhyfeddol o fawr. .s
CERDDORIAETH
CERDDORIAETH Gyhoeddedig gan D. L. JONES (Gynalaw), BRITON FERRY. "MOLWCH YK ARGuWYDD Anthem., newydd, pris 4c., Sol ffa, 2g. Gan JOHN THOMAS (Blaenanerch), Llanwrtyd. Dywedaiydiweddar Ieuan Gwyllt wythnos cyn ei farwolaeth. Yr wyf yn meddwl y dylech ddwyn allan yr anthem Mol- wch yr Arglwydd' ar unwaith, fel y galler ei chael i fewn i waith ein Cymanfaoedd Cerddorol y flwyddyn nesaf." LLAWENYDD Y GW ANWYN Rhan- ganiT.T.B.B. Pris4c., Sol ffa, 2g. Gan Proff. W. A. WILLIAMS (Gwilym Gwent), America. Y mae y dernyn newydd hwn yn un rbagorol iawn at wasanaeth Cyngherddau ac Eisteddfodau. "Y CYMRO DEWR:" Can wladgarol i lais baritone, o gwmpas hawdd. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan JTMES PETERS (Afan Alaw). "DEWRION FILWYR IESU:" TônigÔrau plant. Yn y Sol-ffa, pris lg. Gan JAMES PETERS (fanlaw); y farddoniaeth gan CYNALAW. CYMRU, GWLAD EIN TADAU Can a Chydgan. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan D. L. JONES (Cynalaw); gyda geiiiau Cymraeg a. Saesonaeg gan C-REEDIOL. Derbynia y gfun hon. ganmoliaeth uchaf ein prif gerddorion. HEN WALIA., G-WLAD Y GAN CATT a Chydgan. p'is 4c. Gan D. L. JONES (Cynalaw) y farddoniaeth gan D. JoaErnus DAVIES. Dy- wedai un bardd gerddor am hon, Pa le bynag y clywaf ei chanu, mae yn swyno fy nghalon yn lan.
Advertising
GWAED, CROEN, NERVES YMAE GWAED PUR, CROEN IAQH, » NER/VES CADARN, yn anhebgorol £ ffi|*en- rheidiol tuag at sicrhau Iechyd. Trwy y gwaed y mae pob drwg a da yn gweithredu ar y corff felly, cymerer N'T 1: <Ü df,3IIG:I:sor:m:Edl:tMt;r;, y rhai yw'r unig feddyginiaeth ag y gellir ymddir- ied ynddynt tuag at gyflawni y gwaith o BardTb* Chryfhau y Gwaed. Tuag at y IF X L B S, Poen yn y rhan isaf o'r cefn i lawr y Cluniau, ya achosi Pen-ysgafnder, Pylu y golwg, &c., ymaeii yn hynod o effeithioL GWELLHAD HYNOD! SYR,—Yr wyf yn teimlo yn ddyledswydd anaaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'r Pills gwerthfawr, sef "HUGHES' PATENT BLOOD PILLS." Yr oeddwa yn methu ceidded cam braidd, ae yn methu eiv. tedd oherwydd y Piles, a Phoen yn y rhan isaljaf o'r Cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn bur wan ya awr, yr wyf yn holliach, aG yu our ddiolchgar. Cwmbran, Awst 20fed, 1876. MARY JAMES. RHYBUDD.-Mae llwyddintt y Peleni hyn <wedl achosi llawer i'w dynwared, feily gofaler cael y Trade Mark uchod (sef llun Calon) ae beb> blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r^vw Jacob Hughes ar stamp y Llywodraeth; hebTfya twyll ydyw. TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiad. Ar wrJrth drwy yr holl deyrnas am Is. ilc., 2s. 9c., 4s. 66. Œyda'r post ls. 3e., 2s. -He. a Is. 9c,, oddivrrtb y Perchenog- Jacob Hughes, Apothecarie'.« Wall, Ll^nelht.