Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BYR EBION 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

BYR EBION 0 L'ERPWL. Y CROCHAN HUDDUGL. Penawd hynod i ddechreu ond y mae cynwys y crochan yn hynotach fyth. Tafied y darllenydd bob rhagfarn o'r neilldu, gan edrych ar y byd o gyfeiriad annibynol, yna, fe wel y cymysgedd a'r annhrefn sydd yn amgylchynu pob peth o'i gwmpas—yngrefydd- ol, cymdeithasol, gwleidyddol, a masnachol. Cwerylon diddarfod yn y cylch crefyddol, ac athrawon y genedl yn dyrnu eu gilydd, a phardduo y naill a'r llall gyda phob enwau drwg cwbl annheilwng o wareiddiad Cristion- ogol. Os bydd y dwfr yn lleidiog yn y ffynon, beth fydd i'w ddysgwyl yn y nant neu yr afon ? Dywedir yn fynych am doriad gwawr y mil-blynyddoedd, pan fydd heddwch i deyrnasu o f6r i for, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear ond ymddengys pethau yn ddigon annhebyg i hyny ar hyn o bryd, er cymaint y sonir am dano. Pan mae y naill ddyn yn cornio y llall hyd eithaf ei allu, fe ddengys hyny fod pethau yn myned ar y goriwaered, ac nid yn ymddringo i ben y bryn. Nid oes achos i neb gael cymhorth gwydrau i weled sefyllfa y byd a chymysgedd cynwysiad y crochan. Nid bwrw tan ar y ddaear ydyw gwaith ein hathrawon, ac yn lie hau hadau cenfigen drwy y Wasg, ac mewn cyfrinachau cymdeithasol. Braidd y bydd neb yn son am dangnefedd, cariad, rhinwedd, a phethau cyffelyb-o na, mae gormod o burdeb yn y cylch hwnw i ddichellion a bradwriaeth. Mae gwres y gwirionedd yn rhy boeth i'r frawdol- iaeth uchod i ddal y gradd lleiaf ohono, a phan nad allont ddal ychydig, sut y medrant sefyll i gyhoeddi cyfiawnder wrth genedloedd y ddaear 1 Dyna un haenell o gynwys y crochan. Symudwn yn mlaen at y cymdeith- asol, a chawn yno ddigon o annhrefn yn fyn- ych, a dynion yn trin eu gilydd fel teirw yr ucheldiroedd-y naill a'i droed ar war y llall, gan gwbl annghofio pob rhwymedigaethau cymdeithasol. Amcan sefydliad cymdeithasau dyngarol ydyw gwella y byd, a gwneyd y dyn yn well a mwy defnyddiol; ond mae yr amcan yn cael ei golli yn ami. Nid ar egwyddorion sylfaenol y gymdeithas mae y bai ond cyfyd y drwg allan o'r diffyg o gario y rheolau, a chadw at lythyren y gyfraith. Y diffyg hwn sydd wedi creu malldod a marweidd-dra yn ein cylchoedd cymdeithasol, ac yn mhlith y werin lie bodola cymaint o wahanol gymdeith- aaau. Cawn lawer o gymdeithaswyr rhagorol, os bydd tal da i'w gael ond pan derfydd y torthau a'r pysgod, nid ydynt yn gymdeithas- wyr mwyach, ond yn cario arwyddlun y creadur hwnw a ddarluniodd fy hen gyfaill Telynog yn ei englyn pwrpasol, pan y dywed- odd :— Ceisia fwy pe cawsa fyd. Fe ddaw ein masnach i mewn yn y fan yma, am fod y cysylltiad rhwng cymdeithas a mas- nach yn agos iawn. Y coeg-athrawon cym- deithasol-lawer ohonynt—sydd wedi bod yn offerynau ar lawer o adegau i ddyrysu troell masnach ein gwlad. Yn y cyfeiriad hwn, -gallesid hebgor y cyfryw o'r cylch masnachol, vn gystal a'r cymdeithasol. Nid yw y cyfryw i annibvniaeth barn bwyllog mewn ffordd yn y byd, am y gallai hyny fod yn faen rhwystr ar ffordd yr hunan-etholedig i gyrhaedd yr amcan o lenwi ei nyth â phlyf perthynol i'w gymydogion. Nid cyfiawn a rhesymol ydyw tlodi y miloedd ar y draul o wneyd un ymgrafwr yn gyfoethog, am fod hyny yn taro yn erbyn pob egwyddor ddaionus & berthyn i gymdeithas, pan fydd y cyfryw wadi ei fwriadu er mwyn y lluaws, ac er mwyn un person unigol. Gormod o ddylan- wad unigoliaeth sydd wedi cael ei oddef mewn gwahanol gylchoedd. Rhyw un creadur ffael- edig yn ymgymeryd ag arwain y miloedd, heb ymholi dim a chynghorwyr profiadol, a thra yn gwneyd hyn o dan ddylanwad mympwy liunanol, dyma y bobl yn suddo i drobwll dyryswch, heb allu canfod dim o ganlyniadau y dvfodol. Hen grochan rhyfedd ydyw hwn, ddarllenydd ond bydd rhai yn ddigon awch- lym i ymgadw o'r tuallan, gan chwerthin yn ddirgelaidd, tra yn edrych ar y gorthrymedig yn ymdrabaeddu yn y dyryswch lie y syrth- iasant, megys heb yn wybod iddynt eu hun- ain. Dynodir hyn yn wythnosol ar duda-lenau .amserydd y deng mlynedd diweddaf. A fyn weled a wel yn ddigon amlwg, os na fydd wedi ei ddallu yn hollol gan ddylanwad mym- pwy clafoeriog athrawiaeth addolwyr y ddelw aur a gyfodwyd ar drostan hunanoldeb gan .elynion pob daioni ar fynyddoedd ein gwlad. Mae gwleidyddiaeth yn elfen bwysig yn y crochan, a mawr ydyw y berw a wneir gan -wahanol bleidiau o wahanol feddyliau a syn- VnfnrlrwVdd vn dwyn y faner, a phob plaid yn ddigon eithafol o haerllug a mympwyol i bleidio, os y perthyna i r blaid, pe na byddai ynddo fwy o gymhwysder at y zwydd yr ymgeisia am dani na phost llidiart. Y diffyg hwn ydyw prif ffynonell yr annhrefn mawr a fodola yn ein gwlad yn bresenol. Oafwyd y tugel er mwyn diogelwch yr ethol- ■wyr ond nid oes mwy o batch i'r tugel gan V na'ill blaid mwy na'r llall na phe buasai yn anrheg o eiddo tad y celwydd. Pell wyf o gredu fod a fyno gwleidyddiaeth neu syniad- au gwieidyddol dyn er ei wneyd yn aelod teilwng o gynghor trefol neu ddinasol. Un neth vdyw llywodraethu gwlad, a pheth arall hollol wahanol ydyw llywodraethu tref neu ddinas. Fe all y rhydd-feddyliwr mwyaf eithafol wneyd cystal os nad gwell seneddwr cartrefol na'r Ceidwadwr mwyaf treiadlym neu y Rhyddfrydwr mwyaf llygadraff. Ond Sid gwiw siarad am un llwybr canol gartref mwy nag oddicartref, oblegyd fod ysbryd Xd yn dal awenau y Llywodraeth. Barn dec a chyfiawn ddylai fod yn safon weithwdol i bob symudiad, by^ed o]r natur y byddo Nid af i fanylu yn y cyfeina1 £ mod i raddau mwy neu lai, oddiwrth b •peth cyhoeddus, yn wleidyddol a dinasa1, gan ddilyn cynghor yr hen Richard William o warchod cartref, ac edryeh ar ol fy ngoruch- wylion dyddiol heb ymyraeth a, materion pobl ereill. Hyn fel diweddglo i gynwys y croch- an, a barned a farno, ni'm dawr i am hyny. YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. Wedi cael cipolwg ar ychydig o destynau Eisteddfod ddyfodol y De, mae ynwyf awydd dweyd gair megys rhwng cromfachau, er y dichon y bydd i mi wrth wneyd hyny sangu ar draed rhai o'r frawdoliaeth gerddorol; ond gan fod llwyfan y Wasg yn rhydd, a minau yn teimlo dyddordeb yn yr hen sefydliad cenedlaethol, fe oddef y cerdd-feirniaid ychydig o gyfle i wneyd sylw neu ddau mewn ffurf gyffredinol. Dyna y gystadleuaeth gerddorol, o'r dechreu i'r diwedd, yn ddethol- edig o gyfansoddiadau'Deheuwyr yn gyfan- gwbl. Dechreuwn gydag Emlyn Evans, J. Thomas, Llanwrtyd, Dr. Parry, Alaw Ddu, R. S. Hughes, a D. Jenkins, Aberystwyth. Os Eisteddfod Genedlaethol, gadewch i ni gael tipyn o genedlaetholdeb yn y gystadleu- aeth gerddorol, yn gystal a'r barddonol a'r traethodol. Gadawn yr estronol o'r neilldu, a gadewch i ni lynu wrth y cartrefol gyda thipyn o wres cenedlaethol Uymreig. Dylid gwneyd detholiad mwy cyffredinol o athrylith a thalent y genedl, yn hytrach na chyfyngu y darnau i gyd i'r rhanbarth Ddeheuol. Gall fy mod yn troedio daear ddyeithr pan yn meiddio siarad a cherddorion am gerddor- iaeth ond yn gymaint a bod y mater yn bwnc cenedlaethol, mae i mi fel arall ryddid i wneyd sylwadau cyffredinol ar bethau cy- hoeddus a berthyn i'r genedl. Camsyniad arall a wneir yn fynych ydyw dewis yr un beirniaid cerddorol i feirniadu y canu corawl. Newidier hwynt yn awr ac eilwaith, er mwyn cael ychydig o'r gwaed newydd ar y llwyfan Eisteddfodol. Sibryda rhai fod un cor neill- duol yn y De yn enill bob amser o dan teirn- iadaeth un brawd neillduol. Os ydyw hyn yn wirionedd, fe ddylid cadw y brawd hwnw o'r neilldu, gan adael y cylch beirniadol i arall am dymor. Nid wyf yn meddwl fod dim yn annheg yn yr awgrym os oes. priodolir hyny i fy anwybodaeth. Rhaid tori tir newydd yn y gystadleuaeth gyfansoddiadol, a chynyg gwobrau am ganigau a rhan-ganau, a'r rhai hyny i fod yn newydd, ac nid talu am hen bethau wedi bod yn gystadleuol mewn degau o Eisteddfodau. Pwy synwyr sydd mewn cynyg deg neu ugain gini am nifer penodol o rhan-ganau—dyweder pedair am un wobr ? Ai nid cystal fyddai cael un dda na chael pedair o rai gwaelion ? Mae y cyntaf yn ym- ddangos i mi dipyn yn ormod o fasnach o gerddorion fy ngwlad. Byddai un wobr dda am gyfansoddiad teilwng yn well i'r cyfan- soddwr a'r pwyllgor na nifer o fan wobrwyon diwerth am edlych o gyfansoddiad. Gwell ydyw ychydig o beth da na chyflawnder o bethau cyffredin, a chan fod diwygiad Eistedd- fodol i fod, dechreuwn yn Merthyr Tydfil. Pa synwyr oedd i Bwyllgor Caernarfon i dalu can' gini yr un i Madame Patey a Signor Foli ? Os oedd yn rhaid cael y cyfryw i'r Eisteddfod o gwbl, gallesid yn hawdd cyflogi un am y ddau ddiwrnod cyntaf, a'r Hall am y ddau ddiwrnod olaf. Buasent, wrth hyny, yn sefyll can' gini at ddybenion ereill. Mae i'r tramor-ddyn bob croesaw i gael rhan a chyf- ran o'r wyl genedlaethol ond pell wyf o gredu mai cyfiawn iddo gael yr hufen i gyd, gan adael y llaeth glas neu y maidd, os myn- wch, i'r pwyllgor. Os nad wyf yn gerddor, cofiwch nas gallaf gau fy nghlustiau, pan fydd cyfeillion cerddorol yn siarad a dal ar ambell i beth, a gwneyd defnydd ohono mewn ffurf gyhoeddus. Odid na fydd rhywun yn barod i ddweyd beth sydd a wnelwyf fi a cherddor- iaeth a llenyddiaeth Eisteddfodol. Wel, dim yn mhellach na hyn mae y pwnc yn un cenedlaethol, a chan fy mod yn un o'r genedl, mae genyf hawl gorsedd i siarad ar bwnc yr Eisteddfod. Hwyrach fod treithganau Cym- reig ar gael a fuasai yn llawn cystal i'r gys- tadleuaeth, a gwell, fe ddichon, na myned i dir estronol i chwilio am destyn. Cofier nad wyf, fel y dywedais yn flaenorol, yn gwybod dim am gerddoriaeth ond gwn fod ar y pwyllgor gerddorion llygadlym, a dylent wneyd sylw o hyn, gan beidio annghofio car- tref trwy fyned i blith estroniaid, am nad yw hyny yn ddim amgen na chario dwfr dros yr afon. Cymerwch fy sylwadau yn ol eu gwerth a'u teilyngdod ond odid na fydd genyf air yn mhellach ar y pwnc yn fuan. Os nad allaf wneyd mwy na dymuno llwyddiant y pwyll- gor a'r Eisteddfod, mi wnaf hyny o galon Gymreig. Ond cofiwch eto unwaith am beidio colli golwg ar y wlad a'r genedl gyda defodau ac arferion y tadau Eisteddfodol, o Aneurin Gwawdrydd hyd y byd-glodus dad Nathan Dyfed. MORDAITH GYFLYM. Cyflymdra ydyw pwnc y dydd yn awr yn y fasnach forawl. Hwyliodd y City of Berlin prydnawn dyddlau, Hyd. 34eg, a chyrhaedd- odd borthladd Efrog Newydd am saith o'r gloch boreu dydd Sadwrn, Hyd. 22ain, sef y Sadwrn diweddaf. Os cawn fyw, odid na chawn y pleser o gronialo mordaith mewn saith diwrnod o afon L'erpwl i afon Efrog Newydd. Mae ymweliad o'r naill wlad i'r llall wedi dyfod yn beth cyffredin yn ein dyddiau ni. Glaniodd y Parch. J. Davies, Taihirion, yn iach a diogel prydnawn dydd Iau, yn edrych, os dim, yn fwy cryf a gwrol na phan y cychwynodd drosodd. Cafodd roesaw mawr yn yr Amerig, a boddhad neill- duol yn y wlad a'i thrigolion. Bydd y Parch- edigion Lot Lake a J. Gwrhyd Lewis a'i deulu yn morio dydd Sadwrn nesaf, sef y 30ain, ar fwrdd yr Arizona, perthynol i linell agerawl Guion a'i Gyf. Mae y rhif yn barod tua deg- ar-ugain o dan ofal eich gohebydd. Dychwelyd y mae Mr. Lake wedi bod ar ymweliad by!, a, gwlad y bryniau. Gan gofio, fe hwyliodd John Lewis, y Deri, dydd Iau, ar fwrdd y Lord Clive, yn rhwym i Philadelphia. Mae yn addaw ysgrifenu helyntion y wlad i'r GWLADGARWR wedi sefydlu a gwneyd cartref yn y fro newydd.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

EISTEDDFOD Y CYMREIGYDDION,…

BWBDD Y SLIDING SCALE.

EISTEDDFOD GWAENCAEGUBWEN,…

Y DDADL YSBRYDEGOL-GAIR 0…

Y OYMBO GWYLLT FEL GORUGH-WYLIWR…

AP GOBWYNT A'I ENSYNIADA U.

Y DDADL AR YSBRYDEGAETH.

GAIB AT LEX A GWYNLAIS.